{"id":15305,"date":"2022-10-04T09:15:30","date_gmt":"2022-10-04T09:15:30","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tystiolaeth-a-chymru-wrth-hiliol\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:26","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:26","slug":"tystiolaeth-a-chymru-wrth-hiliol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tystiolaeth-a-chymru-wrth-hiliol\/","title":{"rendered":"Tystiolaeth a Chymru Wrth-hiliol"},"content":{"rendered":"<p>Ar 7 Mehefin, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu newydd er mwyn cyflawni <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol\">Cymru Wrth-Hiliol<\/a> erbyn 2030. Bydd y gwaith yn cynnwys nodi a dileu'r systemau, strwythurau a phrosesau sy'n cyfrannu at ganlyniadau anghyfartal \u00a0i bobl o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol.\u00a0 Disgrifiwyd y lansiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fel 'moment randdeiliaid' bwysig ar y 'daith' o 'fynd i'r afael \u00e2 hiliaeth systemig a sefydliadol yng Nghymru'.<\/p>\n<p>Caiff Cynllun Gweithredu ei ystyried yn gyflawniad pwysig, yn deillio o broses gymhleth gyda rhanddeiliaid niferus, llawer ohonynt \u00e2 phrofiad uniongyrchol o natur ac effaith ddwys hiliaeth.\u00a0\u00a0 Er eu bod ar adegau o reidrwydd yn 'gynghrair anesmwyth', unwyd pawb oedd yn gweithio ar y Cynllun gan ymrwymiad i gyflwyno newid sylweddol.\u00a0 Gyda'i gilydd, fe gyd-gynhyrchwyd fframwaith 'i bawb gydio ynddo' a'r nod yw dal pawb yn atebol.<\/p>\n<p>Mae lansio'r Cynllun yn wir yn 'foment' i randdeiliaid. Mae hefyd yn 'foment' i'r WCPP fyfyrio, sy'n cynnig cyfle i ni ystyried r\u00f4l tystiolaeth - y gorffennol, y presennol, a'r dyfodol - mewn perthynas \u00e2 Chymru Wrth-hiliol.<\/p>\n<p>Yn y lansiad, canmolwyd y WCPP am ei r\u00f4l yn llywio'r Cynllun gyda synthesis tystiolaeth gadarn a chyflwyno cyngor arbenigol gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt.\u00a0\u00a0 Buom yn gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu adroddiadau a briffiadau ar wella <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gwella-cydraddoldeb-hiliol-yng-nghymru\/\">cydraddoldeb hiliol<\/a> ar draws meysydd polisi a nodwyd fel rhai sydd \u00e2'r potensial mwyaf i greu effaith gan gynnwys Addysg, Troseddu a Chyfiawnder, Tai a Llety, Cyflogaeth ac Incwm ac Arweinyddiaeth a Chynrychiolaeth.\u00a0 I'r Athro Emmanuel Ogbonna, Cyd-gadeirydd Gr\u0175p Llywio REAP, roedd y gwaith hwn a'r dystiolaeth yn sicrhau <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/creu-cymru-wrth-hiliol\/\">'angor ymchwil'<\/a> pwysig i'r Cynllun:<\/p>\n<p><em>'Gwnaeth yr adroddiadau a ddarparodd yr WCPP ar y meysydd pryder sylweddol helpu i ynysu'r problemau allweddol yn elfennau unigol y cynllun, y goblygiadau croestoriadol a'r camau gweithredu amgen posibl y gellid eu harchwilio.'<\/em><\/p>\n<p>Yn allweddol, fel y dywed yr Athro Ogbonna, ategwyd y dystiolaeth ymchwil a'r arbenigedd a gafwyd gennym gan fath allweddol arall o dystiolaeth - sef<em> profiad byw<\/em> aelodau o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Prif nod y Cynllun yw cau'r 'bwlch gweithredu' wrth fynd i'r afael \u00e2 hiliaeth a gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.\u00a0 Yn ei <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cyflawnir-cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol\/\">sylwebaeth i WCPP<\/a>, mae Ronald Roberts yn tynnu ar dystiolaeth i ddadlau dros ddull gwrth-hiliol yn hytrach na chanolbwyntio ar 'gyfle cyfartal'. Aiff yn ei flaen i ystyried yr heriau ynghylch gweithredu, gan gynnwys yr angen am 'fesurau da o gynnydd', metrigau sy'n ystyrlon, yn ystwyth ac yn berthnasol. Rydym ni'n falch fod ymdrechion parhaus Gr\u0175p Llywio REAP, ei bartneriaid, a rhwydweithiau, wedi cynnwys gwaith i ymdrin \u00e2'r materion hyn, gan drawsnewid y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft a chreu\u2019r 'Cymru Wrth-Hiliol' sydd newydd ei lansio.