{"id":15273,"date":"2022-02-03T15:47:44","date_gmt":"2022-02-03T15:47:44","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/a-ddylid-codi-oedran-cymryd-rhan-mewn-addysg-neu-hyfforddiant-i-18-oed-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:18","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:18","slug":"a-ddylid-codi-oedran-cymryd-rhan-mewn-addysg-neu-hyfforddiant-i-18-oed-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/a-ddylid-codi-oedran-cymryd-rhan-mewn-addysg-neu-hyfforddiant-i-18-oed-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"A ddylid codi oedran cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant i 18 oed yng Nghymru?"},"content":{"rendered":"<p><i><span data-contrast=\"auto\">Mae Dr <\/span><\/i><a href=\"https:\/\/researchportal.bath.ac.uk\/en\/persons\/matt-dickson\"><i><span data-contrast=\"none\">Matt Dickson<\/span><\/i><\/a><span data-contrast=\"auto\"> yn<\/span><i><span data-contrast=\"auto\"> Ddarllenydd mewn Polisi Cyhoeddus yn y Sefydliad Ymchwil <\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">Polisi <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">(IPR) ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae <\/span><\/i><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/sue-maguire-28697b51\/?originalSubdomain=uk\"><i><span data-contrast=\"none\">Sue Maguire<\/span><\/i><\/a><i><span data-contrast=\"auto\"> yn Athro Anrhydeddus yn yr IPR ym Mhrifysgol Caerfaddon. Bu i\u2019w gwaith ymchwil ar godi oedran cymryd rhan mewn addysg i 18 oed gael ei gyhoeddi\u2019n ddiweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.\u00a0<\/span><\/i><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae'n ofynnol i bob person ifanc yn y DU aros yn yr <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">ysgol<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\"> tan ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fyddant yn codi\u2019n 16 oed. Ers 2015, mae deddfwriaeth wedi bod yn Lloegr sy'n nodi y dylai pobl ifanc aros mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant tan y byddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 18 oed.<\/span><span data-contrast=\"auto\">1<\/span><span data-contrast=\"auto\"> Hyd yma, ni ddilynwyd y cyfeiriad polisi hwn yng Nghymru, yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae'r <\/span><a href=\"https:\/\/www.bath.ac.uk\/research-institutes\/institute-for-policy-research\/\"><span data-contrast=\"none\">IPR<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> wedi cydweithio'n ddiweddar \u00e2 Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i edrych ar effeithiau codi'r oedran cyfranogi (raising the participation age, RPA) yn Lloegr ac mewn gwledydd eraill ledled y byd lle mae polis\u00efau tebyg wedi'u cyflwyno. Yna, asesodd y prosiect hwn effaith debygol gweithredu polisi tebyg yng Nghymru ar addysg \u00f4l-16 neu ar gyfraddau cyfranogiad, cadw a chyrhaeddiad.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae tystiolaeth sy\u2019n awgrymu y bydd gwella cyfraddau cyfranogi mewn addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 yn fuddiol i bobl ifanc, i\u2019r economi ac i\u2019r gymdeithas yn ehangach. At hynny, mae corff mawr o ymchwil wedi sefydlu bod cynnydd blaenorol yn yr oedran isaf er mwyn gadael yr ysgol yn y DU (ac yn rhyngwladol) wedi arwain at gynnydd yn lefelau <\/span><a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/abs\/pii\/S0047272720300013\"><span data-contrast=\"none\">cyrhaeddiad<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">, cymwysterau ,<\/span><a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/10.1111\/j.1467-9442.2012.01739.x\"><span data-contrast=\"none\">enillion<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> a sgiliau, yn ogystal \u00e2 gwella <\/span><a href=\"https:\/\/www.nature.com\/articles\/s41562-017-0279-y\"><span data-contrast=\"none\">iechyd a lleihau cyfraddau marwolaethau<\/span><\/a><span data-contrast=\"none\">, <\/span><a href=\"https:\/\/www.nber.org\/papers\/w24332\"><span data-contrast=\"none\">beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> a <\/span><a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1111\/j.1468-0297.2011.02430.x\"><span data-contrast=\"none\">throseddau ieuenctid<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Tan i RPA gael ei fabwysiadu yn Lloegr, yn 1972 y cafwyd y newid sylweddol diwethaf i ofynion addysg yn y DU. Pan godwyd yr oedran gadael ysgol (raising of the school leaving age, RoSLA) bryd hynny, codwyd yr oedran roedd pobl ifanc yn cael gadael yr ysgol o 15 i 16 oed. Fodd bynnag, mae tri gwahaniaeth sylfaenol rhwng RPA a RoSLA 1972:<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<ol>\n<li data-leveltext=\"%1.