{"id":15281,"date":"2022-03-14T16:31:43","date_gmt":"2022-03-14T16:31:43","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/codir-gwastad-parhau-ar-sgwrs\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:19","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:19","slug":"codir-gwastad-parhau-ar-sgwrs","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/codir-gwastad-parhau-ar-sgwrs\/","title":{"rendered":"'Codi\u2019r Gwastad': parhau \u00e2'r sgwrs"},"content":{"rendered":"<p><span data-contrast=\"auto\">Mae 'Codi\u2019r Gwastad' - a ddefnyddir yma i gyfeirio at agenda bolisi ehangach Llywodraeth y DU yn hytrach na'r ffrwd ariannu Codi\u2019r Gwastraff benodol - yn ymwneud yn bennaf \u00e2 mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, datblygu economaidd a chynhyrchiant ar sail lleoedd.\u00a0 Fel y nodwyd yn ein blog WCPP blaenorol, mae hon yn sgwrs sy'n hanfodol i Gymru.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er bod 'Codi\u2019r Gwastad' yn ceisio targedu lleoedd (rhanbarthau, awdurdodau lleol, dinasoedd, trefi gwledig) sydd wedi\u2019u hanfanteisio\u2019n anghymesur yn economaidd, codwyd cwestiynau ynghylch a yw'n cyrraedd yr ardaloedd a'r bobl fwyaf anghenus.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er enghraifft, mae'r fformiwla a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i dargedu ardaloedd ar gyfer cyllid <\/span><a href=\"https:\/\/www.civilserviceworld.com\/news\/article\/levelling-up-fund-formula\"><span data-contrast=\"none\">wedi cael ei beirniadu<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> am beidio \u00e2 chynnwys y Mynegai Amddifadedd Lluosog, neu unrhyw fetrig ar gyfer amddifadedd, yn ei chyfrifiadau.\u00a0 Mae'r felin drafod <\/span><a href=\"https:\/\/www.thinknpc.org\/about-npc\/\"><span data-contrast=\"none\">NPC<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> wedi dweud yn fwy diweddar nad yw'r cyllid yn mynd i\u2019r ardaloedd sydd \u00e2'r cyfraddau <\/span><a href=\"https:\/\/www.msn.com\/en-gb\/news\/uknews\/uk-levelling-up-fund-e2-80-98failing-to-prioritise-e2-80-99-deprivation-and-homelessness-in-scotland\/ar-AASDd1N\"><span data-contrast=\"none\">amddifadedd<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> uchaf yng Nghymru a'r Alban.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae cyfres newydd ei rhyddhau o <\/span><a href=\"https:\/\/ied.co.uk\/insights\/levelling_up_pre_white_paper_perspectives\/\"><span data-contrast=\"none\">safbwyntiau<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> proffesiynol gan y Sefydliad Datblygu Economaidd (IED) yn awgrymu bod pobl a chymunedau yn cael eu 'gadael allan o'r naratif' ac y bydd 'economeg diferu' yn arwain at 'fuddion i rai, tra prin yn cyffwrdd \u00e2 llawer'.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn wir, mae 'Codi\u2019r Gwastad' yn ymddangos yn esgeulus o anghydraddoldebau y mae angen eu hystyried os yw pawb am gael eu cymryd 'ar y daith'.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae ystyriaeth fanylach o waith WCPP ar ddwy agwedd allweddol ar gydraddoldeb yng Nghymru - <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/poverty-review\/\"><span data-contrast=\"none\">tlodi<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> a <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Improving-race-equality-in-Wales-Summary-report.pdf\"><span data-contrast=\"none\">chydraddoldeb hiliol<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> - yn amlwg yn hyn o beth.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn gyntaf, mewn perthynas \u00e2 <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/poverty-review\/\"><span data-contrast=\"none\">thlodi<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">, mae bron i chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd. Mae tystiolaeth o\u2019r cyd-destun Cymreig yn dangos bod pandemig y Coronafeirws wedi arwain at gynydd yn nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi; wedi dwys\u00e1u tlodi i'r bobl hynny a oedd eisoes yn byw mewn tlodi; ac wedi gwaethygu\u2019r canlyniadau o fod ar incwm isel.\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/poverty-review\/\"><span data-contrast=\"none\">Mae ymchwil a gomisiynwyd gan WCPP<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> (sydd ar y gweill) yn awgrymu, er bod gan bolis\u00efau adfywio ar sail lleoedd r\u00f4l bwysig i'w chwarae, fod cyfyngiadau iddynt o ran lleihau tlodi.\u00a0 Er mwyn sicrhau bod y rhai sydd dan anfantais yn elwa ar bolis\u00efau o'r fath, mae angen pennu amcanion clir ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol, ynghyd \u00e2 ffurfiau digonol o werthuso a monitro \u2014 ni ellir disgwyl i dwf a ffyniant ddiferu i lawr yn organig; mae gwir gynhwysiant yn gofyn am ymgysylltu'n rhagweithiol \u00e2\u2019r rhai mwyaf difreintiedig yn y gymuned a ffocws ar ddeall a mynd i'r afael \u00e2'r rhwystrau i ymgysylltu.