{"id":15378,"date":"2023-10-13T12:25:02","date_gmt":"2023-10-13T12:25:02","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-gallai-polisiau-gwrth-ysmygu-effeithio-ar-y-cynnydd-yn-y-defnydd-o-e-sigarets\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:50","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:50","slug":"sut-gallai-polisiau-gwrth-ysmygu-effeithio-ar-y-cynnydd-yn-y-defnydd-o-e-sigarets","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-gallai-polisiau-gwrth-ysmygu-effeithio-ar-y-cynnydd-yn-y-defnydd-o-e-sigarets\/","title":{"rendered":"Sut gallai polis\u00efau gwrth-ysmygu effeithio ar y cynnydd yn y defnydd o e-sigar\u00e9ts?\u00a0"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r nifer cynyddol o bobl sy\u2019n defnyddio e-sigar\u00e9ts, neu\u2019n f\u00eapio, yn creu her polisi sylweddol i lywodraethau yng Nghymru, y DU ac mewn mannau eraill. Rydym ni\u2019n edrych ar y gwahanol fesurau y mae llywodraethau ledled y byd yn eu rhoi ar waith.<\/p>\n<p>Yn y DU, dywedodd <a href=\"https:\/\/ash.org.uk\/resources\/view\/use-of-e-cigarettes-among-adults-in-great-britain-2021\">9.1% o oedolion<\/a> eu bod wedi defnyddio e-sigar\u00e9ts yn 2023, sy\u2019n cyfateb i tua 4.7 miliwn o oedolion. Mae rhai yn gweld hyn fel newyddion da, gan fod dros hanner y rheini sy\u2019n defnyddio e-sigar\u00e9ts yn gyn-ysmygwyr tybaco. Mae hyn yn tynnu sylw at botensial e-sigar\u00e9ts i helpu i leihau\u2019r niferoedd sy\u2019n defnyddio tybaco a sicrhau budd sylweddol i iechyd y cyhoedd.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, bu cynnydd hefyd yn nifer y plant a phobl ifanc sy\u2019n defnyddio e-sigar\u00e9ts: <a href=\"https:\/\/ash.org.uk\/resources\/view\/use-of-e-cigarettes-among-young-people-in-great-britain\">mae dros 20% o blant<\/a> rhwng 11 a 17 oed yn y DU wedi rhoi cynnig ar e-sigar\u00e9ts, gan godi o tua 14% dechrau 2020.<\/p>\n<p>Mae hyn yn broblem. Er bod e-sigar\u00e9ts yn llai niweidiol nag ysmygu, nid ydyn nhw heb risg, ac mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gallai fod risgiau ychwanegol i ddatblygiad yr ymennydd ymhlith pobl ifanc sy'n dod i gysylltiad \u00e2 nicotin. Mae cyngor y GIG yn nodi <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/better-health\/quit-smoking\/vaping-to-quit-smoking\/\">\u201cna ddylai pobl sydd ddim yn ysmygu na phobl ifanc dan 18 oed ddefnyddio e-sigar\u00e9ts\u201d<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ash.org.uk\/resources\/view\/use-of-e-cigarettes-among-young-people-in-great-britain\">Nid yw bron i hanner y plant<\/a> yn y DU sydd wedi defnyddio e-sigar\u00e9ts erioed wedi ysmygu sigar\u00e9t. Mae defnyddio e-sigar\u00e9ts yn cymryd lle ysmygu tybaco ymysg cyn-ysmygwyr, a phlant a phobl ifanc. Mae angen i lywodraethau wneud penderfyniadau polisi sy\u2019n taro\u2019r cydbwysedd cywir rhwng manteision posibl lleihau\u2019r gyfradd ysmygu drwy ddefnyddio e-sigar\u00e9ts, ac atal y niwed sy\u2019n cael ei achosi gan fwy o ddefnydd ohonynt ymysg pobl ifanc a\/neu bobl sydd ddim yn ysmygu. Mae tensiwn clir rhwng yr amcanion hyn: manteision lleihau cyfraddau ysmygu ac anfanteision galluogi mynediad haws at e-sigar\u00e9ts.<\/p>\n<p>Mae gwneud penderfyniadau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth yn y maes hwn yn anoddach oherwydd grwpiau lob\u00efo pwerus sy\u2019n cael eu hariannu\u2019n dda, natur ddadleuol y dystiolaeth, a diffyg tystiolaeth tymor hir ar niwed defnyddio e-sigar\u00e9ts. Serch hynny, mae gwledydd eraill eisoes wedi gweithredu i leihau eu cyfraddau ysmygu a chyfyngu ar y gallu i gael gafael ar e-sigar\u00e9ts.