{"id":15250,"date":"2021-06-23T07:00:31","date_gmt":"2021-06-23T07:00:31","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pum-mlynedd-ers-y-refferendwm-am-adael-undeb-ewrop\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:12","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:12","slug":"pum-mlynedd-ers-y-refferendwm-am-adael-undeb-ewrop","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pum-mlynedd-ers-y-refferendwm-am-adael-undeb-ewrop\/","title":{"rendered":"Pum mlynedd ers y refferendwm am adael Undeb Ewrop"},"content":{"rendered":"<p>Bum mlynedd yn \u00f4l i heddiw, dewisodd pobl y deyrnas hon ymadael ag Undeb Ewrop, proses arweiniodd at ddechrau perthynas fasnach newydd \u00e2\u2019r undeb o 1<sup>af<\/sup> Ionawr 2021.<\/p>\n<p>Mae Canolfan Polis\u00efau Cyhoeddus Cymru a\u2019i rhagflaenydd, Sefydliad Polis\u00efau Cyhoeddus Cymru, wedi <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ein-gwaith\/brexit\/\">ceisio deall goblygiadau hynny i Gymru<\/a> yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi chwilio ein harchifau i weld sut roedden ni wedi trafod y broses a pha mor dda rydyn ni wedi cloriannu effaith penderfyniad tyngedfennol o\u2019r fath.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Dechrau\u2019r broses<\/strong><\/h4>\n<p>Ar \u00f4l y refferendwm yn <strong>2016<\/strong>, holon ni <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/what-will-brexit-mean-for-wales\/\">Beth fydd y goblygiadau i Gymru?<\/a> Nodon ni <strong>gymorthdaliadau amaethyddol<\/strong>, <strong>ymfudo<\/strong> a <strong>masnach, buddsoddi ac ariannu strwythurol<\/strong> yn feysydd a fyddai\u2019n effeithio\u2019n fawr ar Gymru yn sg\u00eel gadael yr undeb. Roedd ein rhaglen waith dros y blynyddoedd canlynol wedi\u2019i seilio ar y tri maes.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Ffermydd a physgodfeydd<\/strong><\/h4>\n<p>Un o ganlyniadau gadael yr undeb yw mai San Steffan sy\u2019n pennu cymorthdaliadau amaethyddol a chwot\u00e2u pysgota bellach. Felly, mae lle i adlunio\u2019r trefnau cymorth cyfredol a chreu ffyrdd newydd o helpu\u2019r diwydiannau hynny yn ogystal \u00e2 cheisio cyflawni nodau polis\u00efau cyhoeddus eraill.<\/p>\n<p>Yn <strong>2018<\/strong>, ystyron ni <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/goblygiadau-brexit-i-amaethyddiaeth-ardaloedd-gwledig-ar-defnydd-o-dir-yng-nghymru\/\">sut y gallai\u2019r ymadawiad effeithio ar amaeth a defnyddio tir yng Nghymru<\/a>. Dadleuodd ein hadroddiad ei bod yn debygol y byddai gwerth cyffredinol cymorthdaliadau amaethyddol yn llai a chan y byddai\u2019n anos dod o hyd i farchnadoedd hefyd, byddai sawl fferm a chwmni\u2019n llai hyfyw (yn arbennig ffermydd defaid).<\/p>\n<p>Ynghylch pysgodfeydd, gwelon ni <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/goblygiadau-brexit-i-gyfleoedd-pysgota-yng-nghymru\/\">y byddai rhaid newid proses dyrannu\u2019r cwot\u00e2u<\/a> a rheoli hynny\u2019n well er lles fflyd fechan ac arbenigol Cymru o achos natur y sector yn y wlad hon. Mae cyfleoedd i <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/opsiynau-polisi-ar-gyfer-cyfleoedd-pysgota-yng-nghymru\/\">gynnal a chadw pysgodfeydd ar gyfer y dyfodol<\/a> hefyd, fodd bynnag.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Ymfudo<\/strong><\/h4>\n<p>Roedd ymfudo\u2019n bwnc llosg yn ystod y refferendwm, ac mae effeithiau trefn ymfudo newydd wedi bod yn bryder i Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.<\/p>\n<p>Yn <strong>2017<\/strong>, cyfrannon ni at waith Llywodraeth Cymru ynghylch <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/polisi-mewnfudo-ar-ol-brexit\/\">Hawl i symud ar \u00f4l gadael Undeb Ewrop<\/a>, gan dynnu sylw at berygl y gallai Cymru fod ar ei cholled o ganlyniad i reolau newydd er bod rhannau eraill o\u2019r deyrnas yn derbyn mwy o ymfudwyr na ni.<\/p>\n<p>Yn <strong>2020<\/strong>, cyhoeddon ni adroddiad a argymhellodd <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/mudo-ar-ol-brexit-a-chymru\/\">addasu polis\u00efau ymfudo fesul rhanbarth a sector<\/a> i alluogi Cymru i ddenu ymfudwyr er twf economaidd; ac un arall a ddatganodd y byddai\u2019n <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/polisi-mudor-du-ar-gweithlu-gofal-cymdeithasol-a-gig-cymru\/\">anos i'n gwasanaethau gofal cymdeithasol ddenu gweithwyr o Ewrop<\/a> o ganlyniad i newid rheoliadau ymfudo.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Masnach, buddsoddi ac ariannu strwythurol<\/strong><\/h4>\n<p>Yn <strong>2018<\/strong>, edrychon ni ar dystiolaeth ynghylch <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cyfraniad-llywodraethau-is-genedlaethol-mewn-trafodaethau-masnach-rhyngwladol\/\">r\u00f4l cyrff llywodraeth is-wladol mewn trafodaethau rhyngwladol am fasnach<\/a> i weld y ffordd orau o hybu buddiannau Cymru yn y trafodaethau dros gytundeb masnach y Deyrnas Gyfunol ac Undeb Ewrop, gan argymell y dylai Cymru bennu a dilyn blaenoriaethau a cheisio dylanwadu ar y cynnwys.