{"id":15241,"date":"2021-05-14T09:23:17","date_gmt":"2021-05-14T09:23:17","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/zoomshock-ai-gweithio-o-bell-yw-dyfodol-economi-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:10","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:10","slug":"zoomshock-ai-gweithio-o-bell-yw-dyfodol-economi-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/zoomshock-ai-gweithio-o-bell-yw-dyfodol-economi-cymru\/","title":{"rendered":"Zoomshock: Ai gweithio o bell yw dyfodol economi Cymru?"},"content":{"rendered":"<p>Mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/anelu-gael-30-or-gweithlu-yng-nghymru-i-weithio-o-bell\">Llywodraeth Cymru<\/a> wedi datgan '<em>uchelgais hirdymor i weld oddeutu 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at eu cartrefi, a hyn yn golygu wedi i fygythiad Covid-19 leihau'. <\/em>Mae'r newid i weithio o bell yn ystod pandemig Coronafeirws wedi arwain at yr hyn y mae rhai arbenigwyr yn ei ddisgrifio fel ' <a href=\"https:\/\/papers.ssrn.com\/sol3\/papers.cfm?abstract_id=3752977\">Zoomshock'<\/a>, lle mae gweithgaredd economaidd yn symud o weithleoedd traddodiadol i ardaloedd cartrefi pobl.<\/p>\n<p>Mae gweithio o bell ers mis Mawrth 2020 wedi bod yn gysylltiedig \u00e2 nifer o fuddion cymdeithasol ac economaidd y mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/lleoliadau-gweithio-o-bell-wediu-cadarnhau-ar-draws-cymru?_ga=2.54207660.504723583.1620920364-46801475.1614075160\">Llywodraeth Cymru yn dymuno eu dal a'u cadw<\/a> yn y tymor hir. Mae'r buddion hyn yn cynnwys <a href=\"https:\/\/www.andrii-parkhomenko.net\/files\/DKP_Covid_Urban.pdf\">llai o dagfeydd mewn trefi, llai o amser teithio i weithwyr<\/a>, llai o lygredd aer a s\u0175n, <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/sites\/default\/files\/documents\/Homeworking%20in%20the%20UK_Report_Final_3.pdf\">gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gwell cynhyrchiant<\/a>. Fodd bynnag, mae nifer o bethau anhysbys yn gysylltiedig \u00e2 symud tymor hir i weithio o bell ar raddfa mor fawr, ac mae angen eu monitro.\u00a0 Gallai newid i 30% gweithio o bell yng Nghymru arwain at newidiadau sylweddol yn y defnydd o dir a'r farchnad eiddo tiriog wrth i fwy o bobl weithio gartref neu'n agos at eu cartref. Mae <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/343726088_More_Working_From_Home_Will_Change_the_Shape_and_Size_of_Cities\">modelu'r defnydd o dir<\/a> yn awgrymu y gallai symud i weithio o bell yn y tymor hir arwain at gynnydd ym mhris tir a thai yn yr ymylon trefol tra bo prisiau yng nghanol dinasoedd yn gostwng.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/abs\/pii\/S0965856416300283\">ymchwil<\/a> a gynhaliwyd cyn pandemig Coronafeirws yn awgrymu bod pobl yn fwy parod i fyw ymhellach o'u gweithle os gallant weithio gartref o leiaf rywfaint o'r amser. Gallai adleoli gwaith fel hyn gael effeithiau tymor hir ar sectorau fel lletygarwch a manwerthu. Dyw hi ddim yn bosibl darparu'r gwasanaethau hyn o bell, ac o ganlyniad mae <a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/pdf\/10.1177\/2399808320971910\">newidiadau o ran lle mae pobl yn gweithio hefyd yn effeithio ar ble maen nhw'n defnyddio'r gwasanaethau hyn<\/a>. Mae gan hyn oblygiadau i fusnesau mewn canolfannau trefol, lle mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng, ac yn y maestrefi lle mae'r nifer wedi cynyddu.<\/p>\n<p>Mae rhai sylwebyddion wedi awgrymu bod y newidiadau hyn, gyda mwy o weithio o bell, yn golygu <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-52767773\">diwedd ar y swyddfa draddodiadol yng nghanol y ddinas<\/a>. Fodd bynnag dylid pwyllo wrth ystyried syniadau o'r fath yng nghyd-destun Cymru. Mae llai o ddinasoedd mawr yng Nghymru na rhannau eraill o'r DU ac felly mae'n bosibl y bydd effaith newid yn y defnydd o swyddfeydd dinesig yn llai. Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cefnogi ei huchelgais i gael 30% yn gweithio o bell drwy greu rhwydwaith o <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/lleoliadau-gweithio-o-bell-wediu-cadarnhau-ar-draws-cymru?_ga=2.54207660.504723583.1620920364-46801475.1614075160\">hybiau gweithio o bell <\/a>cymunedol. Ond dyw hi ddim yn glir eto a oes awydd am lefydd o'r fath ymhlith y gweithlu yng Nghymru.\u00a0 Ystyriaeth arall sydd angen sylw yw effeithiau gweithio o bell ar wahanol grwpiau, gan y gallai cyfleoedd gael eu <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/media\/nbbhxbrn\/cr-ld14202-e.pdf\">dosbarthu'n anghyfartal.<\/a> Mae'r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0011\/2425466\/Covid_economy_report_2.pdf\">gyfran o weithwyr sy'n gallu gweithio gartref<\/a> yng Nghymru'n llai nag unrhyw genedl arall yn y DU. Yn gyffredinol, mae'n haws i ddynion, pobl fwy addysgedig a'r rheini ar gyflog uwch <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/covid19\/2020\/05\/18\/naila-kabeer-labour-market-inequalities-are-exacerbated-by-covid-19\/\">ddewis gweithio gartref<\/a> a chrynhoi'r buddion economaidd a lles sy'n gysylltiedig \u00e2 hynny.\u00a0 Mae menywod, pobl anabl, pobl dan 25 a rhai grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn sectorau \u00e2 chyflogau isel ac felly byddent yn fwy agored i unrhyw effeithiau y gallai symudiad ehangach at weithio o bell yng Nghymru ei gael ar sectorau cyflog isel.