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i \u2018greu cenhedlaeth ddi-fwg\u2019 mewn <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/stopping-the-start-our-new-plan-to-create-a-smokefree-generation\">Papur Gwyn newydd<\/a> \u2013 gan godi\u2019r isafswm oedran ar gyfer prynu cynnyrch tybaco bob blwyddyn. Mae\u2019r dull arloesol hwn eisoes wedi cael ei roi ar waith yn Seland Newydd. Fodd bynnag, nid yw'n berthnasol i e-sigar\u00e9ts. Cyhoeddodd llywodraeth Seland Newydd <a href=\"https:\/\/www.health.govt.nz\/news-media\/news-items\/new-policies-will-help-reach-smokefree-goal-and-address-increase-youth-vaping\">bolis\u00efau newydd ym mis Mehefin eleni<\/a>, gan gynnwys lleihau\u2019r cryfder nicotin uchaf mewn e-sigar\u00e9ts oherwydd pryderon yngl\u0177n \u00e2 chyfraddau defnyddio e-sigar\u00e9ts ymysg pobl ifanc. Er gwaethaf y ddeddfwriaeth gwrth-ysmygu arloesol, mae Seland Newydd wedi gorfod cymryd camau i atal pobl ifanc rhag defnyddio e-sigar\u00e9ts i liniaru\u2019r risg o genhedlaeth newydd o ddefnyddwyr e-sigar\u00e9ts. Mae\u2019n debyg y bydd llywodraethau eraill yn gorfod mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem hon hefyd.<\/p>\n<p>Yn yr un <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/stopping-the-start-our-new-plan-to-create-a-smokefree-generation\">Papur Gwyn<\/a>, mae Llywodraeth y DU yn amlinellu nifer o fentrau polisi eraill mewn mannau eraill sydd wedi ceisio lleihau cyfraddau ysmygu a defnyddio e-sigar\u00e9ts. \u00a0Ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU hefyd yn gweithredu <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/smokers-urged-to-swap-cigarettes-for-vapes-in-world-first-scheme\">cynllun \u2018cyfnewid i roi\u2019r gorau iddi\u2019<\/a>, gan roi pecyn cychwynnol o e-sigar\u00e9ts i ysmygwyr yn Lloegr sy\u2019n awyddus i roi\u2019r gorau i ysmygu, ochr yn ochr \u00e2 chymorth gydag ymddygiad. <a href=\"https:\/\/cpe.org.uk\/?our-services=swap-to-stop-pilot-salford-area\">Roedd y cynlluniau peilot<\/a> yn darparu tua phythefnos o gyflenwad o hylif e-sigar\u00e9ts, oedd yn golygu y bydd hi\u2019n debygol y bydd yn rhaid i\u2019r rheini oedd yn cymryd rhan ddibynnu ar y farchnad fasnachol i gael hylif ac i osgoi mynd yn \u00f4l i ysmygu. <a href=\"https:\/\/www.uea.ac.uk\/news\/-\/article\/swap-to-stop-but-let-us-shop-say-vapers\">Mae tystiolaeth<\/a> yn awgrymu bod cyn-ysmygwyr wedi elwa o'r farchnad fasnachol bresennol ar gyfer e-sigar\u00e9ts, ac y bydd y llwybr masnachol yn debygol o barhau i fod yn ffactor pwysig o ran annog pobl i roi'r gorau i ysmygu drwy e-sigar\u00e9ts. O ystyried dibyniaeth y cynllun hwn ar y farchnad fasnachol ar gyfer e-sigar\u00e9ts, mae hyn yn tynnu sylw at bresenoldeb parhaus tebygol e-sigar\u00e9ts ar y farchnad, a'r posibilrwydd (a\u2019r risgiau dilynol) fod pobl sydd ddim yn ysmygu yn cael gafael ar e-sigar\u00e9ts. <a href=\"https:\/\/www.health.gov.au\/topics\/smoking-and-tobacco\/about-smoking-and-tobacco\/about-e-cigarettes\">Mae Awstralia<\/a> wedi mabwysiadu dull gwahanol o atal ysmygu, gan wrthod defnyddio e-sigar\u00e9ts fel adnodd i roi\u2019r gorau i ysmygu, ac atal pobl rhag cael gafael ar e-sigar\u00e9ts sy\u2019n cynnwys nicotin heb bresgripsiwn. Mae'r polisi rhoi'r gorau i ysmygu wedi cael effaith sylweddol ar argaeledd e-sigar\u00e9ts yn y farchnad a barn pobl yngl\u0177n \u00e2 nhw, ac mae Llywodraeth y DU anghyffredin o ran darparu e-sigar\u00e9ts fel adnodd i roi'r gorau i ysmygu. Yn wir, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-67068405\">fod ganddo \u201cddiddordeb\u201d ym mholisi Awstralia<\/a> o gyfyngu ar werthu e-sigar\u00e9ts i\u2019r rheini sydd \u00e2 phresgripsiwn, gan ddangos gwahaniaeth allweddol i safbwynt Llywodraeth y DU.<\/p>\n<p>Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Mae llywodraethau datganoledig yn y DU yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain drwy\u2019r GIG datganoledig ar bresgripsiynau e-sigar\u00e9ts, ond nid yw\u2019n glir a oes ganddyn nhw\u2019r pwerau i wneud penderfyniadau unochrog ar argaeledd cynnyrch. Mae llywodraethau is-genedlaethol eraill wedi datblygu polis\u00efau mwy cyfyngol i atal mynediad at e-sigar\u00e9ts: <a href=\"https:\/\/www.quebec.ca\/en\/health\/advice-and-prevention\/healthy-lifestyle-habits\/electronic-cigarettes\">Mae Quebec<\/a>, er enghraifft, wedi gwahardd gwerthu e-sigar\u00e9ts ar-lein. Er bod <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/stopping-the-start-our-new-plan-to-create-a-smokefree-generation\">Llywodraeth y DU<\/a> wedi dilyn yr Alban wrth ystyried gwahardd