{"id":15255,"date":"2021-08-04T09:41:36","date_gmt":"2021-08-04T09:41:36","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pam-mynd-yn-ol-ir-swyddfa\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:14","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:14","slug":"pam-mynd-yn-ol-ir-swyddfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pam-mynd-yn-ol-ir-swyddfa\/","title":{"rendered":"Pam mynd yn \u00f4l i'r swyddfa?"},"content":{"rendered":"<p>Heb os, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi un o'r trawsnewidiadau cyflymaf ym mywydau gwaith llawer o bobl ers degawdau. Mae <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/sites\/default\/files\/documents\/Homeworking%20in%20the%20UK_Report_Final_3.pdf\">data'r DU<\/a> yn awgrymu, tra bod 5% o weithwyr yn gweithio gartref cyn mis Mawrth 2020, y gwnaeth hyn gynyddu i tua 43% ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae'r un astudiaeth yn awgrymu yr hoffai tua hanner y gweithwyr a weithiodd gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i wneud hynny'n aml neu drwy\u2019r amser. Wrth ystyried dychwelyd \u2013 o bosibl \u2013 i\u2019r swyddfa, bydd llawer o weithwyr a chyflogwyr yn gofyn i'w hunain, 'beth mae'r swyddfa'n ei gynnig na all gweithio gartref ei gynnig?'. O ystyried bod <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gweithio-o-bell\/\">ymchwil<\/a> ddiweddar Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru\u2019n dangos nad yw\u2019n ymddangos bod gweithio o bell wedi gwneud drwg i gynhyrchiant yn y tymor byr, mae angen ateb arbennig i'r cwestiwn hwn i gyfiawnhau\u2019r buddsoddiad mewn arian ac amser sydd ei angen i weithio mewn swyddfa, yn aml ar ran cyflogwyr a gweithwyr.<\/p>\n<p>Er iddo gael ei ddylunio a'i adeiladu i raddau helaeth cyn dechrau\u2019r pandemig, mae <strong>sbarc | spark<\/strong>, sef parc cyntaf y byd ar gyfer ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, a fydd yn \u2018gartref\u2019 corfforol i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddiwedd 2021, yn ein herio i ystyried ein hatebion ein hunain i\u2019r cwestiwn hwn. Mae'r uchelgeisiau ar gyfer sbarc | spark yn cyd-fynd i raddau helaeth \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/about\/\">chenhadaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/a>, sef gwella gwasanaethau cyhoeddus a'r broses o lunio polis\u00efau drwy helpu gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio tystiolaeth annibynnol drylwyr o\u2019r hyn sy'n gweithio. Maent hefyd yn adlewyrchu <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/business-school\/about-us\/public-value\/public-value-research\">cenhadaeth Ysgol Busnes Caerdydd i sicrhau bod gwerth cyhoeddus wrth wraidd ymchwil<\/a> a gwaith yr <a href=\"https:\/\/covidandsociety.com\/about-ippo\/\">Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol<\/a>, yr ydym yn eu cefnogi ac yn cyfrannu atynt. Wrth wraidd yr holl ymdrechion hyn, a'r budd sylfaenol y bydd sbarc | spark yn ei sicrhau ar ben gweithio o bell, yw'r ymgais i hyrwyddo cydweithredu hyd yn oed yn fwy, a hynny ymhlith canolfannau ymchwil yn y Brifysgol a rhwng y canolfannau ymchwil hyn a defnyddwyr tystiolaeth ym myd busnes, y llywodraeth, cyrff anllywodraethol a sectorau eraill i alluogi ymchwil sy'n canolbwyntio ar atebion er mwyn mynd i'r afael \u00e2'r heriau allweddol sy'n wynebu Cymru a'r byd ehangach.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/spark-lower-ground.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-5452\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/spark-lower-ground.jpg\" alt=\"\" width=\"2000\" height=\"1666\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn sbarc | spark, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru\u2019n cael ei chydleoli am y tro cyntaf \u00e2 llawer o'n partneriaid ymchwil ac academaidd allweddol, gan gynnwys CASCADE, DECIPHer, WISERD, Y Lab, y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ac Uned Ymchwil Economaidd Cymru. Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda chydweithwyr yn y canolfannau ymchwil hyn ac eraill i gynghori Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Rydym yn rhagweld y bydd bod yn yr un adeilad yn hwyluso gweithio hyd yn oed yn well \u00e2 phartneriaid ac yn ei gwneud yn haws rhannu syniadau a datblygu mentrau ar y cyd. Bydd hefyd yn haws cwrdd ag eraill yn un o\u2019r mannau cyfarfod niferus sydd ar gael yn yr adeilad. Er bod gweithio o bell (gan gymryd bod y cysylltiad \u00e2\u2019r rhyngrwyd yn dda) wedi ein galluogi i barhau i weithio'n effeithiol drwy'r pandemig, mae risg i gyfarfodydd rhithwir ddod yn drafodaethol a chanolbwyntio ar dasgau. