{"id":15265,"date":"2021-09-02T09:19:08","date_gmt":"2021-09-02T09:19:08","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pandemig-or-enw-unigrwydd\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:17","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:17","slug":"pandemig-or-enw-unigrwydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pandemig-or-enw-unigrwydd\/","title":{"rendered":"Pandemig o'r enw unigrwydd"},"content":{"rendered":"<p>Pan ofynnwyd i mi fynychu'r digwyddiad ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/digwyddiad\/lleddfu-unigedd-yng-nghymru-yn-ystod-y-pandemig-ac-wedyn\/\">'Fynd i'r afael ag unigrwydd yng Nghymru trwy'r pandemig a thu hwnt<\/a>' fel cynrychiolydd ar gyfer fy sefydliad (Cyngor Sir Gaerfyrddin), ro\u2019n i'n meddwl bod hynny gan fy mod i\u2019n rheolwr cartref gofal ar gyfer oedolion h\u0177n, a phan ry\u2019n ni\u2019n clywed y gair 'unigrwydd' ry\u2019n ni\u2019n meddwl yn awtomatig am y genhedlaeth h\u0177n - yn bennaf y rhai 70+ oed ac yn benodol unigolion sy'n byw mewn cartrefi gofal. Ro\u2019n i\u2019n gwbl anghywir!<\/p>\n<p>Fe ddysgais i fod unigrwydd yn effeithio ar bob gr\u0175p oedran yng Nghymru, <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/unigrwydd-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2019-i-fawrth-2020-html?_ga=2.88002655.653835583.1630573636-589388849.1630573636\">yn enwedig pobl iau<\/a>, a phlant mor ifanc \u00e2 7 oed, sy\u2019n frawychus. Mae\u2019n bosib fod cenedlaethau iau wedi ei chael hi\u2019n arbennig o anodd ymdopi ag unigrwydd neu arwahanrwydd, ac yn y digwyddiad fe glywson ni y gall hyn gael goblygiadau o ran camddefnyddio sylweddau ymhlith oedolion ifanc, gorbryder cynyddol, ac anawsterau iechyd meddwl ymhlith pobl hyd yn oed yn iau. Ro\u2019n i'n cymryd, oherwydd datblygiadau technolegol, a chan fod y genhedlaeth iau mor fedrus wrth ddefnyddio ystod eang o lwyfannau, y bydden nhw wedi ffynnu trwy\u2019r cyfnod clo. Fodd bynnag, dychrynais o glywed yn y digwyddiad fod cyfeillgarwch wedi chwalu, <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/crimeandjustice\/bulletins\/onlinebullyinginenglandandwales\/yearendingmarch2020\">fod bwlio ar-lein yn debygol o fod wedi cynyddu yn ystod y pandemig<\/a>, ac y gallai rhai cymunedau sydd wedi'u hadeiladu ar-lein fod yn anfwriadol yn gwneud y genhedlaeth iau yn fwy ynysig ac unig. Er bod llawer o gymunedau ar-lein wedi bod yn gefnogol ac yn galonogol, mae risg y bydd y genhedlaeth iau yn dod yn or-ddibynnol ar dechnolegau, ar draul perthnasoedd personol.<\/p>\n<p>Gall effeithiau hirdymor unigrwydd fod yn wirioneddol rwystrol. Sut ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i\u2019r bobl sydd angen help a chefnogaeth wrth i\u2019r cyfyngiadau leddfu, a beth fydd effaith unigrwydd yn y genhedlaeth iau ar gymdeithas ac economi\u2019r dyfodol? Pa mor amserol fydd unrhyw ymyrraeth, ac wrth symud ymlaen sut allwn ni atal unigrwydd rhag effeithio ar addysg, cyfleoedd gwaith yn y dyfodol, bywyd o ddydd i ddydd, perthnasoedd, a'r genhedlaeth nesaf? Ni fydd cyfran sylweddol o\u2019r gefnogaeth a oedd yno cyn y pandemig ar gael mwyach, ac mae gwasanaethau a oedd eisoes ar y dibyn bellach yn cael eu chwalu a'u gorlethu'n llwyr.<\/p>\n<p>Er fy mod i bob amser wedi bod yn ymwybodol o'r materion sy'n wynebu pobl iau, do\u2019n i ddim deall maint y pwysau wrth symud ymlaen, ac ystyriais i ddim unigrwydd fel ffactor gan nad o\u2019n i\u2019n ei gysylltu \u00e2 phobl iau; os rhywbeth, tlodi fyddai\u2019r peth cyntaf i ddod i'r meddwl. Gorfododd y digwyddiad fi i gydnabod y realiti llwm y mae'r pandemig wedi'i gael ar y genhedlaeth iau. Ro\u2019n i\u2019n rhwystredig a dig gyda fy hun am beidio ag ystyried y gall unigrwydd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Yn wir, dywedwyd yn y digwyddiad, \u201cgallwch fod mewn ystafell sy\u2019n llawn pobl, cael digon o ffrindiau a theulu cefnogol a dal i deimlo'n unig\u201d. Fe ddaeth hyn ag unigrwydd, a sut mae'n effeithio ar bawb, i\u2019m sylw\u2019n glir.