\u00a0 Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael \u00e2 'chostau' cyfranogiad mewn datblygu sgiliau, hyfforddiant, neu gyfleoedd gwaith newydd\/gwell - er enghraifft drwy ddarparu trafnidiaeth a gofal plant fforddiadwy, hygyrch a hyblyg - yn ogystal \u00e2 rhoi sylw i nifer o ffactorau eraill (er enghraifft mynediad at fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, stigma a deimlir) sydd gyda'i gilydd yn ei gwneud hi'n hynod o anodd dod o hyd i lwybr allan o dlodi.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">At hynny, fel y dadleuwyd gan <\/span><a href=\"https:\/\/www.bath.ac.uk\/announcements\/levelling-up-will-only-be-achieved-with-transformational-changes-to-improve-child-poverty\/\"><span data-contrast=\"none\">yr Athro Hugh Lauder o Brifysgol Caerfaddon<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">, mae dull sy'n seiliedig ar leoedd yn esgeuluso natur ehangach tlodi (plant): 'gagendor gwirioneddol arwyddocaol a phoenus iawn mewn cymdeithas, sy'n amlwg ym mhob tref a dinas'.\u00a0 Mae\u2019r <\/span><a href=\"https:\/\/www.jrf.org.uk\/press\/levelling-we-cant-afford-not\"><span data-contrast=\"none\">Joseph Rowntree Foundation<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> yn rhybuddio am 'anghyfiawnder dwbl' adferiad economaidd sy'n methu \u00e2 lleihau tlodi yn y DU.\u00a0 Ni allwn fforddio, mynna\u2019r sefydliad, <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">beidio <\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">\u00e2 'chodi\u2019r gwastad' ar y <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">ddau<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn ail, mewn perthynas \u00e2 chydraddoldeb hiliol, mae ymchwil a gomisiynwyd gan WCPP wedi cynhyrchu chwe adolygiad tystiolaeth ar y meysydd polisi allweddol sydd \u00e2\u2019r potensial i gael yr effaith fwyaf ar wella cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.\u00a0\u00a0 Mae'r adolygiadau'n cynnwys ffocws ar <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Improving-Race-Equality-in-Employment-and-Income.pdf\"><span data-contrast=\"none\">gyflogaeth ac incwm<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">, <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Improving-Race-Equality-in-Housing-and-Accommodation-.pdf\"><span data-contrast=\"none\">tai a llety<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> ac <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Improving-Race-Equality-in-Education.pdf\"><span data-contrast=\"none\">addysg<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> (gan gynnwys hyfforddiant a datblygiad, addysg uwch ac addysg bellach). Mae'r <\/span><span data-contrast=\"none\">adroddiad cryno<\/span><span data-contrast=\"auto\"> yn defnyddio'r dystiolaeth i eirioli dros fwy o ymgysylltu ac allgymorth gyda chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys mwy o gyfleoedd ar gyfer cyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu wrth wraidd dylunio, cyflwyno a gwerthuso polis\u00efau.\u00a0 Mae rhai, os nad pob un, o'r chwe adroddiad yma a'r neges graidd hon o'r crynodeb yn berthnasol i'r agenda Codi\u2019r Gwastad.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae hil a statws economaidd-gymdeithasol gyda'i gilydd yn ddimensiynau pwerus o anghydraddoldeb, yn rhyngweithio \u00e2'i gilydd ac yn llunio profiadau a chyfleoedd unigolion.\u00a0 <\/span><a href=\"https:\/\/www.pressreader.com\/uk\/the-house\/20210125\/281556588485600\"><span data-contrast=\"none\">Fel y nododd eraill<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">, rhaid i'r agenda Codi\u2019r Gwastad 'gadw lle' ar gyfer y 'cymhlethdod' hwn ac ystyried rhwystrau y tu hwnt i'r rhai sy'n 'ymwneud \u00e2 daearyddiaeth' yn unig.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae ein <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/poverty-review\/\"><span data-contrast=\"none\">hadolygiad tlodi<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> arfaethedig yn dangos, o'r aelwydydd incwm isel yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig yng Nghymru \u2014 o ran y risg o ddal y Coronafeirws a'i oblygiadau economaidd \u2014 grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod a phobl ifanc oedd y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf.\u00a0 Mae'n amlwg bod angen talu sylw pellach i gydraddoldeb hiliol a thlodi sy'n bwydo i unrhyw syniad ystyrlon o Godi\u2019r Gwastad.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae\u2019r ffrydiau ariannu Codi\u2019r Gwastad yn gofyn am sgyrsiau uniongyrchol rhwng Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Cymru.\u00a0 Fodd bynnag, gallai ailgyflwyno deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru i\u2019r drafodaeth alluogi ffocws cryfach ar liniaru tlodi a chydraddoldeb hiliol.