{"id":15399,"date":"2024-05-16T10:54:08","date_gmt":"2024-05-16T10:54:08","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/angen-clywed-lleisiau-pawb-syn-brwydro-yn-erbyn-tlodi\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:57","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:57","slug":"angen-clywed-lleisiau-pawb-syn-brwydro-yn-erbyn-tlodi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/angen-clywed-lleisiau-pawb-syn-brwydro-yn-erbyn-tlodi\/","title":{"rendered":"Angen clywed lleisiau pawb sy'n brwydro yn erbyn tlodi"},"content":{"rendered":"<p><em>Rydym i gyd wedi clywed y penawdau, sy\u2019n pwyso\u2019n drwm arnom i gyd.<\/em><\/p>\n<p>Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe yw\u2019r cyntaf yng Nghymru. Mae bod yn rhan o\u2019r prosiect hwn fel comisiynwyr cymunedol yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y p\u0175er sy\u2019n cael ei greu pan ddaw pobl at ei gilydd. Pobl sydd \u00e2 phrofiad bywyd o\u2019r frwydr yn erbyn tlodi a phobl sydd \u00e2 mynediad at yr adnoddau sy\u2019n gallu newid y sefyllfa.<\/p>\n<p>Ar gyfer ein lansiad fe wnaethom benderfynu adrodd ein hanesion, ac o\u2019r dechrau un roedd stigma\u2019n thema gyffredin. Roedd rhai o\u2019n profiadau\u2019n fwy trawmatig nag eraill ond pob un wedi cael effaith barhaol o hunan-amheuaeth a theimlad o beidio \u00e2 ffitio mewn. Ni hefyd, rhywsut, oedd i\u2019n beio am na allem fforddio beth y cymerai bawb arall yn ganiataol. Os na allwch fforddio d\u0175r poeth i ymolchi neu olchi eich dillad, byddwch yn ogleuo\u2019n wahanol i\u2019ch cyd-ddisgyblion. Os nad oes arian gennych i wneud gweithgareddau ar \u00f4l ysgol, nid yn unig na fyddwch yn dysgu\u2019r sgiliau ychwanegol hynny ond byddwch hefyd yn mewnoli\u2019r syniad nad ydyn nhw i bobl fel chi.<\/p>\n<p>Roedd y thema\u2019n parhau ar \u00f4l tyfu\u2019n oedolion a dod ar draws y system fudd-daliadau oedd fel petai wedi\u2019i dylunio i godi cywilydd a gwrthod mynediad yn lle helpu a chefnogi. Roedd stigma tlodi bob amser yn rhan fawr o\u2019n gwaith oherwydd roedd gan bawb brofiad o\u2019r peth, naill ai drwy orfod symud nef a daear i fwydo eich plant neu ddim ond drwy fethu \u00e2 bod yn rhan o\u2019r hyn a ddisgrifir ar y cyfryngau fel ffordd normal o fyw.<\/p>\n<p>Pan gawsom gyfle i fod yn rhan o\u2019r digwyddiad \u2018Sut all gwasanaethau cyhoeddus helpu i drechu stigma tlodi?\u2019 yn Wrecsam, edrychai\u2019n berffaith i ni. Roedd gofyn i ni gyd-gynhyrchu\u2019r gweithdy gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) nid yn unig yn gyfle i ni ddefnyddio cryfderau\u2019r gwaith creu perthynas a ddysgom o\u2019n comisiwn gwirionedd tlodi, ond hefyd yn rhoi lens arall i ni edrych drwyddi.<\/p>\n<p>Roedd y gweithdy wedi dod \u00e2 phobl o bob cornel o Gymru, o gynghorau a\u2019r trydydd sector a phobl ifanc o Wrecsam, o\u2019n comisiwn yn Abertawe ac o Lywodraeth Cymru, ynghyd \u00e2 lleisiau o\u2019r ochr arall i\u2019r ffin, at ei gilydd i gymryd rhan.<\/p>\n<p>Roedd yn braf gwybod bod llawer o waith eisoes yn cael ei wneud ar y pwnc. Daethom i wybod am grwpiau fel APLE Collective a fu\u2019n \u2018herio stigma tlodi\u2019 fel un o\u2019u hamcanion craidd. Roedd yn dda gwybod hefyd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd diddordeb byw yn y pwnc drwy WCPP. Fe roddodd y teimlad nad i ni yn Abertawe\u2019n unig y mae\u2019r ffocws hwn yn bwysig ond bod ganddo lais cryfach sy\u2019n bwysig i bawb ar draws Cymru a thu hwnt.<\/p>\n<p>Rydym yn falch o adrodd bod y diwrnod wedi mynd yn dda a bod yno awyrgylch o bobl a oedd yn awyddus iawn i ddod i wybod mwy a dysgu gwersi y gallent eu rhoi ar waith yn eu mudiadau neu waith ymgyrch. Roedd tystiolaeth o ddeall bod gwerth cynyddol i greu cysylltiadau a pherthnasoedd a gweithio gyda\u2019i gilydd i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r frwydr yn erbyn tlodi. Ac roedd y bwyd yn dda hefyd.