{"id":15348,"date":"2022-11-17T09:07:47","date_gmt":"2022-11-17T09:07:47","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/cyflwr-democratiaeth-yng-nghymru-beth-ydyw-a-sut-allwn-ni-ei-mesur\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:37","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:37","slug":"cyflwr-democratiaeth-yng-nghymru-beth-ydyw-a-sut-allwn-ni-ei-mesur","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/cyflwr-democratiaeth-yng-nghymru-beth-ydyw-a-sut-allwn-ni-ei-mesur\/","title":{"rendered":"Cyflwr democratiaeth yng Nghymru: Beth ydyw a sut allwn ni ei mesur?"},"content":{"rendered":"<p>Mae pryderon ynghylch iechyd democratiaeth yn ffenomen fyd-eang, sy'n aml yn cael ei sbarduno gan argyfyngau neu ddigwyddiadau sy'n arwain at bwysau cyhoeddus yn gofyn am ddiwygio. Fe wnaeth sefyllfa economaidd enbyd Gwlad yr I\u00e2 yn dilyn yr Argyfwng Ariannol Byd-eang, er enghraifft, ysgogi <a href=\"https:\/\/www.democracy-international.org\/crisis-direct-democracy-case-iceland-0\">ystod eang o ddiwygiadau<\/a> i'w system ddemocrataidd. Yng Nghymru (a'r DU yn ehangach) mae trafodaethau ynghylch iechyd ein democratiaeth wedi canolbwyntio\u2019n draddodiadol ar y ffaith bod niferoedd y bobl sy\u2019n pleidleisio mewn etholiadau yn isel. Does fawr o syndod pan nad yw\u2019r nifer a bleidleisiodd erioed wedi cyrraedd mwy na 50% yn etholiadau'r Senedd, gyda\u2019r sefyllfa o ran llywodraethau lleol yn waeth byth.<\/p>\n<p>Ond er bod y nifer sy'n pleidleisio yn bwysig ac yn fater hawdd ei fesur, mae'n bell o fod yr unig brawf litmws o ran democratiaeth cenedl. Mae angen i ni hefyd ystyried cymryd rhan mewn prosesau sy\u2019n ymwneud \u00e2 democratiaeth sy\u2019n brosesau y tu hwnt i etholiadau, ystyried ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut mae democratiaeth yn gweithio, ac ystyried materion yn ymwneud \u00e2\u2019r ymddiriedaeth a\u2019r hyder sydd gan bobl yn y gweithredwyr a\u2019r sefydliadau democrataidd. Ymhlith materion cysylltiedig mae hawliau a rhyddid gwleidyddol, tryloywder prosesau democrataidd, ac argaeledd gwybodaeth o ansawdd da o ystod o ffynonellau \u2013 rhywbeth mae'r <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cyhoeddi-panel-arbenigol-ar-ddatganoli-darlledu\">panel arbenigol ar ddatganoli darlledu<\/a> yn ei archwilio ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><em>Mae pwy sy'n cymryd rhan yn bwysig<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Un elfen gyffredin trwy'r holl them\u00e2u hyn yw'r syniad bod democratiaeth iach yn un gynhwysol: dylai pob gr\u0175p, ond yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu tangynrychioli yn hanesyddol, fedru cymryd rhan. Mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/adnewyddu-democrataidd-tystiolaeth-gyfunol-o-blaid-diwygio-etholiadol-ym-maes-llywodraeth-leol?_ga=2.85880921.1136244393.1668674550-1825559549.1638176921&amp;_gl=1*15k45wf*_ga*MTgyNTU1OTU0OS4xNjM4MTc2OTIx*_ga_L1471V4N02*MTY2ODY3NDU0OS4zNi4wLjE2Njg2NzQ1NDkuMC4wLjA.\">gwaith diweddar<\/a> yng Nghymru wedi canfod bod lefelau ymgysylltu \u00e2 democratiaeth yn anghyfartal ar hyn o bryd, a bod angen dulliau wedi'u teilwra er mwyn sicrhau bod grwpiau sydd wedi\u2019u tangynrychioli yn ymgysylltu \u2013 yn enwedig menywod, pobl ifanc, pobl o gefndiroedd lleiafrifol o ran hil, a phobl sydd wedi derbyn lefelau isel o addysg. Bydd gwella dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n ysgogi iechyd democratiaeth yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar gynyddu ymgysylltiad y grwpiau hyn \u00e2 phrosesau democrataidd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><em>Data ar iechyd democratiaeth<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Cesglir rhywfaint o ddata ar iechyd democratiaeth yng Nghymru, ond maent yn ymwneud yn bennaf ag etholiadau. Er enghraifft, byddwn yn cael gwybod cyn hir trwy\u2019r fersiwn ddiweddaraf o<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/arolwg-cenedlaethol-cymru?_ga=2.94204893.1136244393.1668674550-1825559549.1638176921&amp;_gl=1*nse4cy*_ga*MTgyNTU1OTU0OS4xNjM4MTc2OTIx*_ga_L1471V4N02*MTY2ODY3NDU0OS4zNi4xLjE2Njg2NzQ5ODMuMC4wLjA.\"> Arolwg Cenedlaethol Cymru<\/a> <em>sut<\/em> y pleidleisiodd pobl yn etholiadau lleol 2022 (megis drwy bleidlais drwy'r post neu wyneb yn wyneb), ac mae tystiolaeth o natur yr agweddau at yr etholiadau ar gael o'r <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/who-we-are-and-what-we-do\/elections-and-referendums\/past-elections-and-referendums\/wales-local-council-elections\/report-may-2022-elections-wales\">Comisiwn Etholiadol<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/welshelectionstudycymru.wordpress.com\/\">Astudiaeth ar Etholiadau Cymru<\/a>.\u00a0 Fodd bynnag, mae data ynghylch etholiadau yn dameidiog o ystyried 'y diffyg sydd o ran data\u2019n ymwneud ag etholiadau' yn y DU, ac er bod ffyrdd o fesur iechyd democratiaeth mewn ystyr ehangach, nid oes yr un eto wedi'i ddefnyddio i ystyried y sefyllfa yng Nghymru.