{"id":15316,"date":"2022-09-26T02:00:47","date_gmt":"2022-09-26T02:00:47","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-syn-creu-strategaeth-wrthdlodi-effeithiol\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:28","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:28","slug":"beth-syn-creu-strategaeth-wrthdlodi-effeithiol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-syn-creu-strategaeth-wrthdlodi-effeithiol\/","title":{"rendered":"Beth sy\u2019n creu strategaeth wrthdlodi effeithiol?"},"content":{"rendered":"<p>Ni wnaeth diffyg strategaeth wrthdlodi atal Llywodraeth Cymru rhag gweithredu yn ystod y pandemig i fynd i'r afael \u00e2 thlodi yng Nghymru. O ddarparu arian, talebau neu becynnau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol i blant \u00e2 hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim, i ganiat\u00e1u i deuluoedd cymwys hawlio grant datblygu disgyblion bob blwyddyn ar gyfer hanfodion fel gwisg ysgol, mae'n amlwg nad oes angen i weithredu aros am strategaeth.<\/p>\n<p>Ond ydy hynny'n golygu nad oes angen strategaeth wrthdlodi byth mewn gwirionedd? Yn sicr, canfu ein hymchwil ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a fu\u2019n edrych ar effeithiolrwydd strategaethau gwrthdlodi yng Nghanada, Seland Newydd, yr Almaen, Sbaen a'r Alban, amheuaeth gyffredinol bod strategaethau o'r fath yn amleiriog, ond yn ddiffygiol o ran gweithredu.<\/p>\n<p>Dangosodd ein hymchwil hefyd, fodd bynnag, nad oes rhaid i hynny fod yn wir. <strong>Gall strategaethau gwrthdlodi fod yn effeithiol cyn belled ag y deellir pryd mae angen amdanynt a beth ydynt - yn ogystal \u00e2'r hyn nad ydynt. <\/strong><\/p>\n<p>Ni all unrhyw strategaeth fod yn effeithiol os yw'n dechrau bywyd fel rhestr hollgynhwysol: gwahoddiad i adrannau, byrddau ac eraill nodi pethau y maent eisoes yn eu gwneud, gyda\u2019r pethau hynny, o graffu arnynt ag un llygad yn hanner caeedig, yn rhai y gellid o bosib ystyried bod ganddynt ryw gysylltiad \u00e2 thlodi. Mae dau reswm pam mae'r dull 'strategaeth ar ffurf rhestr' yn aneffeithiol.<\/p>\n<p>Y cyntaf yw ei fod yn tanseilio unrhyw ymdeimlad o flaenoriaethu. Mae\u2019n ddigon dealladwy, os yw popeth i fod yn flaenoriaeth, na fydd blaenoriaethau mewn gwirionedd. <strong>Os yw am fod yn effeithiol, rydym yn awgrymu bod yn rhaid i strategaeth wrthdlodi fod yn ddidostur, a chynnwys y camau gweithredu y bernir eu bod yn flaenoriaethau yn unig.<\/strong> O fynd i\u2019r eithaf, gall hyn hyd yn oed olygu (fel y dangosodd astudiaeth achos yr Almaen) strategaeth sy'n cynnwys un weithred yn unig.<\/p>\n<p>Yr ail yw bod drysu rhwng y strategaeth a'r rhestr o bolis\u00efau neu gamau gweithredu gwrthdlodi sy'n cysgodi oddi tani yn hepgor y r\u00f4l y gallai'r strategaeth gwrthdlodi <em>ei hun <\/em>ei chwarae. Ar sail ein hymchwil, y <strong>r\u00f4l hon yw galluogi a chynnal gweithredu lle nad yw\u2019r rhai sydd eisiau gweithredu ynghylch tlodi fel arfer mewn sefyllfa i weithredu eu hunain.\u00a0 <\/strong>Mewn sefyllfa o'r fath, mae angen rhwydwaith o gysylltiadau rhwng unigolion a sefydliadau sy\u2019n gweithio ar y cyd i ddewis, siapio a chefnogi'r camau gweithredu o fewn y strategaeth a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol.<\/p>\n<p>Os yw'r rhwydwaith hwn i osgoi troi\u2019n siop siarad, mae angen iddo ganiat\u00e1u ar gyfer deialog adeiladol. Dyma lle caiff gofynion delfrydyddol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, eu troi\u2019n gynlluniau gweithredu ymarferol a realistig y bernir eu bod, o'u troi'n weithredoedd (allbynnau), yn gallu cyrraedd y canlyniadau hynny. Y tensiwn adeiladol hwn rhwng delfrydiaeth sydd eisiau mwy a realaeth sy'n mynd mor bell ag y gall - ond nid ymhellach - sydd wrth wraidd strategaeth effeithiol. Hebddo, mae strategaeth yn farw.\u00a0 Mewn geiriau eraill, mae strategaeth gwrthdlodi effeithiol yn ddyfais i sicrhau bod p\u0175er yn cael ei arfer ar bob lefel, gan geisio cyflawni set gyffredin o nodau.<\/p>\n<p>Mae dau bwynt cysylltiedig pellach yma. Un yw nad y chwaraewyr hanfodol mewn strategaeth effeithiol yw'r rhai sy'n galw am weithredu na'r rhai a fydd yn gwerthuso ei lwyddiant, fel arfer ymhell wedi\u2019r digwyddiad. Yn hytrach, y cymeriadau hanfodol yw\u2019r cynllunwyr a'r llunwyr polisi manwl sy'n gorfod, wrth ymgodymu ag ymarferoldeb cynllun, cadw\u2019r ddysgl yn wastad rhwng delfrydiaeth a realaeth.