{"id":15366,"date":"2023-07-17T08:49:40","date_gmt":"2023-07-17T08:49:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/incwm-sylfaenol-beth-ydyw-a-beth-nad-ydyw\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:43","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:43","slug":"incwm-sylfaenol-beth-ydyw-a-beth-nad-ydyw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/incwm-sylfaenol-beth-ydyw-a-beth-nad-ydyw\/","title":{"rendered":"Incwm sylfaenol: beth ydyw a beth nad ydyw"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn yr blog gwadd ar incwm sylfaenol<\/em><em>, mae Dr Francine Mestrum yn edrych ar dri math gwahanol o incwm sylfaenol, gan roi sylwadau ar eu potensial i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol: incwm sylfaenol cyffredinol, incwm sylfaenol i\u2019r rhai sydd ei angen, a difidend cyffredinol.<\/em><\/p>\n<p><strong>Wrth ddechrau trafodaeth ar \u2018incwm sylfaenol\u2019 mae\u2019n hanfodol clirio\u2019r niwl semantig yn gyntaf. Beth yn union ydyn ni\u2019n s\u00f4n amdano?<\/strong><\/p>\n<p>Mae dau brif ystyr \u2018incwm sylfaenol\u2019 yn wahanol iawn i\u2019w gilydd. Mae\u2019n bosib bod o blaid y naill ac yn erbyn y llall.<\/p>\n<p>Pan ddechreuodd y dadleuon cyfredol ar \u2018incwm sylfaenol\u2019, ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, gyda Philippe Van Parijs yn Ewrop ac Eduardo Suplicy ym Mrasil, y pwnc oedd \u2018<strong>incwm sylfaenol cyffredinol<\/strong>\u2019 (UBI) ac \u2018incwm y dinesydd\u2019. Roedd yn golygu swm penodol o arian yn cael ei roi i holl ddinasyddion neu drigolion gwlad, yn ddiamod ac heb ystyried y sefyllfa economaidd-gymdeithasol neu gyfranogiad yn y farchnad lafur. Felly y \u2018cyffredinol\u2019. Ystyriwyd bod incwm sylfaenol cyffredinol yn fater o gyfiawnder cymdeithasol ac yn gam tuag at gydraddoldeb.<\/p>\n<p>Mae\u2019n amlwg bod cost enfawr i hyn hyd yn oed os dywedwyd y byddai\u2019r cyfoethog yn talu eu trethi yn \u00f4l, gan dybio bod y cyfoethog yn talu eu trethi.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, cynigiodd eraill <strong>\u2018incwm sylfaenol\u2019 \u2018ar gyfer y rhai sydd ei angen\u2019<\/strong> fel mesur gwrth-dlodi, er, unwaith eto, yn ddiamod. Mae yna wahanol ffyrdd i ddylunio incwm sylfaenol o\u2019r fath hyd yn oed os yw bob amser yn awgrymu un ffordd neu\u2019r llall o \u2018dargedu\u2019 y tlawd, ymarfer hynod o anodd.<\/p>\n<p>I wneud materion hyd yn oed yn fwy cymhleth, dechreuodd rhai siarad am <strong>\u2018ddifidend sylfaenol cyffredinol\u2019<\/strong>, dull dosbarthu incwm gan ddiwydiannau cloddiol, boed yn olew neu\u2019n fwynau. Y syniad sylfaenol yw bod yr adnoddau naturiol hynny yn fath o eiddo naturiol cyffredinol sy\u2019n perthyn i holl ddinasyddion gwlad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dadleuon ynghylch y materion hyn bob amser yn fywiog iawn, ond yn aml iawn bydd pobl yn defnyddio\u2019r un derminoleg, wrth siarad am bethau sylfaenol wahanol.<\/p>\n<p>Yn y cyfraniad hwn, rwyf am roi sylwadau byr ar y tri chynnig a grybwyllwyd uchod.