{"id":15396,"date":"2024-05-13T15:34:17","date_gmt":"2024-05-13T15:34:17","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tuag-at-economi-werdd-datblygu-sylfaen-ddeddfwriaethol-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:57","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:57","slug":"tuag-at-economi-werdd-datblygu-sylfaen-ddeddfwriaethol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tuag-at-economi-werdd-datblygu-sylfaen-ddeddfwriaethol-cymru\/","title":{"rendered":"Tuag at economi werdd: datblygu sylfaen ddeddfwriaethol Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae llawer o s\u00f4n am raddfa a chyflymder y newid sydd ei angen i symud tuag at <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/net-zero-35\/\"><strong>sero net<\/strong><\/a> yng Nghymru. Fel y trafodwyd yn ein <a href=\"https:\/\/business.senedd.wales\/documents\/s146101\/Evidence%20paper%20-%20Wales%20Centre%20for%20Public%20Policy.pdf\"><strong>papur tystiolaeth<\/strong><\/a> ar gyfer Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, mae\u2019r newidiadau hyn yr un mor bwysig ar gyfer creu economi ffyniannus ag y maent ar gyfer creu economi werdd. Mae angen cyflawni hanfodion pwysig i sbarduno ffyniant economaidd, a dylid gosod y rhain o fewn gweledigaeth o economi werdd sy\u2019n bosibl drwy bontio teg a chyfiawn.<\/p>\n<p>Er mwyn gwireddu cyfleoedd economaidd o ddatgarboneiddio mae angen datrysiadau i lawer o\u2019r un heriau sy\u2019n codi wrth gynyddu cynhyrchiant ac wrth leihau anghydraddoldeb. Mae hanfodion ffyniant economaidd yn cynnwys: <a href=\"https:\/\/lipsit.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/FINAL-Levelling-up-Report-digital.pdf\"><strong>sefydliadau<\/strong><\/a> economaidd, rhwydweithiau a sefydliadau ariannol sefydlog sy\u2019n gweithio\u2019n dda; seilwaith cefnogol; ac yn hollbwysig, arweinyddiaeth a chronfa o weithwyr medrus. Pan fydd y nodweddion hyn ar waith, mae\u2019r buddsoddiad a\u2019r arloesi sydd eu hangen i ddatblygu\u2019r economi werdd yn cael ei hwyluso.<\/p>\n<p>Er bod rhai ysgogiadau polisi allweddol yn cael eu cadw i lywodraeth y DU, a\u2019r ffaith nad oes gan <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/00343404.2022.2152436\"><strong>sefydliadau rhanbarthol y DU<\/strong><\/a> bwerau digonol i wneud penderfyniadau, na galluoedd cyllidebol na sefydliadol i wneud ymyriadau polisi trawsnewidiol, mae pethau mawr y gellir eu gwneud yng Nghymru o hyd. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau sylweddol ym meysydd polisi addysg a sgiliau. Mae\u2019r rhain yn ffactorau pwysig sy\u2019n sbarduno cynhyrchiant ac a fydd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o dyfu\u2019r economi werdd, <a href=\"https:\/\/www.lse.ac.uk\/granthaminstitute\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Are-Green-Jobs-Good-Jobs_Full-report-2.pdf\"><strong>gan y bydd angen addasu setiau sgiliau mewn nifer o swyddi<\/strong><\/a>, ac nid y rhai sy'n cael eu hystyried yn swyddi technegol o fewn sectorau gwyrdd yn unig. Fel rhan o hyn, bydd newidiadau i\u2019r system addysg a sgiliau, ynghyd \u00e2 chefnogaeth hirdymor, yn hanfodol i sicrhau bod <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cefnogi-system-dysgu-gydol-oes-cymru\/\"><strong>dysgu yn digwydd gydol oes<\/strong><\/a>.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r ysgogiad i <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Datblygu-sgiliau-ar-gyfer-pontio-cyfiawn.pdf\"><strong>gydlynu buddsoddiad mewn sgiliau<\/strong><\/a>, mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ysgogiadau polisi ar gyfer trafnidiaeth, ymchwil a datblygu, mannau gweithio, a datblygu clystyrau gyda chadwyni cyflenwi cefnogol; mae'r rhain i gyd yn elfennau hanfodol ar gyfer pontio tuag at sero net yn llwyddiannus. Dylai\u2019r rhain fod yn seiliedig ar weledigaeth o ddatblygu economaidd i Gymru er mwyn meithrin hyder buddsoddwyr. Bydd deall sut gall gwahanol sectorau gefnogi ei gilydd, gan ystyried meysydd o fantais gymharol a chyfleoedd ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/codir-gwastad-sgwrs-hanfodol-i-gymru\/\"><strong>cydweithredu ac arloesi rhanbarthol<\/strong><\/a>, yn cryfhau hyn ymhellach.<\/p>\n<p>Mae Cymru wedi sefydlu sylfaen ddeddfwriaethol dda i gefnogi <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/cyflenwi-trawsnewid-cyfiawn-sut-fyddai-hyn-yn-edrych\/\"><strong>pontio teg a chyfiawn<\/strong><\/a>, gan gynnwys: Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol i ddarparu\u2019r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/ymagweddau-rhyngwladol-at-bontio-teg\/\"><strong>fframwaith cyffredinol<\/strong><\/a>; y Bartneriaeth Gymdeithasol i ddod \u00e2 phartneriaid ynghyd; Cyd-bwyllgorau Corfforedig i alluogi cydweithio rhanbarthol; a\u2019r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i hwyluso ymateb y sector addysg drydyddol i\u2019r galw mawr am ailsgilio. Yr her barhaus sy\u2019n wynebu pob un o\u2019r rhain yw datblygu\u2019r gallu i weithredu.