<\/p>\n<p>Bydd yr ymrwymiad i wrth-hiliaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a phleidiau eraill yn bwydo i mewn ac yn cael eu hatgyfnerthu gan gyrff a gwasanaethau cyhoeddus sy'n datblygu eu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth 'nythol' eu hunain.\u00a0 Yn yr un modd, byddwn yn myfyrio ar sut y gall y WCPP, fel sefydliad annibynnol sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael i lunwyr polisi, gyfrannu at yr ymdrech hon. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i'r systemau, strwythurau a phrosesau sy'n cynnal ac yn atgyfnerthu hiliaeth ar draws y meysydd polisi lluosog ydym ni'n gweithio arnynt gan gynnwys tlodi, addysg, sgiliau, cyflogaeth, a thai, sydd oll yn croestorri \u00e2 hil.\u00a0 Rydym ni hefyd yn gobeithio gallu defnyddio ein hymchwil ar weithredu i helpu llunwyr polisi i sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn gwireddu ei ddyheadau o ran mynd i'r afael \u00e2 hiliaeth yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mewn iaith sy'n edrych i'r dyfodol ac sy'n addas i'r dirwedd gyfreithiol a pholisi unigryw yng Nghymru, caiff hiliaeth ei ddisgrifio gan yr Athro Ogbonna fel 'etifeddiaeth wrthnysig', rhywbeth sy'n mwtanu dros amser ac a all fod yn 'bla ar genedlaethau'r dyfodol.'\u00a0 Wrth symud ymlaen, ac yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 7 Mehefin, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu newydd er mwyn cyflawni Cymru Wrth-Hiliol erbyn 2030. Bydd y gwaith yn cynnwys nodi a dileu'r systemau, strwythurau a phrosesau sy'n cyfrannu at ganlyniadau anghyfartal \u00a0i bobl o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol.\u00a0 Disgrifiwyd y lansiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fel 'moment [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12656,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15305","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"racial-diversity-2-SMALLER.jpg","filesize":308368,"sizes":{"medium":{"file":"racial-diversity-2-SMALLER-744x744.jpg","width":744,"height":744,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":67788,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-744x744.jpg"},"large":{"file":"racial-diversity-2-SMALLER-1200x1200.jpg","width":1200,"height":1200,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":119488,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-1200x1200.jpg"},"thumbnail":{"file":"racial-diversity-2-SMALLER-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":38516,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"racial-diversity-2-SMALLER-768x768.jpg","width":768,"height":768,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":69782,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-768x768.jpg"},"1536x1536":{"file":"racial-diversity-2-SMALLER-1536x1536.jpg","width":1536,"height":1536,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":161795,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-1536x1536.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"racial-diversity-2-SMALLER-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":120165,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9841","name":"racial-diversity-2-SMALLER.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER.jpg","title":"racial-diversity-2-SMALLER.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/racial-diversity-2-SMALLER-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15305","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15305"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15305\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16504,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15305\/revisions\/16504"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12656"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15305"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15305"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15305"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15305"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}