{"id":15335,"date":"2022-10-11T12:00:24","date_gmt":"2022-10-11T12:00:24","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/argyfwng-gweithlu-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru-beth-syn-ei-achosi-a-beth-syn-cael-ei-wneud-iw-ddatrys\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:31","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:31","slug":"argyfwng-gweithlu-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru-beth-syn-ei-achosi-a-beth-syn-cael-ei-wneud-iw-ddatrys","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/argyfwng-gweithlu-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru-beth-syn-ei-achosi-a-beth-syn-cael-ei-wneud-iw-ddatrys\/","title":{"rendered":"Argyfwng gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru: beth sy'n ei achosi a beth sy'n cael ei wneud i'w ddatrys?"},"content":{"rendered":"<p>Y neges gyson mewn cyflwyniadau diweddar i ymchwiliad y Senedd ar y strategaeth gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw bod y gweithlu gofal cymdeithasol mewn 'argyfwng'. Mae gwasanaethau'n cael trafferth dod o hyd i staff neu eu cadw. Ac, wrth gwrs, mae darparu gofal o ansawdd uchel yn dibynnu ar y gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sydd \u00e2'r sgiliau, y gallu a'r cymhelliant i ofalu am y rhai mewn angen. Prinder staff yw\u2019r prif reswm dros y dirywiad yn ansawdd y gofal, gan gael effaith sydyn ac ar brydiau, dinistriol, ar staff a chleifion.<\/p>\n<p>Nid problem i ofal cymdeithasol yn unig yw'r 'argyfwng' hwn. Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd \u2013 mae system gofal cymdeithasol well yn lleihau\u2019r baich ar ofal iechyd ac i\u2019r gwrthwyneb. Ac eto mae staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio mewn dwy system ar wah\u00e2n, gyda gwahanol ddeddfwriaeth, mecanweithiau ariannu a rheoliadau. Er bod problemau gweithlu yn y ddau, mae'r canlyniadau i'w teimlo'n fwy difrifol ym maes gofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>Nid problem i Gymru yn unig yw hon ychwaith; mae llawer o'r achosion a'r canlyniadau i'w teimlo ledled y DU. Yma rydym yn archwilio sut mae\u2019r rhain yn effeithio ar weithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, a\u2019r ymdrechion i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng gweithlu yng Nghymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth sy\u2019n achosi\u2019r argyfwng gweithlu yng Nghymru?<\/strong><\/p>\n<p>Mae pob gweithlu ar fympwy grymoedd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Ar gyfer gofal cymdeithasol, mae'r rhain yn cyfuno i greu storm berffaith, gan effeithio ar y galw a'r cyflenwad o staff.<\/p>\n<p>Nid oes digon o weithwyr gofal cymdeithasol ac mae gormod o bobl angen gofal. Yn \u00f4l y <a href=\"https:\/\/cy.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/populationandmigration\/populationestimates\/bulletins\/populationandhouseholdestimateswales\/census2021?_gl=1*6q6t39*_ga*MjAyNjg3NzQyOC4xNjY1NDc1OTIw*_ga_W804VY6YKS*MTY2NTQ3NTkyMC4xLjAuMTY2NTQ3NTkyMC42MC4wLjA.\">cyfrifiad<\/a> diweddaraf mae nifer y bobl sy\u2019n byw yng Nghymru wedi codi bron i 20 y cant ers y 1950au, ac mae un o bob pump o\u2019n poblogaeth o 3.1 miliwn bellach yn 65 oed neu\u2019n h\u0177n. Mewn rhai rhanbarthau yng Nghymru, mae pobl h\u0177n yn cyfrif am 27.8 y cant o gyfanswm y boblogaeth. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio daw anghenion iechyd cynyddol gymhleth a bydd y galw hwn yn debygol o gael ei ddwys\u00e1u gan yr argyfwng costau byw a'i effaith ar iechyd a lles.<\/p>\n<p>Effeithiwyd ar gyflenwad staff gan lai o fewnfudo ers Brexit, a nifer cynyddol o staff gofal cymdeithasol yn chwilio am waith ym maes gofal iechyd, manwerthu a lletygarwch. <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/review-of-adult-social-care-2022\/adult-social-care-and-immigration-accessible#chapter-2-the-social-care-labour-market\">Cynyddodd nifer y swyddi gwag ar gyfer staff gofal cymdeithasol ledled y DU 124 y cant<\/a> rhwng Ionawr 2019 a Chwefror 2022. Ym mis Medi 2021 roedd adroddiadau bod <a href=\"https:\/\/www.thenational.wales\/news\/19580076.700-unfilled-jobs-care-sector-wales\/\">700 o swyddi gwag<\/a> yn y sector gofal yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae cyfraddau uchel o swyddi gwag yn gysylltiedig \u00e2 chyflogau gwael, rheoleiddio ac amodau gwaith. Roedd gweithwyr gofal cymdeithasol yn arfer cael eu talu premiwm dros alwedigaethau eraill fel manwerthu a lletygarwch, gyda chyflog fesul awr dros 5 y cant yn fwy yn 2011. Gostyngodd y premiwm hwn i <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/review-of-adult-social-care-2022\/adult-social-care-and-immigration-accessible\">1 y cant<\/a> yn unig yn 2021. Mae gwahaniaethau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol hefyd wedi cynyddu, gyda thelerau, amodau a dilyniant yn cael eu rheoleiddio a'u safoni'n well mewn gofal iechyd. Er bod system reoleiddio ac arolygu genedlaethol yng Nghymru, mae darpariaeth gofal cymdeithasol yn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/2427479-older-adult-social-care-needs-reforming-and-resourcing,-concludes-report\">dameidiog iawn<\/a>. Mae nifer o gyflogwyr, dim un corff unigol ar gyfer pennu t\u00e2l, a phennir y pris a delir am ofal gan Awdurdodau Lleol gan drafodaethau unigol rhwng comisiynwyr a darparwyr annibynnol.