{"id":15320,"date":"2022-09-23T11:04:07","date_gmt":"2022-09-23T11:04:07","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ydy-datganoli-wedi-llwyddo\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:29","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:29","slug":"ydy-datganoli-wedi-llwyddo","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ydy-datganoli-wedi-llwyddo\/","title":{"rendered":"Ydy Datganoli wedi Llwyddo?"},"content":{"rendered":"<p>Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gefnogaeth gyhoeddus i ddatganoli yng Nghymru. Mwyafrif bach iawn oedd o blaid creu Cynulliad Cymreig yn refferendwm 1997. Bellach mae llai nag 1 o bob 5 o'r boblogaeth oedolion yn dweud y bydden nhw'n pleidleisio i wyrdroi'r penderfyniad hwnnw, tra bod traean eisiau i'r Senedd gael mwy o bwerau. Mae 40% o bobl 16-24 oed, y genhedlaeth gyntaf i dyfu i fyny gyda datganoli, yn ffafrio annibyniaeth lawn. Ond a yw cefnogaeth y cyhoedd yn golygu y gellir datgan bod datganoli yn llwyddiant, neu a ddylem fod yn gofyn mwy ganddo?<\/p>\n<p>I lawer, roedd yr achos dros y Cynulliad yn un normadol, yn canolbwyntio'n bennaf ar hunaniaeth genedlaethol a hunan-benderfyniad. Ond roedd ymgyrch 'Ie' 1997 hefyd yn dibynnu'n drwm ar y ddadl 'swyddogaethol' fod angen polis\u00efau cynhenid ar Gymru sydd wedi'u teilwra i'w chyd-destun cymdeithasol-economaidd a gwleidyddol unigryw ei hun.\u00a0 Addawyd i ni y byddai hyn yn rhoi gwell llywodraethiant i ni, gwasanaethau cyhoeddus mwy ymatebol, ac economi gryfach.\u00a0 Ddegawd yn ddiweddarach, dyna oedd dadl Comisiwn Richard a'r Ysgrifennydd Gwladol o hyd.\u00a0 Dadl Peter Hain oedd mai\u2019r prawf terfynol o ran Cynulliad cryfach oedd a fyddai o fudd i Gymru \u2018yn ymarferol\u2019, tra bod y Barwn Richard o\u2019r farn y gallai Cynulliad \u00e2 mwy o bwerau ddarparu \u2018llywodraeth fwy agored, cyfranogol ac ymatebol\u2019 a \u2018chanlyniadau polisi gwell\u2019.<\/p>\n<p>Felly a gafwyd gwell llywodraethiant a gwell canlyniadau i gyfateb i lwyddiant gwleidyddol datganoli?<\/p>\n<p>Yn gynnar iawn, siaradodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan, am <a href=\"https:\/\/www.sochealth.co.uk\/the-socialist-health-association\/sha-country-and-branch-organisation\/sha-wales\/clear-red-water\/\">'dd\u0175r coch clir'<\/a> rhwng Caerdydd a San Steffan. Gan ymbellhau oddi wrth fodel Blair o ddewis y\u00a0 defnyddiwr a chystadleuaeth rhwng gwasanaethau, roedd Gweinidogion Cymru yn arddel dull 'dinesydd-ganolog\u2019 a oedd yn dibynnu ar bartneriaeth gydag awdurdodau lleol a rhyngddynt. Ac roedd gwahaniaethau trawiadol o gymharu \u00e2 pholis\u00efau llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, parcio mewn ysbytai, brecwast yn yr ysgol, a nofio i blant a phobl h\u0177n; mabwysiadu Comisiynydd Plant yn gynnar, peidio \u00e2 gwystlo cyllidebau llywodraeth leol, a gwrthod y drefn \u2018Gwerth Gorau\u2019 o blaid hunanasesu gan gynghorau.\u00a0 Ddegawd yn ddiweddarach, y Cynulliad oedd y ddeddfwriaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno t\u00e2l gorfodol am fagiau siopa untro. Erbyn 2014, roedd wedi creu fframwaith statudol unigryw ar gyfer taclo digartrefedd.\u00a0 Y flwyddyn ganlynol daeth \u00e2 deddfwriaeth i rym oedd yn arwain y byd o ran hybu llesiant cenedlaethau\u2019r dyfodol. Ac yn fwy diweddar cawsom: agwedd benodol Llywodraeth Cymru ei hun at gyfyngiadau Covid-19; <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/parental-physical-punishment-child-outcomes-and-attitudes\/\">gwahardd cosb gorfforol i rieni<\/a> ym mis Mawrth eleni; <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/creu-cymru-wrth-hiliol\/\">cyd-greu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru<\/a>, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin; a chyflwyno cwricwlwm