\" data-font=\"Noto Sans\" data-listid=\"6\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"none\">Nid yw RPA yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ifanc aros mewn dysgu amser llawn yn yr ysgol ac mae'n cynnig yr hyblygrwydd i gyfuno gwaith \u00e2 hyfforddiant a dysgu\u2019n rhan-amser. Gallai hyn ei gwneud hi\u2019n anoddach gweithredu ac olrhain y cynllun, o ystyried y gwahanol opsiynau a llwybrau y gall pobl ifanc eu dewis. Mae hefyd yn gofyn am gydweithrediad a monitro amrywiaeth eang o ddarparwyr addysg a hyfforddiant, ac o gyflogwyr. I'r gwrthwyneb, roedd RoSLA yn gymharol syml, er ei fod yn gostus, gan ei bod yn ofynnol i bob person ifanc aros yn yr ysgol tan ei fod yn 16 oed.<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"%1.\" data-font=\"Noto Sans\" data-listid=\"6\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\">Mae'r cyfnodau gweithredu a'r dyraniadau cyllid yn wahanol iawn. Roedd sylfeini RoSLA yn Neddf Addysg 1944, gydag oedi o 28 mlynedd cyn iddo gael ei weithredu, oherwydd y gost i'r pwrs cyhoeddus, o ran adeiladau ysgol newydd a'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen i gefnogi newidiadau o'r fath.<span data-contrast=\"auto\">2<\/span><span data-contrast=\"none\"> Roedd cynlluniau ar gyfer RPA yn rhan o Ddeddf Addysg a Hyfforddiant 2008 ac fe'u deddfwyd yn Lloegr yn 2013 i gynnwys pob plentyn 17 oed, cyn cael eu hestyn yn 2015 i bob person ifanc tan ei ben-blwydd yn 18 oed, h.y. roedd yr amserlen yn fyr iawn. Hefyd, nid oedd mwy o fuddsoddiad yn dod gyda RPA, gyda'r awdurdodau lleol yn cael cyfarwyddyd i <\/span><a style=\"font-size: 18px;\" href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/participation-of-young-people-education-employment-and-training\"><span data-contrast=\"none\">dalu costau darparu addysg ychwanegol ac i fonitro'r nifer a oedd yn manteisio<\/span><\/a><span data-contrast=\"none\"> o\u2019u cyllidebau cyffredinol presennol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"%1.\" data-font=\"Noto Sans\" data-listid=\"6\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\">Er bod methu cydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth RoSLA wedi arwain at erlyn rhieni\/gofalwyr yn droseddol, nid oes unrhyw gosbau ar hyn o bryd yn cael eu rhoi i bobl ifanc, i\u2019w rhieni\/gofalwyr nac i gyflogwyr am beidio \u00e2 chydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth yr RPA yn Lloegr.<\/li>\n<\/ol>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er ei bod yn rhy gynnar i asesu effeithiau llawn RPA yn Lloegr ar ganlyniadau economaidd ac addysgol ehangach, gallwn weld yr effaith ar gyfraddau cyfranogiad \u00f4l-16.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er bod cyfraddau cyfranogiad \u00f4l-16 mewn ysgolion wedi codi ers i RPA gael ei weithredu, mae hyn wedi cyd-fynd \u00e2 chwymp yn nifer y bobl ifanc sy'n ymgymryd \u00e2 phrentisiaethau neu fathau eraill o hyfforddiant galwedigaethol, fel mai prin yw\u2019r newid yn y niferoedd nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Felly, os mai nod y polisi yw ymgysylltu o\u2019r newydd \u00e2'r rhai sy'n gadael y system addysg ar \u00f4l cyrraedd 16 oed a chodi cyfran y garfan ysgol sy'n dal ati mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant, nid yw hyn wedi'i gyflawni eto.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Efallai nad yw'n syndod ychwaith fod yr adolygiad o lenyddiaeth ryngwladol a wnaed yn y prosiect hwn wedi canfod mai gwan yw\u2019r dystiolaeth i gefnogi gweithredu RPA yng Nghymru. Mae dyluniad polisi, costio ac amseru RPA, o'i gymharu \u00e2 newidiadau hanesyddol RoSLA, yn wahanol iawn ac yn helpu i egluro pam mae eu canlyniadau\u2019n cyferbynnu.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Felly'r cwestiwn o hyd yw beth <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">gallai<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">'r polisi ei gyflawni, o ran canlyniadau gwell, petai\u2019n cael gefnogi gan gyllid digonol a darpariaeth ychwanegol. Dyma lle y gall y dadansoddiad meintiol, a wnaed yn rhan o'r prosiect hwn, daflu rhywfaint o oleuni.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b>Modelu'r effaith bosibl<\/b><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Heb sylfaen dystiolaeth gref sy'n ymwneud yn benodol \u00e2 RPA (yn hytrach na RoSLA), nid yw'n glir beth dylem ddisgwyl iddo ddigwydd yng Nghymru, os caiff yr oedran cyfranogi ei godi i 18.