{"id":15381,"date":"2023-10-16T10:23:40","date_gmt":"2023-10-16T10:23:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-all-cymru-fwydo-ei-hun-mewn-byd-bioamrywiol-a-charbon-niwtral-yn-y-dyfodol\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:53","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:53","slug":"sut-all-cymru-fwydo-ei-hun-mewn-byd-bioamrywiol-a-charbon-niwtral-yn-y-dyfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-all-cymru-fwydo-ei-hun-mewn-byd-bioamrywiol-a-charbon-niwtral-yn-y-dyfodol\/","title":{"rendered":"Sut all Cymru fwydo ei hun mewn byd bioamrywiol a charbon niwtral yn y dyfodol?"},"content":{"rendered":"<p>Darllenwch ymateb Alexander Phillips,\u00a0Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru i ein adroddiad: Sut gallai Cymru fwydo'i hun erbyn 2035?<\/p>\n<p>Gydag effeithiau newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn dod yn fwyfwy amlwg o gwmpas y byd, mae\u2019r cwestiwn \u2018sut all Cymru fwydo\u2019i hun yn 2035\u2019 a thu hwnt yn bendant yn un o gwestiynau polisi cyhoeddus pwysicaf ein hoes.<\/p>\n<p>Er bod gan sectorau fel cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth ffordd strategaethau clir ar waith ar gyfer datgarboneiddio yn arwain at 2050 trwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy a thanwyddau amgen,\u00a0 nid oes llawer o weithredu ar hyn o bryd i symud y pwyslais yn y system fwyd. Y system hon sy\u2019n gyfrifol am oddeutu traean o\u2019r allyriadau nwyon t\u0177 gwydr yn fyd-eang<a href=\"#_ftn1\" name=\"_ftnref1\">[1]<\/a>, ac felly mae\u2019n sector sydd \u00e2 photensial mawr i gyflawni\u2019r newidiadau mae eu hangen er mwyn gwireddu Sero Net.<\/p>\n<p>Yma yng Nghymru, mae\u2019r systemau amaethyddol anghynaladwy presennol wedi arwain at amcanestyniadau sy\u2019n dangos mai\u2019r sector hwn fydd allyrrydd domestig mwyaf nwyon t\u0177 gwydr erbyn tua 2035<a href=\"#_ftn2\" name=\"_ftnref2\">[2]<\/a>. Mae ei allyriadau wedi codi yn ystod y degawd diwethaf, sy\u2019n mynd yn groes i\u2019r duedd o allyriadau\u2019n gostwng yn y sectorau domestig eraill<a href=\"#_ftn3\" name=\"_ftnref3\">[3]<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Deddf Amaeth (Cymru) 2023 a\u2019r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy\u2019n deillio ohoni<\/strong><\/p>\n<p>Mae ein hymadawiad o\u2019r Undeb Ewropeaidd wedi gorfodi Llywodraeth Cymru i weithredu yn y maes hwn. Mae gan y Ddeddf Amaeth (Cymru) 2023 newydd a\u2019r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy\u2019n deillio ohoni y potensial i feithrin symudiadau sylweddol ar ochr gynhyrchu'r system fwyd, pe bai\u00a0 gwleidyddion yn ddigon dewr i\u2019w thrawsnewid yn system cynhyrchu bwyd wirioneddol gynaliadwy.\u00a0 Byddai hyn yn gyferbyniad sylweddol i sefyllfa bresennol Cymru lle, ochr yn ochr ag allyriadau cynyddol, cydnabyddir bod arferion ffermio anghynaladwy yn un o brif ysgogwyr y broses colli bioamrywiaeth.<\/p>\n<p>Yn ddi-os, os yw\u2019r cyflawniad a\u2019r dyraniadau cyllidebol gyfwerth \u00e2\u2019r uchelgais, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw ein cyfle mwyaf i lunio arferion amaethyddol yn y degawdau nesaf a sicrhau y bydd Cymru yn parhau ar hyd y trywydd i ddiwallu ei huchelgeisiau Sero Net. Mae\u2019r Cynllun yn rhoi inni gyfle i wobrwyo system ffermio sy\u2019n gweithio\u2019n agosach \u00e2 natur gartref, a hefyd yn gyfle i sicrhau nad yw arferion ffermio yng Nghymru\u2018n cyfrannu at golli natur a newid hinsawdd mewn gwledydd tramor. Er enghraifft, mae gofynion Cymru o ran bwyd