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er enghraifft, mae <\/span><a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/wsi\/2011\/1064\/made\"><span data-contrast=\"none\">Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> yn cynnwys gofynion ar gyfer 'asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb' a 'chynlluniau cydraddoldeb strategol' lleol; mae <\/span><a href=\"https:\/\/gov.wales\/well-being-of-future-generations-wales\"><span data-contrast=\"none\">Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015)<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> yn canolbwyntio ar 'Gymru fwy cyfartal', yn ogystal \u00e2 'Chymru fwy llewyrchus\u2019, ac mae'r <\/span><a href=\"https:\/\/gov.wales\/socio-economic-duty\"><span data-contrast=\"none\">Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol (31 Mawrth 2021)<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> yn gofyn am ystyried sut i leihau anghydraddoldeb a sicrhau canlyniadau gwell i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.\u00a0 Mae <\/span><a href=\"https:\/\/gov.wales\/race-equality-action-plan-anti-racist-wales\"><span data-contrast=\"none\">Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (REAP)<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> arfaethedig Llywodraeth Cymru wedi'i leoli o fewn strategaeth wrth-hiliol ar gyfer Cymru ac yn ceisio helpu i weithredu strategaeth o\u2019r fath.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gyda'i gilydd, gall y fframwaith cyfreithiol a pholisi galluogol hwn a sylfaen dystiolaeth gref ar liniaru tlodi a gwella cydraddoldeb hiliol helpu i gyfrannu dimensiwn ehangach o gyfiawnder cymdeithasol, ochr yn ochr \u00e2 datblygiad economaidd, at y sgwrs ynghylch Codi\u2019r Gwastad yng Nghymru.\u00a0 Gallai hyn fod o gymorth i'r awdurdodau lleol hynny sy'n delio ag ystod o heriau a thensiynau sy'n gysylltiedig \u00e2 chyflwyno ceisiadau i'r ffrydiau ariannu newydd a chyflawni'n llwyddiannus yng nghyd-destun Cymru.<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae 'Codi\u2019r Gwastad' - a ddefnyddir yma i gyfeirio at agenda bolisi ehangach Llywodraeth y DU yn hytrach na'r ffrwd ariannu Codi\u2019r Gwastraff benodol - yn ymwneud yn bennaf \u00e2 mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, datblygu economaidd a chynhyrchiant ar sail lleoedd.\u00a0 Fel y nodwyd yn ein blog WCPP blaenorol, mae hon yn sgwrs [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15280,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[140,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15281","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-economi","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1314373231-2.jpg","filesize":1213889,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1314373231-2-744x495.jpg","width":744,"height":495,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":117761,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-744x495.jpg"},"large":{"file":"iStock-1314373231-2-1200x798.jpg","width":1200,"height":798,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":283877,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-1200x798.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1314373231-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":102192,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1314373231-2-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":124523,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-768x511.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1314373231-2-1536x1022.jpg","width":1536,"height":1022,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":440101,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-1536x1022.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1314373231-2-2048x1363.jpg","width":2048,"height":1363,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":715754,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-2048x1363.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1314373231-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":551134,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15280","name":"iStock-1314373231-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2.jpg","title":"iStock-1314373231-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1314373231-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15281","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15281"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15281\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16497,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15281\/revisions\/16497"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15280"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15281"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15281"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15281"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15281"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}