{"id":15364,"date":"2023-06-28T09:43:27","date_gmt":"2023-06-28T09:43:27","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/defnyddio-tystiolaeth-i-gyflymu-gweithredu-ar-newid-hinsawdd\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:43","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:43","slug":"defnyddio-tystiolaeth-i-gyflymu-gweithredu-ar-newid-hinsawdd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/defnyddio-tystiolaeth-i-gyflymu-gweithredu-ar-newid-hinsawdd\/","title":{"rendered":"Defnyddio tystiolaeth i gyflymu gweithredu ar newid hinsawdd"},"content":{"rendered":"<p><em>'Pa sg\u00f4p sydd i Lywodraeth Cymru gwneud mwy, newid ei dull o gyflawni neu ddarparu ei huchelgais net sero presennol yn fwy effeithiol?'<\/em><\/p>\n<p>Yn ei <a href=\"https:\/\/www.theccc.org.uk\/publication\/2023-progress-report-reducing-emissions-in-wales\/\">adroddiad cynnydd diweddaraf<\/a>, casglodd Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) y DU er bod Cymru wedi cyrraedd ei thargedau allyriadau ar gyfer y Gyllideb Garbon Gyntaf (2016-2020), nad yw\u2019r wlad ar darged ar hyn o bryd i gyrraedd targedau\u2019r dyfodol ar y llwybr i fod yn sero-net.<\/p>\n<p>Mae\u2019r CCC yn cydnabod r\u00f4l hanfodol Llywodraeth y DU mewn nifer o sectorau gydag allyriadau uchel, fel ynni a diwydiant, ond hefyd yn tynnu sylw at feysydd a ddatganolwyd i Gymru, fel amaeth a thrafnidiaeth, lle y mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gael y gostyngiad mewn allyriadau\u2019n \u00f4l ar darged.<\/p>\n<p>Mae hyn yn tanlinellu ymhellach bwysigrwydd <a href=\"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/\">Gr\u0175p Her Sero Net 2035 Cymru<\/a> yn y misoedd nesaf wrth iddynt geisio datblygu cyngor i Lywodraeth Cymru ar lwybrau posib i gyrraedd sero-net yn yr amser cyflymaf posib gan greu Cymru well i genedlaethau presennol a rhai\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym wedi bod yn rhoi cymorth annibynnol i Gr\u0175p Her Sero-Net 2035 Cymru i\u2019w helpu i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd perthnasol i oleuo eu gwaith. Mae ein hadroddiad rhagarweiniol i\u2019r Gr\u0175p yn edrych yn fanwl ar \u2018lwybr cytbwys\u2019 CCC fel y gall Cymru gyrraedd sero-net erbyn 2050, gyda dadansoddiad cychwynnol o oblygiadau ceisio cyflymu\u2019r amserlen lleihau allyriadau, yn enwedig mewn sectorau fel amaeth a thrafnidiaeth lle y bu\u2019r cynnydd yng Nghymru\u2019n araf yn hanesyddol.<\/p>\n<p>Fel yr eglurwn mewn darn trafod cysylltiedig, un o\u2019r prif gwestiynau sy\u2019n wynebu Llywodraeth Cymru \u2013 ac y mae\u2019n rhaid i gyngor y Gr\u0175p ei ystyried \u2013 yw sut i flaenoriaethu yng nghyd-destun gwahanol heriau polisi, setliad datganoli cymhleth, ac adnoddau prin. O gofio bod gan Lywodraeth Cymru eisoes agend\u00e2u polisi ar y gweill mewn gwahanol feysydd y tynnodd gyngor sero-net y CCC sylw atynt, pa sg\u00f4p sydd iddi wneud mwy, newid ei dull o gyflawni neu ddarparu ei huchelgais presennol yn fwy effeithiol?<\/p>\n<p>Er y byddai cyflawni\u2019r llwybr cytbwys yn golygu newidiadau mawr ar draws pob rhan o gymdeithas, gallai\u2019r Gr\u0175p hefyd ddewis herio Llywodraeth Cymru i wneud mwy na\u2019r hyn y mae cyngor y CCC yn ei ragweld. Wedi\u2019r cwbl, dim ond un o nifer o senarios posib ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru yw llwybr cytbwys y CCC. Gan hynny, mae\u2019n adlewyrchu tybiaethau\u2019r CCC ei hun am ba newidiadau cymdeithasol a thechnolegol sy\u2019n ymarferol i Gymru yn y degawdau i ddod. Gallai\u2019r Gr\u0175p ddewis profi rhai o\u2019r tybiaethau hyn wrth ystyried sut i gyflawni\u2019r cynnydd cyflymaf posib.<\/p>\n<p>Er enghraifft, mae\u2019r llwybr cytbwys yn rhagweld lefelau cymharol uchel o allyriadau amaethyddol yn parhau ar \u00f4l 2050, gan wneud Cymru\u2019n fwy dibynnol ar ddal a storio carbon i gyrraedd ei tharged sero-net. Mae lleihad cyflymach a mwy llym mewn allyriadau amaethyddol yn dechnegol bosib \u2013 ond mae\u2019n debyg y byddai\u2019n golygu llai o dda byw ac nid yw hynny\u2019n osodiad hawdd i sector a nodweddir yn bennaf gan ffermio gwartheg a defaid ac sy\u2019n wynebu heriau economaidd difrifol eisoes. Mae ceisio lleihau allyriadau amaethyddol ymhellach felly\u2019n codi cwestiynau anodd am sut i sicrhau proses bontio gyfiawn i ffermwyr ynghyd \u00e2 ffyniant cymunedau gwledig Cymru yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Yn ei hymateb i adroddiad cynnydd diweddaraf CCC ar gyfer Cymru, roedd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dadlau mai <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-cyhoeddi-adroddiad-cynnydd-y-pwyllgor-newid-hinsawdd-lleihau-allyriadau-yng?