{"id":15298,"date":"2022-08-18T07:02:10","date_gmt":"2022-08-18T07:02:10","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tawelu-amheuon-ar-drywydd-addysg-uwch\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:25","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:25","slug":"tawelu-amheuon-ar-drywydd-addysg-uwch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tawelu-amheuon-ar-drywydd-addysg-uwch\/","title":{"rendered":"Tawelu amheuon ar drywydd addysg uwch"},"content":{"rendered":"<p>Dim ond ar \u00f4l dod i\u2019r casgliad nad oeddwn i\u2019n fodlon yn fy swydd y clywais waedd amheuon y tu mewn. Wrth chwilio am swyddi gwag ar y we, byddwn i\u2019n dod o hyd i r\u00f4l a fyddai\u2019n berffaith yn fy marn i. Byddai\u2019r disgrifiad o\u2019r swydd yn cadarnhau ei bod gweddu i\u2019m gallu. Ar ben hynny, gallwn i ddychmygu <em>mwynhau<\/em>\u2019r swydd. Ar \u00f4l gweld bod angen gradd ar gyfer y swydd, fodd bynnag, byddai\u2019r llais mewnol yn dechrau. Gan fy atgoffa nad oeddwn i\u2019n ddigon da. A bod gyda fi syniadau y tu hwnt i\u2019m gallu. <em>\u201cFe gest ti dy gyfle, a methu \u00e2 manteisio arno. Dylet ti fod yn fodlon ar yr hyn sydd gyda ti. Mae\u2019n syndod bod cymaint gyda ti.\u201d<\/em> Felly, byddwn i\u2019n ildio\u2019n dawel gan gau\u2019r dudalen a derbyn na fyddwn i byth yn addas i swyddi o\u2019r fath. Pobl eraill, ond nid fi. Oedd hynny\u2019n wir, fodd bynnag?<\/p>\n<p>Doeddwn i erioed wedi bod yn fyfyriwr \u2018da\u2019. Pan oeddwn i\u2019n blentyn yn ystod y 1980au, rhyw gyflwr rhwng bod yn araf eich meddwl a diog iawn oedd \u2018dyspracsia\u2019 ym marn llawer. Roedd yn anodd yn yr ysgol gynradd ac, ar un adeg yno, byddai fy llaw\u2019n crynu wrth orfod ysgrifennu rhywbeth gan wybod y byddai ceryddu cyn bo hir am \u2018fethu \u00e2 dal y pin ysgrifennu yn gywir\u2019. Yn fy mlwyddyn olaf, byddai\u2019r athro\u2019n rhwygo tudalennau allan o\u2019m llyfrau gwersi yn aml. Roedd o\u2019r farn bod y gwaith yn fl\u00ear am nad oeddwn i wedi cywiro\u2019r gwallau niferus yn ddigon taclus. Yn fy llygaid i, roedd yr ysgol yn ymwneud \u00e2 cheisio osgoi geiriau hallt yr athro yn hytrach na dysgu rhywbeth o werth.<\/p>\n<p>Erbyn diwedd yr ysgol uwchradd, roeddwn i wedi meithrin ffyrdd o ymdopi rywsut neu ei gilydd. Roeddwn i wedi dod i dderbyn bod beirniadaeth am fethu \u00e2 rhoi sylw yn rhan annatod o bob gwers. Po fwyaf o ymdrech, lleiaf o effaith ac, felly, \u201cfe wnaiff y tro\u201d oedd fy agwedd i. Dros y blynyddoedd, fe ddes i gredu fy mod braidd yn dwp a bod hyd yn oed y pethau symlaf y tu hwnt i\u2019m gafael. O drwch blewyn y des i trwy arholiadau TGAU a\u2019r Safon Uwch. Fe rois i gynnig ar brifysgol mewn ymdrech i fodloni fy rhieni gan ddewis fy mhwnc gorau (er nad oeddwn i\u2019n arbennig o hoff ohono) a chael fy nerbyn gan Brifysgol Aberystwyth. Tra oeddwn i yno, fodd bynnag, daeth chwalfa feddyliol a achosodd iselder trwm a diffyg egni.<\/p>\n<p>Dychwelais adref yn rhacs, yn llawn cywilydd a dicter. Roeddwn i\u2019n teimlo\u2019n euog am siomi fy nheulu. Yn waeth, ymddangosai fod pob beirniadaeth amdanaf fy hun erioed wedi\u2019i chadarnhau. <em>\u201cRwyt ti\u2019n dwp dros ben. Fyddi di byth yn ddefnyddiol. Man a man iti roi\u2019r ffidil yn y to nawr.\u201d<\/em><\/p>\n<p>A dyna wnes i, yn y b\u00f4n. Symudais ymlaen. A gwneud yr hyn roeddwn i'n gyfarwydd ag ef. Gan weithio mewn swydd ddi-obaith a gwneud digon i ymdopi. A\u2019r blynyddoedd yn mynd heibio a\u2019m ffrindiau wedi graddio a llwyddo yn eu gyrfaoedd, dechreuais deulu. Derbyniais y byddai fy mywyd yn wahanol i'w rhai nhw ac y byddai hynny\u2019n iawn. Doeddwn i ddim mor alluog \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Dechreuodd bwyso arnaf i, fodd bynnag. Dim ond ychydig i ddechrau. Yn dawel. Hawdd ei anwybyddu. Wedi'r cwbl, roeddwn i mewn swydd amser llawn ac yn dad, hefyd. Dim ond hyn a hyn o amser sydd gyda fi i bwyso a mesur popeth. Rwy\u2019n edifaru rhai pethau, wrth gwrs, fel pawb arall. Mae colli cyfleoedd yn rhan o fywyd. Dyna sy\u2019n digwydd. Rhaid dwyn yr iau trwm sydd ar fy ngwar. Does dim amser gyda fi i\u2019w leddfu.