{"id":15232,"date":"2021-06-30T13:27:37","date_gmt":"2021-06-30T13:27:37","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/dyfodol-polisi-ffermio-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:08","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:08","slug":"dyfodol-polisi-ffermio-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/dyfodol-polisi-ffermio-cymru\/","title":{"rendered":"Dyfodol polisi ffermio Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynigion polisi amaethyddol sydd \u00e2'r nod o gynorthwyo ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio cynaliadwy. Gellir gweld eu bwriad ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol ym <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2020-12\/agriculture-wales-bill-white-paper.pdf\">Mhapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru)<\/a>, a daeth yr ymgynghoriadau i ben ar ei gyfer ym mis Mawrth 2021.<\/p>\n<p>Eu bwriad yw i'r Bil gael ei 'lywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael' gan ystod eang o randdeiliaid, gan alinio'r broses benderfynu hon \u00e2 hawl y cyhoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau amgylcheddol a nodwyd yng <a href=\"https:\/\/ec.europa.eu\/environment\/aarhus\/\">Nghonfensiwn Aarhus 1998<\/a>.<\/p>\n<p>Nod ein prosiect ymchwil diweddar oedd archwilio sut y gallai dull cyfranogol o ddylunio arferion rheoli tir cynaliadwy gefnogi ffermwyr ar gyfer newidiadau sectoraidd ar \u00f4l Brexit. Mae'n hanfodol deall profiadau ffermwyr ar yr adeg hon o newid sylweddol yn y sector amaethyddol. Wrth wneud hynny, gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod polis\u00efau'n cynnig fframwaith priodol lle mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i wneud newidiadau i'w harferion wrth geisio rheoli tir ac adnoddau yn gynaliadwy.<\/p>\n<p>Mae profiadau grwpiau a arweinir gan ffermwyr, fel y gr\u0175p Fferm Ifan, <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-09\/sustainable-management-scheme-frequently-asked-questions.pdf\">a ariennir gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy<\/a> (SMS), yn cynnig mewnwelediad cyfoethog i ddylunio a gweithredu arferion ffermio cynaliadwy, ar raddfa tirwedd. Gyda chefnogaeth sawl partner, bu'r gr\u0175p yn llwyddiannus yn eu cais i'r SMS a chawsant \u00a3696,352 i weithio tuag at sawl nod ar y cyd trwy arbrofi gydag atebion sy'n briodol yn lleol, megis plannu gwrychoedd a choed ar ffermydd aelodau unigol. Mae eu gwaith cydweithredol i wella cynaliadwyedd adnoddau naturiol ar eu tir wedi gweld gwartheg yn pori ar y Migneint, rhostir mawr yng nghanol Eryri, am y tro cyntaf o fewn cof.<\/p>\n<p>Mae llwyddiannau Fferm Ifan yn sgil cyfuniad o arbenigedd gwyddonol a phrofiadol a lefelau uchel o gydlyniant cymdeithasol. Roedd eu perthnasoedd \u00e2'u partneriaid yn allweddol trwy gydol y broses SMS, gan ganiat\u00e1u iddynt ddatblygu cais cryf wedi'i seilio ar ddata gwyddonol a darparu monitro a gwerthuso parhaus i gofnodi newidiadau amgylcheddol. Roedd y priodoleddau hyn hefyd yn cynnig cryn b\u0175er cyfunol i'r gr\u0175p yn y broses benderfynu ac yn sicrhau bod yr atebion amgylcheddol a ddarparwyd yn foddhaol i bawb a gymerodd ran. Gallwch ddysgu mwy am eu gwaith ar eu cyfrif <a href=\"https:\/\/twitter.com\/ffermifan?lang=en\">Twitter<\/a>.<\/p>\n<p>Er bod profiad Fferm Ifan wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, mae yna sawl gwers allweddol y gellir eu dysgu wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu Bil Amaeth (Cymru) a'r polisi cysylltiedig. Dylai'r broses ymgynghori gael ei hysbysebu'n briodol a'i gwneud yn hygyrch i bawb. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod ffermwyr a rheolwyr tir yn cael gwybod am gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai mewn iaith o'u dewis mewn modd amserol. Dylid dyrannu digon o amser i'r broses ymgynghori i adeiladu perthnasoedd llawn ffydd. Efallai y bydd angen mwy o amser ar rai grwpiau nag eraill i deimlo'n gyffyrddus yn cyfrannu.<\/p>\n<p>Mae monitro a gwerthuso polisi ac arfer yn hanfodol i wella dyluniad a gweithrediad polisi yn y dyfodol. Mae ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio i'r amgylchedd wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf yn unig. Bydd yn bwysig myfyrio'n feirniadol ar lwyddiannau a methiannau cynlluniau amaeth-amgylchedd blaenorol, megis Tir Cynnal, Tir Gofal a Glastir.