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Felly, rhaid inni adeiladu model ar gyfer effaith RPA sy'n ystyried nifer y bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio, yr hyn y byddent yn dewis ei wneud, beth y byddent yn ei gyflawni a beth fyddai'r enillion economaidd hirdymor ar eu cyraeddiadau.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er mwyn gweithredu'r model, mae angen i ni wneud tybiaethau ar gyfer pob un o'r camau modelu hyn. Mae hyn yn golygu, er y gallwn ddewis cyfres o dybiaethau am baramedrau\u2019r model sy'n gwneud y synnwyr mwyaf yn ein barn ni \u2013 ein 'senario canolog' \u2013 nid oes sicrwydd, a gall prisio terfynol budd economaidd gros y polisi newid yn eithaf sylweddol os byddwn yn newid y tybiaethau modelu.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae Ffigur 1 yn dangos y tybiaethau a wnawn ar gyfer pob cam o'r model yn ein \u2018senario canolog\u2019.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-5808 size-full\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/rpa_chart_cy-e1643903169489.png\" alt=\"\" width=\"694\" height=\"442\" \/><\/span><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"none\">Ffigur 1: Camau modelu, rhagdybiaethau sylfaenol a rhagdybiaethau a ddewiswyd ar gyfer y senario modelu canolog<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:1,&quot;335559739&quot;:120,&quot;335559740&quot;:320}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yr allwedd i ddeall yr effaith bosibl ar gyfranogiad a manteision economaidd tymor hwy y polisi, yw i ba raddau y mae cyfranogiad yn cynyddu, h.y. graddau'r cydymffurfio. Mae'r dystiolaeth betrus o Loegr yn awgrymu lefel isel iawn o gydymffurfio, o ystyried nad yw cyfran gyffredinol pob carfan mewn addysg neu hyfforddiant wedi newid mewn gwirionedd. Rydym yn tybio bod gan y polisi gyfradd gydymffurfio o 30%, sydd efallai\u2019n eithaf ceidwadol o ystyried profiad Lloegr.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ar hyn o bryd, o ystyried yr opsiynau presennol, dewis cyntaf y bobl ifanc sy'n gadael y system yn 16 oed yw rhoi'r gorau iddi, felly nid ydym yn gwybod beth y byddent yn ei ddewis petai disgwyl iddynt aros mewn addysg a hyfforddiant. Felly, rydym yn tybio y byddai'r cyfranogwyr ychwanegol yn cael eu dosbarthu ar draws y llwybrau canlynol:\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">cymwysterau is na TGAU<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"2\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">TGAU neu gymwysterau academaidd lefel 2 eraill\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"3\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">cymwysterau galwedigaethol lefel 2<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"4\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">Safon Uwch neu gymwysterau academaidd lefel 3 eraill<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"5\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">cymwysterau galwedigaethol lefel 3<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"5\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">cymysgedd o lefelau a mathau o gymwysterau\u00a0<\/span>yn yr un cyfrannau \u00e2 myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn wirfoddol ac sydd \u00e2 chyrhaeddiad blaenorol a nodweddion cefndir economaidd-gymdeithasol tebyg<\/li>\n<\/ul>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Fodd bynnag, mae myfyrwyr sy'n parhau'n wirfoddol mewn addysg yn debygol o fod yn wahanol mewn ffyrdd nad ydynt wedi\u2019u harsylwi i'r rhai a fyddai, o gael dewis, yn gadael. Felly, rydym yn rhagdybio bod cyfranogwyr newydd yn cyflawni ar gyfradd is, yr amcangyfrifir ei bod yn ddwy ran o dair o gyfradd cyflawni myfyrwyr presennol sydd \u00e2 nodweddion tebyg.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn yr un modd, gall yr enillion ar gymwysterau fod yn is i'r cyfranogwyr sy'n gorfod aros oherwydd RPA ac felly cyfrifir bod eu gwerth yn 50% o'r gwerth a amcangyfrifir ar gyfer y rhai hynny sy\u2019n dilyn yr un cymwysterau fel eu dewis cyntaf.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae rhoi hyn i gyd at ei gilydd yn ein galluogi i amcangyfrif faint o gymwysterau ychwanegol a fyddai'n cael eu cyrraedd yn ychwanegol at yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl heb RPA, yn ogystal \u00e2 gwerth gostyngol y cymwysterau hyn gydol oes.