<\/p>\n<p>Wedyn, ceisiodd Cymru hybu ei buddiannau yn ystod y trafodaethau hynny a thrafodaethau ar gytundebau \u00e2 gwledydd eraill ynghylch masnach. Soniodd ein hadroddiad <strong>2020<\/strong> <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/goblygiadau-pontio-or-undeb-ewropeaidd-i-sectorau-allweddol-o-economi-cymru\/\">ar oblygiadau trawsffurfio Ewrop i sectorau economaidd pwysig Cymru<\/a> am sut y byddai rhwystrau newydd rhag masnachu a llai o arian strwythurol yn effeithio ar brif sectorau economi\u2019r wlad. Ein barn oedd y gallai ansicrwydd a diffyg paratoi gryfhau effaith niweidiol rhwystrau newydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Undeb Ewrop a datganoli<\/strong><\/h4>\n<p>Agwedd olaf ein gwaith fu deall effaith canlyniad y refferendwm ar ddatganoli ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae rhai wedi pryderu y gallai\u2019r pwerau a ddaw yn \u00f4l o Frwsel <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/digwyddiad\/goblygiadau-brexit-i-gymru-a-datganoli\/\">fynd i Lundain<\/a> ac mai Llywodraeth San Steffan fydd yn eu gweinyddu. <a href=\"https:\/\/www.economicsobservatory.com\/how-is-the-brexit-trade-agreement-affecting-the-welsh-economy\">Mae\u2019r anghydfod dros Ddeddf y Farchnad Fewnol<\/a> yn awgrymu y gallai anghytuno ar sut y bydd pwerau\u2019n cael eu defnyddio (a chan bwy) barhau, yn enwedig os na all San Steffan a Bae Caerdydd gytuno ar faterion strategol.<\/p>\n<p>Tynnodd yr ymadawiad sylw at y ffordd y gall <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/brexit-and-wales-understanding-the-reasons-behind-the-welsh-vote\/\">negeseuon llywodraethau fod yn groes i bryderon etholwyr<\/a> hefyd, a pham y gallai fod angen i hynny newid.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Pa mor llwyddiannus oedden ni?<\/strong><\/h4>\n<p>Mae\u2019n gwaith wedi adlewyrchu\u2019r ansicrwydd sydd ar led megis y diffiniadau cyntaf o ymadawiadau \u2018caled\u2019 a \u2018meddal\u2019 a disgrifiadau aneglur o\u2019r modd y byddai\u2019r rheolau newydd yn cael eu gweinyddu. Mae\u2019n gwaith wedi ystyried amryw ddeilliannau a allai fod wedi digwydd yn \u00f4l y dystiolaeth orau a oedd ar gael yr adeg honno.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-politics-57403258\">anawsterau rhoi<\/a> protocol Gogledd Iwerddon ar waith yn ddiweddar yn dangos nad yw holl oblygiadau\u2019r ymadael nac anawsterau\u2019r gweithredu newydd wedi\u2019u deall eto. Ar \u00f4l didoli effeithiau ymadael ag Undeb Ewrop a rhai\u2019r pandemig parhaus maes o law, bydd modd pwyso a mesur pa mor gywir oedd ein sylwadau.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, mae\u2019n gwaith wedi helpu llunwyr polis\u00efau Llywodraeth Cymru a\u2019r tu hwnt i fynd i\u2019r afael \u00e2 chymhlethdod ymadael ag Undeb Ewrop a deall yr anawsterau a\u2019r cyfleoedd a ddaw yn sg\u00eel ein perthynas fasnachu newydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bum mlynedd yn \u00f4l i heddiw, dewisodd pobl y deyrnas hon ymadael ag Undeb Ewrop, proses arweiniodd at ddechrau perthynas fasnach newydd \u00e2\u2019r undeb o 1af Ionawr 2021. Mae Canolfan Polis\u00efau Cyhoeddus Cymru a\u2019i rhagflaenydd, Sefydliad Polis\u00efau Cyhoeddus Cymru, wedi ceisio deall goblygiadau hynny i Gymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15249,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[140],"research-and-impact":[132],"class_list":["post-15250","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-economi","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"brexit-wall.jpg","filesize":467721,"sizes":{"medium":{"file":"brexit-wall-744x459.jpg","width":744,"height":459,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":83065,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/brexit-wall-744x459.jpg"},"large":{"file":"brexit-wall-1200x740.jpg","width":1200,"height":740,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":214746,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/brexit-wall-1200x740.jpg"},"thumbnail":{"file":"brexit-wall-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":76950,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/brexit-wall-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"brexit-wall-768x474.jpg","width":768,"height":474,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":88586,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/brexit-wall-768x474.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15249","name":"brexit-wall.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/brexit-wall.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/brexit-wall-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/brexit-wall.jpg","title":"brexit-wall.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15250","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15250"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15250\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16491,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15250\/revisions\/16491"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15249"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15250"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15250"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15250"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}