{"id":15358,"date":"2024-04-17T11:53:23","date_gmt":"2024-04-17T11:53:23","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-i-wella-ysgogiadau-cynhyrchiant-rhanbarthol-yng-nghymru-a-lloegr\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:40","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:40","slug":"sut-i-wella-ysgogiadau-cynhyrchiant-rhanbarthol-yng-nghymru-a-lloegr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-i-wella-ysgogiadau-cynhyrchiant-rhanbarthol-yng-nghymru-a-lloegr\/","title":{"rendered":"Sut i wella ysgogiadau cynhyrchiant rhanbarthol yng Nghymru a Lloegr"},"content":{"rendered":"<p>Fel enillwyr <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=KYc9m35oskE\">Gwobr 2024<\/a> am y Papur Gorau a gyhoeddwyd yn y Regional Studies Policy Debates, dyma Helen Tilley, Jack Newman, Charlotte Hoole, Andrew Connell, ac Ananya Mukherjee yn trafod eu <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/00343404.2022.2152436\">papur<\/a> buddugol. Maent yn dadlau nad oes gan ranbarthau\u2019r DU yr ysgogwyr polisi sydd eu hangen arnynt i wella cynhyrchiant drwy edrych ar y cysylltiad rhwng datganoli a chynhyrchiant.<\/p>\n<p>Mae llawer wedi\u2019i ysgrifennu am <a href=\"https:\/\/www.productivity.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/WP020-The-UK-productivity-puzzle-in-an-international-comparative-perspective-FINAL-010422.pdf\">bos cynhyrchiant y DU<\/a>. Os yw\u2019r DU am gyflawni\u2019r ddau nod o gynyddu cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldeb, rhaid rhoi sylw i ddwy broblem ganolog lleoedd: yn gyntaf, sut i fynd i\u2019r afael ag anghydraddoldeb <em>rhwng <\/em>rhanbarthau, yn enwedig o ran y gwahaniaethau rhanbarthol amlwg mewn cynhyrchiant; yn ail, sut i sicrhau bod gan sefydliadau datganoledig y gallu i wella cynhyrchiant a chynwysoldeb <em>o fewn <\/em>rhanbarthau. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau wedi ymdrechu i uno\u2019r ddau fater yma yn yr <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/levelling-up-four-problems-with-boris-johnsons-flagship-project-176386\">agenda 'ffyniant bro'<\/a>, ond ni wnaed llawer o gynnydd hyd yma ar y deuddeg cenhadaeth ffyniant bro, a gyda newid mewn llywodraeth yn cael ei ragweld yn ddiweddarach eleni, mae\u2019n amlwg bod llawer o waith i\u2019w wneud.<\/p>\n<p>I fynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau sy\u2019n seiliedig ar leoedd, rhaid i\u2019r llywodraeth nesaf edrych ar yr ysgogwyr a\u2019r sbardunau cynhyrchiant a chynwysoldeb cyfredol. Mae\u2019r rhain yn arbennig o bwysig ar raddfa\u2019r ddinas-ranbarth, haen lywodraethu newydd sy\u2019n dod i\u2019r amlwg yn y DU.<\/p>\n<p>Yn ein papur, rydym yn cyfrannu at y drafodaeth drwy ystyried a oes gan ranbarthau\u2019r DU yr ysgogwyr polisi sydd eu hangen arnynt i sbarduno <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/00343404.2022.2152436\">cynhyrchiant a chynwysoldeb<\/a>. Rydym yn cymharu tri rhanbarth yn y DU sydd \u00e2 strwythurau llywodraethu gwahanol: <a href=\"https:\/\/enterprisem3.org.uk\/\">Enterprise M3 LEP<\/a> yn Ne Ddwyrain Lloegr; <a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/cy\/\">Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a>; a\u2019r <a href=\"https:\/\/northeastca.gov.uk\/\">North East Combined Authority<\/a>.