{"id":15338,"date":"2022-10-20T10:31:58","date_gmt":"2022-10-20T10:31:58","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/aros-am-ofal\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:31","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:31","slug":"aros-am-ofal","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/aros-am-ofal\/","title":{"rendered":"Aros am ofal"},"content":{"rendered":"<p>Mae aros am ofal yn deillio o'r diffyg cyfatebiaeth rhwng yr angen am ofal, a chapasiti gwasanaethau'r GIG i ddiwallu'r anghenion hynny, a gall arwain at ganlyniadau niweidiol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/lleihau-amseroedd-aros-yng-nghymru\/\">Mae'r adroddiad<\/a> gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn amlygu sut mae'r amser a dreulir yn aros am atgyfeiriad i driniaeth (RTT) wedi bod yn cynyddu ers cyn y pandemig, a waethygodd y duedd sylfaenol ymhellach. Gwelir y patrwm hwn yn cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o\u2019r Deyrnas Unedig.<\/p>\n<p>Mae'r adroddiad yn awgrymu camau polisi ymarferol a allai helpu i addasu sut caiff gwasanaethau eu trefnu a'u cyflwyno yn y tymor byr i'r tymor canolig. Fodd bynnag, dylid anelu at sicrhau newid cynaliadwy tymor hwy i wasanaethau yn hytrach na gwneud 'mwy o'r un peth' mewn ffordd well yn unig.<\/p>\n<p>Yn yr <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/adolygiad-o-iechyd-gofal-cymdeithasol-adroddiad-terfynol\">Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol<\/a> (2018) fe wnaethom ni nodi y bydd y pwysau am fwy o fuddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau, wedi'i yrru gan ffactorau fel iechyd cyffredinol y boblogaeth, anghydraddoldebau, prinder yn y gweithlu, a'r cynnydd cyflym mewn triniaethau newydd.<\/p>\n<p>Gan gydnabod y bydd adnoddau bob amser yn brin, ein cyngor ni oedd y dylai 'mwyafu <strong>gwerth<\/strong> gofal a bod yn fwy effeithlon fel bod modd cyfeirio adnoddau i\u2019r meysydd sy'n cael mwy o effaith ar iechyd a lles' fod yn nod allweddol.<\/p>\n<p>Mewn ymateb, pennodd Llywodraeth Cymru strategaeth uchelgeisiol ar gyfer rhoi newid ar waith ar draws y system ofal gyfan, gyda'r nod o fod yn fwy effeithiol, effeithlon a theg (<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cymru-iachach-cynllun-hirdymor-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol?_ga=2.228954901.845361210.1666020858-1825559549.1638176921\">Cymru Iachach<\/a>). Nod y strategaeth yw lleihau'r angen am ofal drwy ataliaeth ac ymyrraeth gynnar a darparu gwasanaethau di-dor, gwell, a gefnogir gan y defnydd gorau posibl o dechnoleg ar draws y system gyfan. Yn fuan, dilynwyd cyhoeddi'r strategaeth gan her enfawr y pandemig.<\/p>\n<p>Ymatebodd y GIG yng Nghymru i'r pandemig ag ynni ac arloesedd. Mae adroddiad Conffederasiwn y GIG <a href=\"https:\/\/www.nhsconfed.org\/publications\/addressing-planned-care-backlog\">Addressing the planned care backlog<\/a> (2022) yn dangos sut gall y gwersi hynny helpu i ymateb i bryderon ynghylch amseroedd aros. Ond yn realistig mae\u2019r egni i arloesi yn galw am lefelau staffio digonol a rhywfaint o amser adfer personol i staff ar \u00f4l pwysau'r pandemig.<\/p>\n<p>Felly beth sy\u2019n gallu cael ei wneud i ymateb i her sy\u2019n ymddangos yn amhosibl ei goresgyn?<\/p>\n<p>Y cam nesaf at wireddu\u2019r strategaeth, wedi\u2019r pandemig, yw, yn gyntaf - asesu\u2019n realistig y capasiti sy\u2019n angenrheidiol i leihau\u2019r amser aros i lefel sy\u2019n optimeiddio\u2019r canlyniad a\u2019r profiad ac yn ymgorffori\u2019r lefel o alw yn y tymor hwy.\u00a0 Er enghraifft, mae pob maes gofal arbenigol yn darparu ar gyfer gwahanol glefydau a gellir rhagweld a chynllunio ar gyfer lefelau angen yn y dyfodol, er enghraifft llawdriniaeth cataract, gan gydnabod bod gan rai cleifion gyflyrau lluosog.<\/p>\n<p>Yn hanfodol, bydd hyn yn arwain yr ail fater. Mae cynllun gweithlu hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol, sy\u2019n cynnwys digon o gapasiti i ddarparu gwasanaethau ataliaeth a gofal yn y gymuned yn ogystal \u00e2 gwasanaethau arbenigol. Mae hyfforddiant mewn sgiliau newydd a defnyddio technoleg fel llawdriniaeth trwy gyfrwng robotiaid yn bwysig i gefnogi arferion gwaith newydd.<\/p>\n<p>Yn drydydd, mae angen ail-feddwl am drefniadaeth gofal o safbwynt y defnyddwyr terfynol. Er y gall canolfannau rhagoriaeth a hybiau llawfeddygol wella effeithlonrwydd a helpu gyda staffio, mae angen eu cynllunio gyda defnyddwyr gwasanaeth i wella eu profiad.<\/p>\n<p>Yn gynyddol, mae gan gleifion gyflyrau cronig lluosog a gallant gael eu hunain yn mynychu ystod o wasanaethau diagnostig a thriniaeth heb fawr o gydlynu rhyngddynt. Gellir dod o hyd i atebion ond mae angen eu cyd-ddylunio a\u2019u cefnogi \u00e2 pharodrwydd i newid arferion gwaith. Mae cynnwys ymagweddau ataliol cyn triniaeth ac adsefydlu cryf ar \u00f4l triniaeth hefyd yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau gorau.