anifeiliaid fferm ar hyn o bryd yn golygu bod tri chwarter o\u2019r soia a fewnforir gennym yn dod o wledydd fel Paraguay, yr Ariannin a Brasil, sy\u2019n wynebu risg uchel, neu risg uchel iawn o ddatgoedwigo a phroblemau cymdeithasol eraill<a href=\"#_ftn4\" name=\"_ftnref4\">[4]<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Y system fwyd ehangach<\/strong><\/p>\n<p>Wrth nodi\u2019r pwyntiau hyn, mae\u2019n hanfodol cydnabod mai dim ond un rhan o\u2019r pos yw cynhyrchu bwyd, yn enwedig pan fo\u2019r hyn a gynhyrchwn ac a fwytawn yng Nghymru mor ddigyswllt \u2013 dim ond 5% o\u2019r cig oen a\u2019r cig eidion a gynhyrchir gennym a gaiff ei fwyta yng Nghymru<a href=\"#_ftn5\" name=\"_ftnref5\">[5]<\/a>, a mewnforion sy\u2019n cyflenwi\u2019r rhan fwyaf o\u2019n cymeriant maethol. Yn syml, nid ydym yn \u2018bwydo\u2019r genedl\u2019 ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, mae Cymru\u2019n dal i fod ymhell ar ei h\u00f4l hi o ran diwygio\u2019r system fwyd ehangach \u2013 ac ychwanegwyd at hyn gan fethiant y Senedd i ystyried Bil Bwyd (Cymru) ymhellach yn gynharach eleni. Mae angen inni feithrin ymagwedd strategol gyd gysylltiedig at ein system fwyd, a fydd yn mynd i\u2019r afael ag effeithiau\u2019r system fwyd ehangach yn ein rhuthr at Sero Net, gan gynnwys y bwyd a fwyteir a gwastraff bwyd.<\/p>\n<p>O gofio\u2019r cyd-destun hwn, roeddwn wrth fy modd i weld y Gr\u0175p Her Sero Net 2035 yn neilltuo cymaint o\u2019i egni i ateb y cwestiwn o sut bydd Cymru\u2019n bwydo ei hun yn y dyfodol agos. Er fy mod i\u2019n dal i feddwl nad yw llwybr Sero Net 2035 cenedlaethol yn ymarferol, cydnabyddaf mai gwir werth y Gr\u0175p Her yw gofyn cwestiynau o\u2019r fath, gan dynnu sylw at y meysydd lle mae angen inni wella ein hymdrechion os ydym am gyflawni ein hymrwymiad i gyrraedd Sero Net erbyn 2050 fan hwyraf.<\/p>\n<p><strong>Yr angen i fod yn onest<\/strong><\/p>\n<p>Mae Pecyn Tystiolaeth newydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am y system fwyd mor werthfawr o\u2019r safbwynt hwn. Mae\u2019n dwyn ynghyd yn ddestlus gymaint o faterion a dadleuon cymhleth \u00e2\u2019r data gorau sydd ar gael, i greu darlun o systemau amaethyddol a bwyd Cymru sy\u2019n tynnu sylw at ddau wirionedd brawychus y mae angen i bawb ohonom fod yn onest amdanynt:<\/p>\n<ul>\n<li>Nad yw ein system fwyd gyfredol yn addas i\u2019r diben. Mae\u2019n methu \u00e2 darparu ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru ac mae\u2019n gyrru tueddiadau negyddol o ran allyriadau, llygredd, a cholli bioamrywiaeth; a,<\/li>\n<li>Heb ddiwygiadau sylweddol ar frys, mae\u2019n debyg y caiff y methiannau hyn eu helaethu yn ystod y 25 i 30 mlynedd nesaf, wrth i\u2019r pwysau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol sydd ar Gymru waethygu.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Y trawsnewidiad amaethecolegol<\/strong><\/p>\n<p>Wrth sylweddoli\u2019r pethau hyn, yr her yw beth ddylem ni ei wneud? Sut allwn ni newid ein system gynhyrchu a\u2019r system ehangach, fel eu bod yn gweithio\u2019n well gyda natur, yn canolbwyntio llai ar allforio, ac yn hytrach yn cyd-fynd yn well \u00e2\u2019n hanghenion maethol ac \u00e2 chynnal cymunedau\u2019n ddiwylliannol ac yn economaidd?