{"id":15346,"date":"2022-11-08T08:54:06","date_gmt":"2022-11-08T08:54:06","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-mae-darpariaeth-gyfunol-ddigidol-ac-wyneb-yn-wyneb-yn-ei-olygu-ar-gyfer-mynediad-at-wasanaethau-yn-ystod-yr-argyfwng-costau-byw\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:35","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:35","slug":"beth-mae-darpariaeth-gyfunol-ddigidol-ac-wyneb-yn-wyneb-yn-ei-olygu-ar-gyfer-mynediad-at-wasanaethau-yn-ystod-yr-argyfwng-costau-byw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-mae-darpariaeth-gyfunol-ddigidol-ac-wyneb-yn-wyneb-yn-ei-olygu-ar-gyfer-mynediad-at-wasanaethau-yn-ystod-yr-argyfwng-costau-byw\/","title":{"rendered":"Beth mae darpariaeth 'gyfunol' ddigidol ac wyneb yn wyneb yn ei olygu ar gyfer mynediad at wasanaethau yn ystod yr argyfwng costau byw?"},"content":{"rendered":"<p>Mae'r argyfwng costau byw yn gwneud mynediad at wasanaethau lles yn y gymuned yn bwysicach fyth i nifer cynyddol o bobl. Mae\u2019r gwasanaethau hyn \u2013 o gyngor, eiriolaeth a gwasanaethau cymorth i sefydliadau hamdden a diwylliannol \u2013 yn hollbwysig i gefnogi ein llesiant uniongyrchol a hirdymor. Fel yr amlygwyd yn ystod y pandemig, maen nhw'n achub bywydau mewn cyfnodau o argyfwng. Ers y pandemig, mae llawer o wasanaethau yn y gymuned wedi sefydlu ffyrdd 'cyfunol' o weithio, gan gyfuno darpariaeth ar-lein ac all-lein, sydd \u00e2 goblygiadau sylweddol ac amrywiol o ran mynediad a chydraddoldeb; sut mae gwasanaethau'n gweithio ac i bwy. Caiff effeithiau gwahaniaethol digideiddio eu trafod yn eang: i rai (e.e. y rhai \u00e2 symudedd corfforol cyfyngedig) gall hygyrchedd gwasanaethau gynyddu, ond i eraill (e.e. y rhai \u00e2 mynediad cyfyngedig at ddata) gall hygyrchedd ostwng. Er bod y ddau yn ystyriaethau allweddol, mae'r darlun yn ddieithriad yn fwy cymhleth. Yn hytrach na bod yn 'ddigidol' neu beidio, mae gwasanaethau'n tueddu i fod yn 'gyfunol' - cyfuniad cymhleth o ddarpariaeth ar-lein ac all-lein, lle mae cwestiynau am fynediad yn ehangach o lawer na phwy all gerdded drwy'r drws - ffisegol neu rithwir.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth mae'r llenyddiaeth yn ei ddweud?<\/strong><\/p>\n<p>Dywed ymchwil wrthym fod mynediad at wasanaeth, gr\u0175p, neu weithgaredd yn golygu nid yn unig gallu cerdded drwy'r drws, ond sut deimlad yw cerdded drwyddo, a sut mae'n teimlo unwaith rydyn ni i mewn.\u00a0 Mae rhoi sylw i'r dimensiynau mynediad ansoddol hyn, yn ogystal \u00e2 rhai meintiol, yn hanfodol i ddeall a dileu'r rhwystrau at gyrchu gwasanaethau a wynebir gan wahanol unigolion a grwpiau mewn gwahanol gyd-destunau. Ceir llai o ymchwil i\u2019r ffordd y mae'r \u2018cyfuniad\u2019 cynyddol o ddarpariaeth ar-lein ac all-lein yn dylanwadu ar y dimensiwn ansoddol hwn o ran mynediad: y profiad o wasanaeth, ydyn ni'n teimlo croeso neu'n ofnus, wedi\u2019n grymuso neu\u2019n ddi-rym, ein bod yn cael ein clywed neu ein hanwybyddu. Mae cael gwell dealltwriaeth o wahanol ddulliau o 'gyfuno' darpariaeth ar-lein ac all-lein, i bwy maen nhw'n gweithio neu i beth, a sut, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer gwella mynediad at wasanaethau hanfodol wrth i'r argyfwng costau byw ddatblygu.<\/p>\n<p>Mae ymchwil presennol ar ddylanwad digideiddio mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol yn tueddu i ganolbwyntio ar effeithlonrwydd y gwasanaeth yn hytrach nag effeithiolrwydd neu brofiad, ac ar ddimensiynau meintiol mynediad (pwy, a faint, sy'n gallu cerdded drwy'r drws). Ond mae ymchwil sy'n dod i'r amlwg yn edrych ar sut mae darpariaeth ddigidol ac ar-lein, a'r ffyrdd maen nhw'n gweithio gydag a thrwy ddarpariaeth ffisegol ac all-lein, boed yn fwriadol neu'n ddamweiniol, yn dylanwadu nid yn unig ar <em>effeithlonrwydd<\/em> ond hefyd ar y <em>profiad<\/em> o wasanaethau gwahanol.<\/p>\n<p>Mae cyfuniadau gofalus o gymorth digidol ac wyneb yn wyneb wedi bod yn bwerus wrth helpu pobl i ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau yn y byd ffisegol yn ogystal \u00e2\u2019r byd digidol, lle\u2019r oedd y naill neu\u2019r llall wedi teimlo\u2019n anhygyrch yn flaenorol. Mewn gwaith ieuenctid, mae ymgysylltu ar-lein wedi'i amlygu fel cam pwysig tuag at ryngweithio a 'grymuso' yn y byd all-lein. Mewn\u00a0 gwasanaethau ac ymyriadau iechyd meddwl, mae 'cyfuno' darpariaeth ar-lein ac all-lein wedi cynnig cyfleoedd ar gyfer gofal penodol i unigolion, neu ganfod problemau rhyng-gysylltiol (e.e. iechyd meddwl a dyled) a chydgysylltu llwybrau atgyfeirio neu gymorth priodol. Mae ymchwil mewn addysg yn dangos manteision amrywiol 'cyfuno', fel harneisio technoleg ddigidol i gynyddu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio wyneb yn wyneb; galluogi creu darpariaeth unigol i gyd-fynd ag anghenion neu amgylchiadau penodol; neu wella dealltwriaeth neu brofiad trwy ychwanegu at y byd ffisegol gyda gwybodaeth, delweddau neu ryngweithio digidol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth mae ein hymchwil ni wedi'i ddarganfod?