{"id":15354,"date":"2022-12-15T00:45:29","date_gmt":"2022-12-15T00:45:29","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-syn-gweithio-i-drechu-tlodi-arbrofi-gydag-incwm-sylfaenol-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:38","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:38","slug":"beth-syn-gweithio-i-drechu-tlodi-arbrofi-gydag-incwm-sylfaenol-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-syn-gweithio-i-drechu-tlodi-arbrofi-gydag-incwm-sylfaenol-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Beth sy'n gweithio i drechu tlodi? Arbrofi gydag Incwm Sylfaenol yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r \u2018argyfwng costau byw\u2019 presennol wedi amlygu\u2019r brys i ddatblygu a dod o hyd i ddulliau effeithiol o fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi, amcan a oedd yn sail i\u2019r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/tlodi-ac-allgau-cymdeithasol-adolygiad\/\">adolygiad tlodi<\/a> a gyflawnwyd gennym ar ran Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2022. <a href=\"https:\/\/icc.gig.cymru\/newyddion1\/argyfwng-costau-byw-argyfwng-iechyd-cyhoeddus\/\">Dros y flwyddyn ddiwethaf<\/a>, bu cynnydd o 69% yn nifer y bobl sy\u2019n wynebu diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru, a chynnydd o 50% yn nifer y bobl sy\u2019n hwyr yn talu bil. Ond i lawer o bobl yng Nghymru nid yw tlodi\u2019n broblem newydd - mae tua 25% o\u2019r boblogaeth wedi bod yn byw mewn tlodi am y degawd diwethaf.<\/p>\n<p>Un o'r atebion polisi posibl y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar hyn o bryd yw math o 'drosglwyddiad arian parod' a elwir yn '<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cymru-yn-treialu-cynllun-incwm-sylfaenol\">incwm sylfaenol'<\/a> sydd, yn syml iawn, yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Yn ogystal \u00e2 rhoi hwb uniongyrchol i adnoddau ariannol pobl, mae potensial i\u2019r dull hwn leddfu rhai o\u2019r heriau emosiynol a seicolegol \u2013 megis cywilydd, stigma a phwysau meddyliol \u2013 y mae pobl yn aml yn eu profi o ganlyniad i fyw mewn tlodi neu wrth geisio cael help i ddod o hyd i ffordd allan o dlodi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cywilydd, stigma a phwysau meddyliol tlodi<\/strong><\/p>\n<p>Tynnwyd sylw at y profiadau hyn o gywilydd, stigma a phwysau meddyliol dro ar \u00f4l tro yn ein <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/tlodi-ac-allgau-cymdeithasol-adolygiad\/\">hymchwil<\/a> diweddar gyda phobl \u00e2 phrofiad byw o dlodi, ac yn y sylfaen dystiolaeth bresennol o ran '<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/profiad-pobl-o-dlodi-ac-allgau-cymdeithasol-yng-nghymru\/\">profiadau bywyd<\/a>'. Un o\u2019r ffactorau anodd a amlygwyd gan gyfranogwyr yw bod y profiadau negyddol hyn yn aml yn cael eu creu ar yr adegau pan mae pobl yn ceisio cymorth. Er enghraifft, mae prosesau ar gyfer gwneud cais am gymorth sy\u2019n ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos eu bod yn ei \u2018haeddu\u2019, a phrosesau sy\u2019n tynnu sylw at bobl am fod yn wahanol mewn rhyw ffordd, fel <a href=\"https:\/\/cpag.org.uk\/policy-and-campaigns\/briefing\/reducing-cost-school-day-wales\">bwydlenni prydau ysgol<\/a> sy\u2019n wahanol i blant sy\u2019n cael prydau ysgol am ddim o\u2019u cymharu \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n talu, i gyd yn gallu cyfrannu at deimladau o gywilydd, stigma a phwysau meddyliol. Fel y mae'r ymchwilydd tlodi blaenllaw Ruth Lister <a href=\"https:\/\/www.projecttwistit.com\/ruth-lister\">yn ein hatgoffa<\/a>, mae pobl yn profi tlodi nid yn unig fel cyflwr economaidd difreintiedig ac ansicr, ond hefyd fel perthynas gymdeithasol gywilyddus a dinistriol.<\/p>\n<p>Mae hyn yn bwysig nid yn unig oherwydd ei fod yn fath o ddioddefaint ynddo\u2019i hun, ond hefyd oherwydd ei fod yn cyfrannu at iechyd meddwl gwael, sydd ynddo\u2019i hun yn achosi tlodi. Gall newid ymddygiad pobl a'u hatal rhag manteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua \u00a3<a href=\"https:\/\/www.entitledto.co.uk\/blog\/2021\/january\/15plus-billion-unclaimed-means-tested-benefits-but-the-sketchy-take-up-data-makes-it-hard-to-say-for-sure\/\">15biliwn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio<\/a> bob blwyddyn yn y DU, ac nid yw hyn hyd yn oed yn cwmpasu mathau eraill o gymorth anariannol, megis prydau ysgol am ddim. Mae\u2019r methiant i fanteisio ar gymorth o leiaf yn rhannol oherwydd rhwystrau systemig i fynediad, megis prosesau cymhleth, a ffactorau seicolegol sy\u2019n troi pobl i ffwrdd, megis pwysau meddyliol, cywilydd a stigma.