{"id":15308,"date":"2022-08-30T15:25:26","date_gmt":"2022-08-30T15:25:26","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/cyfuno-darpariaeth-ar-lein-ac-all-lein-mewn-gwasanaethau-lles-cymunedol-beth-maen-ei-olygu-a-pham-fod-hyn-yn-bwysig\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:26","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:26","slug":"cyfuno-darpariaeth-ar-lein-ac-all-lein-mewn-gwasanaethau-lles-cymunedol-beth-maen-ei-olygu-a-pham-fod-hyn-yn-bwysig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/cyfuno-darpariaeth-ar-lein-ac-all-lein-mewn-gwasanaethau-lles-cymunedol-beth-maen-ei-olygu-a-pham-fod-hyn-yn-bwysig\/","title":{"rendered":"'Cyfuno' darpariaeth ar-lein ac all-lein mewn gwasanaethau lles cymunedol: beth mae'n ei olygu a pham fod hyn yn bwysig?"},"content":{"rendered":"<p>Drwy gydol pandemig Covid-19, mae sefydliadau\u2019r sector cyhoeddus a\u2019r trydydd sector sy\u2019n cefnogi llesiant cymunedol wedi dibynnu ar gyfuniad o ddulliau o bell ac wyneb yn wyneb ar gyfer darparu gwasanaethau ac ymgysylltu \u00e2\u2019r bobl maent yn eu cynorthwyo. Cyflwynwyd y rhain mewn cyfuniadau gwahanol ar adegau gwahanol, mewn ymateb i dirwedd sy'n newid yn gyflym o gyfyngiadau ar gyswllt corfforol a blaenoriaethau unigol a chymunedol sy'n newid. Yn y cyd-destun hwn (ac mewn rhai achosion, ers cyn y pandemig), mae llawer o wasanaethau neu sefydliadau sy'n cefnogi llesiant cymunedol wedi datblygu dulliau soffistigedig lle mae darpariaeth ar-lein ac all-lein yn cael eu 'cyfuno' yn fwriadol i gyflawni nodau penodol sy'n ymwneud \u00e2 natur gwasanaethau neu fynediad atynt.<\/p>\n<p>I raddau amrywiol, mae llawer o ddarpariaeth gwasanaeth bellach yn cael ei 'chyfuno', wrth i ni symud y tu hwnt i gyfnod ymateb brys y pandemig. Yn debyg i gymdeithas yn gyffredinol, mae sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector sy'n cefnogi llesiant cymunedol yn wynebu gorfod penderfynu pa r\u00f4l y gallai ac y dylai darpariaeth ddigidol barhau i'w chwarae yn eu gwaith, a sut y dylai ryngweithio gyda darpariaeth wyneb yn wyneb. Mae gan y cwestiwn oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a chynhwysiant \u2013 oherwydd fel y mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn ei awgrymu, gall y ffyrdd y caiff darpariaeth ar-lein ac all-lein eu 'cyfuno' bennu <em>sut<\/em> mae gwasanaethau'n gweithio ac i <em>bwy<\/em>. Felly mae'n hanfodol deall yn well y gwahanol ffyrdd y mae darpariaeth ar-lein ac all-lein wedi cael eu 'cyfuno' mewn gwasanaethau llesiant cymunedol, a'r cyfleoedd, buddion a risgiau cysylltiedig.<\/p>\n<p>Weithiau gall y drafodaeth am r\u00f4l 'digidol' mewn darpariaeth gwasanaethau ganolbwyntio ar gryfderau a gwendidau darpariaeth ddigidol 'yn erbyn' darpariaeth wyneb yn wyneb mewn ffordd ddeuaidd. Mae ymchwil ac ymarfer sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu nad yw pethau mor syml. Nid y gwrthwyneb i'r bydd ffisegol yw digidol. Mae'n rhan o'r byd hwnnw. Mae'r ddau yn rhyngweithio, ac mae goblygiadau pwysig i'r ffordd y mae'r rhyngweithio'n digwydd. Yn gynyddol, mae'r drafodaeth yn troi at sut y gellid cyfuno darpariaeth ddigidol neu ar-lein a chorfforol neu all-lein mewn ffyrdd sydd o fudd i'r ddwy ochr. Er y gall digidol gynyddu datgysylltu ac allgau, gall hefyd eu lleihau trwy gynllunio'n ofalus y ffordd y caiff ei gyfuno \u00e2 rhyngweithio corfforol. Er enghraifft, yn <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/rol-cymunedau-ar-defnydd-o-dechnoleg-wrth-liniaru-unigrwydd-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws\/\">ymchwil WCPP ar ddefnyddio technoleg i fynd i'r afael ag unigrwydd yn ystod y pandemig<\/a>, pwysleisiodd sefydliadau cymunedol bwysigrwydd cyflwyno cyfunol, gyda rhyngweithiadau digidol wedi'u cynllunio i wella neu alluogi cysylltiadau wyneb yn wyneb mewn gofod ffisegol, neu lle mae rhyngweithio wyneb yn wyneb yn gweithio i wneud cyfathrebu ar-lein yn fwy hygyrch.