{"id":15386,"date":"2023-10-11T15:45:40","date_gmt":"2023-10-11T15:45:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/chwarae-teg-cydraddoldeb-tegwch-a-mynediad-at-addysg-drydyddol\/"},"modified":"2025-02-20T16:19:29","modified_gmt":"2025-02-20T16:19:29","slug":"chwarae-teg-cydraddoldeb-tegwch-a-mynediad-at-addysg-drydyddol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/chwarae-teg-cydraddoldeb-tegwch-a-mynediad-at-addysg-drydyddol\/","title":{"rendered":"Chwarae teg? Cydraddoldeb, tegwch, a mynediad at addysg drydyddol"},"content":{"rendered":"<p><em>Wrth i\u2019r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd baratoi, mae Jack Price yn archwilio beth arall y gellir ei wneud i greu system decach i ddysgwyr yng Nghymru.<\/em><\/p>\n<p>Yma yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd o hyrwyddo mwy o degwch yn y system addysg drydyddol.\u00a0 Mae ein dadansoddiad yn ystyried pa grwpiau sy\u2019n cael eu tangynrychioli mewn addysg drydyddol, sut mae rhannau eraill o\u2019r DU wedi ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, a beth y gallai Cymru ei wneud i alluogi mynediad, cadw a chyflawniad yn well ar draws y sector. Yma, edrychwn ar y syniadau cystadleuol o gyfle cyfartal a thegwch mewn mynediad, gan ddadlau bod gan y ddau le i sicrhau mynediad teg i addysg yng Nghymru, ond bod angen gwneud mwy i alluogi dysgwyr o gefndiroedd llai breintiedig i elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan addysg drydyddol.<\/p>\n<p><strong>Mynediad at addysg<\/strong><\/p>\n<p>Pan gaiff ei sefydlu, bydd gan y <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/tertiary-education-and-research-commission\">Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil<\/a> ddyletswydd i <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/asc\/2022\/1\/section\/3\">hyrwyddo cyfle cyfartal i grwpiau a dangynrychiolir<\/a>.<\/p>\n<p>Nid yw cyfle cyfartal wedi\u2019i ddiffinio yn y ddeddf, ond dyma\u2019r model amlycaf ar gyfer mynediad teg yn y DU, yn gysylltiedig \u00e2 model teilyngdod ar \u00f4l y rhyfel a oedd yn gweld gallu unigol fel y maen prawf allweddol ar gyfer asesu, er enghraifft, addasrwydd ar gyfer addysg uwch neu ar gyfer llenwi rolau galwedigaethol, yn hytrach na chefndir dosbarth neu ffactorau cymdeithasol eraill.<\/p>\n<p>Datblygwyd model cyfle cyfartal i roi <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007\/s10734-021-00755-y\">tegwch gweithdrefnol ar <\/a>waith. Y nod oedd y byddai myfyrwyr yn cael mynediad i brifysgolion yn seiliedig ar feini prawf gwrthrychol (graddau Safon Uwch yn bennaf) sy'n adlewyrchu perfformiad academaidd personol yn hytrach na ffactorau fel eu cefndir teuluol neu'r ysgolion yr oeddent yn eu mynychu. Teimlwyd y byddai hyn yn hwyluso symudedd cymdeithasol trwy gydnabod cyflawniad a theilyngdod unigol yn hytrach na braint a etifeddwyd.<\/p>\n<p>Mewn geiriau eraill, nod y dull hwn oedd, ac mae'n parhau, creu chwarae teg (yn ffurfiol o leiaf), gyda'r bwriad o ganiat\u00e1u cystadleuaeth agored am lwyddiant.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu, er bod cyfle cyfartal wedi cynyddu mynediad, nad yw wedi arwain at fynediad cyfartal i sefydliadau addysg uwch \u2013 yn enwedig y rhai mwyaf dethol, fel y 'Gr\u0175p Russell' o sefydliadau sy\u2019n cynnal gwaith ymchwil. Wrth grynhoi'r gwaith ymchwil hwn, mae Vikki Boliver <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007\/s10734-021-00755-y#Sec3\">yn nodi<\/a>:<\/p>\n<p>\u2026er mai cyrhaeddiad academaidd blaenorol yw'r rhagfynegydd cryfaf ar gyfer derbyn myfyrwyr, mae'r cyfleoedd derbyn yn amrywio ar gyfer ymgeiswyr o wahanol grwpiau cymdeithasol, hyd yn oed pan fydd ganddynt yr un graddau a\u2019u bod wedi astudio'r un pynciau ar gyfer Safon Uwch.