ysgol newydd y mis yma, ynghyd \u00e2 phrydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, ni ellir dweud bod yr un o'r polis\u00efau 'Cymreig' unigryw hyn wedi achosi newid sylweddol yn hynt dangosyddion economaidd a chymdeithasol allweddol. Fel gweddill y Deyrnas Unedig, mae Cymru wedi brwydro i godi lefel cynhyrchiant neu leihau tlodi. Ond mae'n amlwg yn afrealistig disgwyl hynny gan lywodraeth ddatganoledig sydd heb fawr o reolaeth dros bolisi macro-economaidd na'r system fudd-daliadau. Efallai y dylem fod yn edrych, yn lle, am ddifidend datganoli mewn meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, trafnidiaeth, a llywodraeth leol, y mae\u2019r Cynulliad\/Senedd wedi bod yn eu goruchwylio yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Y broblem yw bod <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/comparing-council-performance-the-feasibility-of-cross-national-comparisons-within-the-uk\/\">diffyg data cadarn i olrhain perfformiad y gwasanaethau hyn<\/a> yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, neu gymharu hyn \u00e2 rhannau eraill o\u2019r Deyrnas Unedig. Felly nid ydym yn gwybod a yw gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bellach yn well, yn waeth, neu tua'r un fath ag y buasent petai pleidleiswyr wedi gwrthod creu'r Cynulliad yn \u00f4l yn 1997.<\/p>\n<p>Mae un maes arall y gellid disgwyl i ddatganoli fod wedi cael effaith amlwg ynddo \u2013 dylai fod wedi rhoi\u2019r gallu i ni feithrin agwedd unigryw at sut caiff polis\u00efau eu llunio a\u2019u gweithredu.<\/p>\n<p>Dylai gwlad fach sydd \u00e2 chymuned bolisi glos a lefel anarferol o ddilyniant gwleidyddol allu datblygu a gweithredu polisi mewn ffyrdd nad oeddent yn bosibl cyn datganoli. Weithiau mae adrannau Llywodraeth Cymru yn dal i weithio o fewn y \u2018seilos\u2019 a etifeddwyd ganddynt o Whitehall, ond mewn theori dylent fod mewn sefyllfa dda i ddatblygu dulliau cyd-gysylltiedig o ymdrin \u00e2 heriau polisi trawsbynciol. Mae'r map llywodraeth leol a gafodd ei lunio yng nghoridorau ac ystafelloedd pwyllgora San Steffan yng nghanol y 1990au yn dal yn ei le. Ac mae'r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/papur-briffio-tystiolaeth\/\">trefniadau llywodraethu is-ranbarthol a rhanbarthol cymhleth sy'n gorgyffwrdd a<\/a> osodwyd arno wedi cymylu'r llinellau atebolrwydd ac arwain at ludded yn y bartneriaeth. Ond mae\u2019r gallu i ddod \u00e2 phedwar pennaeth yr heddlu, 22 arweinydd yr awdurdodau lleol, saith prif weithredwr y byrddau iechyd, a llunwyr penderfyniadau allweddol eraill ynghyd mewn un ystafell (neu ar un Zoom) yn golygu eu bod yn gallu cydlynu eu cynlluniau a\u2019u camau gweithredu, fel y gwelsom yn ystod y pandemig. Mae <a href=\"https:\/\/www.futuregenerations.wales\/about-us\/future-generations-act\/\">Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol<\/a> yn darparu fframwaith trosfwaol sy\u2019n rhoi ymdeimlad o ddiben a blaenoriaethau a rennir, ac mae cefnogaeth eang i\u2019r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. Bellach mae gan Gymru fynediad at ymchwil o bob rhan o\u2019r Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd, o ganlyniad i fuddsoddiadau mewn cyfryngwyr tystiolaeth fel <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/\">Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/healthandcareresearchwales.org\/about-research-community\/wales-covid-19-evidence-centre\">Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru<\/a>, a Chanolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fydd yn cael ei chreu\u2019n fuan. Y broblem yw bod cyni wedi erydu\u2019r \u2018capasiti amsugno\u2019, sy\u2019n angenrheidiol i weithredu ar sail y dystiolaeth er mwyn cyflawni dyheadau\u2019r Ddeddf Llesiant. <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/wedi-cyrraedd-y-pwynt-tyngedfennol-llywodraeth-leol-cymru-a-chyni\/\">Mae toriadau i gyllideb llywodraeth leol<\/a> wedi gorfodi cynghorau i golli staff sy\u2019n gweithio mewn rolau dadansoddol er mwyn diogelu \u2018gwasanaethau rheng flaen\u2019, ac mae <a href=\"https:\/\/www.audit.wales\/cyhoeddiad\/welsh-government-workforce-planning-and-management\">Archwilio Cymru<\/a> yn adrodd bod Llywodraeth Cymru bellach yn cyflogi 9% yn llai o staff cyfwerth ag amser llawn nag yn 2009\/2010 wrth geisio rheoli costau.