<\/p>\n<p>Y pwynt arall yw, os yw'r cynllunwyr a'r dylunwyr polisi hyn yn ddoeth, byddant yn sicrhau mai\u2019r unigolion sydd \u00e2 phrofiad bywyd uniongyrchol o dlodi a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw yw eu cynghreiriaid pwysicaf. <strong>Yn syml, ni ellir gorbrisio mewnwelediad y rhai sydd \u00e2 dealltwriaeth ar sail profiad wrth ystyried yn union sut y dylid gwneud pethau. <\/strong><\/p>\n<p>Yn y fan hon dylem nodi\u2019n eglur bod strategaeth wrthdlodi yn cyflawni\u2019r r\u00f4l hon, sef dod \u00e2\u2019r rhai sydd am weithredu a'r rhai sydd mewn sefyllfa i wneud hynny at ei gilydd, p\u2019un a yw\u2019n strategaeth i wladwriaeth sofran ac yn cael ei harwain yn bersonol gan y Prif Weinidog (Seland Newydd) neu\u2019n perthyn i lefel o lywodraeth nad oes ganddi, o dan y cyfansoddiad, statws cyfreithiol i weithredu ar dlodi ei hun (talaith Baden-W\u00fcrttemberg yn yr Almaen). Yn yr holl achosion hyn, mae effeithiolrwydd yn dibynnu ar bersw\u00e2d, pwysau a gwrthiant, ac addasu.<\/p>\n<p>Dim ond pan na fydd angen gwneud dim ond trosglwyddo arian i grwpiau o bobl a nodwyd trwy weithdrefnau hirsefydlog y mae strategaeth yn ddiangen. Yma, ac o bosib yma yn unig, y mae cytundeb ar y lefel uchaf - yn y cabinet neu ar lefel gweinidogol - yn debygol o fod yn ddigonol.<\/p>\n<p>Mewn cyferbyniad, os y nod yw gwella tai gwael neu iechyd gwael y rhai sy'n byw mewn tlodi, mae angen strategaeth wrthdlodi i sicrhau bod y nifer fawr o bobl ac asiantaethau, cyhoeddus a phreifat, sy'n gorfod gweithredu mewn ffyrdd newydd neu wahanol, yn wir yn gwneud hynny.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ni wnaeth diffyg strategaeth wrthdlodi atal Llywodraeth Cymru rhag gweithredu yn ystod y pandemig i fynd i'r afael \u00e2 thlodi yng Nghymru. O ddarparu arian, talebau neu becynnau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol i blant \u00e2 hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim, i ganiat\u00e1u i deuluoedd cymwys hawlio grant datblygu disgyblion bob blwyddyn ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15295,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15316","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"bills-cropped-scaled.jpg","filesize":304296,"sizes":{"medium":{"file":"bills-cropped-744x385.jpg","width":744,"height":385,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48661,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-744x385.jpg"},"large":{"file":"bills-cropped-1200x622.jpg","width":1200,"height":622,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":95237,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-1200x622.jpg"},"thumbnail":{"file":"bills-cropped-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50321,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"bills-cropped-768x398.jpg","width":768,"height":398,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50417,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-768x398.jpg"},"1536x1536":{"file":"bills-cropped-1536x796.jpg","width":1536,"height":796,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":137727,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-1536x796.jpg"},"2048x2048":{"file":"bills-cropped-2048x1061.jpg","width":2048,"height":1061,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":214131,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-2048x1061.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"bills-cropped-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":201684,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"bills-cropped.jpg","ID":"15295","name":"bills-cropped-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-scaled.jpg","title":"bills-cropped.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/bills-cropped-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15316","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15316"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15316\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16510,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15316\/revisions\/16510"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15295"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15316"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15316"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15316"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15316"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}