{"id":15388,"date":"2023-11-08T12:24:20","date_gmt":"2023-11-08T12:24:20","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/stigma-tlodi-beth-ydyw-o-ble-y-daw-a-pham-rydyn-nin-gweithio-arno\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:54","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:54","slug":"stigma-tlodi-beth-ydyw-o-ble-y-daw-a-pham-rydyn-nin-gweithio-arno","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/stigma-tlodi-beth-ydyw-o-ble-y-daw-a-pham-rydyn-nin-gweithio-arno\/","title":{"rendered":"Stigma tlodi \u2013 beth ydyw, o ble y daw a pham rydyn ni\u2019n gweithio arno?"},"content":{"rendered":"<p>Rydyn ni\u2019n lansio rhaglen waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi yng Nghymru i ddeall mwy am stigma tlodi a sut mae\u2019n effeithio ar eu cymunedau.<\/p>\n<blockquote><p><strong><em>\u201cDim arian, dim bwyd, mae\u2019n effeithio ar eich iechyd meddwl ac yna'n ei wneud yn wael oherwydd rydych chi wastad yn poeni a ydych chi'n mynd i gael eich nwy a'ch trydan\u201d<\/em><\/strong><\/p>\n<p><strong><em>\u201cRo\u2019dd gen i gywilydd pan fu\u2019n rhaid i fi ffonio i fynd i fanc bwyd. Ro\u2019n i'n ei gas\u00e1u, yn ei gas\u00e1u'n llwyr. Doeddwn i erioed wedi teimlo cymaint o embaras yn fy mywyd.\u201d<\/em><\/strong><\/p><\/blockquote>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Fel y dangosir yn y dyfyniadau hyn o\u2019n hymchwil am brofiadau bywyd o dlodi ac allg\u00e1u cymdeithasol yng Nghymru, mae effeithiau tlodi yn mynd ymhell y tu hwnt i elfennau ariannol a materol bywydau pobl a gallan nhw effeithio ar eu lles a\u2019u hiechyd meddyliol. Yn wir, ceir tystiolaeth gref yn rhyngwladol ac yng Nghymru bod tlodi ac iechyd meddwl gwael yn gysylltiedig \u00e2\u2019i gilydd a bod yna berthynas o ddau gyfeiriad.<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/33303583\/\">Yn fyd-eang,<\/a> mae'r rhai sydd \u00e2'r incwm isaf 1.5-3 gwaith yn fwy tebygol na'r cyfoethog o brofi iselder a gorbryder<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/ymchwil.senedd.cymru\/erthyglau-ymchwil\/tlodi-ac-iechyd-meddwl-maen-nhw-n-cydblethu\/\">Yng Nghymru<\/a>, mae\u2019r plant tlotaf bedair gwaith yn fwy tebygol o gael anawsterau iechyd meddwl difrifol na'r rhai o'r ardaloedd cyfoethocaf.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae ystod eang o fecanweithiau sy'n cysylltu tlodi ag iechyd meddwl a llesiant gwael. Fel y dangosir yn yr ail ddyfyniad uchod, ac yn yr <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/33303583\/\">ymchwil hwn<\/a>, un o'r mecanweithiau a ddaeth i'r amlwg yn ein hymchwil o brofiadau bywyd oedd r\u00f4l stigma wrth gysylltu tlodi a lles meddyliol gwael. Mae diffiniadau amrywiol o stigma, ond un o\u2019r rhai enwocaf yw <a href=\"chrome-extension:\/\/efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj\/https:\/cdn.penguin.co.uk\/dam-assets\/books\/9780241548011\/9780241548011-sample.pdf\">cysyniadoli clasurol<\/a> y cymdeithasegwr Erving Goffman o stigma yn 1963 fel \u2018sefyllfa\u2019r unigolyn sydd wedi\u2019i wahardd rhag cael ei dderbyn yn llawn mewn cymdeithas\u2019. Ers hynny, mae ysgolhaig blaenllaw ar dlodi yn y DU, Ruth Lister, wedi cysylltu hyn \u00e2 thlodi gan<a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/wp-content\/uploads\/2011\/12\/Ruth-Lister-2004.pdf\"> ddadlau<\/a> bod pobl yn profi tlodi \u2018nid yn unig fel cyflwr economaidd ansicr, ond hefyd fel perthynas gymdeithasol gywilyddus a difaol\u2019.<\/p>\n<p>Mae ymchwil seicolegol mwy diweddar wedi dadbacio\u2019r berthynas hon ac wedi canfod bod stigma tlodi yn <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1002\/casp.2677\">gysylltiedig <\/a>\u00e2 phedair agwedd ar iechyd meddwl gwael: hunan-barch gwael, ynysigrwydd cymdeithasol, cywilydd ac embaras a salwch meddwl (fel iselder). Mae stigma tlodi yn bwysig oherwydd ei fod yn fath o ddioddefaint ynddo'i hun. Mae hefyd yn <a href=\"https:\/\/www.jstor.org\/stable\/24751987\">cyfyngu<\/a> ar barodrwydd pobl i geisio neu dderbyn cymorth, neu i gymryd rhan yn eu cymunedau, y mae\u2019r naill a\u2019r llall yn hanfodol ar gyfer lles unigolion a chymunedol.<\/p>\n<p>Ond mae hefyd yn bwysig gofyn, fel y mae Imogen Tyler <a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/10.1177\/0038026118777425\">yn ei ddadlau<\/a>, \u2018ble mae stigma'n cael ei greu, gan bwy ac at ba ddiben?\u2019. Wrth wneud hynny, datgela Tyler nad naratif gwleidyddol a chyfryngol ac agweddau cymdeithasol yn unig sy'n creu stigma, ond hefyd yn aml cyfarpar y wladwriaeth - gwasanaethau cyhoeddus - sy'n anelu at helpu pobl, sy'n gallu creu profiadau o stigma yn y ffordd y c\u00e2nt eu cynllunio a'u cyflwyno. Mae\u2019r iaith a\u2019r naratif a ddefnyddir gan wasanaethau cyhoeddus yn un o\u2019r ffyrdd y mae hyn yn digwydd.<\/p>\n<p>Er enghraifft, mae un o aelodau \u2018T\u00eem Cynllunio Archwilio Tlodi a Stigma\u2019 Sefydliad Joseph Rowntree sydd hefyd yn gweithio mewn cymdeithas dai, <a href=\"https:\/\/www.jrf.org.uk\/blog\/frontline-poverty-how-public-services-reinforce-stigma\">wedi tynnu sylw at <\/a>yr iaith ymosodol a dad-ddyneiddiol a ddefnyddir weithiau gan wasanaethau cyhoeddus \u2013 sydd weithiau\u2019n disgrifio gwasanaethau fel \u2018rheng flaen\u2019 neu \u2018unedau\u2019 yn lle cartrefi. Canfu\u2019r T\u00eem Cynllunio fod iaith o\u2019r fath yn aml yn pwysleisio rhaniad rhwng pobl mewn tlodi a phobl sy\u2019n cael eu cyflogi gan wasanaethau sy\u2019n gweithio i ddod \u00e2 thlodi i ben, a gall atgyfnerthu stigma.