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Incwm sylfaenol: syniad ar gyfer yr oes sydd ohoni?<\/strong><\/p>\n<p>Un o\u2019r syniadau polisi sydd wedi cael twf aruthrol o ran sylw dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd ei botensial, ymhlith pethau eraill, i gael gwared ar rwystrau i fanteisio ar gymorth a hefyd y stigma a all fod yn gysylltiedig \u00e2 budd-daliadau prawf modd, yw\u2019r Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Mae hyn wedi arwain llawer o sylwebwyr i ofyn a yw Incwm Sylfaenol, sydd \u00e2\u2019i wreiddiau mewn syniadau athronyddol o dros 500 mlynedd yn \u00f4l, bellach <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/business\/2016\/nov\/11\/basic-income-for-all-a-500-year-old-idea-whose-time-has-come\">yn syniad ar gyfer yr oes sydd ohoni.\u00a0 <\/a>Yn ei ffurf buraf dylai\u2019r Incwm Sylfaenol Cyffredinol fod yn <a href=\"https:\/\/basicincome.org\/about-basic-income\/\">daliad arian parod cyfnodol a gyflwynir yn ddiamod i bawb yn unigol, heb brawf modd na gofyniad i weithio.<\/a> Er mai ychydig iawn o dreialon sy'n bodloni'r diffiniad hwn yn gyfan gwbl, erbyn hyn mae tua 80 o dreialon o wahanol fathau o incwm sylfaenol yn cael eu cynnal ledled y byd. Mae rhai o'r rhain wedi bod yn agos at fod yn rhai cyffredinol, megis <a href=\"https:\/\/www.vox.com\/future-perfect\/2020\/2\/19\/21112570\/universal-basic-income-ubi-map\">yn Iran<\/a> lle mae pob dinesydd wedi cael trosglwyddiad arian parod diamod o tua $1.50 y dydd ers 2011 mewn cyfandaliad blynyddol, tra bod eraill wedi'u targedu'n fwy, fel <a href=\"https:\/\/www.youngfoundation.org\/our-work\/publications\/the-voices-of-basic-income\/\">B-MINCOME<\/a> yn Barcelona a gynigiodd hyd at \u20ac1675 y mis am ddwy flynedd i 1000 o aelwydydd yn rhai o ardaloedd tlotaf Barcelona.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru<\/strong><\/p>\n<p>Yn nes adref yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, dan arweiniad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dod yn un o\u2019r awdurdodau cyhoeddus diweddaraf i lansio <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cymru-yn-treialu-cynllun-incwm-sylfaenol?_ga=2.114506503.1473537939.1671096645-1560936924.1671096645&amp;_gl=1*fhajo9*_ga*MTU2MDkzNjkyNC4xNjcxMDk2NjQ1*_ga_L1471V4N02*MTY3MTA5NjY0NC4xLjAuMTY3MTA5NjY0NC4wLjAuMA..\">Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol<\/a> gwerth \u00a320 miliwn a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2022, a bydd yn rhoi trosglwyddiad arian parod diamod o \u00a31600 y mis (cyn treth) am ddwy flynedd i 500 o bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal \u2018i'w cefnogi wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolyn\u2019. Mae hwn yn un o ddim ond dau dreial incwm sylfaenol erioed sydd wedi canolbwyntio ar y rhai sy'n gadael gofal. Mae pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn fwy tebygol o fod wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod plentyndod, ac o wynebu <a href=\"https:\/\/www.nao.org.uk\/reports\/care-leavers-transitions-to-adulthood\/\">ystod o heriau<\/a> ym yn eu bywyd fel oedolion, megis digartrefedd, cyswllt \u00e2\u2019r system cyfiawnder troseddol, iechyd corfforol a meddyliol gwael, cyrhaeddiad addysgol isel, a diweithdra. Ac fel yr ydym wedi dangos yn ein <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/plant-syn-derbyn-gofal\/\">hymchwil ein hunain,<\/a> bu cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghyfradd y plant mewn gofal yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae gan Gymru gyfraddau uwch na gweddill y DU.