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">O dan y senario canolog, amcangyfrifwn y byddai'n effeithio ar tua 3% o garfan ym mlwyddyn 12 (tua 900 o fyfyrwyr) petai RPA yn cael ei weithredu yng Nghymru, a dwbl y nifer hwnnw ym mlwyddyn 13. Amcangyfrifir mai gwerth economaidd ychwanegol gydol oes y cyraeddiadau y byddai'r cyfranogwyr newydd hyn yn eu cael o dan ein senario canolog yw tua \u00a336m y garfan. Mae hyn yn gynnydd o 1.4% yng nghyfanswm gwerth gydol oes y cymwysterau y byddem yn eu disgwyl gan garfan heb RPA. Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol iawn ar lefel y cydymffurfio \u00e2'r polisi, yn amrywio o \u00a3168m os llwyddir i gael cydymffurfio llawn i \u00a38m os mai dim ond 5% o ddarpar gyfranogwyr sy'n cwblhau blwyddyn 12 a blwyddyn 13 mewn gwirionedd.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae'r amcangyfrifon hefyd yn amrywio os byddwn yn newid y tybiaethau ar gamau eraill y modelu. O'r herwydd, wrth bennu\u2019r cydymffurfio ar 30%, cawn ystod gredadwy o werthoedd o \u00a325m i \u00a3102m fesul carfan, yn dibynnu ar yr hyn rydyn yn ei dybio am y llwybrau a ddilynir, y cyfraddau cyrhaeddiad a gwerth economaidd hirdymor y cyraeddiadau ychwanegol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Hefyd, mae'n bwysig nodi bod yr amcangyfrifon yn rhoi'r gwerth ychwanegol ar ben yr hyn y byddem yn disgwyl ei gyflawni heb y polisi, ond nad ydynt yn ystyried costau darparu'r addysg a'r hyfforddiant ychwanegol. Yn ogystal, nid ydym yn ystyried y gwerth ehangach posibl i\u2019r gymdeithas o gael mwy o gyfranogiad o ran iechyd, lles, cynhwysiant cymdeithasol a llai o droseddu.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h4><strong>Casgliadau\u00a0<\/strong><\/h4>\n<p><span data-contrast=\"auto\">O ystyried y dystiolaeth ansoddol a meintiol, rydym yn dod i'r casgliad y byddai gweithredu RPA yn creu manteision cyfyngedig i bobl ifanc yr effeithir arnynt, h.y. pobl ifanc sy'n gorfod cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant y tu hwnt i flwyddyn 11.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Byddai unrhyw fanteision economaidd o weithredu RPA yn dibynnu'n fawr ar faint o gydymffurfio sydd \u00e2'r polisi. Ym mhob senario a gyflwynir yn yr adroddiad meintiol, mae'r dadansoddiad yn awgrymu y byddai peidio \u00e2 darparu opsiynau i'r bobl ifanc hynny y mae\u2019r polisi'n eu targedu, er mwyn eu denu i aros mewn addysg neu hyfforddiant \u00f4l-16, yn arwain at gydymffurfio ar lefel isel, cyraeddiadau ychwanegol bach a manteision economaidd bach yn gymesur \u00e2 hyn.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b>Beth yw'r dewisiadau eraill?\u00a0<\/b><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae defnyddio profiad gwledydd eraill yr OECD, ac ystyried y dadansoddiad <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Raising-the-Age-of-Participation-to-18.pdf\"><span data-contrast=\"none\">ansoddol<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> a <\/span><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/211130-WCPP-Modelling-the-impact-of-RPA_report_english.pdf\"><span data-contrast=\"none\">meintiol<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> ar gyfer Cymru, yn arwain at yr argymhellion canlynol:<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"1\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">darparu cynnig \u00f4l-16 cydlynol a chyson sy'n cyd-fynd ag amcanion y cwricwlwm newydd i Gymru<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"1\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"2\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">canolbwyntio ar leihau cyfraddau gadael cyn gorffen \u00f4l-16, a chyflwyno strategaeth i leihau gadael (yr ysgol) yn gynnar<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"1\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"3\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">cefnogi newydd-ddyfodiaid cynnar i\u2019r farchnad lafur a chryfhau eu mynediad at ddysgu parhaus<\/span><\/li>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"1\" aria-setsize=\"-1\" data-aria-posinset=\"4\" data-aria-level=\"1\"><span data-contrast=\"auto\">darparu cyllid parhaus ar gyfer mentrau atal ac ailintegreiddio sy\u2019n cael eu targedu at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae cynnig llwybrau o ansawdd da i bob gr\u0175p o ddysgwyr wrth iddynt nes\u00e1u at ddiwedd addysg orfodol yn allweddol i gael cyfraddau dysgu \u00f4l-16 gwell. Nid yw'r dadansoddiad meintiol wedi'i gyfyngu i RPA ond yn hytrach mae'n rhoi syniad o'r math o enillion economaidd a allai fod ar gael i unrhyw bolisi sy'n llwyddo i gynnwys mwy o bobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant \u00f4l-16 amser llawn ac sy\u2019n cefnogi\u2019r nod o\u2019u cadw a\u2019r cymwysterau y maent yn eu cael.