<\/p>\n<p>Yr ateb yw trawsnewid amaethecolegol sy\u2019n:<\/p>\n<ul>\n<li>Dod \u00e2\u2019n prosesau cynhyrchu bwyd yn \u00f4l o fewn terfynau naturiol drwy adfer bioamrywiaeth ac atafaelu carbon ar y raddfa sydd ei hangen i wireddu ein huchelgeisiau o ran Sero Net drwy arferion atgynhyrchiol;<\/li>\n<li>Meithrin cysylltiadau cryfach rhwng y prosesau cynhyrchu a defnyddio ar draws cadwyni cyflenwi er mwyn bodloni ein hanghenion maethol yn well, a chefnogi cadwyni cyflenwi teg a byr, a cheisio allforio\u2019n gynaliadwy lle bo\u2019n bosibl; ac,<\/li>\n<li>Yn sicrhau nad yw ffermwyr ar drugaredd amrywiadau anwadal o ran prisiau mewnbwn ac ansefydlogrwydd ehangach yn y farchnad, sydd wedi arwain at golli cymaint o ffermydd teuluol yn y gorffennol, ac felly\u2019n cynnig economi gwledig mwy cynaliadwy a bywiog i genedlaethau\u2019r presennol a\u2019r dyfodol.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Ffermwyr yn arwain y ffordd <\/strong><\/p>\n<p>Er y gall polisi Llywodraeth Cymru sy\u2019n dod i\u2019r amlwg gefnogi\u2019r trawsnewidiad hwn, rhaid iddo wneud hynny mewn ffordd sy\u2019n cydnabod ein bod ni yn y sefyllfa sydd ohoni yn bennaf oherwydd y ffordd y cafodd cynlluniau cymorth eu llunio yn y gorffennol. Cafodd cynlluniau fel y Polisi Amaethyddol Cyffredin eu llunio i ddiwallu\u2019r agenda cynhyrchu ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd, nad oedd byth yn addas iawn ar gyfer arferion traddodiadol mwy cynaliadwy ar ffermydd teuluol. Mae hyn oll yn ffordd hir o ddweud nad y ffermwyr sydd ar fai am y system maent yn gweithredu ynddi, ond rhaid iddynt fod yn ganolog \u00a0i\u2019r broses o drawsnewid i rywbeth gwell.<\/p>\n<p>Gall amaethecoleg fod yn ffordd o wneud hyn yn well. Gyda\u2019r cymorth iawn, gallwn achosi trawsnewidiad cymaint ag y bo\u2019n ddigonol i ragori ar ein hanghenion maethol ynghyd \u00e2 rhai cenedlaethau\u2019r dyfodol. Mae digonedd o ffermwyr ledled Cymru eisoes yn gwneud hyn, fel y nodwyd gan WWF Cymru yn ein <a href=\"https:\/\/www.wwf.org.uk\/sites\/default\/files\/publications\/Jul23\/WWFreportENGfullJULY_web.pdf\">hadroddiad astudiaethau achos <\/a>diweddar. Y broblem a wynebant ar hyn o bryd yw eu bod nhw wedi ceisio gwneud y symudiad hwn at amaethecoleg eu hunain, ac nid yw\u2019r cyllid hanesyddol na chynigion cyfredol Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi gwneud, nac yn gwneud digon i gefnogi\u2019r hyn a gyflawnwyd ganddynt eisoes, ac i ysgogi ffermwyr eraill i\u2019w dilyn.<\/p>\n<p>Wrth wneud hyn, nid ydym yn esgus y bydd yn gweithio yn yr un ffordd i bawb. Fel sy\u2019n wir am bob system, bydd gan system amaethecolegol ei chryfderau a\u2019i gwendidau. Er hynny, trwy archwilio\u2019r hyn sy\u2019n bosibl a gofyn y cwestiynau anodd fel sy\u2019n fwriad gan y Gr\u0175p Her, gall pawb ddeall yn well lle mae\u2019r risgiau a\u2019r cyfleoedd, a sut y gallai cyllid gan drethdalwyr yn y dyfodol \u2013 ar ffurf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar y gweill a thu hwnt \u2013 gefnogi\u2019r trawsnewidiad hwn yn y ffordd fwyaf teg ac effeithiol.<\/p>\n<p><strong>Beth am ffermydd mwy o faint?<\/strong><\/p>\n<p>O edrych ar enghreifftiau o gwestiynau anodd o\u2019r fath, cafwyd trafodaeth helaeth yn ystod y misoedd diwethaf ynghylch y graddau y bydd y trywydd a fwriedir gan Lywodraeth Cymru\u2019n gweithio i ffermydd mwy o faint, gan gynnwys ffermydd llaeth diwydiannol. Mae pob ochr yn cydnabod y risgiau yma \u2013 bod maint, dulliau a thechnegau rheoli tirwedd llawer o\u2019r ffermydd hyn yn golygu ei fod yn anoddach i lawer ohonynt drawsnewid i\u2019r arferion datgarboneiddio sy\u2019n fwy ystyriol o natur na\u2019r rhan fwyaf o\u2019r ffermydd tir uchel traddodiadol. Mae\u2019r cwestiwn yn newid i sut bydd cynlluniau a ariennir gan y trethdalwyr, fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ymdrin \u00e2\u2019r sefyllfa hon. Hyd yma, ymddengys nad oes gan y Llywodraeth ateb digon cadarn.