e-sigar\u00e9ts tafladwy, <a href=\"https:\/\/www.zerowastescotland.org.uk\/resources\/environmental-impact-single-use-e-cigarettes\">nid oedd yn glir o\u2019r blaen<\/a> a oedd gan Lywodraeth yr Alban y p\u0175er i wneud hyn ar ei phen ei hun. Mae\u2019r llywodraethau datganoledig wedi mynd ymhellach yn y gorffennol i gyfyngu ar fynediad at gynnyrch caethiwus ar sail iechyd y cyhoedd, mewn meysydd lle mae pwerau datganoledig yn gymhleth. Yr enghraifft orau o hyn yw gweithredu isafswm prisiau uned yng Nghymru a\u2019r Alban (er nad oedd hyn yn <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/it-aint-what-you-can-do-its-the-way-that-you-do-it-how-can-devolved-governments-deliver-distinctive-policies\/\">hawdd<\/a>). Mewn mater iechyd cyhoeddus cymhleth fel hwn, mae\u2019n bwysig gwybod pwy sydd \u00e2 ph\u0175er datganoledig: a all Llywodraeth Cymru weithredu fel y gw\u00eal orau, ynteu a oes yn rhaid iddi ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU? Beth bynnag, byddai\u2019n rhaid i unrhyw gamau a gymerir gan lywodraethau datganoledig ystyried effeithiau masnach drawsffiniol ac argaeledd y farchnad.<\/p>\n<p>Mae\u2019n amlwg bod angen i lywodraethau gymryd camau i leihau cyfraddau ysmygu a defnyddio e-sigar\u00e9ts. Ond mae angen iddyn nhw hefyd ystyried y berthynas rhwng ysmygu a defnyddio e-sigar\u00e9ts, mewn cyn-ysmygwyr a phobl ifanc, a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth sy\u2019n ystyried y canlyniadau anfwriadol posibl. Bydd hyn yn heriol, o ystyried natur ddadleuol y sylfaen dystiolaeth, a\u2019r diffyg tystiolaeth aeddfed ar risgiau tymor hir defnyddio e-sigar\u00e9ts.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r nifer cynyddol o bobl sy\u2019n defnyddio e-sigar\u00e9ts, neu\u2019n f\u00eapio, yn creu her polisi sylweddol i lywodraethau yng Nghymru, y DU ac mewn mannau eraill. Rydym ni\u2019n edrych ar y gwahanol fesurau y mae llywodraethau ledled y byd yn eu rhoi ar waith. Yn y DU, dywedodd 9.1% o oedolion eu bod wedi defnyddio e-sigar\u00e9ts [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18865,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15378","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1385198968.jpg","filesize":361813,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1385198968-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48255,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1385198968-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97043,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1385198968-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41809,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1385198968-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50281,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1385198968-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":140460,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1385198968-2048x1366.jpg","width":2048,"height":1366,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":217592,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-2048x1366.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1385198968-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":167638,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15377","name":"iStock-1385198968.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968.jpg","title":"iStock-1385198968.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1385198968-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15378","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15378"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15378\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16535,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15378\/revisions\/16535"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18865"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15378"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15378"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15378"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15378"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}