<\/p>\n<p>Cafodd amodau gwaith gwael ganlyniadau trychinebus ar staff gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19. Roedd cyfraddau marwolaethau COVID-19 ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/healthandsocialcare\/causesofdeath\/bulletins\/coronaviruscovid19relateddeathsbyoccupationenglandandwales\/deathsregisteredbetween9marchand28december2020#deaths-involving-covid-19-among-men-and-women-health-and-social-care-workers\">gweithwyr gofal preswyl a chartref<\/a> ddwbl y cyfraddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd. Mae gweithwyr gofal yng Nghymru wedi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/centre-for-trials-research\/research\/studies-and-trials\/view\/oscar\">adrodd ar y ffactorau<\/a> a oedd yn eu rhoi mewn perygl yn ystod y pandemig: diffyg Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a PPE o ansawdd gwael; t\u00e2l salwch statudol gwael; contractau achlysurol neu ddim oriau; a'r gofyniad i roi'r gorau i gyflogaeth ychwanegol, ymhlith eraill. Aeth y rheiny a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio, eu tangyflogi a nad oeddent yn cael eu cefnogi\u2019n ddigonol drwy\u2019r pandemig ati i geisio cyflogaeth arall.<\/p>\n<p>Nid yw gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi\u2019n ddigonol, yn rhannol oherwydd ei fod yn cael ei danariannu\u2019n barhaus. Gostyngodd cyllid gofal cymdeithasol bron i 2 y cant y flwyddyn rhwng 2010 a 2015 ac o'i addasu ar gyfer nifer cynyddol y bobl sydd angen gofal, mae'r gostyngiad mewn cyllid yn parhau i fod yn <a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/publications\/long-reads\/health-and-social-care-funding\">sylweddol<\/a>. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Medi 2021 o fuddsoddiad cynyddol mewn gofal cymdeithasol yn cynyddu\u2019r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac er nad yw\u2019n glir sut y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio, mae\u2019n amlwg na fydd yn ddigonol. Mae'r argyfwng costau byw eisoes yn cyflymu, gyda phrisiau petrol uwch yn effeithio'n andwyol ar staff gofal cymdeithasol, a chynnydd mewn costau gwresogi a bwyd yn effeithio ar y gofal a ddarperir. Er mwyn gwella ansawdd gofal, mae angen gweithlu medrus sy'n cael ei dalu'n briodol; mae tanfuddsoddi hirdymor yn y system yn awgrymu y gallai'r uchelgais hwn fod yn anodd ei wireddu.<\/p>\n<p>Er mwyn llywio\u2019r amrywiaeth gymhleth hon o ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol mae angen dull cydlynol a chynhwysfawr, cyn i\u2019r argyfwng hwn droi yn fethiant llwyr.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth sy\u2019n cael ei wneud i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng?<\/strong><\/p>\n<p>Mae darnau allweddol o ddeddfwriaeth a pholisi datganoledig yn gosod y fframwaith ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 materion gweithlu gofal cymdeithasol, yn arbennig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018) a strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2020). Mae elfennau cyffredin ar draws y rhain, gan wthio am ddarpariaeth 'ddi-dor' ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac ymdrechion cynyddol i fynd i'r afael \u00e2'r galw trwy fesurau iechyd poblogaeth ataliol. Mae gwerth y gweithlu yn nodwedd ganolog, ac un o'r <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cymru-iachach-cynllun-hirdymor-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol?_ga=2.92710813.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">pedwar piler llwyddiant<\/a> yw datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy.<\/p>\n<p>Er gwaethaf y fframwaith polisi cefnogol hwn, mae Cymru yn dal i wynebu argyfwng gweithlu ac\u00edwt. Mewn <a href=\"https:\/\/busnes.senedd.cymru\/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37814\">ymgynghoriad diweddar<\/a>, roedd llawer yn canmol y strategaeth gweithlu 'rhagorol' ond gan dynnu sylw at yr heriau o fynd i'r afael \u00e2'r argyfwng tra\u2019n rhoi sylw i ddarparu gofal gyda gweithlu annigonol. Mae\u2019r addewid i weithredu\u2019r <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/staff-gofal-cymdeithasol-i-ennill-y-cyflog-byw-gwirioneddol?_ga=2.92710813.