{"id":15375,"date":"2023-10-10T14:01:18","date_gmt":"2023-10-10T14:01:18","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-gall-cynghorau-gefnogi-eu-cymunedau-drawyr-argyfwng-costau-byw\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:50","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:50","slug":"sut-gall-cynghorau-gefnogi-eu-cymunedau-drawyr-argyfwng-costau-byw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-gall-cynghorau-gefnogi-eu-cymunedau-drawyr-argyfwng-costau-byw\/","title":{"rendered":"Sut gall cynghorau gefnogi eu cymunedau drawy'r argyfwng costau byw?"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r argyfwng costau byw yn her aruthrol i\u2019n cymunedau ac mae\u2019r tlotaf mewn cymdeithas yn cael eu heffeithio\u2019n galed iawn.\u00a0 Mae\u2019r angen am help gyda hanfodion fel bwyd, tanwydd a dillad yn uwch nag erioed.\u00a0 Gwyddom fod hyn yn flaenoriaeth uchel i lywodraeth leol, ac mae hynny\u2019n gwbl briodol.\u00a0 Ond mae cyllidebau cynghorau o dan bwysau difrifol gyda\u2019r galw\u2019n cynyddu, a hynny wedi\u2019i ysgogi gan boblogaeth sy\u2019n heneiddio a phwysau chwyddiant, ymhlith ffactorau eraill.\u00a0 Mae hyn yn erbyn cefndir o ddegawd a mwy o gyni, gyda mwy i ddod: mae ymchwil gan y BBC wedi <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-66580660\">canfod<\/a> bod cynghorau yng Nghymru yn disgwyl profi diffyg cyfunol o \u00a3394.8 miliwn yn y ddwy flynedd nesaf.<\/p>\n<p>Er mwyn trafod yr her hon a\u2019r hyn y gall cynghorau ei wneud, trefnodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i banel gynnull yng Nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 14<sup>eg<\/sup> Medi 2023. Ymunodd y cynghorwyr Nia Wyn Jeffries (Gwynedd) a Lis Burnett (Bro Morgannwg), ac Arweinydd Ymddiriedolaeth Trussell Cymru, Jo Harry \u00e2 chydweithwyr WCPP, Dan Bristow ac Amanda Hill-Dixon mewn trafodaeth banel.<\/p>\n<p>Yma mae Amanda Hill-Dixon yn rhannu ei phum pwynt allweddol a ddaeth i\u2019r amlwg yn y drafodaeth.<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Mae\u2019r argyfwng costau byw yn taro cymunedau Cymru yn galed, ond nid yw hyn yn effeithio\u2019n gyfartal ar bob person neu le, ac i lawer nid yw\u2019n argyfwng newydd ond yn un sydd wedi gwaethygu. <\/strong>Mae <a href=\"https:\/\/www.trusselltrust.org\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/06\/2023-Hunger-in-Wales-report.pdf\">ymchwil<\/a> <a href=\"https:\/\/www.trusselltrust.org\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/06\/2023-Hunger-in-Wales-report.pdf\">Ymddiriedolaeth Trussell<\/a> ar newynu yng Nghymru yn dangos bod ansicrwydd bwyd yn cynyddu, gyda 41% yn fwy o barseli\u2019n cael eu dosbarthu yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2023 o gymharu \u00e2 2021\/22. Hefyd, nid yw ansicrwydd bwyd yn brofiad anghyffredin yng Nghymru: profodd 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru ansicrwydd bwyd yn 2022 (o gymharu ag 1 o bob 7 yn y DU). Ond mae rhai pobl yn llawer mwy tebygol o newynu nag eraill, yn arbennig pobl anabl a\u2019r rhai \u00e2 heriau iechyd meddwl, aelwydydd \u00e2 phlant, aelwydydd sy\u2019n derbyn y Credyd Cynhwysol a\u2019r rhai mewn llety rhent.<\/li>\n<li><strong>Mae effeithiau\u2019r argyfwng yn mynd ymhell y tu hwnt i sefyllfa ariannol ac amodau materol pobl; mae tlodi\u2019n effeithio ar iechyd meddwl, llesiant a bywydau cymdeithasol pobl. <\/strong>Canfu <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/resources\/a-snapshot-of-poverty-in-winter-2023\/\"><u>ymchwil <\/u><\/a>diweddar gan <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/resources\/a-snapshot-of-poverty-in-winter-2023\/\">Sefydliad Bevan<\/a> bod 48% o bobl yng Nghymru yn dweud bod eu sefyllfa ariannol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Nododd ein <u>hymchwil <\/u>ar dlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru\u00a0 bod stigma yn un o\u2019r ffyrdd y mae tlodi ac iechyd meddwl gwael yn rhyngweithio.<strong>\u00a0 <\/strong>Mae ysgolhaig blaenllaw ar dlodi, Ruth Lister, wedi dadlau ers tro, bod pobl yn profi tlodi \u2018<em>nid dim ond fel anfantais ac mewn cyflwr economaidd diogel, ond fel perthynas gymdeithasol gywilyddus a chyrydol\u2019 <\/em>(2004). Gan adleisio hyn, canfu ein hadolygiad diweddar o dystiolaeth <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/loneliness-inequalities-evidence-review\/\"><u>Anghydraddoldebau Unigrwydd <\/u><\/a>bod anawsterau ariannol yn ffactor risg pwysig ar gyfer unigrwydd.