<\/p>\n<p>A dyna sut y parhaodd dros amser maith. Byddai\u2019r iau ar fy ngwar yn drymach bob blwyddyn. Gan wasgu. A gwthio. Roeddwn i\u2019n gryf o\u2019r farn bod hynt fy mywyd yn gaeth i gledrau di-ben-draw. Un noson, ar \u00f4l sawl gwydraid o win, cyfaddefais wrth gyfaill academaidd bod rhyw ddiffyg yn fy mywyd yn \u00f4l pob golwg. \u201cPam nad ei di yn \u00f4l i'r brifysgol?\u201d meddai hi.<\/p>\n<p>Fel robot, roedd rhestr o esgusodion gyda fi. Rwy'n rhy hen. Rwy'n rhy dwp. Does dim amser gyda fi. Alla i ddim ei fforddio. Mae'n rhy hwyr nawr. Roeddwn i wedi ailadrodd yr un esgusodion gwan dro ar \u00f4l tro fel parot rhyw ymgynghorydd digalonni.<\/p>\n<p>\u201cWyt ti wedi ymholi amdano?\u201d \u201cNac ydw.\u201d Bu rhaid imi ddweud yr ateb yn uchel iawn am fod llais mewnol yn gweiddi i gadarnhau\u2019r hyn oedd yn hysbys imi yn barod.\u00a0 \u201cIawn\u201d, meddai hi. A thewi. Rai dyddiau wedyn, anfonodd hi neges ataf i. Dolenni \u00e2 phrifysgolion sy'n cynnig cyrsiau rhan-amser. Dolen \u00e2 gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. A brawddeg ysgogol. <em>\u201cGalli di wneud hyn!\u201d<\/em><\/p>\n<p>Gan ei bod wedi rhoi o\u2019i hamser i hel yr wybodaeth drosof i, bu rhaid imi wneud peth ymdrech ac, felly, fe wnes i ddysglaid o de a dechrau chwilio. Ar \u00f4l pedair awr, roeddwn i\u2019n dal wrth y gliniadur heb yfed yr un diferyn o de. Po fwyaf o ddarllen, mwyaf o dystiolaeth fy mod ar gyfeiliorn ers tro. Doedd fy esgusodion ddim yn dal d\u0175r. Rhy hen. Mae ar wefan bron pob prifysgol straeon am israddedigion sydd o leiaf ddegawd a hanner yn h\u0177n na mi. Rhy dwp. Mae cyrsiau mynediad a digon o gymorth yn rhad ac am ddim, nid dim ond i fyfyrwyr cofrestredig. Does dim amser gyda fi. Mae mwyafrif y cyrsiau dysgu rhan-amser yn awgrymu amserlen sy\u2019n cyfateb yn fras i un diwrnod y penwythnos a dwy noson yr wythnos. Alla i ddim ei fforddio. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig grantiau a benthyciadau am y rheswm penodol hwnnw. Dyna\u2019r rheswm dros ei sefydlu. Mae'n rhy hwyr nawr. Ydy hi? Ydy\u2019n wir? Does dim modd osgoi cyfaddef bod fy ffrind yn llygad ei lle. Gallwn ei wneud.<\/p>\n<p>Rwy'n sylweddoli bellach fy mod mewn sefyllfa dda. Mae\u2019r plant wedi tyfu ac rwy\u2019n ennill cyflog digon cryf. Roedd ei geiriau\u2019n atseinio yn fy ymennydd drwy\u2019r amser. \u201cGalli di ei wneud!\u201d<\/p>\n<p>Gallwn. Fyddai ddim yn hawdd. Ond byddai modd.<\/p>\n<p>Felly, pam roeddwn i\u2019n gyndyn o hyd?<\/p>\n<p>Pan na ddaeth ateb, penderfynais fentro. A bron yn syth, gwelais fod fy marn amdanaf fy hun wedi bod yn iawn drwy'r amser. Rwy\u2019n dwp. Am beidio \u00e2 gwneud hyn cynt. I ddechrau, mae proses cyflwyno cais am le mewn prifysgol ac am gymorth ariannol yn un hawdd iawn. A hynny i\u2019r graddau imi fwrw golwg dros y ffurflenni nifer o weithiau i ofalu nad oedd rhagor i\u2019w lenwi. Hyd yn oed pan ddaeth maen tramgwydd am na allwn i agor cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru, datrysais y broblem yn glou trwy ffonio llinell gymorth y sefydliad. Yn y b\u00f4n, y peth anhawsaf oedd penderfynu beth i'w astudio a ble. Ar \u00f4l penderfynu ar hynny, y cwbl roedd angen ei wneud oedd llenwi rhai ffurflenni ar y we a\u2019u cyflwyno.<\/p>\n<p>Mae astudio\u2019n brofiad unigryw. O achos natur dysgu rhan-amser a chyrsiau o hirbell, byddwch chi ar eich pen eich hun ar adegau, a rhaid eich ysgogi eich hun i gyflawni\u2019r gwaith. Rhaid dewis cwrs sy\u2019n gweddu i chi, hefyd.