{"id":15237,"date":"2021-04-29T08:51:32","date_gmt":"2021-04-29T08:51:32","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/interniaethau-phd-dysgu-trwy-wneud\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:09","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:09","slug":"interniaethau-phd-dysgu-trwy-wneud","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/interniaethau-phd-dysgu-trwy-wneud\/","title":{"rendered":"Interniaethau PhD - Dysgu trwy wneud"},"content":{"rendered":"<p>Ym mis Ionawr 2021, croesawodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau fyfyriwr doethurol ar interniaethau tri mis a ariannwyd gan ESRC. Bu <strong>Aimee Morse<\/strong> o Brifysgol Swydd Gaerloyw yn astudio ecosystem tystiolaeth leol - astudiaeth achos o gr\u0175p ffermwyr yng Ngogledd Cymru, a bu<strong> Findlay Smith<\/strong> o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda ni i astudio defnydd Llywodraeth Cymru o offer polisi ar gyfer prif-ffrydio cydraddoldeb.<\/p>\n<p>Isod, maen nhw'n dweud wrthym beth oedd eu barn am eu cyfnod gyda'r Ganolfan, a beth bydd hynny\u2019n ei gyfrannu wrth iddyn nhw hyrwyddo eu datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\"><em>1. At ei gilydd, sut brofiad oedd eich cyfnod yn y Ganolfan?<\/em><\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4836 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Aimee -<\/strong><\/span> rydw i wedi cael tri mis gwych yn gweithio gyda'r Ganolfan. Er ei fod yn rhyfedd peidio \u00e2 chwrdd \u00e2 chydweithwyr wyneb yn wyneb na threulio amser mewn swyddfa yn ystod y cyfnod hwn, mae cyfarfodydd mynych gyda holl aelodau'r t\u00eem yn bendant wedi gwneud y profiad rhithwir yn werth chweil! Mae wedi bod yn ddiddorol iawn dysgu mwy am waith y Ganolfan a sut maen nhw'n cefnogi llunio polis\u00efau a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Dr Hannah Durrant a'r t\u00eem ymchwil ehangach; mae eu harweiniad a'u hadborth adeiladol wedi bod yn amhrisiadwy.<\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4839 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Findlay -<\/strong><\/span> Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn gweithio gyda'r Ganolfan. Doeddwn i ddim yn si\u0175r a fyddai gweithio o bell yn her, ond mae yna drefniant da iawn gyda chyfarfodydd a diweddariadau rheolaidd, felly doeddwn i byth yn teimlo mod i'n gweithio ar fy mhen fy hun. Mae'r gefnogaeth gan y staff hefyd wedi bod yn wych, yn enwedig fy ngoruchwyliwr Dr Andrew Connell. Roeddwn i'n teimlo fel rhan o'r t\u00eem o'r cychwyn cyntaf ac rydw i wedi mwynhau clywed am waith y staff eraill hefyd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\"><em>2. Beth ydych chi wedi gallu ei wneud \/ cymryd rhan ynddo trwy eich interniaeth na fyddech wedi gallu ei wneud fel arall?<\/em><\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4836 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Aimee -<\/strong><\/span> Rhoddodd fy ymchwil yn ystod fy nghyfnod yn y Ganolfan gyfle i mi weithio gyda gr\u0175p ffermwyr yng ngogledd Cymru, gan gymhwyso sgiliau yr oeddwn wedi'u datblygu yn ystod fy ngwaith gyda grwpiau ffermwyr yn Lloegr, er mwyn deall sut roedd y gwahanol gyd-destunau cenedlaethol yn effeithio ar eu gwaith cydweithredol. Rwyf eisoes wedi dysgu llawer am waith y gr\u0175p, eu nodau, a'u cyfraniad at ein gwybodaeth am arferion rheoli tir cynaliadwy mewn ardaloedd ucheldir, ond rwy\u2019n gobeithio teithio i gwrdd \u00e2 nhw'n bersonol a diolch iddynt am gymryd rhan yn fy mhrosiect unwaith bydd hynny\u2019n bosibl.<\/p>\n<p>Hefyd, doeddwn i erioed wedi meddwl am greu podlediad nes i mi gyrraedd y ganolfan a thrafod allbynnau\u2019r prosiect. Cyfrannais at <a href=\"https:\/\/anchor.fm\/wcpp\">gyfres sgyrsiau PEP Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)<\/a>, gan drafod <a href=\"https:\/\/www.wlga.wales\/wlga-rural-wales-manifesto\">Gweledigaeth Cymru Wledig<\/a> gyda\u2019r Athro Michael Woods, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/\">a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru<\/a> (WISERD), a Guto Davies , <a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/features\/fferm-ifan\">ffermwr<\/a> yng ngogledd Cymru. Roedd yn brofiad gwych!<\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4839 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Findlay -<\/strong><\/span> Mae'r interniaeth wedi rhoi cyfle i mi gynhyrchu gwaith a fydd, gobeithio, yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i lunwyr polisi. Mae gweithio gyda'r Ganolfan hefyd wedi caniat\u00e1u i mi ymgysylltu'n fwy uniongyrchol \u00e2 llunwyr polisi wrth gasglu data. Rwyf wedi gallu cynnal cyfweliadau \u00e2 staff uwch o fewn y llywodraeth, rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei wneud fel arall.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\"><em>3. Sut ydych chi'n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi'ch astudiaethau PhD?<\/em><\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4836 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Aimee -<\/strong><\/span> Mae'r interniaeth wedi bod yn gyfle i ddatblygu fy meddyliau ar gyfer fy PhD yn fwy cyffredinol, ac erbyn hyn mae gen i fwy o werthfawrogiad o'r broses o lunio polisi a\u2019r llenyddiaeth gysylltiedig. Bydd fy nghanfyddiadau o'r prosiect hwn yn bwydo i mewn i astudiaeth gymharol o brofiadau grwpiau ffermwyr o Loegr a Chymru yn ystod cyfnod o newid polisi sylweddol.