\u00a0 Mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymwybodol bod hyn yn cyfyngu ar barodrwydd a gallu pobl i geisio cymorth, neu i gyfranogi yn eu hardaloedd lleol, a gall arwain at unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl.\u00a0 Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd bod y stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 cheisio cymorth yn rhwystr arbennig mewn ardaloedd gwledig, lle mae diwylliant o \u2018hunangynhaliaeth\u2019, sy\u2019n cyfrannu at yr hyn y mae pobl yn ei alw\u2019n \u2018dlodi cudd\u2019 yn y cymunedau hyn.<\/li>\n<\/ol>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong>Gwyddom beth sy\u2019n gweithio i leihau tlodi ond nid yw\u2019n bosibl i lywodraeth leol gyflwyno rhai o\u2019r ymyriadau mwyaf effeithiol. <\/strong>Mae cymorth nawdd cymdeithasol digonol a hygyrch yn hollbwysig er mwyn atal pobl rhag mynd yn amddifad, ond gwyddom fod y nawdd cymdeithasol yng Nghymru, gyda\u2019r mwyafrif yn cael ei bennu gan Lywodraeth y DU, yn <a href=\"chrome-extension:\/\/efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj\/https:\/www.trusselltrust.org\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/06\/2023-Hunger-in-Wales-report.pdf\">annigonol ar hyn o bryd i dalu am yr hanfodion sylfaenol<\/a>. Nid oes llawer y gall llywodraeth leol Cymru ei wneud am hyn ac <a href=\"https:\/\/www.themj.co.uk\/Is-basic-income-the-answer\/230714\">nid oes ganddynt adnoddau digonol<\/a> i lansio eu cynlluniau trosglwyddo arian parod, fel yr <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/beth-syn-gweithio-i-drechu-tlodi-arbrofi-gydag-incwm-sylfaenol-yng-nghymru\/\">un<\/a> mae Llywodraeth Cymru\u2019n ei dreialu ar hyn o bryd ar gyfer y rhai sy\u2019n gadael gofal.\u00a0 Mae seilwaith cymdeithasol arall, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/tlodi-ac-allgau-cymdeithasol-adolygiad\/\">gan gynnwys<\/a> tai hygyrch, fforddiadwy o safon, gofal plant a thrafnidiaeth hefyd yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi pobl allan o dlodi neu eu hatal rhag cael eu gwthio i mewn i dlodi, ond mae buddsoddiad newydd sylweddol yn y meysydd hyn yn heriol i gynghorau ar hyn o bryd, wrth iddynt chwilio\u2019n daer am arbedion costau ac sy\u2019n wynebu\u2019r rhagolygon o gwtogi a dim ond darparu\u2019r gwasanaethau statudol yn unig.<\/li>\n<\/ol>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong>Yn realistig, mae\u2019n rhaid canolbwyntio yn awr ar symud, ail-gynllunio neu ail-lunio\u2019r gwasanaethau presennol er mwyn cynyddu\u2019r defnydd ohonynt, neu ddad-flaenoriaethu darpariaeth bresennol pan fydd angen darparu gwasanaethau newydd. <\/strong>Gall newidiadau bach a rhad ond sydd wedi\u2019u hystyried yn ofalus ac sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau - yn arbennig yn nhermau\u2019r amgylchedd adeiledig, rhyngwynebau digidol a\u2019r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu \u00e2 chymunedau - wneud gwahaniaeth aruthrol yn y nifer o bobl sy\u2019n defnyddio gwasanaethau, yn arbennig pan fydd y rhain yn ystyried profiadau bywyd pobl. Er enghraifft, yn Arfon, canufwyd bod nifer y defnyddwyr yn gostwng yn sylweddol pan symudwyd y fynedfa o stryd ochr i\u2019r stryd fawr; nid oedd pobl eisiau cael eu gweld yn dibynnu ar y cymorth hwn. Canfu astudiaethau hefyd bod newidiadau cynnil i\u2019r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio budd-daliadau yn cael gwared ar y stigma o\u2019u defnyddio ac yn esbonio\u2019n glir i ddarpar hawlwyr \u2018nad eich bai chi yw hyn\u2019 yn gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon i\u2019r nifer o bobl sy\u2019n eu hawlio.\u00a0 Nid yw \u00a318 biliwn a mwy o fudd-daliadau sy\u2019n seiliedig ar incwm a thariffau cymdeithasol yn cael eu hawlio yn y DU bob blwyddyn, felly mae cwmpas sylweddol i gynyddu\u2019r nifer sy\u2019n eu hawlio.\u00a0 Yn hanfodol i gyllidebau cynghorau, mae unrhyw ymdrechion llwyddiannus i gynyddu nifer yr hawlwyr budd-daliadau nad ydynt wedi\u2019u datganoli (er enghraifft y Credyd Cynhwysol) yn cynrychioli budd ariannol net clir i\u2019r economi leol.<\/li>\n<\/ol>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong>Mae trechu tlodi yn ymwneud i raddau helaeth \u00e2 meithrin perthnasoedd ac mae yna ffyrdd cost isel y gall cynghorau eu defnyddio i atgyfnerthu eu perthnasoedd \u00e2\u2019u cymunedau a\u2019r sector gwirfoddol. <\/strong>Fel y mae tystiolaeth o brofiad bywyd yn dangos, un o agweddau mwyaf niweidiol tlodi yw\u2019r stigma, y cywilydd a\u2019r eithrio cymdeithasol y mae pobl yn ei deimlo. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos y gall ymdrechion gweithredol i gynnwys a grymuso pobl mewn tlodi neu mewn risg o dlodi leihau\u2019r stigma maen nhw\u2019n ei deimlo ac arwain at lunio polis\u00efau ac arfer gwell. Mae <a href=\"https:\/\/povertytruthnetwork.org\/\">comisiynau gwirionedd tlodi<\/a> yn ceisio gosod pobl \u00e2 phrofiad bywyd wrth wraidd y prosesau gwneud penderfyniadau ac mae meithrin perthnasoedd trawsnewidiol rhwng arbenigwyr drwy brofiad, llunwyr polis\u00efau ac arweinwyr sefydliadau, yn un model addawol ar gyfer cyflawni hyn. Yn ogystal \u00e2 gweithio mewn partneriaeth \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.scvs.org.uk\/swansea-ptc\">Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe<\/a> fel rhan o\u2019n gwaith ar stigma tlodi, yn WCPP rydym hefyd yn gwneud <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/cefnogi-gweithredu-cymunedol-gwella-lles-cymunedolsynthesis-o-wersi-a-ddysgwyd-yn-ystod-pandemig-covid-19\/\">\u00a0gwaith<\/a> fel rhan o\u2019r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar i archwilio sut y gall cynghorau weithio\u2019n effeithiol gyda sefydliadau\u2019r sector gwirfoddol a chymunedau eu hunain.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Er mwyn archwilio\u2019r mater o stigma tlodi ymhellach, ac i nodi sut y gall WCPP ac eraill gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, rydym yn cynnull gweithdy ar 10<sup>fed<\/sup> Tachwedd yn Wrecsam gyda llunwyr polisi, ymarferwyr ac arbenigwyr drwy brofiad.\u00a0 Cynhelir y gweithdy hwn mewn partneriaeth \u00e2 Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru ac fel rhan o\u2019r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol, UCL.<\/p>\n<p>Os oes gennych ddiddordeb ymgysylltu \u00e2\u2019r gwaith yma, anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:Charlotte.Morgan@wcpp.org.uk\">Charlotte.Morgan@wcpp.org.uk<\/a><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r argyfwng costau byw yn her aruthrol i\u2019n cymunedau ac mae\u2019r tlotaf mewn cymdeithas yn cael eu heffeithio\u2019n galed iawn.\u00a0 Mae\u2019r angen am help gyda hanfodion fel bwyd, tanwydd a dillad yn uwch nag erioed.\u00a0 Gwyddom fod hyn yn flaenoriaeth uchel i lywodraeth leol, ac mae hynny\u2019n gwbl briodol.\u00a0 Ond mae cyllidebau cynghorau o dan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":17665,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150,18],"tags":[141,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15375","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-llywodraeth-leol","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1437840470.jpg","filesize":484695,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1437840470-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51443,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1437840470-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":113872,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1437840470-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44809,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1437840470-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54141,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1437840470-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":170837,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1437840470-2048x1366.jpg","width":2048,"height":1366,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":275709,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-2048x1366.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1437840470-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":212740,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"13233","name":"iStock-1437840470.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470.jpg","title":"iStock-1437840470.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437840470-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15375","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15375"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15375\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16534,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15375\/revisions\/16534"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17665"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15375"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15375"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15375"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15375"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}