{"id":15315,"date":"2022-09-30T08:00:32","date_gmt":"2022-09-30T08:00:32","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/hyrwyddo-llwybrau-allan-o-dlodi-ac-atal-peryglon-mynd-i-dlodi\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:27","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:27","slug":"hyrwyddo-llwybrau-allan-o-dlodi-ac-atal-peryglon-mynd-i-dlodi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/hyrwyddo-llwybrau-allan-o-dlodi-ac-atal-peryglon-mynd-i-dlodi\/","title":{"rendered":"Hyrwyddo llwybrau allan o dlodi - ac atal peryglon mynd i dlodi"},"content":{"rendered":"<p>Rhaid i alluogi 'llwybrau' allan o dlodi fod yn un o nodau sylfaenol unrhyw strategaeth wrthdlodi. Ond sut dylai strategaeth o'r fath geisio cyflawni hyn? A sut gallwn ni sicrhau bod y 'llwybrau' hyn yn trosi'n ostyngiadau ystyrlon mewn lefelau tlodi ledled Cymru?<\/p>\n<p>Ar draws gwledydd Ewrop, mae hyrwyddo gwaith \u00e2 th\u00e2l wedi dod yn ganolog i fentrau gwrthdlodi. Mae'r optimistiaeth y byddai mwyafu cyfraddau cyflogaeth yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn tlodi wedi goddef ergydion sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/society\/2021\/may\/26\/poverty-rate-among-working-households-in-uk-is-highest-ever\">wrth i gyfraddau tlodi mewn gwaith godi<\/a> a mathau o waith ansicr luosogi.\u00a0 Mae'r tueddiadau hyn yn dangos bod angen gwneud mwy, heblaw hybu a chreu cyflogaeth, yn yr ymgyrch yn erbyn tlodi. Ond ni allwn esgeuluso r\u00f4l gwaith cyflogedig wrth godi pobl allan o dlodi a chynnal safonau byw uwchlaw'r llinell dlodi. Mae cefnogi creu swyddi sy'n talu'n dda yn hanfodol bwysig, gan gynnwys drwy annog 'busnesau angor' fel y'u gelwir, y gall eu h\u00f4l troed sylweddol fod yn arwyddocaol wrth lunio marchnadoedd llafur lleol.<\/p>\n<p>Mae ymchwil ar dlodi mewn gwaith yn canfod mai faint o waith cyflogedig a gyflawnir ar lefel yr aelwyd yw'r <a href=\"https:\/\/www.nuffieldfoundation.org\/project\/a-study-of-in-work-poverty-and-policy-in-the-uk\">rhagfynegydd cryfaf o dlodi mewn gwaith<\/a>, a phan fydd teuluoedd yn parhau i brofi tlodi, er bod ganddynt aelod sy'n gweithio, bod hynny\u2019n tueddu i fod yn llai difrifol na phan fydd aelodau aelwyd heb unrhyw waith \u00e2 th\u00e2l.\u00a0 Felly, mae hyrwyddo cyflogaeth yn debygol o fod yn ganolog i unrhyw strategaeth wrthdlodi, a gall y llywodraeth fynd ati i geisio gwneud hyn drwy alluogi mynediad at raglenni addysg a hyfforddiant a thrwy gynyddu argaeledd a fforddiadwyedd gofal plant, i helpu rhieni i gydbwyso gwaith cyflogedig a chyfrifoldebau gofalu.<\/p>\n<p>Rhaid inni gydnabod hefyd, fodd bynnag, fod gwaith yn methu \u00e2 chodi nifer sylweddol o deuluoedd uwchlaw'r llinell dlodi ac, i rai, nad yw ymgymryd \u00e2 mwy o waith \u00e2 th\u00e2l yn opsiwn: oherwydd bod pob oedolyn oedran gwaith mewn cyflogaeth, neu oherwydd eu bod yn gweithio'n llawn amser, neu'n gofalu am blant neu aelodau eraill o\u2019r teulu.\u00a0 Dyma rai o'r rhesymau pam na all gwaith cyflogedig fod yn <em>unig <\/em>lwybr allan o dlodi.<\/p>\n<p>Mae mwy o gymorth i deuluoedd \u00e2 phlant, ac yn enwedig i deuluoedd mwy, yn hollbwysig: dengys tystiolaeth fod tlodi plant wedi bod yn cynyddu ers gosod y terfyn dau blentyn ar gredydau treth a Chredyd Cynhwysol, a bod <a href=\"https:\/\/sticerd.lse.ac.uk\/CASE\/_NEW\/PUBLICATIONS\/abstract\/?index=8275\">teuluoedd \u00e2 thri neu fwy o blant yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r cynnydd hwn <\/a>. Mae mynd i'r afael \u00e2 chostau tai, yn enwedig yn y sector rhentu preifat, hefyd yn angenrheidiol gan fod costau tai yn gweithredu fel <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/epub\/10.1080\/14036096.2022.2095438?needAccess=true\">cyfryngwr pwysig<\/a> rhwng incwm y cartref a'r safon byw y gall teuluoedd ei gyflawni. Hyd yn oed lle nad yw incwm aelwydydd yn isel iawn, gall lefelau rhent uchel dynnu teuluoedd i dlodi.<\/p>\n<p>Ac mae hyn yn dod \u00e2 ni i bwynt ehangach. Ni fydd hyrwyddo llwybrau allan o dlodi yn lleihau lefel tlodi yng Nghymru oni bai bod peryglon mynd i dlodi yn cael eu hosgoi. Mae tlodi yn digwydd o ganlyniad i'r hyn y mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol yn ei alw'n 'gorddi', gyda llawer o bobl yn symud i mewn ac allan o dlodi o un flwyddyn i'r nesaf.\u00a0 Os yw tlodi i gael ei leihau, mae atal y bobl hyn rhag mynd i dlodi yr un mor bwysig \u00e2 hyrwyddo llwybrau allan o dlodi.<\/p>\n<p>Mae gan nawdd cymdeithasol r\u00f4l sylfaenol i'w chwarae yma, gan weithredu fel rhwyd ddiogelwch ar adegau o angen. Mae cydnabyddiaeth gynyddol nad yw'r system nawdd cymdeithasol, ar draws y Deyrnas Unedig, yn cyflawni ei swyddogaeth, <a href=\"https:\/\/socialprotection.org\/discover\/publications\/social-insecurity-assessing-trends-social-security-prepare-decade-change-ahead\">gyda chyfraddau talu annigonol<\/a> a rheolau dylunio sy'n golygu bod rhaid i hawlwyr Credyd Cynhwysol aros <a href=\"https:\/\/www.tuc.org.uk\/research-analysis\/reports\/universal-credit-and-impact-five-week-wait-payment#:~:text=The%20five%2Dweek%20wait%20has,of%20future%20meagre%20benefit%20payments.