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l pob tebyg, gall wneud y Cynllun Ffermio Cynaliadwy\u2019n fwy hyblyg a pheryglu lleihau uchelgais y mwyafrif gymaint nes y bydd yn annhebygol y gellir cyrraedd ein targedau o ran bioamrywiaeth a Sero Net. Efallai y gall dderbyn yn lle hynny y bydd rhai ffermydd yn dewis peidio \u00e2 chymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac yn dewis wynebu\u2019r farchnad ar eu pennau eu hunain, ac y bydd rheoliadau a orfodir yn gryf yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau na fydd y ffermydd eraill llai blaengar mewn meysydd fel llygredd d\u0175r croyw yn gwerthu eu cynnyrch yn rhatach na\u2019r ffermydd sy\u2019n cynhyrchu yn unol \u00e2 safonau amgylcheddol uwch.<\/p>\n<p>Mae\u2019n amlwg nad yw\u2019r cyntaf yn dderbyniol i\u2019r rhai sy\u2019n dymuno creu Cymru Sero Net natur-gyfoethog, ac y byddai\u2019r ail yn debyg o ennyn trafodaethau anodd iawn rhwng y Llywodraeth a\u2019r grwpiau yr effeithir arnynt - gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn dwyn baich unrhyw gostau pellach o ran gorfodi rheoliadau. Wrth gwrs, efallai\u2019n hytrach y bydd y Llywodraeth yn gobeithio y bydd \u2018trydedd ffordd\u2019 yn dod i\u2019r amlwg - yn debyg o fod yn ymwneud ag ychwanegu gwerth at gadwyni cyflenwi yn yr Haen Gydweithredol er mwyn caniat\u00e1u mwy o hyblygrwydd i ymgymryd \u00e2 chymysgedd mwy amrywiol o weithgareddau datgarboneiddio natur-gyfoethog. Fodd bynnag, bydd ymagwedd o\u2019r fath bob amser yn\u00a0 anodd iawn ei gweithredu ar raddfa fwy, ac efallai y bydd hyd yn oed yn galw am gynllun pwrpasol tu hwnt i\u2019r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.<\/p>\n<p><strong>System f<\/strong><strong>wyd a defnydd tir cynaliadwy sy\u2019n cyflawni dros natur a\u2019r hinsawdd?\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Mae WWF Cymru wedi bod yn gweithio gyda\u2019r holl gynrychiolwyr i ddeall y cwestiynau hyn yn well, a\u2019u hateb, ers 2017, a bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod y blynyddoedd i ddod. Ein gobaith yw y bydd yr atebion rydym yn eu darganfod yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, grwpiau ffermio a\u2019r Gr\u0175p Her Sero Net 2035 gyda\u2019r gwaith o ganfod a sicrhau system fwyd a defnydd tir cynaliadwy sy\u2019n cyflawni llwybr cyfiawn, natur-gyfoethog, sero net cyn gynted ag y bo modd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref1\" name=\"_ftn1\">[1]<\/a> <a href=\"https:\/\/wrap.org.uk\/resources\/report\/uk-food-system-ghg-emissions\">https:\/\/wrap.org.uk\/resources\/report\/uk-food-system-ghg-emissions<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref2\" name=\"_ftn2\">[2]<\/a> UKCCC. 2020. Sixth Carbon Budget \u2013 Dataset. <a href=\"https:\/\/view.officeapps.live.com\/op\/view.aspx?src=https%3A%2F%2Fwww.theccc.org.uk%2Fwp-content%2Fuploads%2F2020%2F12%2FThe-Sixth-Carbon-Budget-Dataset_v2.xlsx&amp;wdOrigin=BROWSELINK\">https:\/\/view.officeapps.live.com\/op\/view.aspx?src=https%3A%2F%2Fwww.theccc.org.uk%2Fwp-content%2Fuploads%2F2020%2F12%2FThe-Sixth-Carbon-Budget-Dataset_v2.xlsx&amp;wdOrigin=BROWSELINK<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref3\" name=\"_ftn3\">[3]<\/a> <a href=\"https:\/\/statswales.gov.wales\/Catalogue\/Environment-and-Countryside\/Greenhouse-Gas\/emissionsofgreenhousegases-by-year\">https:\/\/statswales.gov.wales\/Catalogue\/Environment-and-Countryside\/Greenhouse-Gas\/emissionsofgreenhousegases-by-year<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref4\" name=\"_ftn4\">[4]<\/a> Wales