<a href=\"#_ftn1\" name=\"_ftnref1\">[1]<\/a> Rydym yn dadansoddi ysgogwyr polisi yn y tair astudiaeth achos o ran eu heffaith ar bedwar ysgogwr economaidd cynhyrchiant 1) buddsoddi ac arloesi; 2) seilwaith trafnidiaeth; 3) entrepreneuriaeth a chyflogaeth; a 4) sgiliau. Drwy fabwysiadu\u2019r dull hwn, rydym yn cyfrannu at y <a href=\"https:\/\/apo.org.au\/sites\/default\/files\/resource-files\/2021-12\/apo-nid316019.pdf\">drafodaeth<\/a> sydd <a href=\"https:\/\/www.routledge.com\/The-UK-RegionalNational-Economic-Problem-Geography-globalisation-and\/McCann\/p\/book\/9781138895089\">ar waith<\/a> ar y gydberthynas rhwng ysgogwyr polisi, llywodraethiant rhanbarthol a chanlyniadau cynhyrchiant.<\/p>\n<p><strong>Buddsoddi ac arloesi <\/strong><\/p>\n<p>Mae arloesi\u2019n hanfodol i gynhyrchiant, ond mae wedi\u2019i amlygu ar hyn o bryd gan wahaniaethau rhanbarthol mawr. Mae rhai buddsoddiadau ar lefel \u00a0yr UE ac yn genedlaethol wedi ymdrechu i wrthweithio yn erbyn yr anghydbwysedd hwn, ond mae ysgogwyr rhanbarthol yn gyfyngedig iawn. Er bod sefydliadau rhanbarthol mewn sefyllfa gref i gydweithio\u2019n glos \u00e2 busnesau i ddenu buddsoddiadau mawr, mae hyn ar hyn o bryd yn cael ei danseilio gan ddiffyg cyfathrebu lleol-canol effeithiol. Gwelwyd amryw o fentrau sy\u2019n ymdrechu i wella cysylltiadau rhwng gweision sifil a swyddogion lleol, fel y \u2018Cities and Local Growth Unit\u2019 \u2013 t\u00eem traws Whitehall o dan arweiniad <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/department-for-levelling-up-housing-and-communities\">DLUHC<\/a>, ond maent yn bodoli mewn hinsawdd o ddiffyg ymddiriedaeth mewn perthnasoedd canol-lleol.<\/p>\n<p>Rydym yn dadlau bod angen fforymau newydd lle gall cyfathrebu helpu i ysgogi mewn-fuddsoddi. Un opsiwn fyddai rhoi r\u00f4l fwy ffurfiol a mwy o gyllid i \u2018sefydliadau rhyngwyneb\u2019 fel y Gymdeithas Llywodraeth Leol a\u2019r Rhwydwaith Cynghorau Sir. Un arall fyddai sefydlu unedau gwerthuso seiliedig ar leoedd sydd wedi\u2019u hariannu\u2019n dda, ac a fyddai\u2019n gwneud gwaith ymchwil economaidd a gwerthuso polis\u00efau o fewn ardal, ac a fyddai\u2019n cynnwys cynrychiolwyr lleol a chenedlaethol yn ogystal \u00e2 th\u00eem ymchwil craidd. Gallai\u2019r <a href=\"https:\/\/blog.bham.ac.uk\/lpip\/2024\/03\/20\/the-local-policy-innovation-partnership-a-reflection-on-the-launch-event\/\">Partneriaethau Arloesi Polisi Lleol<\/a> newydd helpu \u00e2 hyn gan eu bod wedi\u2019u sefydlu mewn ardaloedd lleol a bod ganddynt y potensial i gynnig y strwythur i ddod \u00e2 thystiolaeth i ddatblygu datrysiadau i heriau lleol.<\/p>\n<p><strong>Seilwaith trafnidiaeth<\/strong><\/p>\n<p>Seilwaith trafnidiaeth yw\u2019r sector pwysicaf ar hyn o bryd ar gyfer ymyriadau polisi sy\u2019n seiliedig ar leoedd, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn sgil datganoli pwerau trafnidiaeth i\u2019r rhanbarthau ac i\u2019r cenhedloedd datganoledig. Mae datganoli mwy o gyllidebau trafnidiaeth yn hanfodol, fel y gall lleoedd ddefnyddio buddsoddiad mewn trafnidiaeth fel ysgogydd cynhyrchiant. Fodd bynnag, mae ein hymchwil wedi canfod hefyd bod angen mwy o weithio ar draws rhanbarthau a rhwng llywodraethau, a bod hynny yn ei dro\u2019n dibynnu ar gefnu ar strwythurau llywodraethu cymhleth a chystadleuol. Yr allwedd i\u2019r ddau yw diwygio\u2019r system gyllido. Yr opsiwn amlwg yw <u>diwygio <\/u>llwyr i greu fformwla cyllido sefydlog a thryloyw sy\u2019n seiliedig ar angen lleol.<\/p>\n<p>Mae newidiadau ar unwaith i\u2019r system bresennol hefyd yn bwysig, yn benodol caniat\u00e1u mwy o ryddid i sefydliadau lleol i symud cronfeydd o un prosiect neu sector i un arall ac i gyfuno cyllidebau. Mae\u2019r camau cyntaf wedi\u2019u cymryd gyda\u2019r \u2018trailblazer deals\u2019 a \u2018bargeinion datganoli Lefel 4\u2019, ond mae angen i\u2019r rhain gael eu cyflwyno\u2019n llawer cyflymach, ac ni fydd hyn yn ei dro\u2019n bosibl oni bai bod y llywodraeth ganolog yn buddsoddi i <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1080\/21582041.2023.2203122\">adeiladu capasiti lleol<\/a>. Gyda hyblygrwydd cyllidebol, mae potensial mawr i\u2019r sector trafnidiaeth allu cael effaith ar gynhyrchiant, yn ogystal ag ar gynwysoldeb a chynaliadwyedd; i annog teithio llesol drwy <a href=\"https:\/\/truud.ac.uk\/\">hybu cyllidebau iechyd<\/a>; gyda chyllidebau amgylcheddol, mynd i\u2019r afael \u00e2 llygredd aer; a gyda chyllidebau datblygu busnesau, annog clystyru.