{"id":15301,"date":"2022-09-27T06:45:10","date_gmt":"2022-09-27T06:45:10","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/y-tanc-yn-wag-pam-fod-angen-diwygiadau-yn-yr-argyfwng-costau-byw\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:26","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:26","slug":"y-tanc-yn-wag-pam-fod-angen-diwygiadau-yn-yr-argyfwng-costau-byw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/y-tanc-yn-wag-pam-fod-angen-diwygiadau-yn-yr-argyfwng-costau-byw\/","title":{"rendered":"Y tanc yn wag: pam fod angen diwygiadau yn yr argyfwng costau byw"},"content":{"rendered":"<p>Yn ystod misoedd cychwynnol y pandemig, pan oedd mesurau diogelu amrywiol ar waith - fel y codiad o \u00a320 yr wythnos i'r Credyd Cynhwysol \u2013 cafwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl oedd yn ceisio cymorth gan Cyngor ar Bopeth gyda phroblemau dyled. Ers mis Hydref 2021, fodd bynnag, pan ddaeth llawer o'r mesurau hyn i ben, gyda chostau ynni'n dechrau codi, mae nifer y bobl sy'n ceisio cyngor am ddyledion wedi tyfu.<\/p>\n<p>Am y tro o leiaf, nid mwy o bobl yn benthyca ac yn cael trafferth talu credyd defnyddwyr sydd i gyfrif am hyn, ond yn hytrach gwelir mwy a mwy o bobl yn mynd i \u00f4l-ddyledion ar filiau hanfodol y cartref fel y dreth gyngor, ynni a rhent.<\/p>\n<p>Atgyfnerthir hyn gan <a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/wales\/about-us\/our-work\/policy\/policy-research-topics\/citizens-advice-cymru-wales-policy-research\/wales-cost-of-living-briefing-cymru-papur-briffio-costau-byw\/\">ymchwil<\/a> diweddar gan Cyngor ar Bopeth a ganfu fod 28% o bobl Cymru ar ei h\u00f4l hi ar hyn o bryd gyda bil neu daliad, a hynny'n fwyaf tebygol o fod yn fil y dreth gyngor, d\u0175r neu ynni.<\/p>\n<p>Yn syml, does gan lawer o bobl ddim digon o incwm yn dod i mewn i dalu eu costau byw hanfodol sy'n cynyddu o hyd. Yn fwyaf pryderus, mae 46% o'n cwsmeriaid dyled ar hyn o bryd yn byw ar <a href=\"https:\/\/public.flourish.studio\/story\/1243816\/\">gyllideb negyddol<\/a>, i fyny o 36% ddechrau 2019. Mae hyn yn digwydd pan fydd gan rywun sydd mewn dyled \u00a30 neu lai ar \u00f4l talu bil llety a biliau cyson eraill, sy'n golygu nad oes arian ar \u00f4l i ad-dalu dyledion. Yn aml does gan bobl ddim dewis ond mynd heb yr hanfodion - er enghraifft torri'n \u00f4l ar wario ar fwyd a chyfleustodau.<\/p>\n<p>Mae hyn yn ei gwneud yn hynod o heriol i gynghorwyr dyled gan nad yw'r offerynnau a'r opsiynau arferol ar gyfer cefnogi pobl sydd \u00e2 phroblemau dyled bellach yn ymarferol.<\/p>\n<p>Mae ein <a href=\"https:\/\/public.flourish.studio\/story\/1243816\/\">dadansoddiad data<\/a>'n dangos bod y grwpiau yr effeithir arnynt yn bennaf yn cynnwys y di-waith, tenantiaid sector preifat, pobl anabl, a'r rheini sydd \u00e2 chyflyrau iechyd hirdymor. Ond nid pobl sy'n dibynnu ar fudd-daliadau yw'r unig rai sy'n wynebu'r sefyllfa hon. Mae nifer cynyddol o gleientiaid dyled sy'n byw ar gyllideb negyddol yn gweithio, gyda chynnydd sylweddol ymhlith pobl hunangyflogedig (cynnydd o dros 20% ers dechrau 2019). Mae cleientiaid dyled hefyd yn fwy tebygol o s\u00f4n am broblemau iechyd meddwl, yn enwedig rhai sydd ag \u00f4l-ddyledion ar filiau hanfodol fel rhent a'r dreth gyngor.<\/p>\n<p>Mae gwella cynhwysiant ariannol ymhlith pobl ar incwm is yn parhau'n ymyrraeth polisi hanfodol ar gyfer gwella gwydnwch ariannol a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd i or-ddyled. Ond mae angen cyfuno hyn gydag ymyriadau ehangach sy'n helpu i fynd i'r afael \u00e2 fforddiadwyedd gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i bobl ar waelod y dosbarthiad incwm.<\/p>\n<p>O ystyried y codiadau enfawr rydym ni'n debygol o'u gweld mewn prisiau ynni dros y misoedd nesaf, mae'n briodol fod ffocws y drafodaeth bolisi bresennol ynghylch yr argyfwng costau byw wedi bod ar gostau ynni. Fodd bynnag, maes arall lle mae angen diwygio ar frys yw'r dreth gyngor.<\/p>\n<p>Ers mis Ionawr eleni, mae'r nifer o bobl sy'n dod atom am gyngor bob mis ar y dreth gyngor wedi bod 23% yn uwch ar gyfartaledd na lefelau cyn y pandemig, sy'n golygu mai dyma'r broblem ddyled fwyaf cyffredin rydym ni'n ei gweld. Mae dros draean (38%) o'n cleientiaid dyled treth gyngor yn byw ar gyllideb negyddol gyda thua chwarter hefyd angen help gyda dyledion ynni neu dd\u0175r.<\/p>\n<p>Cynhaliom ni ymchwil yn gynharach eleni i glywed yn uniongyrchol gan bobl oedd ar ei h\u00f4l hi gyda thaliadau'r dreth gyngor am eu profiadau o ddelio gydag \u00f4l-ddyledion y dreth gyngor.