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">cyflog byw go iawn<\/a> ar gyfer staff gofal cymdeithasol wedi\u2019i groesawu, ond yn cael ei ystyried yn annigonol, gyda llawer yn tynnu sylw at y ffaith y dylai cyflog teg fod yn <a href=\"https:\/\/business.senedd.wales\/documents\/s121587\/Letter%20from%20Unison%20to%20the%20Chair%20regarding%20the%20health%20and%20social%20care%20workforce%20-%2014%20December%202021.html?CT=2\">strategaeth gyflog briodol, wedi\u2019i negodi\u2019n llawn<\/a>, sy\u2019n cydnabod lefelau gwahanol o ran sgiliau a chyfrifoldebau ac yn talu yn unol \u00e2 hynny.<\/p>\n<p>Mae gwaith pellach yn cael ei gynnal i geisio mynd i'r afael \u00e2'r heriau hyn. Mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/fforwm-gwaith-teg-gofal-cymdeithasol\/datganiad-sefyllfa?_ga=2.46965799.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">Fforwm Gwaith Gofal Cymdeithasol<\/a> wedi'i sefydlu i ddod \u00e2'r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau ynghyd i adolygu t\u00e2l, telerau ac amodau gweithwyr gofal.\u00a0 Mae gr\u0175p arbenigol wedi'i sefydlu i archwilio'r broses o greu <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-grwp-arbenigol?_ga=2.20967352.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol<\/a>, a disgwylir argymhellion yn fuan. Mae\u2019r Papur Gwyn ar \u2018<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/gwella-trefniadau-gofal-cymdeithasol-gwaith-partneriaeth?_ga=2.118312841.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">ail-gydbwyso gofal a chymorth<\/a>\u2019 yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu fframwaith comisiynu cenedlaethol i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhaniad mewn darpariaeth gofal cymdeithasol, a gwella telerau ac amodau ar draws y sector yng Nghymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>A fydd hyn yn ddigon?<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r ymdrechion i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn sylweddol. Mae polis\u00efau\u2019n amlinellu\u2019r angen i drwsio\u2019r gwasanaethau gofal cymdeithasol darniog, a gwella\u2019r broses o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, i gleifion ac i\u2019r gweithluoedd sy\u2019n darparu gofal. Mae'r ymdrechion hyn yn gweithredu mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd cynyddol heriol. Rydym eto i weld a oes modd gwireddu dyheadau polisi system integredig sy\u2019n darparu hyfforddiant, cyllid a chymorth i staff yn ddigon cyflym i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng hwn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y neges gyson mewn cyflwyniadau diweddar i ymchwiliad y Senedd ar y strategaeth gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw bod y gweithlu gofal cymdeithasol mewn 'argyfwng'. Mae gwasanaethau'n cael trafferth dod o hyd i staff neu eu cadw. Ac, wrth gwrs, mae darparu gofal o ansawdd uchel yn dibynnu ar y gweithwyr gofal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":17408,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15335","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"dom-care-smaller.jpg","filesize":539284,"sizes":{"medium":{"file":"dom-care-smaller-744x397.jpg","width":744,"height":397,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50523,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller-744x397.jpg"},"large":{"file":"dom-care-smaller-1200x640.jpg","width":1200,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":109750,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller-1200x640.jpg"},"thumbnail":{"file":"dom-care-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":52305,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"dom-care-smaller-768x409.jpg","width":768,"height":409,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53355,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller-768x409.jpg"},"1536x1536":{"file":"dom-care-smaller-1536x819.jpg","width":1536,"height":819,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":168750,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller-1536x819.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"dom-care-smaller-1920x1066.jpg","width":1920,"height":1066,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":293605,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller-1920x1066.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"12668","name":"dom-care-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/dom-care-smaller.jpg","title":"dom-care-smaller","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15335","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15335"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15335\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16514,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15335\/revisions\/16514"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17408"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15335"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15335"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15335"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15335"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}