<\/p>\n<p><strong>Entrepreneuriaeth a chyflogaeth <\/strong><\/p>\n<p>O ran entrepreneuriaeth, gwelsom fod mwy o bwyslais ar gwmn\u00efau mawr ar draul BBaCh, ac yn enwedig egin fusnesau, sy\u2019n aml wedi\u2019u hepgor o bolis\u00efau economaidd rhanbarthol. Creu swyddi, yn hytrach na chreu busnesau, yw\u2019r flaenoriaeth i bob un o\u2019r tri sefydliad rhanbarthol a ddadansoddwyd gennym, ac roedd pwyslais ar nifer yn hytrach nag ansawdd swyddi yn cyfrannu at bwyslais ar gynhyrchiant ar draul cynwysoldeb. Mae\u2019r cydbwysedd presennol rhwng sectorau cynhyrchiant uchel ac isel yn golygu bod amrywiadau mawr yn yr heriau a wynebir, ond mae amrywiadau hefyd ym mhwerau sefydliadau rhanbarthol i ymyrryd. Byddai ail-gydbwyso\u2019r galluoedd hyn drwy addasu sianelau cyfathrebu, ffrydiau cyllido, cylchoedd gwaith polisi datganoledig, a\u2019r galluoedd sefydliadol i\u2019w defnyddio\u2019n creu\u2019r potensial i gyflawni canlyniadau gwell.<\/p>\n<p><strong>Sgiliau <\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r gallu i wynebu heriau sgiliau rhanbarthol yn cael ei danseilio gan ddiffyg pwerau penderfynu dros addysg a hyfforddiant ar y lefel ranbarthol, ac o ganlyniad i\u2019r anawsterau i gynllunio ar gyfer ac i ragweld y galw am sgiliau yn y dyfodol. Byddai datganoli penderfyniadau addysg a sgiliau i\u2019r rhanbarthau a <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/developing-skills-for-a-just-transition\/\">chydlynu<\/a> ymhlith rhanddeiliaid yn eu galluogi i ymateb yn well i\u2019w cyd-destunau lleol. Gan fod rhai o\u2019r pwerau hyn wedi cael eu datganoli\u2019n uniongyrchol i ysgolion a chadwynau academ\u00efau, mae angen codi pwerau i fyny hefyd fel y byddant yn gallu dylanwadu\u2019n strategol ar y sylfaen sgiliau lleol. Yn fwy cyffredinol, ni ddylai pwerau sefydliadau llywodraethu lleol ddod o\u2019r prosesau presennol y gellir eu datganoli\u2019n unig, ond hefyd o ddatblygiadau polisi arloesol lleol lle mae sefydliadau\u2019n cael eu galluogi i fanteisio neu sefydlu pwerau newydd i gyflawni gwelliannau mewn cynhyrchiant.<\/p>\n<p><strong>Casgliad <\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1080\/00343404.2022.2152436\">Rydym yn dangos<\/a> nad oes gan sefydliadau rhanbarthol y DU ar hyn o bryd bwerau digonol i wneud penderfyniadau, na galluoedd cyllidebol na sefydliadol i wneud ymyriadau polisi sy\u2019n ddigon i drawsnewid yn yr ysgogwyr cynhyrchiant. Mae camau positif yn cael eu cymryd ond yn rhy araf ac mewn ffordd rhy anghyson ledled y wlad. Wrth gwrs, mae canlyniadau\u2019n dibynnu hefyd ar ryngweithiad ffactorau cyd-destunol, gan gynnwys perfformiad economaidd yn y gorffennol, daearyddiaeth economaidd a\u2019r economi wleidyddol leol. A hefyd mae pwysigrwydd gweithrediad, creadigrwydd a strategaeth <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/00343404.2015.1119265\">arweinyddion<\/a> unigol, er bod hyn ynddo\u2019i hun wedi\u2019i ymgorffori mewn ac wedi\u2019i ddylanwadu gan y strwythur llywodraethu lleol. Yn y pen draw, strwythur llywodraethiant is-genedlaethol ddylai\u2019r prif erfyn fod i ymyrryd mewn cynhyrchiant rhanbarthol, ac eto, yn y DU, mae hyn yn rhwystr mawr rhag datrys y pos cynhyrchiant.