<\/p>\n<p>O ystyried y cyfoeth o dystiolaeth ar stigma tlodi, ei effeithiau ac o ble y daw, croesewir y ffaith bod <a href=\"chrome-extension:\/\/efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj\/https:\/www.gov.wales\/sites\/default\/files\/pdf-versions\/2023\/6\/1\/1687164629\/consultation-draft-child-poverty-strategy-wales-2023.pdf\">Strategaeth ddrafft Tlodi Plant Cymru gan Lywodraeth Cymru <\/a>(2023) yn cydnabod yn benodol yr angen i fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi fel un o'i bum amcan. Serch hynny, yr hyn sy\u2019n llai amlwg yw r\u00f4l gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol yng Nghymru wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi.<\/p>\n<p>Gellir dadlau mai\u2019r hyn sy\u2019n allweddol i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yw taclo tlodi yn uniongyrchol, cymryd agwedd \u2018arian yn gyntaf\u2019 drwy roi mwy o arian i bobl drwy nawdd cymdeithasol, \u2018incwm sylfaenol\u2019 posib a sicrhau bod incwm yn cael ei gynyddu i\u2019r eithaf. Serch hynny, mae adnoddau ariannol a phwerau prin Llywodraeth Cymru, ac yn fwy fyth, llywodraethau lleol Cymru, yn golygu bod buddsoddiadau newydd mewn rhaglenni trosglwyddo arian ar raddfa fawr allan o gyrraedd i raddau helaeth, er bod trafodaethau yn mynd rhagddynt yngl\u0177n \u00e2\u2019r posibilrwydd o ddatganoli nawdd cymdeithasol o\u2019r DU i Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Yng nghyd-destun presennol adnoddau a phwerau prin, mae pwyslais ar ddimensiynau\u00a0seico-gymdeithasol tlodi \u2013 fel stigma tlodi \u2013 yn debygol o fod yn ffordd effeithiol o leihau niwed tlodi a chefnogi pobl allan o dlodi.<\/p>\n<p>Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac fel rhan o\u2019r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus, rydyn ni\u2019n lansio rhaglen waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi yng Nghymru i ddeall stigma tlodi a sut mae\u2019n effeithio ar eu cymunedau, ac yn hollbwysig, nodi'r hyn y gallan nhw ei wneud i sicrhau bod eu gwasanaethau'n lleihau yn hytrach nag (ail)gynhyrchu stigma tlodi.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n gweithio gyda gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, academyddion ac ymchwilwyr ac arbenigwyr o brofiad, i ddod \u00e2'r ystod lawn o arbenigedd at y cwestiwn hwn, gan gydnabod bod stigma tlodi yn ffenomena cymdeithasol a thrwy brofiadau na fydd yn cael ei ddatrys heb fewnwelediad y rhai sydd \u00e2 phrofiadau bywyd o'r anghyfiawnder hwn.<\/p>\n<p>Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y gwaith hwn, cysylltwch a Charlotte Morgan <a href=\"charlotte.morgan@wcpp.org.uk\">charlotte.morgan@wcpp.org.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydyn ni\u2019n lansio rhaglen waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi yng Nghymru i ddeall mwy am stigma tlodi a sut mae\u2019n effeithio ar eu cymunedau. \u201cDim arian, dim bwyd, mae\u2019n effeithio ar eich iechyd meddwl ac yna'n ei wneud yn wael oherwydd rydych chi wastad yn poeni a ydych chi'n mynd i gael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14734,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[143,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15388","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-profiad-bywyd","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1399115181.jpg","filesize":472455,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1399115181-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58233,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1399115181-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":118636,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1399115181-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":52670,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1399115181-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60740,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1399115181-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":173139,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1399115181-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":273837,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1399115181-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":222245,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"13079","name":"iStock-1399115181.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181.jpg","title":"iStock-1399115181","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1399115181-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15388","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15388"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15388\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16539,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15388\/revisions\/16539"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14734"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15388"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15388"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15388"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15388"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}