{"id":15247,"date":"2021-06-07T06:34:41","date_gmt":"2021-06-07T06:34:41","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/gwersi-gwirfoddoli-or-pandemig\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:11","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:11","slug":"gwersi-gwirfoddoli-or-pandemig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/gwersi-gwirfoddoli-or-pandemig\/","title":{"rendered":"Gwersi gwirfoddoli o\u2019r pandemig"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Amanda Carr, Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS), yn myfyrio ar sut mae ei gwaith ymchwil newydd ar wirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig yn paru \u00e2\u2019u phrofiadau ei hun.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Roeddwn eisiau dechrau trwy fanteisio ar y cyfle i ddymuno Wythnos Gwirfoddolwyr Hapus i bawb ac i ddweud diolch enfawr i\u2019r holl wirfoddolwyr hynny y mae eu rhodd amhrisiadwy o\u2019u hamser, eu hegni a\u2019u cariad at ein cymunedau wedi helpu i gadw Cymru\u2019n wydn ac yn gryf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r wythnos hon, felly, yn gyfle delfrydol i lansio\u2019r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gwirfoddoli-a-llesiant-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws\/\"><strong>adroddiadau ymchwil ar wirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig.<\/strong><\/a><\/p>\n<p>Wrth i mi ysgrifennu hwn, rwy\u2019n eistedd, gartref, yn aros am gyfarfod arall ar-lein, yn fy achos i, cyfarfod rhanbarthol lle y byddaf i, ynghyd \u00e2 phartneriaid statudol, yn adrodd ar r\u00f4l gwirfoddolwyr a\u2019r sector gwirfoddol a chymunedol wrth lunio cynlluniau rhanbarthol ar gyfer y dyfodol ac, yn fwy taer, y r\u00f4l sydd gennym ni mewn ymdrechion parhaus i adfer o\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>Yn ein hardal ni, d\u2019oes dim amheuaeth fod pob sector yn chwarae rolau hanfodol yn yr ymdrechion hyn. Mae gwirfoddolwyr wedi gwirioneddol brofi eu gwerth i\u2019n partneriaid statudol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae\u2019r cydberthnasau a adeiladwyd yn gryfach nag erioed. Mae\u2019n dda gweld y cydberthnasau cryf hyn yn cael eu nodi yn y gwaith ymchwil a\u2019u bod yn bodoli ar hyd a lled Cymru.<\/p>\n<h4><\/h4>\n<h4><strong>Mae llawer wedi newid mewn blwyddyn<\/strong><\/h4>\n<p>Wrth edrych yn \u00f4l ar fy nyddiadur ar yr Wythnos Gwirfoddolwyr y llynedd, gallaf weld bod llawer wedi symud ymlaen. Mae\u2019r problemau roedden ni\u2019n eu hwynebu yn Abertawe yr adeg hon y llynedd yn wahanol i\u2019r rhai rydyn ni\u2019n eu hwynebu heddiw. Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr y llynedd, roeddwn mewn nifer o gyfarfodydd yn ceisio rhoi trefniadau ar waith i wirfoddolwyr a oedd yn cynorthwyo pobl agored i niwed i gael siopa a phresgripsiynau, ac i gael cyfarpar diogelu personol (PPE) er mwyn diogelu eu llesiant nhw a llesiant y bobl roedden nhw\u2019n eu cynorthwyo yn well.<\/p>\n<p>Mae fy nyddiadur hefyd yn dangos nifer o gyfarfodydd i edrych ar y ffordd orau o gynorthwyo plant a phobl ifanc i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod clo. Gwnaeth ein partneriaid yn yr ardal hon weithio\u2019n agos iawn gyda\u2019i gilydd ar y ddwy broblem hyn i ddod o hyd i ddatrysiadau creadigol, a newidiodd pethau\u2019n gyflym er budd ein cymunedau. (Roedd y cyfarfodydd yn werth chweil a ffurfiwyd cydberthnasau gweithio hirdymor cadarnhaol tu hwnt!)<\/p>\n<h4><\/h4>\n<h4><strong>Edrych i\u2019r hirdymor<\/strong><\/h4>\n<p>Dengys y gwaith ymchwil sut y cafodd cymaint o\u2019n cymunedau eu cynorthwyo gan ymdrechion gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru, ac roedd yn braf iawn darllen am sut roedd gwirfoddoli mor werthfawr, nid yn unig i\u2019r rheini a oedd yn derbyn cymorth ond hefyd i\u2019r gwirfoddolwyr a oedd yn rhoi o\u2019u hamser. Bydd hi\u2019n ddiddorol edrych ar lesiant hirdymor y rheini a oedd yn derbyn cymorth ac yn ei gynnig a\u2019r cyfraniad y mae gwirfoddoli wedi\u2019i wneud yn hyn o beth.<\/p>\n<p>Mae edrych ar ganlyniadau llesiant yn yr hirdymor wedi\u2019i nodi fel argymhelliad ac mae\u2019r bwlch cyfredol yn y gwaith ymchwil sy\u2019n bodoli, y seilwaith sy\u2019n cefnogi gwirfoddoli yng Nghymru, yn golygu ein bod mewn safle ardderchog i gefnogi gwaith ymchwil pellach, oherwydd mewn llawer o achosion, mae mudiadau seilwaith wedi meithrin cysylltiadau hirdymor \u00e2 gwirfoddolwyr.<\/p>\n<h4><\/h4>\n<h4><strong>Gwersi i reolwyr gwirfoddolwyr <\/strong><\/h4>\n<p>I reolwyr gwirfoddolwyr, fodd bynnag, dengys y gwaith ymchwil bod angen dysgu rhai pethau pwysig o\u2019r profiad gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Byddwn ni i gyd yn cofio\u2019r niferoedd enfawr o wirfoddolwyr a gamodd ymlaen i gynnig help ar y dechrau, pan oedd rolau angenrheidiol dim ond yn dechrau dod i\u2019r golwg. Cymaint o bobl eisiau helpu a chyda cymaint o gymhellion dros wneud hynny \u2013 rhai wedi\u2019u rhoi ar ffyrlo a chydag amser i wirfoddoli, o bosibl am y tro cyntaf, eraill eisiau gwneud rhywbeth defnyddiol neu wneud mwy o wirfoddoli neu wirfoddoli gwahanol a fyddai\u2019n eu cysylltu\u2019n agosach \u00e2\u2019u cymuned leol.