<\/p>\n<p>Dylid cynnig cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys ffermwyr a pherchnogion tir eraill, gyflwyno eu barn ar y ffordd orau i fynd i'r afael \u00e2 materion amgylcheddol cymhleth, gan ddefnyddio cyfuniad o arbenigedd gwyddonol a phrofiadol. Dylai fod cyfeirio gwell at rwydwaith hwyluswyr <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/farmingconnect\/cy\">Farming Connect<\/a>, oherwydd bydd achosion lle gallai fod yn briodol i gr\u0175p o ffermwyr fynd i'r afael \u00e2 materion ar raddfa tirwedd, fel y gwaith a ddangosir gan Fferm Ifan. Gellir defnyddio'r gwasanaeth presennol hwn yn fwy effeithiol i annog ffermwyr cyfagos i archwilio'r posibilrwydd o weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael \u00e2 materion ar raddfa sy'n fwy na'u fferm unigol. Bydd hwyluso yn hanfodol i sicrhau bod unrhyw weithio ar y cyd yn llwyddiannus.<\/p>\n<p>Wrth i effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd a phandemig y Coronafeirws ddod yn gliriach, bydd cyfleoedd i alinio anghenion cymunedau amaethyddol \u00e2 chymunedau gwledig yn fwy cyffredinol. Wrth i bolisi amaethyddol newydd gael ei ddatblygu, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i'w alinio \u00e2'r gofynion polisi allweddol a amlinellir yng <a href=\"https:\/\/www.wlga.cymru\/wlga-rural-wales-manifesto\">Ngweledigaeth Cymru Wledig<\/a> Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.<\/p>\n<p>Mae pwyslais yn y Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) ar yr hyn y gall ffermio ei gyflawni ar gyfer yr amgylchedd, ond mae hyn yn anwybyddu rolau ffermwyr fel cynhyrchwyr. Mae cynhyrchu bwyd yn elfen allweddol o lawer o fywoliaethau ffermio a dylid rhoi ystyriaeth fwy gofalus i\u2019w gefnogi mewn polisi. Dylid cydnabod hefyd y cyfraniadau y mae ffermwyr yn eu gwneud i gydlyniant cymunedol. Er enghraifft, mae ffermwyr yn chwarae rhan hanfodol o ran cynnal y Gymraeg: mae'r rhai a gyflogir yn y sector amaethyddol yn fwy tebygol na'r rheini mewn unrhyw sector arall i siarad Cymraeg, gyda <a href=\"https:\/\/www.nfu-cymru.org.uk\/nfu-cymru\/documents\/nfu-cymru-uplands-report-english-final-optimised\/\">53% o ffermwyr yr ucheldir yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf<\/a>.<\/p>\n<p>Os eir i'r afael \u00e2'r materion pwysig hyn yn briodol, gall polisi ffermio Cymru gynorthwyo ffermwyr yn ystyrlon i gyfrannu at sawl nod a nodwyd yn <a href=\"https:\/\/www.futuregenerations.wales\/cy\/about-us\/future-generations-act\/\">Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynigion polisi amaethyddol sydd \u00e2'r nod o gynorthwyo ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio cynaliadwy. Gellir gweld eu bwriad ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol ym Mhapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru), a daeth yr ymgynghoriadau i ben ar ei gyfer ym mis Mawrth 2021. Eu bwriad yw i'r Bil gael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13134,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15232","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Farming-smaller-1.jpg","filesize":362253,"sizes":{"medium":{"file":"Farming-smaller-1-744x312.jpg","width":744,"height":312,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50084,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1-744x312.jpg"},"large":{"file":"Farming-smaller-1-1200x504.jpg","width":1200,"height":504,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":123330,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1-1200x504.jpg"},"thumbnail":{"file":"Farming-smaller-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":67155,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Farming-smaller-1-768x323.jpg","width":768,"height":323,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53765,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1-768x323.jpg"},"1536x1536":{"file":"Farming-smaller-1-1536x645.jpg","width":1536,"height":645,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":193571,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1-1536x645.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9319","name":"Farming-smaller-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Farming-smaller-1.jpg","title":"Farming-smaller-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15232","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15232"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15232\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16487,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15232\/revisions\/16487"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13134"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15232"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15232"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15232"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15232"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}