<\/p>\n<p>Mae cynllun peilot Cymru yn cynnig cyfle cyffrous iawn i archwilio a all Incwm Sylfaenol wella canlyniadau i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal a sut mae\u2019n rhyngweithio \u00e2\u2019r ystod ehangach o gymorth sy\u2019n cael ei gynnig i\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal yng Nghymru. Yn allweddol i hyn fydd gwerthuso a monitro\u2019r cynllun, sy\u2019n cael ei arwain gan gyn Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, sydd bellach yn gweithio yn <a href=\"https:\/\/cascadewales.org\/cy\/amdanom-ni\/staffio\/\">CASCADE<\/a>, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a chymydog Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn SBARC, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol newydd Caerdydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Ymuno \u00e2 Chynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru ynghyd ag ymchwil a thystiolaeth ryngwladol<\/strong><\/p>\n<p>Er mwyn sicrhau y gall y t\u00eem gwerthuso ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o dreialon incwm sylfaenol blaenorol, yn ogystal \u00e2 gwerthusiadau o fathau eraill o gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynhadledd ar 15 Rhagfyr 2022. Roedd hyn yn cynnwys siaradwyr o Lywodraeth Cymru, CASCADE ac arbenigwyr gan gynnwys yr Athro Syr Michael Marmot, yr Athro Guy Standing, yn ogystal \u00e2 sefydliadau sy\u2019n rhan o dreialon mentrau incwm sylfaenol, megis Sefydliad Young, GiveDirectly ac RSA, a\u2019r Ganolfan Tystiolaeth a Gweithredu, sy'n canolbwyntio ar dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i\u2019r rhai sy'n gadael gofal. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i'r gymuned ymchwil ehangach ddysgu am y cynllun peilot yng Nghymru a'r gwaith o\u2019i werthuso.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu am waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar drechu tlodi, cysylltwch ag <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/person\/amanda-hill-dixon\/\">Amanda Hill-Dixon<\/a>, Uwch-gymrawd Ymchwil.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r \u2018argyfwng costau byw\u2019 presennol wedi amlygu\u2019r brys i ddatblygu a dod o hyd i ddulliau effeithiol o fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi, amcan a oedd yn sail i\u2019r adolygiad tlodi a gyflawnwyd gennym ar ran Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2022. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd o 69% yn nifer y bobl sy\u2019n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15353,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[140,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15354","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"british-bank-notes.jpg","filesize":827570,"sizes":{"medium":{"file":"british-bank-notes-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":89398,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x496.jpg"},"large":{"file":"british-bank-notes-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":202402,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"british-bank-notes-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":77569,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"british-bank-notes-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":94460,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"british-bank-notes-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":304289,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"british-bank-notes-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":482532,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"british-bank-notes-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":382702,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15353","name":"british-bank-notes.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes.jpg","title":"british-bank-notes.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/british-bank-notes-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15354","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15354"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15354\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16522,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15354\/revisions\/16522"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15353"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15354"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15354"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15354"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15354"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}