<\/p>\n<p>Mae symud y tu hwnt i ddadleuon deuaidd ynghylch darpariaeth gwasanaeth ddigidol ac wyneb yn wyneb, at archwilio sut ac i ba raddau mae'r ddau'n gweithio gyda'i gilydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous. Mae'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth yn gyfunol yn dechrau datod y rhain. Ac eto, er gwaethaf y defnydd cynyddol o'r term, mae llai yn hysbys am sut beth y gallai darparu gwasanaeth yn gyfunol fod yn ymarferol, pa ddulliau gwahanol o 'gyfuno' cyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein sy'n addas mewn gwahanol gyd-destunau, ac a allai'r rhain arwain at brosesau a chanlyniadau gwell ac os felly sut. Yn WCPP, ein nod yw cyfrannu at gau'r bwlch hwn trwy archwilio'r dystiolaeth amrywiol o arferion sydd wedi datblygu yn ystod y pandemig ynghylch darpariaeth gyfunol mewn gwasanaethau cymunedol. Mae ein sgyrsiau gydag arbenigwyr polisi ac ymarfer sydd ag ystod o wahanol arbenigeddau a safbwyntiau wedi amlygu ehangder y dystiolaeth hon, a\u2019r angen i\u2019w chasglu a\u2019i dadansoddi er mwyn deall yn well \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019 wrth ddarparu gwasanaeth yn gyfunol, i bwy, i beth, ac ym mha .\u00a0Yn anad dim, mae'r sgyrsiau hyn wedi tynnu sylw at y ffaith fod gwneud hyn yn hanfodol ar gyfer gwella cydraddoldeb a chynhwysiant wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Drwy gydol pandemig Covid-19, mae sefydliadau\u2019r sector cyhoeddus a\u2019r trydydd sector sy\u2019n cefnogi llesiant cymunedol wedi dibynnu ar gyfuniad o ddulliau o bell ac wyneb yn wyneb ar gyfer darparu gwasanaethau ac ymgysylltu \u00e2\u2019r bobl maent yn eu cynorthwyo. Cyflwynwyd y rhain mewn cyfuniadau gwahanol ar adegau gwahanol, mewn ymateb i dirwedd sy'n newid yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15307,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15308","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1323716866.jpg","filesize":431800,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1323716866-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53624,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1323716866-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":110863,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1323716866-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":45961,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1323716866-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56322,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1323716866-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":161146,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1323716866-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":253165,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1323716866-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":192849,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15307","name":"iStock-1323716866.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866.jpg","title":"iStock-1323716866.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1323716866-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15308","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15308"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15308\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16505,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15308\/revisions\/16505"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15307"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15308"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15308"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15308"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15308"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}