{"id":15314,"date":"2022-09-27T05:10:49","date_gmt":"2022-09-27T05:10:49","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/mater-o-gostau\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:27","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:27","slug":"mater-o-gostau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/mater-o-gostau\/","title":{"rendered":"Mater o gostau"},"content":{"rendered":"<p>Ers degawdau, mae tlodi\u2019n cael ei fesur yn \u00f4l incwm aelwyd o'i gymharu ag incwm aelwydydd eraill. Er bod addasiadau'n cael eu gwneud ar gyfer costau tai a maint y cartref, y mesur allweddol yw faint o arian sy'n dod i aelwyd.\u00a0 Yn yr un modd, mae polisi cyhoeddus ar dlodi wedi canolbwyntio ar incwm aelwydydd. Ar lefel y DU, y prif ysgogiadau i greu newid yw enillion, trethiant a'r system fudd-daliadau. Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru, sydd heb y pwerau hyn, wedi canolbwyntio hefyd ar godi incwm drwy wahanol raglenni cyflogadwyedd i helpu pobl i gael gwaith a thrwy ymgyrchoedd hawlio budd-daliadau.\u00a0 Mae'r rhaglenni hyn wedi cynyddu incwm nifer o unigolion, er bod modd dadlau ynghylch maint eu heffaith ar yr ystadegau tlodi pwysicaf.<\/p>\n<p>Mae hyn i gyd yn newid.\u00a0 Mae prisiau sy\u2019n codi i\u2019r entrychion, yn enwedig prisiau bwyd, gwresogi a thai, yn dangos bod costau'n bwysig i aelwydydd yn ogystal ag incwm. Efallai nad dyna sut mae tlodi'n cael ei fesur, ond mae gallu fforddio bara, trydan a rhent yn sylfaenol i\u2019r profiad o fyw mewn tlodi. Er mwyn dangos maint y gwahaniaeth y mae costau cynyddol yn ei wneud, byddai angen i gartrefi'r DU yn y ddau ddegradd incwm isaf wario o leiaf \u00a338 yr wythnos yn rhagor ar ynni yn 2022-23 er mwyn defnyddio'r un faint ag yn 2019-20<a href=\"#_ftn1\" name=\"_ftnref1\">[1]<\/a> (a hynny cyn codiad pris mis Hydref). O ran incwm, mae codiad yng nghost ynni o \u00a338 yr wythnos yn cyfateb i bedair awr ychwanegol o waith ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu gynnydd o 33 y cant yn y lwfans Credyd Cynhwysol i gwpl.<\/p>\n<p>Er bod yr amgylchiadau presennol i aelwydydd yn anodd, maen nhw'n agor ardaloedd newydd i bolisi cyhoeddus Cymru.\u00a0 Yn allweddol, mae gan Lywodraeth Cymru lawer mwy o bwerau o ran costau nag sydd ganddi ar incwm.\u00a0 Er enghraifft, hi sy\u2019n gosod y fframwaith ar gyfer rhenti i fwy na chwarter miliwn o gartrefi sy'n cael eu rhentu'n gymdeithasol, hi sy\u2019n penderfynu pwy sy'n gymwys ar gyfer cynlluniau fel y Grant Datblygu Disgyblion ac yn rhoi boeleri gwresogi newydd yn lle\u2019r hen rai i deuluoedd incwm isel.\u00a0 Mae hyn yn ychwanegol at y nifer o wasanaethau cyffredinol rhad ac am ddim y mae'n eu darparu, o bresgripsiynau i brisiau bws rhatach i bensiynwyr.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau defnyddio ei phwerau er mwyn lleddfu'r pwysau ariannol ar aelwydydd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth ymateb i'r pandemig a'r argyfwng costau byw, mae wedi cynyddu faint o wasanaethau am ddim sydd ar gael ac wedi gwneud nifer cynyddol o daliadau arian parod i aelwydydd incwm isel.\u00a0 Erbyn hyn mae gennym Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru, Cynllun Cymorth Ariannol Gofalwyr Di-d\u00e2l a Chynllun Costau Byw Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr \u00e2 chynlluniau sydd ar gael ers tro fel y Gronfa Cymorth Dewisol, Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Cynllun Gostyngiadau\u2019r Dreth Gyngor a Phrydau Ysgol am Ddim.<\/p>\n<p>Ni ddylid tanbrisio effaith y cynlluniau hyn ar dlodi. Er enghraifft, ers tro byd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pryd ysgol am ddim i blant cymwys, ac o ddechrau'r pandemig hyd at fis Awst 2022 mae wedi talu \u00a319.50 yr wythnos yn lle pryd o fwyd pan fydd ysgolion wedi cau ac yn ystod y gwyliau.\u00a0 Mae gwerth ariannol y cynllun fymryn yn llai na\u2019r cynnydd dros dro diweddar o \u00a320 i'r Credyd Cynhwysol; amcangyfrifwyd bod hwnnw wedi galluogi 1 o bob 8 aelwyd sy'n cael Credyd Cynhwysol i dalu ei chostau hanfodol.<a href=\"#_ftn2\" name=\"_ftnref2\">[2]<\/a>\u00a0 Ar y llaw arall, amcangyfrifir bod polisi Llywodraeth Cymru o gynyddu rhenti cymdeithasol ar gyfraddau uwch na chwyddiant wedi tynnu 40,000 o rentwyr cymdeithasol i dlodi gan fod costau tai wedi codi\u2019n gyflymach na chyflogau.<a href=\"#_ftn3\" name=\"_ftnref3\">[3]<\/a><\/p>\n<p>Yr hyn sy'n bwysig yw bod y rhain yn newidiadau real ac ar raddfa fawr sydd wedi eu gweithredu gan ddefnyddio pwerau a chyllidebau sy'n bodoli eisoes \u2013 ni fu angen datganoli pwerau newydd na chynlluniau newydd hyd yn oed. Felly, mae potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i dlodi drwy dorri costau aelwydydd a darparu taliadau atodol o arian parod.