<\/p>\n<p>Mae \u2018to cyntaf\u2019 yn derm yn y byd academaidd. Yn y b\u00f4n, mae'n golygu nad aeth yr un o'ch rhieni i'r brifysgol. Mae'n gategori mae bron pob un o\u2019m cyfoeswyr yn perthyn iddo. Fy rheswm dros grybwyll hynny bellach yw bod rhai myfyrwyr to cyntaf yn tueddu i syrthio i\u2019r un fagl oedd wedi fy nal i ar y dechrau. Sef. Does dim rhaid astudio pwnc \u2018teilwng\u2019 am ei fod yn un o fri neu er mwyn bodloni\u2019ch teulu. Y gwir yw bod pob pwnc yn deilwng. Mae angen dod o hyd i un sydd o wir ddiddordeb ichi. Un rydych chi\u2019n frwd amdano. Un ymestynnol y byddwch chi\u2019n mwynhau mynd i\u2019r afael ag e. Mae pwnc addas i chi rhywle. Un sy\u2019n gweddu i\u2019r dim.<\/p>\n<p>Fydd ei astudio ddim yn hawdd wrth geisio gadw\u2019r ddysgl yn wastad rhwng cyfrifoldebau yn y cartref a\u2019r gwaith yn ogystal \u00e2 phopeth arall a allai godi ei ben unrhyw bryd. Ar yr amod eich bod yn hoffi dysgu am eich pwnc, fodd bynnag, gall roi tipyn o foddhad.<\/p>\n<p>Nid dim ond cymwysterau fydd yn deillio o\u2019r peth, chwaith. Mae'n ymwneud \u00e2 thyfu. Datblygu. Profiadau newydd. Dysgu rhagor amdanoch eich hun. Mae'n hen ystrydeb, ond mae\u2019n ymwneud \u00e2 chyflawni\u2019ch llawn dwf, gymaint \u00e2 dim.<\/p>\n<p>I mi, mae'n ymwneud \u00e2 thawelu fy amheuon. Sydd yno o hyd wrth ysgrifennu hyn. Er eu bod yn cilio. Daw\u2019r amheuon yn llai aml bellach. Heb weiddi mwyach, diolch byth.<\/p>\n<p><strong>Manylion yr awdur: <\/strong>Mae Gareth Davies yn dad ac yn fyfyriwr israddedig sy\u2019n astudio cymdeithaseg yn y Brifysgol Agored.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dim ond ar \u00f4l dod i\u2019r casgliad nad oeddwn i\u2019n fodlon yn fy swydd y clywais waedd amheuon y tu mewn. Wrth chwilio am swyddi gwag ar y we, byddwn i\u2019n dod o hyd i r\u00f4l a fyddai\u2019n berffaith yn fy marn i. Byddai\u2019r disgrifiad o\u2019r swydd yn cadarnhau ei bod gweddu i\u2019m gallu. Ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15297,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15298","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1357073787-2.jpg","filesize":159152,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1357073787-2-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":45094,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1357073787-2-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1357073787-2-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91519,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1357073787-2-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1357073787-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39988,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1357073787-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1357073787-2-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":47177,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1357073787-2-768x512.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15297","name":"iStock-1357073787-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1357073787-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1357073787-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1357073787-2.jpg","title":"iStock-1357073787-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15298","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15298"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15298\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16502,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15298\/revisions\/16502"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15297"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15298"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15298"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15298"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15298"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}