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0008\/519299\/Social_Science_Parks.pdf\">Rydym yn gwybod<\/a> bod agosrwydd corfforol yn cynyddu'r tebygolrwydd o gael sgyrsiau ar hap, sy'n arwain at syniadau newydd a chysylltiadau creadigol. Bydd hefyd yn rhoi syniad gwell i\u2019m cydweithwyr yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a minnau o'r ystod eang o ddiddordebau ymchwil sydd i\u2019w cael ar draws yr holl ddisgyblaethau yn sbarc | spark a thu hwnt er mwyn i ni allu troi ymchwil yn bolis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y meysydd polisi rydym yn gweithio ynddynt. Bydd mwy o gyswllt wyneb yn wyneb \u2013 ag unigolion a sefydliadau sy\u2019n rhannu\u2019r ymrwymiad i ddatblygu polis\u00efau ac ymarfer ar sail tystiolaeth \u2013 yn bwysig ar gyfer gwella cynhyrchiant, galluogi arloesi, galluogi cynigion ymchwil traws-ganolfan a'i gwneud yn haws i ni drafod gyda rhanddeiliaid allanol eu blaenoriaethau a\u2019u hanghenion tystiolaeth.<\/p>\n<p>Bydd sbarc | spark yn gartref i tua 400 o gydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac mae disgwyl i filoedd o bobl allanol ymweld \u00e2\u2019r safle bob blwyddyn. Bydd hyn yn helpu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i barhau i feithrin a chynnal cysylltiadau gwaith cryf y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae ein hymchwil yn seiliedig ar alw, sy'n golygu ein bod yn ceisio ymateb i anghenion tystiolaeth ymarferwyr a llunwyr polis\u00efau ond hefyd helpu i lywio'r anghenion hynny. Mae dyluniad corfforol a chymdeithasol sbarc | spark yn ein hannog a'n galluogi i gysylltu ymchwil ag ymarfer a pholis\u00efau yn y modd hwn, a bydd, gobeithio, yn ein helpu i adeiladu ar yr ymddiriedaeth a'r gyd-ddealltwriaeth sydd eu hangen i wneud yn si\u0175r bod ein hymchwil yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i ymarferwyr a llunwyr polis\u00efau. Bydd man digwyddiadau \u00e2 chapasiti i 190 o bobl, er enghraifft, yn ei gwneud yn bosibl i ni drafod ac ystyried materion polisi ac ymarfer allweddol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae sbarc | spark yn cynnig llawer mwy na\u2019n swyddfa flaenorol ac yn ein hannog i gyfuno gweithio o bell \u00e2'r amser sy\u2019n cael ei dreulio ar y campws. Mae hyn yn bwysig i ganolfan ymchwil fel ein un ni, y mae ei chenhadaeth a'i hymarfer yn dibynnu ar feithrin cysylltiadau \u00e2 phobl amrywiol a deall yr heriau sy\u2019n wynebu llunwyr polis\u00efau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heb os, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi un o'r trawsnewidiadau cyflymaf ym mywydau gwaith llawer o bobl ers degawdau. Mae data'r DU yn awgrymu, tra bod 5% o weithwyr yn gweithio gartref cyn mis Mawrth 2020, y gwnaeth hyn gynyddu i tua 43% ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae'r un astudiaeth yn awgrymu yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15253,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[143],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15255","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-profiad-bywyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"spark-working.jpg","filesize":1015798,"sizes":{"medium":{"file":"spark-working-744x531.jpg","width":744,"height":531,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":86687,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-744x531.jpg"},"large":{"file":"spark-working-1200x857.jpg","width":1200,"height":857,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":207059,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-1200x857.jpg"},"thumbnail":{"file":"spark-working-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":70807,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"spark-working-768x548.jpg","width":768,"height":548,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91081,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-768x548.jpg"},"1536x1536":{"file":"spark-working-1536x1097.jpg","width":1536,"height":1097,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":328803,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-1536x1097.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"spark-working-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":398492,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15252","name":"spark-working.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working.jpg","title":"spark-working.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/spark-working-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15255","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15255"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15255\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15256,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15255\/revisions\/15256"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15253"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15255"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15255"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15255"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15255"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}