{"id":15334,"date":"2022-10-12T09:57:40","date_gmt":"2022-10-12T09:57:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/a-yw-cynlluniau-llywodraeth-cymru-ar-gyfer-gweithrediaeth-gig-cymru-yn-gyfle-wedii-golli\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:31","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:31","slug":"a-yw-cynlluniau-llywodraeth-cymru-ar-gyfer-gweithrediaeth-gig-cymru-yn-gyfle-wedii-golli","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/a-yw-cynlluniau-llywodraeth-cymru-ar-gyfer-gweithrediaeth-gig-cymru-yn-gyfle-wedii-golli\/","title":{"rendered":"A yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithrediaeth GIG Cymru yn gyfle wedi\u2019i golli?"},"content":{"rendered":"<p>Gyda chymaint o\u2019r ffocws sydd ar y GIG yn ymwneud ag amseroedd aros, hawdd iawn oedd colli\u2019r <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-yr-wybodaeth-ddiweddaraf-am-sefydlu-gweithrediaeth-y-gig-i-gymru?_ga=2.50710185.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am Weithrediaeth GIG Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>Gall hyn ymddangos fel tacteg biwrocrataidd i dynnu sylw oddi ar faterion pwysicach, ond mae sefydlu Gweithrediaeth GIG yn rhywbeth sy\u2019n cael ei ystyried ers tro fel diwygiad hanfodol i\u2019r broses o lywodraethu\u2019r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cyn belled yn \u00f4l \u00e2 2016, <a href=\"https:\/\/www.oecd.org\/unitedkingdom\/oecd-reviews-of-health-care-quality-united-kingdom-2016-9789264239487-en.htm\">fe wnaeth<\/a> yr OECD alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried 'llaw ganolog gryfach ar y llyw' i ysgogi gwelliant ystyrlon yn y system iechyd a gofal.<\/p>\n<p>Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd hyn ei adleisio yn yr <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/adolygiad-o-iechyd-gofal-cymdeithasol-adroddiad-terfynol?_ga=2.79146772.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">Adolygiad Seneddol<\/a>, a aeth ymhellach wrth ddisgrifio\u2019r hyn oedd ei angen i gyflawni \u2018cynnydd ystyrlon\u2019:<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\">\u201c<em>cyfuniad ehangach a mwy creadigol o gefnogaeth genedlaethol; cymhellion; meincnodi (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol); rheoleiddio; atebolrwydd a thryloywder<\/em>\u201d<\/p>\n<p>Roedd yr Adolygiad yn dadlau dros swyddogaeth weithredol genedlaethol GIG Cymru gyda\u2019r gallu i ddatblygu a chyflawni\u2019r dull newydd hwn, sy\u2019n cael ei ystyried yn hanfodol i gyflawni\u2019r newid angenrheidiol ar draws y system.<\/p>\n<p>Ac fel mae ein hymdrechion i <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/sut-olwg-sydd-ar-system-iechyd-a-gofal-cymdeithasol-cymru\/\">fapio'r trefniadau atebolrwydd a chyllid yn ei ddangos<\/a>, mae bendant lle i symleiddio\u2019r trefniadau presennol.<\/p>\n<p>Felly, beth ydym ni\u2019n ei wybod erbyn hyn am gynlluniau Llywodraeth Cymru?<\/p>\n<p>Ymateb Llywodraeth Cymru i\u2019r Adolygiad Seneddol oedd <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/adolygiad-o-iechyd-gofal-cymdeithasol-adroddiad-terfynol?_ga=2.79146772.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">Cymru Iachach<\/a> \u2013 cynllun hirdymor ar gyfer trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol. Yn hyn o beth, cytunodd y Llywodraeth ag argymhelliad yr Adolygiad ynghylch yr angen i ddiwygio trefniadau llywodraethu\u2019r system, gan ymrwymo i sefydlu Gweithrediaeth GIG newydd erbyn diwedd 2018.<\/p>\n<p>Cafodd y cynlluniau hyn eu hoedi yn 2020 wrth i\u2019r system ymateb i\u2019r pandemig. Ond cyhoeddodd y diweddariad <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-yr-wybodaeth-ddiweddaraf-am-sefydlu-gweithrediaeth-y-gig-i-gymru?_ga=2.79146772.1828153338.1665387667-1825559549.1638176921\">diweddar<\/a> fod Gweithrediaeth newydd y GIG bellach yn cael ei sefydlu, gan roi ambell gliw o ran y r\u00f4l y bydd yn ei chwarae.