{"id":15278,"date":"2022-03-01T17:25:53","date_gmt":"2022-03-01T17:25:53","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/codir-gwastad-sgwrs-hanfodol-i-gymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:18","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:18","slug":"codir-gwastad-sgwrs-hanfodol-i-gymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/codir-gwastad-sgwrs-hanfodol-i-gymru\/","title":{"rendered":"'Codi\u2019r Gwastad': sgwrs hanfodol i Gymru"},"content":{"rendered":"<p><span data-contrast=\"auto\">Beth mae 'codi\u2019r gwastad' yn ei olygu'n ymarferol i Gymru? Mae'r ddadl ynghylch y diffiniad yn parhau, ac m<span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">ae\u2019r<\/span><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-politics-59541369\"> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">Papur<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW257605753 BCX8\"> Gwyn <\/span><\/a><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">hirddisgwyliedig<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">bellach<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">wedi\u2019i<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">gyhoeddi<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW257605753 BCX8\">, <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">ond<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">erys<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">cwestiynau<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">ynghylch<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">sut<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW257605753 BCX8\"> y <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">cyflawnir<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2 SCXW257605753 BCX8\">canlyniadau<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW257605753 BCX8\">.<\/span><\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn <\/span><a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/eventbrite-event\/2021-virtual-economy-summit\/\"><span data-contrast=\"none\">Uwchgynhadledd yr Economi gan y Sefydliad Materion Cymreig<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> ym mis Tachwedd dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, y gallai codi'r gwastad gael ei fframio fel cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i Gymru. Mae codi'r gwastad yn sgwrs bwysig i Gymru. Mae gan economi Cymru <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/achieving-a-prosperous-economy-insights-from-other-nations-and-regions\/\"><span data-contrast=\"none\">nodweddion penodol<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> sy'n golygu bod angen cymorth ychwanegol i gyflawni'r nod o godi'r gwastad.\u00a0 Er bod Cymru'n perfformio'n dda o ran ystadegau cyflogaeth; mae <\/span><a href=\"https:\/\/www.productivity.ac.uk\/publications\/wales-productivity-challenge-exploring-the-issues\/?utm_source=press+release&amp;utm_medium=email&amp;utm_campaign=RPI&amp;utm_id=RPI_WALES\"><span data-contrast=\"none\">bwlch cynhyrchiant nodedig<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> o gymharu \u00e2 gweddill y DU, gyda goblygiadau uniongyrchol ar gyfer cyflogau. Cymru sydd \u00e2'r ardaloedd \u00e2'r cynhyrchiant isaf yn y DU, ynghyd \u00e2\u2019r ardaloedd \u00e2'r <\/span><a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/145431\/1\/R%20Huggins%202021%20UK%20competitive%20index%202021%20pub%20ver.pdf\"><span data-contrast=\"none\">cystadleurwydd isaf<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">. Yn ogystal ag anghydraddoldeb economaidd rhwng Cymru a gweddill y DU, mae anghydraddoldeb hefyd rhwng <\/span><a href=\"https:\/\/statswales.gov.wales\/Catalogue\/Community-Safety-and-Social-Inclusion\/Welsh-Index-of-Multiple-Deprivation\"><span data-contrast=\"none\">awdurdodau lleol yng Nghymru<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> ac o fewn yr awdurdodau.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae fy ngwaith ar economi Cymru yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio at dair <\/span><a href=\"https:\/\/lipsit.ac.uk\/project-outputs\/\"><span data-contrast=\"none\">problem<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> y mae angen i Gymru eu datrys er mwyn gallu 'codi'r gwastad':\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">system ariannu dameidiog;<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"2\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">diffyg cydlyniant; a<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"3\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">thueddiad mewn gwleidyddiaeth i ganolbwyntio ar y tymor byr.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn gyntaf, mae natur dameidiog y system ariannu yn gysylltiedig \u00e2\u2019r ffaith bod cyllid strwythurol yr UE wedi cael ei ddisodli gan broses gystadleuol o wneud cais ar gyfer y Gronfa Codi'r Gwastad, y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, a'r Gronfa Rhannu Ffyniant a lansiwyd. Gallai'r gofyniad bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud cais am gyllid, sydd wedi'i reoli a'i gynllunio gan Lywodraeth y DU, gael sgil-effeithiau negyddol. Mae risg y gallai'r cylchoedd ariannu waethygu'r anghydraddoldebau presennol o ran capasiti rhwng y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. At hynny, mae parhau i gefnogi prosiectau Cymru gyfan yn yr un modd ag yr oedd yr UE yn ei wneud yn fwy o her, oherwydd y ffocws newydd ar ardaloedd lleol, gan fod mentrau rhanbarthol a rhai Cymru gyfan fel cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol ar gyfer cefnogi datblygu economaidd.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn ail, mae twf cynhyrchiant ym mhob ardal, gan gynnwys ardaloedd \u00e2 lefelau twf arafach, yn bwysig ar gyfer codi'r gwastad yng Nghymru. Er bod amryw ffactorau sy'n ysgogi cynhyrchiant, gan gynnwys mewnfuddsoddiad a chysylltedd digidol, seilwaith, entrepreneuriaeth, sgiliau, arloesedd ac ymchwil a datblygu; cydnabyddir yn eang <\/span><a href=\"https:\/\/www.project-syndicate.org\/commentary\/coordinated-collective-action-boosts-productivity-by-diane-coyle-2020-10\"><span data-contrast=\"none\">bod angen rhoi mwy o sylw i ymateb polisi cydgysylltiedig<\/span><\/a><span data-contrast=\"none\">.