<\/p>\n<p>Os canfyddir bod cyfle cyfartal wedi methu \u00e2 gwneud y sefyllfa\u2019n gyfartal, yna a allai fod angen ystyried model amgen?<\/p>\n<p>Mae Boliver yn cynnig y dylid disodli'r 'model cyfle cyfartal meitocrataidd' gan 'fodel cyfle <em>teg <\/em>meritocrataidd' sy'n rhoi blaenoriaeth i <a href=\"https:\/\/link.springer.com\/article\/10.1007\/s10734-021-00755-y#Sec5\">degwch dosbarthol yn hytrach na thegwch gweithdrefnol<\/a>. Byddai hyn yn cydnabod mannau cychwyn anghyfartal unigolion yn y system ac yn mynd ati\u2019n weithredol i sicrhau tegwch. Un enghraifft yw'r ymgais i unioni anfantais strwythurol trwy dderbyn myfyrwyr ar sail eu cyd-destun. Yn y DU, defnyddir hwn yn bennaf i <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/13603108.2016.1203369\">farnu a yw cyflawniad academaidd yn adlewyrchu 'gwir' botensial<\/a> ar gyfer llwyddiant mewn addysg uwch ac i ganiat\u00e1u mynediad i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ar sail cyflawniadau academaidd is na myfyrwyr o gefndiroedd mwy breintiedig.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l pob golwg, mae dull derbyn cyd-destunol yn dod <a href=\"https:\/\/www.ingentaconnect.com\/content\/openu\/jwpll\/2023\/00000024\/00000003\/art00003\">yn fwyfwy poblogaidd yn y sefydliadau mwyaf dewisol<\/a> sy'n dechrau ffurfioli gweithdrefnau i wneud cynigion derbyn sy'n ystyried yr heriau economaidd-gymdeithasol y mae darpar fyfyrwyr wedi'u hwynebu.<\/p>\n<p><strong>Cysyniadau athronyddol cydraddoldeb<\/strong><\/p>\n<p>Ar y pwynt hwn, mae'n werth cymryd cam yn \u00f4l a meddwl pam fod hwn yn ddull 'tegwch' ac a yw'n wahanol i gyfle cyfartal fel cysyniad, a sut.<\/p>\n<p>Mae tegwch yn derm a ddefnyddir fwyfwy sy'n <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/equityDiversityInclusion\/2015\/12\/is-equity-the-same-as-equality\/\">cyfeirio'n gyffredinol<\/a> at ymdrechion i gydnabod efallai nad yw cyfle cyfartal ffurfiol yn ystyried gwahanol 'fannau cychwyn' economaidd-gymdeithasol gwahanol unigolion, ac i roi mesurau ar waith i fynd i'r afael \u00e2 hyn.<\/p>\n<p>Disgrifir hyn weithiau, fel yn y <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/equityDiversityInclusion\/2015\/12\/is-equity-the-same-as-equality\/\">ddolen uchod<\/a>, fel symudiad tuag at 'ganlyniadau cyfartal'. Ond gall hyn fod ychydig yn gamarweiniol os yw'n ein harwain i weld y canlyniadau y mae angen eu gwneud yn gyfartal, fel mynediad at nwyddau materol, incwm neu gyrhaeddiad, waeth beth fo'u teilyngdod. (Ystyrir hyn fel arfer <a href=\"https:\/\/plato.stanford.edu\/entries\/equality\/#SimpEquaObjeEquaGene\">yn anghynaladwy yn ymarferol<\/a>.) Efallai mai ffordd well o feddwl am ganlyniadau cyfartal fyddai cysylltu canlyniad yn benodol \u00e2 chyfle, fel bod diffyg cynrychiolaeth gr\u0175p penodol mewn cyd-destun dymunol penodol yn cael ei weld fel \u2018<a href=\"http:\/\/eprints.lse.ac.uk\/533\/1\/equality_of_outcome.pdf\">mesur o\u2019r cyfleoedd, oherwydd os nad yw\u2019r canlyniad yn gyfartal, gallwn fod yn weddol sicr nad oedd y cyfleoedd felly'<\/a>.