<\/p>\n<p>Un peth cadarnhaol o'r digwyddiad oedd nifer y sefydliadau amrywiol a oedd i gyd eisiau cyfrannu, helpu a chefnogi a chanolbwyntio ar ailadeiladu gwasanaethau a chymdeithas mewn Cymru \u00f4l-COVID. Roedd wir yn agoriad llygad. Mae'n synhwyrol nodi y bydd gwella o effaith COVID yn broses hir a chymhleth ar gyfer gwasanaethau, sefydliadau (cyhoeddus, gwirfoddol, 3<sup>ydd<\/sup> sector ac ati) ac unigolion, a bydd angen i bawb gyfrannu mewn un ffordd neu\u2019r llall. Bydd cyfathrebu, cydweithredu a chydweithio yn allweddol i symud Cymru ymlaen a pheidio \u00e2 gadael unrhyw un ar \u00f4l.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, i bobl h\u0177n, neu'r grwpiau hynny a oedd yn hunan-warchod, fe glywson ni yn y digwyddiad y gallai integreiddio yn \u00f4l i gymdeithas hefyd fod yn achosi mwy o orbryder, iselder ysbryd, a dibyniaeth ar feddyginiaethau ac alcohol. Bydd ailadeiladu hyder pobl yn ffocws allweddol i gymunedau. Bydd mynd yn \u00f4l i\u2019r gwaith, ysgolion, colegau, hyfforddiant, addysg a thasgau beunyddiol hyd yn oed, fel siopa, yn frwydr enfawr i lawer mewn cymdeithas.<\/p>\n<p>Mae gwrando ar straeon a phrofiadau pobl eraill yn ystod y digwyddiad deuddydd hwn wedi cael effaith ddwys a gostyngedig arnaf, ac mae wedi agor fy llygaid i bandemig newydd sy'n byrlymu\u2019n dawel o\u2019n cwmpas ni, pandemig heb frechlyn na gwellhad ar hyn o bryd. Pandemig o'r enw unigrwydd!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pan ofynnwyd i mi fynychu'r digwyddiad ar 'Fynd i'r afael ag unigrwydd yng Nghymru trwy'r pandemig a thu hwnt' fel cynrychiolydd ar gyfer fy sefydliad (Cyngor Sir Gaerfyrddin), ro\u2019n i'n meddwl bod hynny gan fy mod i\u2019n rheolwr cartref gofal ar gyfer oedolion h\u0177n, a phan ry\u2019n ni\u2019n clywed y gair 'unigrwydd' ry\u2019n ni\u2019n meddwl [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15264,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[135,148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15265","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"care-home-visit.jpg","filesize":577313,"sizes":{"medium":{"file":"care-home-visit-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55207,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-744x496.jpg"},"large":{"file":"care-home-visit-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":125453,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"care-home-visit-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49161,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"care-home-visit-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58366,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"care-home-visit-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":190884,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"care-home-visit-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":314399,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"care-home-visit-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":244012,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15264","name":"care-home-visit.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit.jpg","title":"care-home-visit.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/care-home-visit-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15265","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15265"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15265\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16494,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15265\/revisions\/16494"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15264"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15265"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15265"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15265"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15265"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}