<\/p>\n<p>Mae'n bwysig nodi'r amgylchiadau eithriadol a graddfa ddigynsail gweithio o bell yng Nghymru ar hyn o bryd, a'r effaith mae hyn yn ei gael ar y data a'r dystiolaeth sy'n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd. Mae gweithio o bell yn 2020 a 2021 wedi bod yn fesur iechyd cyhoeddus a osodwyd ar bobl yn hytrach nag yn ddewis a wnaed gan weithwyr a chyflogwyr.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae'r symudiad eang i weithio o bell yn ystod y pandemig wedi newid safbwyntiau ynghylch gweithio o bell. Mae cyfran sylweddol o'r bobl fu'n gweithio gartref yn ystod y pandemig yn nodi eu bod yn <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/sites\/default\/files\/documents\/Homeworking%20in%20the%20UK_Report_Final_3.pdf\">awyddus i barhau i weithio gartref<\/a> (o leiaf ran amser) yn y dyfodol.\u00a0 O'r herwydd, mae'n bwysig nad yw penderfyniadau polisi yn cael eu seilio ar ddata cyn-2020 yn unig na 2020-21 yn unig. Dylai casglu data a thystiolaeth fod yn elfen allweddol yn y polis\u00efau a mentrau sy'n cefnogi gweithio o bell yn yng Nghymru yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae ystyried y\u00a0 \u2018Zoomshock\u2019 posibl y gallai symud at 30% o weithio o bell ei achosi yn economi Cymru'n amlygu manteision ac anfanteision posibl y fath ailffurfio eang mewn arferion gwaith yng Nghymru. Er ei bod yn ddigon posibl fod buddion i'r amgylchedd, lles gweithwyr a chynhyrchedd yn deillio o weithio o bell, mae'n amlwg nad ydym yn gwybod eto beth fyddai effeithiau ailddosbarthu gweithgaredd\u00a0 economaidd yn ddaearyddol ar y fath raddfa.<\/p>\n<p>Mae ansicrwydd ynghylch anghydraddoldebau a grwpiau bregus, arloesi, dadleoli economaidd, a chrynhoad llai yn parhau'n bryderon allweddol wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyflawni ei huchelgais o 30% yn gweithio o bell yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Yng ngoleuni'r ansicrwydd parhaus ynghylch effaith gweithio o bell yng Nghymru, bydd cynnal monitro parhaus yn hanfodol i harneisio buddion gweithio o bell yng nghyd-destun Cymru ynghyd \u00e2 lliniaru effeithiau negyddol posibl. Dylai hyn ganolbwyntio ar:<\/p>\n<ul>\n<li>Pa grwpiau sy'n gweithio o bell ac ymhle?<\/li>\n<li>Beth yw'r newidiadau o ran niferoedd ac ymddygiad trefol?<\/li>\n<li>Beth yw'r newidiadau o ran cyflogaeth?<\/li>\n<li>Beth yw'r newidiadau o ran prisiau tai a chostau rhentu?<\/li>\n<\/ul>\n<hr \/>\n<p>Gallwch ddarllen ein hadroddiad i Lywodraeth Cymru ar weithio o bell <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gweithio-o-bell\/\">yma<\/a>, a'n holl waith ar adferiad Cymru o'r pandemig <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ein-gwaith\/pandemig-coronafeirws\/\">yma<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan 'uchelgais hirdymor i weld oddeutu 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at eu cartrefi, a hyn yn golygu wedi i fygythiad Covid-19 leihau'. Mae'r newid i weithio o bell yn ystod pandemig Coronafeirws wedi arwain at yr hyn y mae rhai arbenigwyr yn ei ddisgrifio [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15240,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15241","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"woman-working-from-home-smaller.jpg","filesize":320380,"sizes":{"medium":{"file":"woman-working-from-home-smaller-744x376.jpg","width":744,"height":376,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39898,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller-744x376.jpg"},"large":{"file":"woman-working-from-home-smaller-1200x606.jpg","width":1200,"height":606,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":81603,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller-1200x606.jpg"},"thumbnail":{"file":"woman-working-from-home-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44208,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"woman-working-from-home-smaller-768x388.jpg","width":768,"height":388,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":42095,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller-768x388.jpg"},"1536x1536":{"file":"woman-working-from-home-smaller-1536x775.jpg","width":1536,"height":775,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":119928,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller-1536x775.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"woman-working-from-home-smaller-1920x1007.jpg","width":1920,"height":1007,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":196603,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller-1920x1007.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15240","name":"woman-working-from-home-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/woman-working-from-home-smaller.jpg","title":"woman-working-from-home-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15241","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15241"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15241\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16488,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15241\/revisions\/16488"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15240"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15241"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15241"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15241"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15241"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}