<\/p>\n<p>Mae hwn yn newid canlyniadol oherwydd ei fod yn osgoi dadleuon anhydrin ac yn aml orthogonol ynghylch a ddylid a sut i <a href=\"https:\/\/www.jstor.org\/stable\/2381239\">gydraddoli lles rhwng unigolion<\/a>, ond hefyd oherwydd ei fod yn ein dychwelyd at gysylltiad rhwng cyfle a chanlyniad. Ar y darlleniad hwn, nid arwahanrwydd dull tegwch yw ei fod yn symud y tu hwnt i gyfle cyfartal, ond yn hytrach ei fod, yn syml, yn gysyniad gwahanol, cryfach o'r hyn y mae cyfle cyfartal yn ei olygu. Fel y disgrifia Hugh Lazenby '<a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/pdf\/10.1177\/1477878515619788\">cyfle cyfartal <em>trwy <\/em>addysg'<\/a>,<\/p>\n<p>\u2026os yw\u2019r cysyniad o gyfle cyfartal yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn gael yr un modd o gael bywyd da gyda gwahaniaethau yn y ffordd y maent yn ymdopi yn dibynnu ar dalent naturiol yn unig, a dewisiadau i ymdrechu, yna gellid defnyddio\u2019r system addysg i ddarparu triniaeth adferol ar gyfer yr unigolion hynny a oedd wedi bod dan anfantais y tu allan i addysg.<\/p>\n<p>Felly, er enghraifft, yn ogystal \u00e2 derbyniadau cyd-destunol, gallai sefydliadau roi <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/13603108.2022.2063429\">rhaglenni cymorth<\/a> ar waith ar gyfer myfyrwyr llai breintiedig i helpu'r rhai nad ydynt wedi cael mynediad gwastad at wybodaeth flaenorol cyn eu hastudiaeth.<\/p>\n<p><strong>Cymwysiadau ymarferol<\/strong><\/p>\n<p>Mae'n nodedig bod trafodaethau ynghylch derbyniadau cyd-destunol yn aml yn canolbwyntio ar <a href=\"https:\/\/www.ingentaconnect.com\/content\/openu\/jwpll\/2023\/00000024\/00000003\/art00003\">y sefydliadau mwyaf dewisol yn academaidd<\/a>. Mewn rhai achosion, mae hyn yn adlewyrchu\u2019r ffaith bod y sefydliadau hyn i\u2019w gweld yn cynnig <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/13603108.2016.1203369\">enillion unigol<\/a> gwell na sefydliadau eraill, ac mae gradd ail ddosbarth uwch neu radd uwch o brifysgol hynod ddetholus <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/1069547\/degree_class_final.pdf\">yn gysylltiedig \u00e2 phremiwm cyflog sylweddol<\/a> o hyd. Fodd bynnag, mae rhoi system dderbyn gyd-destunol ar waith gyda rhaglenni cymorth ar gyfer y sefydliadau hyn yn gofyn am lawer o adnoddau i\u2019w darparu, ac mewn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0007\/2688199\/wbo_2022_full_report_final.pdf\">amgylchedd cyllidol heriol<\/a>, bydd angen i CTER wneud penderfyniadau ynghylch pa fath o ymyriadau y dylid eu rhoi ar waith ar draws y system addysg drydyddol.<\/p>\n<p>Gall deall tegwch fel math o gyfle cyfartal yn hytrach na dull cystadleuol a gwrthgyferbyniol o gyflawni cyfiawnder dosbarthol ein helpu ni yma, drwy ddarparu opsiynau ar gyfer pryd a sut y dylid rhoi cysyniadau gwahanol o gyfle cyfartal ar waith.<\/p>\n<p>Yn aml, bydd angen dull mwy sylweddol o ran adnoddau a chyfle cyfartal ('tegwch\u2019). Yn ogystal \u00e2 derbyniadau cyd-destunol, gallai hyn gynnwys dysgwyr sydd angen <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/views\/colegau-cymru-low-income-learners\/\">cymorth ariannol a chymhellion<\/a> i barhau mewn addysg os ydynt am fanteisio ar botensial trawsnewidiol addysg drydyddol. Neu efallai ei fod yn ymwneud \u00e2 darparu cymorth ariannol neu addysgol ychwanegol i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn ystod eu haddysg orfodol, i roi\u2019r cymorth cynnar iddynt a fydd yn eu galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan addysg drydyddol ar sail fwy cyfartal \u00e2\u2019u cyfoedion o gefndiroedd mwy breintiedig.