_ga=2.16229105.63267789.1687766438-1072697236.1673533731&amp;_gac=1.250600948.1687262297.Cj0KCQjw8O-VBhCpARIsACMvVLNEippAfF-cAVI3mb3xVmwzKjsWo4lEtH7YhQVjvgNS7fJqoBsKNhAaAmgYEALw_wcB&amp;_gl=1*1vlxqp1*_ga*MTA3MjY5NzIzNi4xNjczNTMzNzMx*_ga_L1471V4N02*MTY4Nzc4NzczMi4zMzguMS4xNjg3Nzg3NzM4LjAuMC4w\">\"nawr yw'r amser i gryfhau ein bwriad i wneud penderfyniadau anodd\"<\/a> er mwyn diogelu\u2019r cynnydd tuag at sero-net. Rhan o werth posib Gr\u0175p Her Sero-Net 2035 yw ei gapasiti i ofyn ac wynebu\u2019r cwestiynau anodd hyn - a gwneud hynny, wedi\u2019i dywys gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, mewn ffordd holistig sy\u2019n ystyried effeithiau posib a manteision gweithredu ar yr hinsawdd ar nifer o wahanol agweddau ar les pobl.<\/p>\n<p>Yn wir, gyda\u2019r ffenestr gyfle\u2019n mynd yn gulach o hyd i osgoi anrhaith a difrod gwaethaf y chwalfa yn ein hinsawdd, mae gwyddonwyr hefyd yn pwysleisio bod nifer o opsiynau ymarferol ac effeithiol ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r newid hinsawdd a achoswyd gan bobl \u2013 <a href=\"https:\/\/www.ipcc.ch\/assessment-report\/ar6\/\">gyda chyfle i greu cymdeithasau mwy ffyniannus, cynhwysol a thecach yn y broses<\/a>. Nod y cymorth a roddir gan yr WCPP i\u2019r Gr\u0175p yw cyflwyno\u2019r dystiolaeth hon i oleuo gwaith y Gr\u0175p a\u2019u helpu i ofyn y cwestiynau iawn am y cyfuniad cywir o bolis\u00efau a llwybrau i\u2019w darparu. Edrychwn ymlaen at gefnogi\u2019r Gr\u0175p yn y misoedd i ddod wrth iddynt fynd i\u2019r afael \u00e2 chyfres gymhleth o faterion.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>'Pa sg\u00f4p sydd i Lywodraeth Cymru gwneud mwy, newid ei dull o gyflawni neu ddarparu ei huchelgais net sero presennol yn fwy effeithiol?' Yn ei adroddiad cynnydd diweddaraf, casglodd Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) y DU er bod Cymru wedi cyrraedd ei thargedau allyriadau ar gyfer y Gyllideb Garbon Gyntaf (2016-2020), nad yw\u2019r wlad ar darged [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13030,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15364","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":13057,"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"wind-and-solar-energy.jpg","filesize":755186,"sizes":{"medium":{"file":"wind-and-solar-energy-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":72349,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-744x496.jpg"},"large":{"file":"wind-and-solar-energy-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":170336,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"wind-and-solar-energy-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":62437,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"wind-and-solar-energy-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":76405,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"wind-and-solar-energy-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":260983,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"wind-and-solar-energy-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":423430,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"wind-and-solar-energy-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":323152,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"13056","name":"wind-and-solar-energy.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy.jpg","title":"wind-and-solar-energy","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/wind-and-solar-energy-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15364","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15364"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15364\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16527,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15364\/revisions\/16527"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13030"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15364"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15364"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15364"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15364"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}