<\/p>\n<p>Yn fy marn i, nid yw\u2019r potensial hwnnw wedi\u2019i wireddu'n llawn eto. Tameidiog yw\u2019r camau a wnaed hyd yma \u2013 nid mater hawdd yw dod o hyd i\u2019ch ffordd drwy\u2019r gwahanol grantiau a lwfansau, gyda'u gofynion gwahanol o ran cymhwysedd, ffurflenni cais gwahanol ac amserlenni gwahanol.\u00a0 Mae Sefydliad Bevan wedi galw am integreiddio'r cynlluniau yn un System Budd-daliadau i Gymru er mwyn hwyluso\u2019r broses i ymgeiswyr, lleihau'r baich gweinyddol a chynyddu'r nifer sy'n manteisio arnyn nhw.<a href=\"#_ftn4\" name=\"_ftnref4\">[4]<\/a><\/p>\n<p>Ac mae rhagor o bethau eto y mae\u2019n bosibl eu gwneud y tu hwnt i System Budd-daliadau i Gymru, o reoli rhenti, i orfodi cyflogwyr sy'n derbyn grantiau Llywodraeth Cymru i dalu'r Cyflog Byw go iawn, i gapio pris tocynnau bysys a threnau \u2013 i enwi dim ond tri.<\/p>\n<p>Bydd yn allweddol cydlynu\u2019r camau hyn yn strategaeth effeithiol a chydlynol sy'n dangos llwybr clir i leihau tlodi.<\/p>\n<hr \/>\n<p><a href=\"#_ftnref1\" name=\"_ftn1\">[1]<\/a> Bolton, P. a Stiward, I. (2022) Domestic energy prices, House of Commons Library Research Briefing 9491<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref2\" name=\"_ftn2\">[2]<\/a> Mills, Z. (2021) The \u00a320 uplift to Universal Credit is a first step on the path out of poverty,\u00a0 <a href=\"https:\/\/policyinpractice.co.uk\/the-20-uplift-to-universal-credit-is-a-first-step-on-the-path-out-of-poverty\/\">https:\/\/policyinpractice.co.uk\/the-20-uplift-to-universal-credit-is-a-first-step-on-the-path-out-of-poverty\/<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref3\" name=\"_ftn3\">[3]<\/a> Papur Briffio Sefydliad Joseph Rowntree Foundation (2020): Poverty in Wales 2020 <a href=\"https:\/\/www.jrf.org.uk\/report\/poverty-wales-2020\">https:\/\/www.jrf.org.uk\/report\/poverty-wales-2020<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref4\" name=\"_ftn4\">[4]<\/a> Bevan Foundation (2020) A Welsh Benefits System: how it can help solve poverty<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ers degawdau, mae tlodi\u2019n cael ei fesur yn \u00f4l incwm aelwyd o'i gymharu ag incwm aelwydydd eraill. Er bod addasiadau'n cael eu gwneud ar gyfer costau tai a maint y cartref, y mesur allweddol yw faint o arian sy'n dod i aelwyd.\u00a0 Yn yr un modd, mae polisi cyhoeddus ar dlodi wedi canolbwyntio ar incwm [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15304,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15314","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"household-budget-cropped.jpg","filesize":139456,"sizes":{"medium":{"file":"household-budget-cropped-744x256.jpg","width":744,"height":256,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":21231,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-744x256.jpg"},"large":{"file":"household-budget-cropped-1200x413.jpg","width":1200,"height":413,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41479,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-1200x413.jpg"},"thumbnail":{"file":"household-budget-cropped-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":24853,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"household-budget-cropped-768x264.jpg","width":768,"height":264,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":22084,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-768x264.jpg"},"1536x1536":{"file":"household-budget-cropped-1536x529.jpg","width":1536,"height":529,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":59666,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-1536x529.jpg"},"2048x2048":{"file":"household-budget-cropped-2048x705.jpg","width":2048,"height":705,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91350,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-2048x705.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"household-budget-cropped-1920x731.jpg","width":1920,"height":731,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":89360,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-1920x731.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15304","name":"household-budget-cropped.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/household-budget-cropped.jpg","title":"household-budget-cropped.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15314","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15314"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15314\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16508,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15314\/revisions\/16508"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15304"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15314"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15314"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15314"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15314"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}