<\/p>\n<p>Mae Cymru yn arloesi wrth ddatblygu 'gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth' sy'n helpu i ganolbwyntio ar gyflawni nodau cleifion a rheoli disgwyliadau drwy gydol eu gofal neu eu triniaeth. Gwella sut mae cleifion yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau, defnyddio'r dystiolaeth orau, osgoi unrhyw amrywiadau diangen mewn gofal, a bod yn fwy creadigol i benderfynu ar y lle gorau i wario adnoddau er mwyn gwella\u2019r canlyniadau i gleifion. Dylai hyn fod yn ganolog i\u2019r broses o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, wedi'i ategu gan ddata a gwybodaeth i lywio penderfyniadau ar lefel y claf a\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n<p>Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio ynghylch dull simplistig o reoli perfformiad yng nghyswllt amserau aros.\u00a0 Mae llwyddiant i weddnewid gwasanaethau mewn gwirionedd a sicrhau Cymru Iachach yn galw am ffordd o fesur cynnydd sy'n cefnogi cyflawni nodau hirdymor ochr yn ochr \u00e2 dangos i'r cyhoedd a gwleidyddion bod gwelliannau mewn amseroedd aros yn digwydd yn y tymor byr.<\/p>\n<p><strong>Mae cleifion eisiau 'gofal amserol', ac mae staff eisiau 'amser i ofalu'<\/strong>. Mae hyn yn bwysig ar gyfer canlyniadau o safon uchel a phrofiad da i gleifion. Dylai gofal brys fod yn fater brys; mynediad at brofion diagnostig fod yn syml ac wedi'i gydlynu'n dda; amser fod ar gael ar gyfer gwneud penderfyniadau a rennir yn effeithiol ynghylch opsiynau triniaeth; amser ar gyfer paratoadau cyn llawdriniaeth lle bo angen, ac amser ar gyfer trefniadau rheoli da i glefydau tymor hir, a ddarperir gyda dilyniant a lywiwyd gan y cleifion.<\/p>\n<p>Mae\u2019r her yn sylweddol.\u00a0 Mae gan Weithrediaeth newydd GIG Cymru gyfle i ailbennu sut caiff cynnydd ei fesur er mwyn sicrhau bod y strategaeth hirdymor yn cael ei chyflawni yn ogystal \u00e2 sicrhau bod y cyhoedd yn gallu dibynnu ar ofal brys a gofal wedi'i gynllunio sy'n darparu gwell profiad a chanlyniadau. Nid yw hyn yn mynd i fod yn hawdd, ond mae'n hanfodol ar gyfer dyfodol y system iechyd a gofal.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae aros am ofal yn deillio o'r diffyg cyfatebiaeth rhwng yr angen am ofal, a chapasiti gwasanaethau'r GIG i ddiwallu'r anghenion hynny, a gall arwain at ganlyniadau niweidiol. Mae'r adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn amlygu sut mae'r amser a dreulir yn aros am atgyfeiriad i driniaeth (RTT) wedi bod yn cynyddu ers cyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10022,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15338","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"holding-hand-4.jpg","filesize":355549,"sizes":{"medium":{"file":"holding-hand-4-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":42965,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-744x496.jpg"},"large":{"file":"holding-hand-4-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":87413,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"holding-hand-4-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":38013,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"holding-hand-4-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44973,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"holding-hand-4-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127944,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"holding-hand-4-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":201752,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"holding-hand-4-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":159322,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15337","name":"holding-hand-4.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4.jpg","title":"holding-hand-4.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/holding-hand-4-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15338","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15338"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15338\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16515,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15338\/revisions\/16515"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10022"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15338"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15338"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15338"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15338"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}