<\/p>\n<p>Mewn achosion eraill, efallai ei fod yn ymwneud \u00e2 sicrhau cyfle cyfartal drwy ddarparu lefel sylfaenol o ddarpariaeth ffurfiol hygyrch \u2013 er enghraifft, mae\u2019r gofyniad yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil i ddarparu \u2018cyfleusterau priodol\u2019 i ddysgwyr sy\u2019n oedolion yn rhan allweddol o awydd y Gweinidog Addysg i wneud Cymru yn '<a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/second-chance-nation-where-its-never-too-late-learn\">genedl ail gyfle'<\/a> i helpu pobl i ennill sgiliau newydd. Byddai\u2019r cyfleoedd hyn hefyd yn cynnwys, er enghraifft, cyfleoedd i ennill cymwysterau sylfaenol fel TGAU Mathemateg a Saesneg i ddysgwyr na chyrhaeddodd y graddau gofynnol yn eu haddysg orfodol.<\/p>\n<p>Mewn cyd-destunau lle mae llai o gystadleuaeth am leoedd, neu lle mae tystiolaeth yn awgrymu bod mynediad a chyfle cyfartal i raddau helaeth eisoes, efallai na fydd angen polis\u00efau rhagweithiol i ehangu mynediad mor gryf. Fodd bynnag, wrth wneud y penderfyniadau hyn, bydd yn bwysig asesu anghenion dysgwyr yn gyfannol ac ar draws y system drydyddol. Bydd ein gwaith ymchwil sydd ar ddod yn darparu sylfaen dystiolaeth, gan ganiat\u00e1u i CTER asesu pa grwpiau sydd wedi\u2019u tangynrychioli\u2019n arbennig mewn gwahanol rannau o\u2019r system drydyddol, a bydd yn argymell ymyriadau i greu system decach i ddysgwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i\u2019r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd baratoi, mae Jack Price yn archwilio beth arall y gellir ei wneud i greu system decach i ddysgwyr yng Nghymru. Yma yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd o hyrwyddo mwy o degwch yn y system addysg drydyddol.\u00a0 Mae ein dadansoddiad yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18867,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15386","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1533629661.jpg","filesize":498144,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1533629661-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":63716,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1533629661-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127549,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1533629661-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55195,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1533629661-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":66641,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1533629661-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":185377,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1533629661-2048x1366.jpg","width":2048,"height":1366,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":291451,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-2048x1366.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1533629661-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":224449,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15383","name":"iStock-1533629661.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661.jpg","title":"iStock-1533629661.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1533629661-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15386","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15386"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15386\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18867"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15386"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15386"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15386"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15386"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}