<\/p>\n<p>Roedd rhai o\u2019r cwestiynau mawr y siaradwyd amdanynt nid yn gymaint am faint o arian oedd gan berson ond am effaith yr agweddau di-ildio mewn cymdeithas yn gyffredinol. Ers yn ifanc, mae\u2019r gwahaniaeth yn cael ei bwysleisio wrth i\u2019n plant gael eu stigmateiddio dim ond drwy dicio bocsys fel \u2018prydau ysgol am ddim\u2019. Mae hyn yn aml yn gosod nenfwd ar botensial plentyn, nid o safbwynt y plentyn ond oherwydd agweddau\u2019r oedolion o\u2019u cwmpas.<\/p>\n<p>Mewn ffordd debyg, mae iechyd meddwl gwael gan oedolion yn cael ei waethygu nid yn unig gan y profiad o frwydro yn erbyn tlodi ond gan bwysau\u2019r agweddau negyddol tuag at y sefyllfa y maen nhw\u2019n canfod eu hunain ynddi \u2013 er enghraifft, mae\u2019r cywilydd o hawlio budd-daliadau\u2019n cael ei fewnoli a\u2019r trawma o ganlyniad yn gost lawer waeth a thrymach i bawb.<\/p>\n<p>Siaradodd bobl yn frwd yn y gweithdy gyda rhai negeseuon allweddol yn dod trwodd: Mae angen cyfryngau arnom sy\u2019n aros a meddwl cyn barnu, a system fudd-daliadau sy\u2019n ceisio deall sut y mae rhywun wedi canfod eu hunain mewn sefyllfa o fod angen help yn lle un sy\u2019n cyfarch pob cais newydd gyda drwgdybiaeth. Mae angen i ni achub ar bob cyfle posib i chwalu\u2019r rhwystrau i fynediad. Ac mae angen cynnwys lleisiau a phrofiad y bobl sy\u2019n brwydro yn erbyn tlodi yn y polis\u00efau a\u2019r penderfyniadau a wneir am y broblem \u2013 a gwneud hyn gyda\u2019n gilydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym i gyd wedi clywed y penawdau, sy\u2019n pwyso\u2019n drwm arnom i gyd. Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe yw\u2019r cyntaf yng Nghymru. Mae bod yn rhan o\u2019r prosiect hwn fel comisiynwyr cymunedol yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y p\u0175er sy\u2019n cael ei greu pan ddaw pobl at ei gilydd. Pobl sydd \u00e2 phrofiad bywyd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18870,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15399","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":741,"height":418,"file":"Melvyn-and-Karen-e1768305355199.jpg","filesize":47450,"sizes":{"medium":{"file":"Melvyn-and-Karen-744x248.jpg","width":744,"height":248,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28655,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-744x248.jpg"},"large":{"file":"Melvyn-and-Karen-1200x400.jpg","width":1200,"height":400,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56462,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-1200x400.jpg"},"thumbnail":{"file":"Melvyn-and-Karen-e1768305355199-741x418.jpg","width":741,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40330,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-e1768305355199-741x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Melvyn-and-Karen-768x256.jpg","width":768,"height":256,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":30165,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-768x256.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"Melvyn-and-Karen-e1768305355199-385x260.jpg","width":385,"height":260,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":18011,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-e1768305355199-385x260.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15398","name":"Melvyn-and-Karen-e1768305355199.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-e1768305355199.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-e1768305355199-741x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Melvyn-and-Karen-e1768305355199.jpg","title":"Melvyn-and-Karen.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15399","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15399"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15399\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16543,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15399\/revisions\/16543"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18870"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15399"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15399"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15399"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15399"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}