<\/p>\n<p>Roedd cynlluniau i sefydlu sefydliad newydd \u2013 Awdurdod Iechyd Arbennig newydd \u2013 ond cyhoeddodd y Gweinidog yn lle hynny y byddai\u2019r Weithrediaeth yn \u201cfodel hybrid\u201d gydag \u201cuwch-d\u00eem bach, cryfach\u201d yn Llywodraeth Cymru, a byddai\u2019n dwyn ynghyd swyddogaethau presennol ar draws y GIG.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ymddangos y bydd y t\u00eem bach hwn yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda thimau presennol \u2013 yn arbennig y rheiny sydd \u00e2\u2019u ffocws ar wella, perfformiad a chynllunio ar lefel genedlaethol \u2013 gyda rhai ohonynt yn symud i\u2019r Weithrediaeth a rhai yn aros yn eu hunfan, ond yn cael eu cyfarwyddo gan y t\u00eem yn Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Beth mae hyn yn ei olygu i\u2019r agenda drawsnewid? Ac a fydd hyn yn bodloni'r angen hirdymor am ddiwygio\u2019r broses lywodraethu? Bydd llawer yn dibynnu ar y manylion, sydd eto i'w pennu. Ond, ar y cyswllt cyntaf, nid yw'r \u201cmodel hybrid\u201d yn gwneud dim i symleiddio'r system. Ac mae wedi <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-61499668\">siomi'r<\/a> rhai a oedd yn gobeithio am fwy o wahaniaeth rhwng polisi a throsolwg a rheolaeth strategol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r hyn sy\u2019n cael ei gynnig yn parhau \u00e2\u2019r potensial i (ail)ddylunio a gweithredu system gydlynol o oruchwylio, herio a chefnogi sy\u2019n ysgogi newid ar gyflymder a graddfa. Ond rhaid aros i weld a fydd gan y Weithrediaeth newydd y gallu a'r safle o fewn y system i allu mynd i'r afael \u00e2 chymhlethdodau a gwleidyddiaeth ceisio cyflawni hyn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gyda chymaint o\u2019r ffocws sydd ar y GIG yn ymwneud ag amseroedd aros, hawdd iawn oedd colli\u2019r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am Weithrediaeth GIG Cymru. Gall hyn ymddangos fel tacteg biwrocrataidd i dynnu sylw oddi ar faterion pwysicach, ond mae sefydlu Gweithrediaeth GIG yn rhywbeth sy\u2019n cael ei ystyried ers tro fel diwygiad hanfodol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13552,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15334","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"NHS-Hospital.jpg","filesize":797272,"sizes":{"medium":{"file":"NHS-Hospital-744x497.jpg","width":744,"height":497,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61261,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x497.jpg"},"large":{"file":"NHS-Hospital-1200x801.jpg","width":1200,"height":801,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":149232,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1200x801.jpg"},"thumbnail":{"file":"NHS-Hospital-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53487,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"NHS-Hospital-768x513.jpg","width":768,"height":513,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64704,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-768x513.jpg"},"1536x1536":{"file":"NHS-Hospital-1536x1026.jpg","width":1536,"height":1026,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":244799,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1536x1026.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"NHS-Hospital-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":329301,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9397","name":"NHS-Hospital.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital.jpg","title":"NHS-Hospital.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15334","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15334"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15334\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16513,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15334\/revisions\/16513"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13552"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15334"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15334"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15334"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15334"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}