{"id":15311,"date":"2022-06-13T16:19:00","date_gmt":"2022-06-13T16:19:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ehangu-addysg-ol-orfodol-yr-hyn-rydyn-ni-wedii-ddysgu\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:27","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:27","slug":"ehangu-addysg-ol-orfodol-yr-hyn-rydyn-ni-wedii-ddysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ehangu-addysg-ol-orfodol-yr-hyn-rydyn-ni-wedii-ddysgu\/","title":{"rendered":"Ehangu addysg \u00f4l-orfodol: yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu"},"content":{"rendered":"<p>Ar 5ed Mai, cynhalion ni ein cyfarfod personol cyntaf ers mis Mawrth 2020, a hynny yn ein cartref newydd, sbarc|spark. Roedd yn dda gyda ni groesawu gwesteion a siaradwyr i drafodaeth am bolis\u00efau a allai helpu i gynyddu nifer y rhai sy\u2019n ymwneud \u00e2 hyfforddiant ac addysg ar \u00f4l 16 oed, yn sg\u00eel ein hadroddiadau diweddar am Godi oedran addysg orfodol at 18 oed a Chynnal trefn Dysgu Gydol Oes Cymru. Roedd y cyfarfod yn gyfle gwych inni gnoi cil ar faterion o\u2019r fath yng nghyd-destun Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil Llywodraeth Cymru sydd am roi sector yr addysg drydyddol o dan adain comisiwn newydd a fydd yn gyfrifol am oruchwylio, rheoleiddio ac ariannu addysg \u00f4l-orfodol yn y wlad hon. Cynigiodd aelodau\u2019r panel - yr Athro Sue Maguire, y Dr Matt Dickson a\u2019r Dr Sue Pember CBE - yn ogystal ag Olly Newton o Sefydliad Edge a Huw Morris (Llywodraeth Cymru) sylwadau a syniadau a allai helpu\u2019r comisiwn i ehangu cyfleoedd i ddysgu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Dyma rai pethau ddysgon ni:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Mae angen inni wybod beth y mae pobl ifanc yn ei wneud pan nad ydyn nhw mewn addysg ffurfiol.<\/strong> Ers dechrau pandemig Firws Corona, mae rhagor o anweithgarwch economaidd, llai o fyfyrwyr mewn addysg \u00f4l-16 a mwy a mwy o bobl ifanc heb gymwysterau ffurfiol. Mae rhai pobl ifanc yn 'anweledig' i drefn addysg y wlad. Allwn ni ddim llunio polis\u00efau effeithiol ar gyfer denu pobl ifanc yn \u00f4l iddi heb ddeall ble maen nhw a pham.<\/li>\n<li><strong>Daw rhagor o gyfranogi \u00e2 buddion economaidd,<\/strong> a daw\u2019r rhan fwyaf o\u2019r rheiny trwy werth gydol oes cymwysterau ychwanegol a fydd yn cryfhau gallu rhywun i ennill cyflog da a llwyddo yn ei yrfa.<\/li>\n<li><strong>Mae codi oedran addysg orfodol yn annhebygol o fod yn effeithiol ar ei ben ei hun, fodd bynnag.<\/strong> Y bwriad yn Lloegr oedd y byddai addysg orfodol hyd 18 oed yn rhan o ddiwygio ehangach sydd wedi\u2019i roi o\u2019r neilltu bellach. Felly, dim ond hyn a hyn o gydymffurfio sydd wedi digwydd yn Lloegr ac, o ganlyniad, dim ond hyn a hyn o fuddion sydd wedi dod. Yn lle codi oedran addysg orfodol, gallai camau eraill i annog pobl ifanc i ddysgu fod yn well \u2014 o ran costau a deilliannau.<\/li>\n<li><strong>Trwy ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc y tu allan i'r drefn, gallwn ni leddfu'r hyn sy\u2019n eu rhwystro rhag cyfranogi a gofalu bod cymorth ar gael.<\/strong> I rai pobl ifanc, gallai fod ar ffurf cynnig mwy hyblyg sy\u2019n cydblethu ag amryw gyfrifoldebau eraill; i eraill, bydd cysylltiadau \u00e2 chyflogwyr neu gymorth ariannol ar gyfer astudio yn bwysig. O ddeall meini tramgwydd mae dysgwyr yn eu hwynebu, bydd modd eu chwalu.<\/li>\n<li><strong>Rhaid dechrau\u2019n gynnar er mwyn i hyn oll fod yn fwyaf effeithiol.<\/strong> Gallai 16 oed fod yn rhy hwyr i newid meddyliau pobl ifanc a allai fod wedi penderfynu eisoes nad yw rhagor o addysg at eu dant neu nad oes amser rhydd gyda nhw i ddysgu. Felly, rhaid i ddysgu fod yn fwy hygyrch, perthnasol a diddorol drwy gydol addysg orfodol gan ofalu y bydd hyblygrwydd ac amrywiaeth o ddarpariaeth briodol ar \u00f4l i ddisgyblion droi\u2019n 16 oed.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn olaf, pwysleisiodd ein siaradwyr fod angen cynnig eglur a chydlynol ar draws llwybrau \u00f4l-16, gan fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y bydd Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn eu cyflwyno. Bydd angen peth amser i ddatblygu trefn addysg hyblyg, hawdd ei defnyddio, sy\u2019n cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleoedd ond bydd o fantais fawr i Gymru ac i yrfaoedd ei phobl ifanc.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 5ed Mai, cynhalion ni ein cyfarfod personol cyntaf ers mis Mawrth 2020, a hynny yn ein cartref newydd, sbarc|spark. Roedd yn dda gyda ni groesawu gwesteion a siaradwyr i drafodaeth am bolis\u00efau a allai helpu i gynyddu nifer y rhai sy\u2019n ymwneud \u00e2 hyfforddiant ac addysg ar \u00f4l 16 oed, yn sg\u00eel ein hadroddiadau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15028,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15311","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","filesize":794536,"sizes":{"medium":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":92801,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x496.jpg"},"large":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":199370,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":81333,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97800,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":301061,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":509970,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":386840,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"mikael-kristenson-242070-unsplash.jpg","ID":"15028","name":"mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","title":"mikael-kristenson-242070-unsplash.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15311","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15311"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15311\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16507,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15311\/revisions\/16507"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15028"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15311"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15311"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15311"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15311"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}