and Global responsibility <a href=\"https:\/\/www.wwf.org.uk\/sites\/default\/files\/2021-11\/wwf_risky_b_wales.pdf\">https:\/\/www.wwf.org.uk\/sites\/default\/files\/2021-11\/wwf_risky_b_wales.pdf<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref5\" name=\"_ftn5\">[5]<\/a> <a href=\"https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/industry-statistics\">https:\/\/meatpromotion.wales\/en\/industry-statistics<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Darllenwch ymateb Alexander Phillips,\u00a0Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru i ein adroddiad: Sut gallai Cymru fwydo'i hun erbyn 2035? Gydag effeithiau newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn dod yn fwyfwy amlwg o gwmpas y byd, mae\u2019r cwestiwn \u2018sut all Cymru fwydo\u2019i hun yn 2035\u2019 a thu hwnt yn bendant yn un o gwestiynau polisi cyhoeddus [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":16536,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18,12],"tags":[140,144,149],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15381","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net","tag-ynni"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-scaled.jpg","filesize":598143,"sizes":{"medium":{"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-744x601.jpg","width":744,"height":601,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":85518,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-744x601.jpg"},"large":{"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-1200x969.jpg","width":1200,"height":969,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":179987,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-1200x969.jpg"},"thumbnail":{"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58501,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-768x620.jpg","width":768,"height":620,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":89425,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-768x620.jpg"},"1536x1536":{"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-1536x1240.jpg","width":1536,"height":1240,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":264435,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-1536x1240.jpg"},"2048x2048":{"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-2048x1654.jpg","width":2048,"height":1654,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":417548,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-2048x1654.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":255945,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn.jpg","ID":"15380","name":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-scaled.jpg","title":"WWF-cropped-Aled-Llywelyn.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWF-cropped-Aled-Llywelyn-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15381","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15381"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15381\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16537,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15381\/revisions\/16537"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16536"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15381"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15381"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15381"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15381"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}