<\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4839 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Findlay<\/strong> -<\/span> Mae yna lawer iawn o orgyffwrdd rhwng fy mhwnc PhD a\u2019m gwaith yn y Ganolfan, gan fod fy holl waith yma yn cyfrannu i ryw raddau at fy ymchwil. Mae'r amser a dreuliais yn gweithio ar rywbeth heblaw fy PhD hefyd wedi rhoi cyfle i mi edrych yn \u00f4l ar y gwaith yr wyf wedi'i wneud hyd yma a nodi meysydd i'w gwella.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\"><em>4. Sut ydych chi'n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi'ch datblygiad proffesiynol ehangach?<\/em><\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4836 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Aimee-Morse.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Aimee -<\/strong> <\/span>Roedd gweithio gyda Th\u00eem Ymchwil y Ganolfan yn rhoi cyfle i mi feddwl sut gallwn i gymhwyso fy ngalluoedd presennol mewn t\u00eem newydd. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus wrth gynllunio a chyflawni prosiectau tymor byr ac wrth rannu fy ngwaith \u00e2 chynulleidfa ehangach. Rwyf wedi cael amser i ddatblygu sawl sgil allweddol yn ystod fy interniaeth ac rwy'n edrych ymlaen at eu defnyddio wrth i mi barhau \u00e2'm hymchwil PhD.<\/p>\n<p><span style=\"color: #008080;\"><strong><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-4839 size-thumbnail\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Findlay-Smith.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"150\" \/><\/a>Findlay -<\/strong><\/span> Rwyf wedi mwynhau yn arbennig bod yr interniaeth wedi canolbwyntio ar gynhyrchu allbynnau ymarferol sy'n berthnasol i lunwyr polisi. Mae hynny wedi rhoi ffocws i mi y tu hwnt i gyd-destun academaidd ac mae\u2019n bendant wedi helpu fy natblygiad fel ymchwilydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dywedodd <strong>yr Athro James Downe<\/strong>, Cyfarwyddwr Ymchwil WCPP - <em>\u201cNod rhaglen Interniaethau PhD y Ganolfan yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o ymgymryd ag ymchwil mewn sefydliad sy'n gweithio yn y man lle mae ymchwil a llunio polisi yn cwrdd \u00e2\u2019i gilydd. Mae Aimee a Findlay wedi gwneud cyfraniad rhagorol i'r Ganolfan yn ystod y misoedd diwethaf ac maen nhw wedi caffael sgiliau ymarferol i'w defnyddio yn eu gwaith yn y dyfodol. Byddwn yn hysbysebu am interniaethau PhD pellach yn fuan ac rydym ni\u2019n edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth ddarparu tystiolaeth ar gyfer polisi.\u201d<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Ionawr 2021, croesawodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau fyfyriwr doethurol ar interniaethau tri mis a ariannwyd gan ESRC. Bu Aimee Morse o Brifysgol Swydd Gaerloyw yn astudio ecosystem tystiolaeth leol - astudiaeth achos o gr\u0175p ffermwyr yng Ngogledd Cymru, a bu Findlay Smith o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda ni i astudio defnydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15234,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[131],"class_list":["post-15237","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-interniaid-phd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"internship-smaller-1.jpg","filesize":372927,"sizes":{"medium":{"file":"internship-smaller-1-744x474.jpg","width":744,"height":474,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":75274,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-744x474.jpg"},"large":{"file":"internship-smaller-1-1200x765.jpg","width":1200,"height":765,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":146986,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-1200x765.jpg"},"thumbnail":{"file":"internship-smaller-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":74299,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"internship-smaller-1-768x490.jpg","width":768,"height":490,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78347,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-768x490.jpg"},"1536x1536":{"file":"internship-smaller-1-1536x979.jpg","width":1536,"height":979,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":205027,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-1536x979.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"internship-smaller-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":271085,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"12704","name":"internship-smaller-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1.jpg","title":"internship-smaller-1","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/internship-smaller-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15237","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15237"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15237\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15238,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15237\/revisions\/15238"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15234"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15237"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15237"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15237"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15237"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}