\u00a0 Mae <a href=\"https:\/\/www.democraticaudit.com\/\">Democratic Audit<\/a> wedi bod yn asesu iechyd democratiaeth yn y DU ers dros 20 mlynedd gan ystyried agweddau ar ddemocratiaeth megis didwylledd etholiadol, lefelau cyfranogiad isel mewn materion etholiadol, cyfranogiad yn ymwneud \u00e2\u2019r cyfryngau cymdeithasol a chyfranogiad dinesig, a datganoli penderfyniadau i gymunedau a gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Ymhellach i ffwrdd, mae <a href=\"https:\/\/www.v-dem.net\/\">V-Dem<\/a> yn casglu data yn unol \u00e2 dros 450 o ddangosyddion sy'n gysylltiedig \u00e2 phum egwyddor democratiaeth: etholiadol; rhyddfrydol; cyfranogol; trafodol; ac egalitaraidd; a hynny ar gyfer gwledydd ledled y byd. Gwnaed ymdrechion eisoes i greu synthesis o fynegeion fel y rhain, gydag <a href=\"https:\/\/www.impact.upenn.edu\/toolkits\/democracy\/\">un enghraifft<\/a> yn dod i'r casgliad bod democratiaeth gref yn cynnwys pum elfen: dinasyddion wedi'u grymuso; prosesau teg; polis\u00efau ymatebol; gwybodaeth a chyfathrebu; a chydlyniant cymdeithasol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><em>Mesur iechyd democratiaeth Cymru<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Gydag etholiadau wedi'u datganoli i Gymru ers 2017, a llawer o waith wedi digwydd i wella systemau democratiaeth yng Nghymru ers hynny (o <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/politicsandpolicy\/votes-at-16-in-wales\/\">bleidleisio yn 16 oed<\/a>, i'r <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/who-we-are-and-what-we-do\/our-views-and-research\/our-research\/advance-voting-pilots-evaluation\">cynlluniau peilot ar gyfer trefniadau pleidleisio hyblyg<\/a> yn etholiadau lleol 2022, i'r <a href=\"https:\/\/gov.wales\/independent-commission-constitutional-future-wales\">Comisiwn Annibynnol a sefydlwyd yn ddiweddar ar Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru<\/a>), mae hwn yn amser da i feddwl am sut i wella\u2019r ffordd mae ein democratiaeth yn gweithredu ac yn tyfu. Ar gais y Cwnsler Cyffredinol, dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn anelu at nodi sut i ddiffinio, mesur a monitro iechyd democratiaeth Cymru, yn y ffordd orau. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar annog rhagor o bobl i chwarae rhan lawn mewn prosesau democrataidd cenedlaethol a lleol yng Nghymru, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd wedi\u2019u tangynrychioli ar hyn o bryd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pryderon ynghylch iechyd democratiaeth yn ffenomen fyd-eang, sy'n aml yn cael ei sbarduno gan argyfyngau neu ddigwyddiadau sy'n arwain at bwysau cyhoeddus yn gofyn am ddiwygio. Fe wnaeth sefyllfa economaidd enbyd Gwlad yr I\u00e2 yn dilyn yr Argyfwng Ariannol Byd-eang, er enghraifft, ysgogi ystod eang o ddiwygiadau i'w system ddemocrataidd. Yng Nghymru (a'r DU [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14459,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[141,152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15348","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"people-graphic.jpg","filesize":172360,"sizes":{"medium":{"file":"people-graphic-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40966,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-744x496.jpg"},"large":{"file":"people-graphic-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":71472,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"people-graphic-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37280,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"people-graphic-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41743,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"people-graphic-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97432,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"people-graphic-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":139807,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"people-graphic-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":113234,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"10246","name":"people-graphic.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic.jpg","title":"people-graphic.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/people-graphic-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15348","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15348"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15348\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16520,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15348\/revisions\/16520"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14459"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15348"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15348"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15348"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15348"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}