<\/p>\n<p>Mae\u2019r papur llawn wedi\u2019i gyhoeddi yn <em>Regional Studies: <\/em><a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1080\/00343404.2022.2152436\">A place-based system? Regional policy levers and the UK\u2019s productivity challenge<\/a><\/p>\n<p>Gwnaed y gwaith hwn fel rhan o\u2019r prosiect <a href=\"https:\/\/lipsit.ac.uk\/\">LIPSIT<\/a> a oedd yn ymdrech i ganfod trefniadau sefydliadol ar y lefel ranbarthol sy\u2019n dueddol o arwain at reoli\u2019r cyfnewidiadau polisi \u2018da\u2019 sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chynyddu cynhyrchiant.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref1\" name=\"_ftn1\">[1]<\/a> Bydd yr olaf yn cael ei ddisodli ar 2 Mai gan y North East Mayoral Combined Authority newydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel enillwyr Gwobr 2024 am y Papur Gorau a gyhoeddwyd yn y Regional Studies Policy Debates, dyma Helen Tilley, Jack Newman, Charlotte Hoole, Andrew Connell, ac Ananya Mukherjee yn trafod eu papur buddugol. Maent yn dadlau nad oes gan ranbarthau\u2019r DU yr ysgogwyr polisi sydd eu hangen arnynt i wella cynhyrchiant drwy edrych ar y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14175,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[140],"research-and-impact":[133],"class_list":["post-15358","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-economi","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"community-network.jpg","filesize":404023,"sizes":{"medium":{"file":"community-network-744x384.jpg","width":744,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60127,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-744x384.jpg"},"large":{"file":"community-network-1200x619.jpg","width":1200,"height":619,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":116797,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-1200x619.jpg"},"thumbnail":{"file":"community-network-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":67463,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"community-network-768x396.jpg","width":768,"height":396,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":62997,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-768x396.jpg"},"1536x1536":{"file":"community-network-1536x793.jpg","width":1536,"height":793,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":160858,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-1536x793.jpg"},"2048x2048":{"file":"community-network-2048x1057.jpg","width":2048,"height":1057,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":230633,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-2048x1057.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"community-network-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":232660,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9982","name":"community-network.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network.jpg","title":"community-network.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-network-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15358","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15358"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15358\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16524,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15358\/revisions\/16524"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14175"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15358"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15358"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15358"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15358"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}