\">pum wythnos am daliad cychwynnol<\/a> . Er bod taliadau ymlaen llaw bellach ar gael, mae hyn yn cyfrannu at <a href=\"https:\/\/questions-statements.parliament.uk\/written-questions\/detail\/2021-02-22\/156460#:~:text=Deductions%20are%20currently%20capped%20at%2030%25%20of%20the,2%2C128%2C000%20%2844%25%20of%20all%20claims%29%20had%20a%20deduction.\">nifer fawr o hawlwyr Credyd Cynhwysol<\/a> yn wynebu didyniadau i daliadau sydd eisoes yn annigonol. Mae mawr angen edrych o\u2019r newydd ar hyn.<\/p>\n<p>Mae pwysigrwydd sylfaenol nawdd cymdeithasol i fynd i'r afael \u00e2 thlodi yn her i Lywodraeth Cymru gan fod pwerau nawdd cymdeithasol, at ei gilydd, yn dal yn nwylo San Steffan.\u00a0 Gellid ceisio mwy o bwerau mewn perthynas \u00e2'r maes polisi pwysig hwn ond mae hyn yn llawn risg os na chynhelir cydsafiad.\u00a0 Gall ehangu cynlluniau datganoledig presennol, megis y Gronfa Cymorth Dewisol, fod o gymorth i liniaru caledi yn ystod cyfnodau o angen, ond mae <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/resources\/a-snapshot-of-poverty-in-summer-2022\/\">ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Bevan<\/a> yn canfod bod ymwybyddiaeth o'r cynllun hwn yn isel, hyd yn oed ymhlith teuluoedd incwm isel yng Nghymru. Mae symud ymlaen yn debygol o olygu y bydd angen cynyddu ymwybyddiaeth o gynlluniau datganoledig presennol, yn ogystal \u00e2 defnyddio pwerau presennol yn ofalus ac efallai'n well, ynghyd ag <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/administering-social-security-in-wales\/\">ystyried a allai fod angen rhagor o bwerau<\/a> .<\/p>\n<p>Gyda chwyddiant yn bygwth dirywiad sylweddol mewn safonau byw ledled Cymru, fel y mae yn rhyngwladol, mae'r ffocws ar hyn o bryd yn gwbl ddealladwy ar y cymorth y bydd ei angen ar deuluoedd i'w helpu drwy aeaf anodd. Yr hyn y mae <em>Poverty and Social Exclusion: A way forward<\/em> yn ei wneud yw darparu llwyfan ar gyfer ymdrechion i leihau tlodi yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod. \u00a0Mae'n dangos gwerth sicrhau strategaeth, meddwl yn gyfannol, a'r angen am weithredu ar ddimensiynau amddifadedd lluosog. Mae'n rhoi cyfoeth o syniadau i lunwyr polisi ynghylch sut gallai tlodi yng Nghymru gael ei leihau'n ystyrlon, drwy hyrwyddo llwybrau allan o dlodi ac atal peryglon mynd i dlodi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhaid i alluogi 'llwybrau' allan o dlodi fod yn un o nodau sylfaenol unrhyw strategaeth wrthdlodi. Ond sut dylai strategaeth o'r fath geisio cyflawni hyn? A sut gallwn ni sicrhau bod y 'llwybrau' hyn yn trosi'n ostyngiadau ystyrlon mewn lefelau tlodi ledled Cymru? Ar draws gwledydd Ewrop, mae hyrwyddo gwaith \u00e2 th\u00e2l wedi dod yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15313,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15315","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Little-money-in-purse-1600-x-900.jpg","filesize":259071,"sizes":{"medium":{"file":"Little-money-in-purse-1600-x-900-744x419.jpg","width":744,"height":419,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50264,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-744x419.jpg"},"large":{"file":"Little-money-in-purse-1600-x-900-1200x675.jpg","width":1200,"height":675,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":102987,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-1200x675.jpg"},"thumbnail":{"file":"Little-money-in-purse-1600-x-900-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50167,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Little-money-in-purse-1600-x-900-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":52253,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-768x432.jpg"},"1536x1536":{"file":"Little-money-in-purse-1600-x-900-1536x864.jpg","width":1536,"height":864,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":148836,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-1536x864.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15313","name":"Little-money-in-purse-1600-x-900.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900.jpg","title":"Little-money-in-purse-1600-x-900.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1600-x-900.jpg 1600w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15315","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15315"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15315\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16509,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15315\/revisions\/16509"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15313"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15315"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15315"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15315"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15315"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}