<\/p>\n<p>Mae gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau rhanbarthol y potensial i annog buddsoddiad mewn rhannau gwledig neu ddad-ddiwydiannol o Gymru, drwy ddarparu amgylchedd polisi sy\u2019n sefydlog yn y tymor hir a sicrhau bod y gweithlu medrus yn cael ei gefnogi gan gysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy. Mae polis\u00efau o\u2019r fath yn rhoi cyfleoedd i ddiwydiannau a gwasanaethau newydd ac ategol ddod i\u2019r amlwg.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/datblygu-sgiliau-ar-gyfer-pontio-cyfiawn\/\"><strong>Mae\u2019r gwersi a ddysgwyd o brosesau pontio diwydiannol<\/strong><\/a> mewn gwledydd eraill yn dangos sut gall dulliau cydweithredol helpu i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer delio \u00e2\u2019r addasiadau angenrheidiol sydd angen eu cyflawni ar gyfer pontio tuag at sero net. Yn benodol, mae partneriaethau rhwng llywodraethau cenedlaethol, awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, undebau llafur, cymunedau a busnesau yn allweddol i sicrhau bod polis\u00efau\u2019n cael eu targedu\u2019n dda ac yn cyflawni eu nodau.<\/p>\n<p>Mae angen buddsoddi ac ariannu\u2019n gyson er mwyn cyflawni hyn. Oherwydd capasiti cyfyngedig Llywodraeth Cymru i fenthyca ar gyfer buddsoddi, bydd dod o hyd i ffynonellau cyllid newydd ac arloesol yn gwbl hanfodol. Mae hyn yr un mor wir i <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/partneriaeth-sero-net-i-gynorthwyo-llywodraeth-leol\/\"><strong>awdurdodau lleol<\/strong><\/a> sydd angen symud tuag at sero net ag ydyw i\u2019r sector preifat allu tyfu a ffynnu mewn economi werdd.<\/p>\n<p>Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym yn datblygu cam newydd o\u2019n maes blaenoriaeth Amgylchedd a Sero Net i ddarparu tystiolaeth ategol i helpu Llywodraeth Cymru a llunwyr polis\u00efau gwasanaethau cyhoeddus i fynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r heriau hyn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae llawer o s\u00f4n am raddfa a chyflymder y newid sydd ei angen i symud tuag at sero net yng Nghymru. Fel y trafodwyd yn ein papur tystiolaeth ar gyfer Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, mae\u2019r newidiadau hyn yr un mor bwysig ar gyfer creu economi ffyniannus ag y maent ar gyfer [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14858,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15396","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"New-marine-windfarm-pic-scaled.jpg","filesize":316116,"sizes":{"medium":{"file":"New-marine-windfarm-pic-744x528.jpg","width":744,"height":528,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34826,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-744x528.jpg"},"large":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1200x852.jpg","width":1200,"height":852,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78462,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1200x852.jpg"},"thumbnail":{"file":"New-marine-windfarm-pic-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29918,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"New-marine-windfarm-pic-768x546.jpg","width":768,"height":546,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36998,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-768x546.jpg"},"1536x1536":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1536x1091.jpg","width":1536,"height":1091,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":122781,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1536x1091.jpg"},"2048x2048":{"file":"New-marine-windfarm-pic-2048x1455.jpg","width":2048,"height":1455,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":209699,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-2048x1455.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":150442,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"New-marine-windfarm-pic.jpg","ID":"10335","name":"New-marine-windfarm-pic-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-scaled.jpg","title":"New-marine-windfarm-pic","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15396","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15396"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15396\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16542,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15396\/revisions\/16542"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14858"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15396"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15396"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15396"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15396"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}