<\/p>\n<p>Gadewch imi ddechrau gyda\u2019r un hawsaf: y <strong>difidend sylfaenol cyffredinol<\/strong>. Mae\u2019n seiliedig ar swm cyfartal o arian parod i bob dinesydd neu drigolyn mewn endid daearyddol, ond nid oes ganddo unrhyw effaith ag unrhyw ddimensiwn o ddiogelwch cymdeithasol ac nid yw\u2019n cael ei ariannu trwy arian treth. Mae athroniaeth sylfaenol yr \u2018eiddo cyffredinol\u2019 yn wir fater o gyfiawnder i bawb. Mae\u2019n gydnabyddiaeth o\u2019n cydfod a\u2019n perchnogaeth o\u2019r blaned. Mewn gwirionedd, gan fod ffiniau cenedlaethol yn hollol fympwyol, dylem allu siarad am \u2018eiddo cyffredinol byd-eang\u2019 a difidend cyffredinol byd-eang ar gyfer poblogaeth y byd i gyd. Mae pob dinesydd ar y Ddaear yn berchennog ac mae ganddo hawl i enillion adnoddau\u2019r Ddaear. Mae hwn yn ddull tra argymelledig o gyfiawnder cymdeithasol. Ei unig anghyfleustra yw bod yr enillion hyn ac o ganlyniad y difidend yn amrywio o un flwyddyn i\u2019r llall. Mae <a href=\"https:\/\/apfc.org\/\">Cronfa Barhaol Alaska<\/a> yn enghraifft o\u2019r math hwn o ddifidend, gan dalu $1,600 y flwyddyn ar gyfartaledd i drigolion, wedi\u2019i ariannu gan refeniw olew.<\/p>\n<p>Yr ail ddull yw\u2019r <strong>incwm sylfaenol \u2018ar gyfer y rhai sydd ei angen\u2019<\/strong> fel posibilrwydd i frwydro\u2019n erbyn tlodi neu ei ddileu. Unwaith eto, mae hyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol \u00e2\u2019r cysyniad o gyfiawnder cymdeithasol. Nid yw rhai pobl, oherwydd salwch, analluogrwydd neu oedran, yn gallu ennill bywoliaeth ar y farchnad lafur, neu maent dan anfantais gymdeithasol mewn ffyrdd eraill. Mae ganddyn nhw hawl ddynol i safon byw gweddus, a delir amdano drwy undod yr holl bobl eraill sydd ag incwm digonol. Mae llawer o gynlluniau peilot o\u2019r math hwn o incwm sylfaenol wedi digwydd ar draws y byd, gan ganolbwyntio\u2019n bennaf ar helpu naill ai pobl ddi-waith, neu\u2019r rhai ag incwm isel. Mae hyn yn cynnwys <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/basic-income-pilot-care-leavers-overview-scheme\">Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy\u2019n Gadael Gofal yng Nghymru<\/a>, sy\u2019n mynd rhagddo ar hyn o bryd, gan ddarparu incwm \u00f4l-dreth o \u00a31,280 y mis i\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal yng Nghymru yn 18 oed.<\/p>\n<p>Er bod y math hwn o incwm sylfaenol wedi\u2019i gyfyngu i raddau helaeth i gynlluniau peilot, mae gan y rhan fwyaf o wledydd y byd rywfaint o system o drosglwyddo arian parod neu \u2018isafswm incwm gwarantedig\u2019 eisoes, er enghraifft ar \u00f4l i\u2019r hawliau i fudd-daliadau diweithdra gael eu disbyddu. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o wledydd maent yn amodol iawn a ran amlaf nid ydynt yn ddigonol i warantu bywyd mewn urddas. Mae\u2019r systemau hyn yn hanfodol i bob gwlad w\u00e2r ac yn perthyn i undod cymdeithasol elfennol a sylfaenol. Yn anochel, maent yn awgrymu rhywfaint o dargedu sydd bob amser yn go anodd, ond gyda sgiliau gweinyddol ac yn ddelfrydol digidol llywodraethau lleol, gellir gwarantu ffordd dda o fyw i bawb, heb unrhyw stigmateiddio.<\/p>\n<p>Hollol wahanol yw achos yr <strong>\u2018incwm sylfaenol cyffredinol\u2019<\/strong> na ellir ei ystyried yn welliant mewn systemau amddiffyn cymdeithasol, ond yn cymryd eu lle.<\/p>\n<p>Yn wir, dim ond os yw\u2019n caffael incwm digonol ar gyfer ffordd weddus o fyw y gall incwm sylfaenol cyffredinol fod yn ystyrlon. Os caiff ei dalu i bawb, waeth beth yw incwm a chyfranogiad y farchnad lafur, mae\u2019n mynd yn ddrud iawn ac ni all fodoli ochr yn ochr \u00e2 phensiynau, gofal iechyd, lwfansau teulu neu fudd-daliadau diweithdra. Un peth neu\u2019r llall ydyw, fel y mae\u2019r rhan fwyaf o eiriolwyr incwm sylfaenol cyffredinol yn ei gyfaddef.