\u00a0 Nid yw\u2019r pwysau ariannol hyn yn mynd i leddfu\u2019n fuan, ond un o\u2019r heriau allweddol ar gyfer y 25 mlynedd nesaf yw dod o hyd i ffordd o adeiladu\u2019r capasiti a\u2019r gallu polisi sydd eu hangen ar lywodraeth genedlaethol a lleol i\u2019w galluogi i ddatblygu a chyflawni polis\u00efau sydd wir yn gwella bywydau pobl Cymru, fel ein bod yn elwa\u2019n llawn o\u2019r bleidlais \u2018Ie\u2019 honno ym 1997.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gefnogaeth gyhoeddus i ddatganoli yng Nghymru. Mwyafrif bach iawn oedd o blaid creu Cynulliad Cymreig yn refferendwm 1997. Bellach mae llai nag 1 o bob 5 o'r boblogaeth oedolion yn dweud y bydden nhw'n pleidleisio i wyrdroi'r penderfyniad hwnnw, tra bod traean [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12682,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[141],"research-and-impact":[132],"class_list":["post-15320","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-llywodraeth-leol","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"senedd-sign-cropped-1-scaled.jpg","filesize":918603,"sizes":{"medium":{"file":"senedd-sign-cropped-1-744x466.jpg","width":744,"height":466,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":101375,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-744x466.jpg"},"large":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1200x752.jpg","width":1200,"height":752,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":244080,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1200x752.jpg"},"thumbnail":{"file":"senedd-sign-cropped-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91758,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"senedd-sign-cropped-1-768x481.jpg","width":768,"height":481,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":107471,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-768x481.jpg"},"1536x1536":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1536x962.jpg","width":1536,"height":962,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":383519,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1536x962.jpg"},"2048x2048":{"file":"senedd-sign-cropped-1-2048x1283.jpg","width":2048,"height":1283,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":632166,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-2048x1283.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":507084,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"senedd-sign-cropped-1.jpg","ID":"12682","name":"senedd-sign-cropped-1-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-scaled.jpg","title":"senedd-sign-cropped-1","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15320","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15320"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15320\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16512,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15320\/revisions\/16512"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12682"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15320"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15320"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15320"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15320"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}