<\/strong><\/p>\n<p>Canfu <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/rol-cymunedau-ar-defnydd-o-dechnoleg-wrth-liniaru-unigrwydd-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws\/\">ymchwil WCPP ar y defnydd o dechnoleg i ymdrin ag unigrwydd yn ystod y pandemig<\/a> fod y ffordd y mae bydoedd digidol a ffisegol yn rhyngweithio yn sylfaenol ar gyfer mynediad a chynhwysiant mewn mannau digidol a ffisegol. I'r rhai sy'n 'sownd' all-lein, roedd gallu ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau mewn ffordd nad oedd ar wah\u00e2n yn llwyr oddi wrth y byd ar-lein, er ei fod yn parhau i fod all-lein, (e.e. cynnwys gwefan wedi'i argraffu mewn taflen) yn allweddol i wella teimladau o gynhwysiant. Hefyd roedd yn chwalu rwystrau (anariannol) at fynediad drwy wneud i'r byd ar-lein deimlo'n fwy croesawgar a chyfarwydd. Yn yr un modd, i\u2019r rhai oedd yn sownd <em>ar-lein<\/em> (y rhai nad oedd yn teimlo bod croeso iddynt yn y byd ffisegol), roedd sicrhau nad oedd y gwasanaeth digidol yn ddatgysylltiedig neu\u2019n \u2018symudol\u2019, ond yn darparu cysylltiadau \u00e2 phobl a lleoedd cyfarwydd, neu a allai ddod yn gyfarwydd mewn bywyd \u2018go iawn\u2019, yn hanfodol - defnyddio ymgysylltu digidol i gefnogi ymgysylltu corfforol.<\/p>\n<p>Er bod ymdrin \u00e2 dimensiynau ymarferol mynediad yn parhau'n bwysig (dyfeisiau, data, seilwaith, ac ati), mae mynediad hefyd yn ymwneud \u00e2 natur ansoddol darpariaeth gwasanaeth - yn benodol, y ffordd y mae ymgysylltu \u00e2 gwasanaeth yn <em>teimlo<\/em>. Mae cymryd golwg ehangach ar fynediad nid yn unig yn helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall yr amrywiaeth o rwystrau at gyrchu gwasanaethau (y tu hwnt i allu cerdded drwy'r drws), mae hefyd yn amlygu ffyrdd newydd a gwahanol o wella mynediad. Er enghraifft, trwy ddatblygu cyfuniadau o ddarpariaeth ar-lein ac all-lein sy'n gwella cynwysoldeb gwasanaeth neu weithgaredd trwy roi sylw nid yn unig i p'un a all pobl ymgysylltu, ond hefyd i sut maen nhw'n teimlo pan fyddan nhw'n gwneud hynny.<\/p>\n<p>Nod ein gwaith gyda rhanddeiliaid ar draws gwasanaethau yn y gymuned yw dangos y ffyrdd amrywiol ac arloesol y mae darpariaeth ddigidol a ffisegol yn cael eu 'cyfuno' a sut y gellir dylanwadu ar effeithiolrwydd a phrofiad gwasanaeth (yn ogystal ag effeithlonrwydd) o ganlyniad.\u00a0 Ein gobaith yw cynnig cyfle i fyfyrio ar y maes ymarfer hwn sy\u2019n datblygu\u2019n gyflym, a nodi\u2019r gwersi allweddol sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r hyn sy\u2019n gweithio, i beth ac i bwy, o ystyried y goblygiadau pwysig ar gyfer hygyrchedd, cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gwasanaethau a ddarperir.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae'r argyfwng costau byw yn gwneud mynediad at wasanaethau lles yn y gymuned yn bwysicach fyth i nifer cynyddol o bobl. Mae\u2019r gwasanaethau hyn \u2013 o gyngor, eiriolaeth a gwasanaethau cymorth i sefydliadau hamdden a diwylliannol \u2013 yn hollbwysig i gefnogi ein llesiant uniongyrchol a hirdymor. Fel yr amlygwyd yn ystod y pandemig, maen nhw'n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15345,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[141,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15346","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"cover-blended-1.jpg","filesize":40730,"sizes":{"medium":{"file":"cover-blended-1-744x410.jpg","width":744,"height":410,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":25886,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cover-blended-1-744x410.jpg"},"thumbnail":{"file":"cover-blended-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":26659,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cover-blended-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"cover-blended-1-768x423.jpg","width":768,"height":423,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":27181,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cover-blended-1-768x423.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15345","name":"cover-blended-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cover-blended-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cover-blended-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cover-blended-1.jpg","title":"cover-blended-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15346","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15346"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15346\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16519,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15346\/revisions\/16519"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15345"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15346"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15346"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15346"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15346"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}