\u00a0 Fodd bynnag, mae llawer o sefydliadau rhyngwladol amlwg, fel y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Banc y Byd \u2013 nad ydynt yn gwneud eu cyfrifiadau ar chwarae bach\u2013 yn eu hystyried yn rhy ddrud. Dyna pam mae hyd yn oed Philippe Van Parijs yn cynnig \u2018cychwyn\u2019 gyda swm cyfyngedig ymhell islaw\u2019r llinell dlodi. A dyna lle mae problemau\u2019n dod yn grisial glir.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, mae\u2019r ddadl o \u2018gyfiawnder\u2019 yn troi\u2019n ddim pan nad yw\u2019r incwm sylfaenol cyffredinol hyd yn oed yn ddigon i dalu am rent neu fwyd ac nid yw\u2019n caniat\u00e1u i bobl oroesi.<\/p>\n<p>Yn ail, mae nifer sylweddol o bobl gyfoethog naill ai ddim yn talu trethi neu mae ganddynt ddulliau sy\u2019n eu caniat\u00e1u i\u2019w hosgoi gymaint \u00e2 phosibl. Gellir ystyried bod talu incwm sylfaenol i ddosbarthiadau canol uwch ac i\u2019r cyfoethog yn annheg iawn.<\/p>\n<p>Yn drydydd, os mai bach iawn o gymhorthdal incwm y bydd pawb yn ei gael, un risg bosibl yw gostwng cyflogau, sy\u2019n golygu bod y rhan fwyaf o fuddion y system yn mynd i gyflogwyr. Yn y senario hwn, daw\u2019r incwm sylfaenol cyffredinol yn gymhorthdal cyflog, gan symud cost llafur o gwmn\u00efau i awdurdodau cyhoeddus. Mae\u2019n ei gwneud yn haws datblygu swyddi hyblyg a mini-swyddi.<\/p>\n<p>At hynny, mae system o\u2019r fath yn ein hatgoffa o brofiad Speenhamland \u2013 system o liniaru tlodi yn Lloegr ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif lle\u2019r oedd awdurdodau lleol yn gwarantu isafswm incwm penodol, gan ganiat\u00e1u i gyflogwyr gadw cyflogau islaw lefel cynhaliaeth \u2013 lle mae pob cymhelliant i gronni cyflogau uwch a threfniadaeth lafur yn diflannu pan fydd llywodraethau lleol yn gwarantu lefel o incwm byw i\u2019w dinasyddion. Fodd bynnag, dylai cyflogwyr hefyd fod yn gyfrifol am les eu gweithwyr.<\/p>\n<p>Yn olaf, oni ddylai pawb mewn cymdeithas gyfrannu rhyw fath o lafur os gallant? Er bod tynnu\u2019n \u00f4l yn economaidd yn llwyr yn llai tebygol yng nghyd-destun incwm sylfaenol cyffredinol nag y tybir weithiau, a ydyw\u2019n dderbyniol bod rhai pobl yn tynnu\u2019n \u00f4l o gymdeithas? A all hyn fyth fod yn dderbyniol yn foesol neu\u2019n gymdeithasol gynaliadwy?<\/p>\n<p>I gloi, mae pawb yn sicr yn haeddu sicrwydd incwm a dylid archwilio\u2019r holl atebion posibl ar gyfer bywyd mewn urddas. Y dull gorau yn sicr yw system amddiffyn cymdeithasol gyffredinol, eang a chydlynol er mwyn dileu tlodi, gyda hawliau llafur helaeth \u2013 ac o bosibl system o swyddi gwarantedig \u2013 ac yn bennaf oll rhwydwaith helaeth o wasanaethau cyhoeddus. System undod llorweddol a strwythurol yw hon sy\u2019n ystyried anghenion penodol pawb.<\/p>\n<p>Gall difidendau cyffredinol hyrwyddo mwy o gyfiawnder cymdeithasol. Gall isafswm incwm gwarantedig fod yn rhan o ddiogelwch cymdeithasol. Nid yw incwm sylfaenol cyffredinol yn hyrwyddo cyfiawnder a thegwch.<\/p>\n<p><em>Mae gan Francine Mestrum radd PhD yn y gwyddorau cymdeithasol ac mae\u2019n gweithio ar gyfiawnder cymdeithasol a globaleiddio, trawsnewidiadau teg, systemau incwm sylfaenol a rhywedd.