{"id":15259,"date":"2021-07-13T08:56:05","date_gmt":"2021-07-13T08:56:05","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-fyddwn-in-ei-ddweud-wrth-y-beatles-am-unigrwydd\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:15","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:15","slug":"beth-fyddwn-in-ei-ddweud-wrth-y-beatles-am-unigrwydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-fyddwn-in-ei-ddweud-wrth-y-beatles-am-unigrwydd\/","title":{"rendered":"Beth fyddwn i'n ei ddweud wrth y Beatles am unigrwydd"},"content":{"rendered":"<p>A dweud y gwir, dydw i ddim yn un o ffans mawr y Beatles. Ond yn rhyfedd ddigon, wrth ganu yn y gawod, un o'r caneuon sydd ymhlith fy 10 uchaf yw \u201cEleanor Rigby\u201d a\u2019r geiriau \u201call the lonely people\u201d. Wn i ddim pam; efallai am fy mod i'n cofio'r geiriau i gyd.<\/p>\n<p>Mae'r g\u00e2n yr un oed \u00e2 fi. Ac eto, 50 mlynedd a mwy ers iddi gael ei rhyddhau, mae unigrwydd yn parhau'n rhywbeth rydyn ni'n dal i geisio ei ddeall a'i ddatrys.<\/p>\n<p>Hyd yn oed cyn i Coronafeirws ymddangos, gyda'i holl gyfyngiadau o ran pwy y gallen ni gyfarfod \u00e2 nhw ac i ble y gallen ni fynd, roedd unigrwydd fel pwnc yn codi yn ein papurau newydd, ar y radio ac ar y teledu. Roedden ni wedi bod yn clywed mwy a mwy am yr effaith niweidiol y gallai ei gael ar lesiant iechyd meddyliol a chorfforol pobl. Fe glywson ni hefyd fod pobl 16-24 oed ddwywaith yn fwy tebygol o brofi unigrwydd na'r rheini dros 75. Rwy'n credu bod hyn wedi synnu llawer o bobl.<\/p>\n<p>Ond er ein bod ni i gyd wedi teimlo'n unig ar ryw adeg mae'n si\u0175r, mae'n tueddu i fod yn rhywbeth dros dro. Rwy'n cofio dechrau mewn ysgol newydd a theimlo ar fy mhen fy hun, yn unig ac yn cael fy ngadael allan. Ond drwy b\u00eal-rwyd a chyfarfod a \"ffans Bay City Rollers\" o'r un anian, dechreuodd pethau wella. Dechreuais i wella. Roeddwn i'n teimlo'n rhan o rywbeth. Ond ddywedais i ddim erioed wrth neb fy mod i'n teimlo'n unig.<\/p>\n<p>Mae'r pandemig wedi dod ag unigrwydd i'r amlwg. Yn sydyn roedd yr holl gysylltiadau cymdeithasol roedden ni'n eu gwneud bob dydd - cerdded i'r ysgol gyda'n ffrindiau; dweud helo wrth wynebau cyfarwydd ar y tr\u00ean; dod i'r gwaith a sgwrsio wrth y llungop\u00efwr wrth geisio gweld pam fod y papur yn sownd eto fyth; edrych ymlaen at gwrdd \u00e2 ffrindiau yn y ganolfan ddydd neu alw heibio am sgwrs - wedi diflannu. Ac wrth i hyn ddigwydd roedd llawer yn dechrau teimlo'n unig.<\/p>\n<p>Yr hyn a amlygodd y pandemig hefyd yw pa mor gryf y gall ysbryd cymunedol fod a sut gall sefydliadau ddod at ei gilydd i sicrhau newid cadarnhaol. Rwy'n credu bod hyn wedi synnu llawer hefyd.<\/p>\n<p>Gydag unigrwydd, undod cymunedol a chydweithio dan y chwyddwydr, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/digwyddiad\/lleddfu-unigedd-yng-nghymru-yn-ystod-y-pandemig-ac-wedyn\/\">rwy'n credu bod digwyddiadau fel hwn a drefnir gan CPPC<\/a> mor bwysig i'n helpu i ddysgu a symud ymlaen er gwell.<\/p>\n<p>Pan gyhoeddon ni \"Cysylltu Cymunedau\", ein strategaeth unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ym mis Chwefror 2020, ychydig a wyddem ni beth oedd yn llechu rownd y gornel.\u00a0 Drwy gydol y pandemig mae ein gr\u0175p cynghori strategaeth sy'n cynnwys cydweithwyr o'r sector statudol a'r trydydd sector a sefydliadau llawr gwlad wedi bod yn hanfodol yn ein helpu yn Llywodraeth Cymru i wneud yn si\u0175r ein bod ni'n ymdrin ag unigrwydd gyda'n gilydd.<\/p>\n<p>Felly, pe bai John, Paul, George neu Ringo yn gofyn i fi 'yr holl bobl unig yma, o ble maen nhw'n dod?' gallwn i ateb, maen nhw'n dod o'n cymunedau ond yma yng Nghymru rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau eu bod yn gwybod eu bod yn rhan o'n cymuned ni hefyd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Am yr awdur<\/strong><\/p>\n<p>Mae Ali Wood yn Uwch Swyddog Ymgysylltu (Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol) yn Llywodraeth Cymru<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>A dweud y gwir, dydw i ddim yn un o ffans mawr y Beatles. Ond yn rhyfedd ddigon, wrth ganu yn y gawod, un o'r caneuon sydd ymhlith fy 10 uchaf yw \u201cEleanor Rigby\u201d a\u2019r geiriau \u201call the lonely people\u201d. Wn i ddim pam; efallai am fy mod i'n cofio'r geiriau i gyd. Mae'r g\u00e2n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13049,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15259","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"community-2-scaled.jpg","filesize":482174,"sizes":{"medium":{"file":"community-2-744x319.jpg","width":744,"height":319,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":45028,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-744x319.jpg"},"large":{"file":"community-2-1200x514.jpg","width":1200,"height":514,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":112274,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-1200x514.jpg"},"thumbnail":{"file":"community-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57662,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"community-2-768x329.jpg","width":768,"height":329,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48139,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-768x329.jpg"},"1536x1536":{"file":"community-2-1536x659.jpg","width":1536,"height":659,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":182079,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-1536x659.jpg"},"2048x2048":{"file":"community-2-2048x878.jpg","width":2048,"height":878,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":314997,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-2048x878.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"community-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":342556,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"community-2.jpg","ID":"15258","name":"community-2-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-scaled.jpg","title":"community-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/community-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15259","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15259"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15259\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16492,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15259\/revisions\/16492"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13049"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15259"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15259"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15259"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15259"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}