{"id":15341,"date":"2022-10-25T09:06:28","date_gmt":"2022-10-25T09:06:28","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/cerrig-milltir-cenedlaethol-defnyddio-tystiolaeth-ac-arbenigedd-i-adrodd-stori-statws\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:32","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:32","slug":"cerrig-milltir-cenedlaethol-defnyddio-tystiolaeth-ac-arbenigedd-i-adrodd-stori-statws","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/cerrig-milltir-cenedlaethol-defnyddio-tystiolaeth-ac-arbenigedd-i-adrodd-stori-statws\/","title":{"rendered":"Cerrig Milltir Cenedlaethol - Defnyddio tystiolaeth ac arbenigedd i adrodd 'stori statws'"},"content":{"rendered":"<p>Daeth 'ail don' ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei Cherrig Milltir Cenedlaethol i ben fis diwethaf.\u00a0 Mae'r Cerrig Milltir yn ymwneud \u00e2 chyfres o Ddangosyddion Cenedlaethol, a fynegir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n galluogi mesur cynnydd tuag at saith <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru?_ga=2.230985878.807964051.1665752244-1825559549.1638176921\">Nod Llesiant Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>Mae'r Cerrig Milltir Cenedlaethol hyn yn cyd-fynd yn fwriadol \u00e2 cherrig milltir sy'n gweithredu ar lefel ryngwladol:<a href=\"https:\/\/sdgs.un.org\/goals\"> Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. <\/a>\u00a0Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cerrig-milltir-cenedlaethol-i-fesur-cynnydd-ein-cenedl?_ga=2.230985878.807964051.1665752244-1825559549.1638176921\">ddeddfu ar gyfer llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol<\/a> mewn ffordd sy'n cyd-fynd \u00e2'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.<\/p>\n<p>Mae'r cwestiwn sut i gyflwyno ac yna fesur cynnydd byd-eang - neu hyd yn oed genedlaethol - yn realistig ar unrhyw fater yn ymwneud \u00e2 pholisi neu ddatblygu yn ennyn trafodaeth eang.\u00a0 Er enghraifft, <a href=\"https:\/\/movendi.ngo\/news\/2019\/09\/24\/world-failing-to-achieve-sdgs\/\">mae arbenigwyr yn rhybuddio<\/a> bod y rhan fwyaf o wledydd yn bell o gyflawni targedau'r Nodau ar gyfer 2030 ac efallai na fydd y cerrig milltir rhyngwladol hyn nawr yn cael eu cyrraedd tan 2073.<\/p>\n<p>Mae r\u00f4l bwysig i ymchwil a data ansawdd uchel a'r ffordd y caiff y rhain eu cyfleu a'u cynnwys mewn polisi.\u00a0 Er enghraifft mae <a href=\"https:\/\/www.nesta.org.uk\/blog\/how-do-you-measure-nations-progress-process-setting-national-milestones\/\">Nesta<\/a> wedi gwneud sylw penodol, mewn perthynas \u00e2'r Cerrig Milltir Cenedlaethol, ar bwysigrwydd y cyfle hwn i ddefnyddio 'data sydd eisoes yna' a sicrhau bod 'data ar gael yn rhwyddach' i eraill.<\/p>\n<p>Mae angen datblygu cerrig milltir gyda'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr blaenllaw - dyma'r cyfle gorau iddynt osod disgwyliadau realistig ac adrodd '<a href=\"https:\/\/www.gnsh.org\/gnsh-toolkit\/making-the-case\/measure-outcomes-and-milestones\/\">stori statws<\/a>' ystyrlon.\u00a0 Neu, mewn geiriau eraill, gosod targed clir a galluogi mesur statws cynnydd yn ei erbyn a'i gyfleu'n glir dros amser.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cerrig-milltir-cenedlaethol\/\">Mae briffiadau tystiolaeth<\/a> Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi llywio meddylfryd Llywodraeth Cymru ar Gerrig Milltir Cenedlaethol yn ymwneud \u00e2 thri Dangosydd Cenedlaethol ar gyfer mesur iechyd poblogaeth Cymru<\/p>\n<ul>\n<li>y ganran o blant sydd \u00e2 dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy;<\/li>\n<li>y ganran o oedolion sydd \u00e2 dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy;<\/li>\n<li>disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae hyn yn dilyn <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/measuring-progress-on-well-being-the-development-of-national-indicators\/\">gwaith cynharach<\/a> a wnaed gan WCPP i Lywodraeth Cymru yn 2015 ar lywio datblygiad y Dangosyddion Cenedlaethol eu hunain.\u00a0 Roedd yr adroddiad yn tynnu ar y dystiolaeth oedd eisoes yn bodoli i ddarparu fframwaith ar gyfer nodi dangosyddion priodol yn seiliedig ar y Nodau Llesiant.