<\/em> <a href=\"https:\/\/aepf.info\/wp-content\/uploads\/2017\/08\/AEPF13-Francine-Income-Security-Report.pdf\">Darllenwch adroddiad Francine ar 'diogelwch incwm'<\/a><\/p>\n<p><em>Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddi Cymru gynhadledd ar gyfer academyddion ac arbenigwyr polisi mewn perthynas \u00e2\u2019r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy\u2019n Gadael Gofal yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi cyhoeddi <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/7273\/\">pecyn uchafbwyntiau\u2019r digwyddiad<\/a>, a <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/nid-yw-pawb-eisiau-gafr\/\">blog gyda phum dysgiad allweddol am incwm sylfaenol.<\/a><\/em><\/p>\n<p>Mae ein tri blog ar incwm sylfaenol yn cael eu croes-bostio gyda\u2019r <u>Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO)<\/u>, sydd wedi cyhoeddi <a href=\"https:\/\/theippo.co.uk\/basic-income-review-policy-design\/\">adolygiad tystiolaeth cyflym o arbrofion incwm sylfaenol yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn yr blog gwadd ar incwm sylfaenol, mae Dr Francine Mestrum yn edrych ar dri math gwahanol o incwm sylfaenol, gan roi sylwadau ar eu potensial i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol: incwm sylfaenol cyffredinol, incwm sylfaenol i\u2019r rhai sydd ei angen, a difidend cyffredinol. Wrth ddechrau trafodaeth ar \u2018incwm sylfaenol\u2019 mae\u2019n hanfodol clirio\u2019r niwl semantig yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14485,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[140,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15366","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"british-bank-notes.jpg","filesize":827570,"sizes":{"medium":{"file":"british-bank-notes-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":89398,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x496.jpg"},"large":{"file":"british-bank-notes-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":202402,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"british-bank-notes-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":77569,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"british-bank-notes-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":94460,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"british-bank-notes-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":304289,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"british-bank-notes-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":482532,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"british-bank-notes-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":382702,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15353","name":"british-bank-notes.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes.jpg","title":"british-bank-notes.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15366","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15366"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15366\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16528,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15366\/revisions\/16528"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14485"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15366"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15366"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15366"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15366"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}