<\/p>\n<p>I rai, roedd y cynnig cychwynnol o help yn rhwystredig, yn aros i gael tasgau wedi\u2019u dyrannu iddyn nhw wrth i grwpiau a mudiadau wneud newidiadau i\u2019w rhaglenni gwirfoddoli er mwyn diwallu\u2019r anghenion byth newidiol a oedd yn dod i\u2019r golwg.<\/p>\n<p>Wrth edrych yn \u00f4l ar y flwyddyn ddiwethaf, rwy\u2019n credu bod rheolwyr gwirfoddolwyr yn pwyso a mesur eu rolau a chyfleoedd o\u2019r newydd nawr, ac yn canolbwyntio\u2019n fawr ar addasu rolau i weddu\u2019n well ag anghenion cymelliannol a ffordd o fyw'r rheini sy\u2019n dymuno gwirfoddoli.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n gobeithio bod y flwyddyn hon o addasu yn golygu bod y sector gwirfoddol a chymunedol bellach mewn sefyllfa i gadw\u2019r gwirfoddolwyr a ddaeth ymlaen yn ystod y pandemig ac i droi gwirfoddoli\u2019n ddewis gydol oes i\u2019n gwirfoddolwyr newydd. Rwy\u2019n gobeithio bod rhai o\u2019r rhwystredigaethau a deimlwyd gan ddarpar wirfoddolwyr ac a nodwyd yn yr adolygiad o dystiolaeth wedi\u2019u goresgyn.<\/p>\n<h4><\/h4>\n<h4><strong>Myfyrio ar yr argymhellion<\/strong><\/h4>\n<p>Mae\u2019r canfyddiadau a\u2019r argymhellion o ran dyfodol gwirfoddoli - adeiladu ar y dulliau gweithredu hyblyg a ddaeth i\u2019r golwg ar anterth y pandemig, addasu i gynnwys gwirfoddolwyr \u2018anffurfiol\u2019 a chanolbwyntio ar gyfleoedd lleol iawn - mae\u2019r rhain yn teimlo\u2019n iawn ar sail ein profiadau yn Abertawe a\u2019r adborth rydyn ni wedi\u2019i dderbyn yn ystod sesiynau cyd-gynhyrchu rhanbarthol a oedd yn edrych ar sut gall gwirfoddoli gefnogi adferiad llesiant.<\/p>\n<p>Mae wedi bod yn flwyddyn a hanner ac mae cymaint gennym ni i\u2019w hystyried, gyda chymorth canfyddiadau\u2019r gwaith ymchwil a thystiolaeth ac astudiaethau achos y rheini a gyfrannodd. Mae gan wirfoddoli gymaint i\u2019w gynnig i lesiant cymunedau ac unigolion.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi\u2019r cyfle i ni ystyried sut gallem ni gynnwys yr hyn a ddysgwyd yn ein rhaglenni gwirfoddoli yn y dyfodol a sut gall gwirfoddoli chwarae rhan yn y gwaith o gynorthwyo\u2019r bobl hynny y cafodd eu llesiant ei amharu\u2019n ddifrifol gan y pandemig.<\/p>\n<h4><\/h4>\n<h4><strong>Yngl<\/strong><strong>\u0177<\/strong><strong>n \u00e2 gwirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig <\/strong><\/h4>\n<p>Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei wneud gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth \u00e2 Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a CGGC, a chafodd ei gyllido gan Grant Adfer Gwirfoddoli Llywodraeth Cymru. <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gwirfoddoli-a-llesiant-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws\/\"><strong>Gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn yma.<\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Amanda Carr, Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS), yn myfyrio ar sut mae ei gwaith ymchwil newydd ar wirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig yn paru \u00e2\u2019u phrofiadau ei hun. Roeddwn eisiau dechrau trwy fanteisio ar y cyfle i ddymuno Wythnos Gwirfoddolwyr Hapus i bawb ac i ddweud diolch enfawr i\u2019r holl wirfoddolwyr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15246,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15247","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"pandemic-volunteering.jpg","filesize":615564,"sizes":{"medium":{"file":"pandemic-volunteering-744x495.jpg","width":744,"height":495,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":73043,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-744x495.jpg"},"large":{"file":"pandemic-volunteering-1200x798.jpg","width":1200,"height":798,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":157532,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-1200x798.jpg"},"thumbnail":{"file":"pandemic-volunteering-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":62354,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"pandemic-volunteering-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":77059,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-768x511.jpg"},"1536x1536":{"file":"pandemic-volunteering-1536x1021.jpg","width":1536,"height":1021,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":231825,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-1536x1021.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"pandemic-volunteering-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":279690,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15246","name":"pandemic-volunteering.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering.jpg","title":"pandemic-volunteering.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/pandemic-volunteering-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15247","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15247"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15247\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16490,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15247\/revisions\/16490"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15246"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15247"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15247"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15247"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15247"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}