\u00a0 Roedd hefyd yn cynnig naratif drafft ar gyfer cyfleu hyn, a rhai dangosyddion arfaethedig i'w hystyried, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer y gyfres o ddangosyddion yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Mae'r cydweithio hwn gyda Llywodraeth Cymru trwy ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi parhau gydag ymchwil WCPP yn llywio'r tair Carreg Filltir, a bwydo tystiolaeth i mewn i gyfarfodydd bwrdd crwn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, arweinwyr polisi a rhanddeiliaid allweddol eraill.\u00a0 Aethom ati hefyd i gynnwys lleisiau academaidd blaenllaw - er enghraifft, <a href=\"https:\/\/www.instituteofhealthequity.org\/about-us\/about-professor-sir-michael-marmot\">yr Athro Syr Michael Marmot<\/a>, arbenigwr ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd a'r <a href=\"https:\/\/phirst.nihr.ac.uk\/staff\/ben-barr\/\">Athro Ben Barr<\/a>, arbenigwr ar iechyd cyhoeddus cymhwysol - er mwyn cefnogi trafodaeth gadarn, gyfoes a chynnil ar y ffordd fwyaf effeithiol a realistig o osod y Cerrig Milltir hyn.\u00a0 Cofnodwyd pwyntiau trafod ac argymhellion yr arbenigwyr yn y cyfarfodydd bwrdd crwn a'u defnyddio i fyfyrio ymhellach a diwygio'r briffiadau tystiolaeth lle'r awgrymwyd ffynonellau ychwanegol.<\/p>\n<p>Mae'r gweithgarwch hwn gyda'i gilydd wedi chwarae rhan bwysig i alluogi Gweinidogion i ddrafftio Cerrig Milltir credadwy, yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymgynghori'n ehangach.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth 'ail don' ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei Cherrig Milltir Cenedlaethol i ben fis diwethaf.\u00a0 Mae'r Cerrig Milltir yn ymwneud \u00e2 chyfres o Ddangosyddion Cenedlaethol, a fynegir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n galluogi mesur cynnydd tuag at saith Nod Llesiant Cymru. Mae'r Cerrig Milltir Cenedlaethol hyn yn cyd-fynd yn fwriadol \u00e2 cherrig [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":16517,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15341","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-scaled.jpg","filesize":317022,"sizes":{"medium":{"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-744x333.jpg","width":744,"height":333,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":38468,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-744x333.jpg"},"large":{"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-1200x536.jpg","width":1200,"height":536,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":82109,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-1200x536.jpg"},"thumbnail":{"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":46621,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-768x343.jpg","width":768,"height":343,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40304,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-768x343.jpg"},"1536x1536":{"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-1536x687.jpg","width":1536,"height":687,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":125667,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-1536x687.jpg"},"2048x2048":{"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-2048x916.jpg","width":2048,"height":916,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":209914,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-2048x916.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Lesbian-couple-with-child-cropped-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":238469,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Lesbian-couple-with-child-cropped.jpg","ID":"15340","name":"Lesbian-couple-with-child-cropped-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-scaled.jpg","title":"Lesbian-couple-with-child-cropped.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lesbian-couple-with-child-cropped-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15341","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15341"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15341\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16516,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15341\/revisions\/16516"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16517"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15341"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15341"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15341"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15341"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}