\u00a0 Mae'r <a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/wales\/about-us\/our-work\/policy\/policy-research-topics\/citizens-advice-cymru-wales-policy-research\/dyledus-profiadau-o-ol-ddyledion-treth-gyngor-yng-nghymru-indebted-experiences-of-council-tax-arrears-in-wales\/\">canfyddiadau<\/a>, ynghyd \u00e2'n tystiolaeth gan gleientiaid, yn dangos y gall y mesurau cosbol a ddefnyddir ar hyn o bryd i gasglu dyled y dreth gyngor atal pobl rhag dod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy. Mae rheoliadau sydd wedi dyddio, ochr yn ochr \u00e2 phwysau cyllidebol sy'n ysgogi awdurdodau lleol i geisio casgliadau yn ystod y flwyddyn, yn golygu bod llawer o bobl yn wynebu ffyrdd o dalu a all waethygu problemau dyled a dwys\u00e1u ansicrwydd ariannol. Mae hyn hefyd yn effeithio'n negyddol ar bethau eraill ym mywydau pobl fel sicrwydd swydd, iechyd corfforol a meddyliol, a pherthnasoedd personol.<\/p>\n<p>Cyflwynwyd sawl ymyrraeth i wella dulliau casglu'r dreth gyngor yn ystod tymor diwethaf y Senedd. Er bod croeso i hyn, mae angen newid llawer mwy radical. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i <a href=\"https:\/\/gov.wales\/fairer-council-tax#:~:text=revaluing%20more%20frequently%20to%20keep,support%20to%20low%2Dincome%20households\">ddiwygio'r dreth gyngor<\/a> yn ystod y tymor hwn yn gyfle i gyflwyno system dreth leol fwy blaengar yng Nghymru sy'n sicrhau bod atebolrwydd yn cael ei ddosbarthu'n decach ar draws mathau gwahanol o aelwydydd gyda gwell amddiffyniad i bobl ar incwm is.\u00a0 Yn y tymor byr mae hefyd yn gyfle i gyflwyno newidiadau hirddisgwyliedig i <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/uksi\/1992\/613\/contents\/made\">reoliadau<\/a>'r dreth gyngor sydd ar waith ers 30 mlynedd er mwyn iddynt gefnogi prosesau casglu dyledion y dreth gyngor sy'n decach ac yn fwy cynaliadwy. Mae'r newidiadau sydd eu hangen yn cynnwys:<\/p>\n<ol>\n<li>Peidio \u00e2 gofyn i bobl dalu eu bil blynyddol llawn os ydynt yn colli un taliad misol<\/li>\n<li>Creu cod ymarfer statudol ar gyfer casglu dyledion y dreth gyngor, gan adeiladu ar Brotocol y Dreth Gyngor yng Nghymru<\/li>\n<li>Dangos mwy o hyblygrwydd i'r rheini sy'n cael trafferth fforddio ad-dalu dyledion<\/li>\n<li>Parhau i wella ymwybyddiaeth o gefnogaeth treth gyngor a chynyddu'r nifer o aelwydydd cymwys sy'n ei derbyn.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Wrth i ni ddechrau ar gyfnod o ansicrwydd ac anhawster ariannol enfawr i lawer, mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt, fel newid y ffordd y mae dyledion y dreth gyngor yn cael eu casglu, i gefnogi gwydnwch ariannol pobl.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod misoedd cychwynnol y pandemig, pan oedd mesurau diogelu amrywiol ar waith - fel y codiad o \u00a320 yr wythnos i'r Credyd Cynhwysol \u2013 cafwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl oedd yn ceisio cymorth gan Cyngor ar Bopeth gyda phroblemau dyled. Ers mis Hydref 2021, fodd bynnag, pan ddaeth llawer o'r mesurau hyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15300,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[140,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15301","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"fuel-poverty-smart-meter.jpg","filesize":186818,"sizes":{"medium":{"file":"fuel-poverty-smart-meter-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":27851,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-744x496.jpg"},"large":{"file":"fuel-poverty-smart-meter-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54507,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"fuel-poverty-smart-meter-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":24571,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"fuel-poverty-smart-meter-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29178,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"fuel-poverty-smart-meter-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":79268,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"fuel-poverty-smart-meter-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":125938,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"fuel-poverty-smart-meter-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97865,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15300","name":"fuel-poverty-smart-meter.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter.jpg","title":"fuel-poverty-smart-meter.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fuel-poverty-smart-meter-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15301","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15301"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15301\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16503,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15301\/revisions\/16503"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15300"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15301"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15301"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15301"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15301"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}