\u00a0 <\/span><span data-contrast=\"auto\">Er enghraifft, rydym yn gwybod bod angen swyddi medrus o ansawdd uchel mewn diwydiannau deinamig a bod hyn yn gofyn am fuddsoddiad cydgysylltiedig mewn sgiliau, trafnidiaeth, ymchwil a datblygu, gweithleoedd, a datblygu clystyrau \u00e2 chadwyni cyflenwi cefnogol. I gyflawni hyn mae angen pecyn buddsoddiad sy'n rhan o weledigaeth ar gyfer datblygu economaidd, yn hytrach na phrosiectau unigol.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn drydydd, mae'r tueddiad i ganolbwyntio ar y tymor byr gryn her o ran codi'r gwastad, oherwydd bydd angen gwrthdroi nodweddion strwythurol hirsefydlog, ac felly ni ellir cyflawni hyn mewn un tymor gwleidyddol. Mae'n golygu bod angen ymrwymiad hirdymor sy'n adlewyrchu cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru; ac ymdrech i gyflwyno\u2019r math o newid sefydliadol sydd ei angen i wneud gwahaniaeth. Mae'r newidiadau hyn yn <\/span><a href=\"https:\/\/blogs.worldbank.org\/governance\/political-economy-tackling-climate-change\"><span data-contrast=\"none\">heriol o safbwynt gwleidyddol<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> gan eu bod yn debygol o fod yn fygythiad i fuddiannau sefydledig, ac i Gymru gallai hyn olygu ailedrych ar hen ddadleuon ynghylch <\/span><a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/agenda\/2018\/10\/restructuring-welsh-local-government-what-about-the-long-term\/\"><span data-contrast=\"none\">ailstrwythuro awdurdodau lleol<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Teimlir yr heriau hyn yn gryf yng Nghymru, yn yr un modd ag yng ngweddill y DU. Fodd bynnag, mae'n ddigon posibl y bydd diddymu rheolaeth Llywodraeth Cymru dros y cronfeydd newydd sy'n disodli rhai yr UE a chyflwyno elfen o gystadlu am arian yn llesteirio ymdrechion i godi'r gwastad.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae'r heriau hyn yn gysylltiedig \u00e2 chwestiynau ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i drafodaeth Llywodraeth y DU a'i blaenoriaethau gwleidyddol, a sut y gall Llywodraeth Cymru mynnu trafodaeth ynghylch mater mor bwysig; trafodaeth y mae nifer gynyddol o bobl wedi bod yn galw amdani yn ystod pandemig COVID-19.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er ei bod yn bwysig mynd i'r afael \u00e2 heriau hirdymor sy'n gysylltiedig \u00e2 chodi'r gwastad, mae camau ymarferol yn cael eu cymryd yn y tymor byrrach i gefnogi awdurdodau Cymru yn eu ceisiadau am gyllid. Mae'r rhain yn cynnwys cynnig cymorth ar y cyd ar gyfer datblygu ceisiadau drwy adeiladu ar bartneriaethau sy'n bodoli eisoes.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn y tymor canolig, bydd yn bwysig rhoi codi'r gwastad yn ei gyd-destun ym mholis\u00efau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i wneud cysylltiadau \u00e2 heriau sy'n benodol i Gymru; ac i barhau \u00e2'r drafodaeth ynghylch yr heriau a'r atebion posibl, yn enwedig o ystyried effaith codi'r gwastad ar anghydraddoldebau, rhwng Cymru a gweddill y DU ac o fewn Cymru ei hun.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi gweithio ar amrywiaeth o'r materion hyn <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publications\/\"><span data-contrast=\"none\">dros y blynyddoedd diwethaf<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/newsletter-signup\/\"><span data-contrast=\"none\">yma<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth mae 'codi\u2019r gwastad' yn ei olygu'n ymarferol i Gymru? Mae'r ddadl ynghylch y diffiniad yn parhau, ac mae\u2019r Papur Gwyn hirddisgwyliedig bellach wedi\u2019i gyhoeddi, ond erys cwestiynau ynghylch sut y cyflawnir canlyniadau. Yn Uwchgynhadledd yr Economi gan y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Tachwedd dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9239,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[140,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15278","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-economi","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"New-housing-Building-4-scaled.jpg","filesize":504355,"sizes":{"medium":{"file":"New-housing-Building-4-744x494.jpg","width":744,"height":494,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":71979,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-744x494.jpg"},"large":{"file":"New-housing-Building-4-1200x797.jpg","width":1200,"height":797,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":152833,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-1200x797.jpg"},"thumbnail":{"file":"New-housing-Building-4-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64526,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"New-housing-Building-4-768x510.jpg","width":768,"height":510,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":76308,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-768x510.jpg"},"1536x1536":{"file":"New-housing-Building-4-1536x1020.jpg","width":1536,"height":1020,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":224257,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-1536x1020.jpg"},"2048x2048":{"file":"New-housing-Building-4-2048x1360.jpg","width":2048,"height":1360,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":351593,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-2048x1360.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"New-housing-Building-4-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":280491,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"New-housing-Building-4.jpg","ID":"15277","name":"New-housing-Building-4-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-scaled.jpg","title":"New-housing-Building-4.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-housing-Building-4-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15278","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15278"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15278\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16496,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15278\/revisions\/16496"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9239"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15278"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15278"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15278"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15278"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}