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn hollbwysig, os ydym am fynd i'r afael ag anghenion addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 pob gr\u0175p o bobl ifanc, rhaid inni edrych y tu hwnt i'r maes dysgu amser llawn. Rhaid deall a mynd i'r afael yn well ag anghenion gweithwyr ifanc \u00f4l-16, yn enwedig y rhai sy'n methu cymryd rhan ar hyn o bryd mewn unrhyw fath o ddysgu \u00f4l-16 achrededig ac sy'n agored i lwybrau 'gwaith gwael'. Hefyd, mae mater blinderus nodi a diwallu anghenion pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn parhau i fod yn her bolisi barhaus y mae\u2019r pandemig wedi'i gwaethygu.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Wrth symud ymlaen, gellid dadlau nad yw erioed wedi bod yn bwysicach inni gael y cynnig i ddysgwyr \u00f4l-16 yn gywir, er mwyn galluogi pob person ifanc i gyflawni ei botensial, i'w helpu i wneud cyfraniadau cadarnhaol i\u2019r gymdeithas ehangach ac i helpu yn yr her o ailadeiladu'r economi.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><i><span data-contrast=\"auto\">Mae'r holl erthyglau a bostiwyd ar y blog hwn yn rhoi barn yr awdur(on), ac nid safbwynt yr IPR, na Phrifysgol Caerfaddon.\u202fCewch ragor o wybodaeth yma am ymchwil IPR ar ehangu cyfranogiad ym myd addysg uwch.<\/span><\/i><span data-ccp-props=\"{&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6}\">\u00a0<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Dr Matt Dickson yn Ddarllenydd mewn Polisi Cyhoeddus yn y Sefydliad Ymchwil Polisi (IPR) ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae Sue Maguire yn Athro Anrhydeddus yn yr IPR ym Mhrifysgol Caerfaddon. Bu i\u2019w gwaith ymchwil ar godi oedran cymryd rhan mewn addysg i 18 oed gael ei gyhoeddi\u2019n ddiweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.\u00a0\u00a0 Mae'n ofynnol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15274,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18,3],"tags":[136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15273","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","category-uncategorized-cy","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Secondary-school-students-2-scaled.jpg","filesize":323011,"sizes":{"medium":{"file":"Secondary-school-students-2-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54596,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-744x496.jpg"},"large":{"file":"Secondary-school-students-2-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":106700,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Secondary-school-students-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48863,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Secondary-school-students-2-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56975,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Secondary-school-students-2-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":151361,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Secondary-school-students-2-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":230724,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Secondary-school-students-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":185367,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Secondary-school-students-2.jpg","ID":"15270","name":"Secondary-school-students-2-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-scaled.jpg","title":"Secondary-school-students-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Secondary-school-students-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15273","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15273"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15273\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15275,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15273\/revisions\/15275"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15274"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15273"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15273"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15273"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15273"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}