{"id":15230,"date":"2021-05-25T08:12:15","date_gmt":"2021-05-25T08:12:15","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/creu-cymru-wrth-hiliol\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:07","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:07","slug":"creu-cymru-wrth-hiliol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/creu-cymru-wrth-hiliol\/","title":{"rendered":"Creu Cymru Wrth-hiliol"},"content":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws wedi gwneud gweithredoedd i ddileu gwahaniaethau hiliol yng Nghymru yn fwy dybryd. Mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2020-06\/coronavirus-covid-19-and-the-black-asian-and-minority-ethnic-population-154.pdf\">dadansoddiad<\/a> yn dangos bod y risg o farwolaethau sy'n gysylltiedig \u00e2 COVID-19 ymhlith grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn sylweddol uwch na\u2019r risg i bobl o ethnigrwydd Gwyn yng Nghymru. Mae gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hefyd yn fwy tebygol o weithio mewn galwedigaethau sy\u2019n wynebu risg uwch o COVID-19 ac o fewn diwydiannau y gorchmynnwyd iddynt gau.<\/p>\n<p>Cyflwynodd yr Is-gr\u0175p Economaidd-Gymdeithasol COVID-19 Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (yr oeddwn yn gadeirydd arno) ei <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/adroddiad-grwp-economaidd-gymdeithasol-covid-19-pobl-dduon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig\">adroddiad<\/a> i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2020. Roedd yr adroddiad yn cynnwys sawl argymhelliad a bwysleisiodd natur frys camau radical a pharhaus i fynd i\u2019r afael ag effeithiau anghymesur COVID-19 a\u2019r gwahaniaethau a oedd eisoes yn bodoli sydd wedi rhwystro cynnydd economaidd a chymdeithasol grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn fuan ar \u00f4l cyhoeddi'r adroddiad, cefais wahoddiad i gyd-gadeirio'r Gr\u0175p Llywio a gafodd y dasg o ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru (gyda'r Fonesig Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru). Bydd y <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-cymru-wrth-hiliol?_ga=2.55411307.1366653743.1619166311-46801475.1614075160\">Cynllun Gweithredu<\/a> yn anelu at hyrwyddo newid diwylliannol a mynd i'r afael \u00e2 hiliaeth a gwahaniaethu strwythurol a systemig fel bod pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael yr un gwerth \u00e2'u cymheiriaid Gwyn. Fe'i lansiwyd yn llwyddiannus ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd mis Mawrth 2021.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Arwain gyda'n gilydd a thrwy esiampl<\/strong><\/h4>\n<p>Mae fy nghyd-arweinyddiaeth o\u2019r Gr\u0175p Llywio gyda\u2019r Fonesig Shan Morgan yn cynrychioli\u2019r <strong>tro cyntaf yn hanes Llywodraeth Cymru i fenter mor bwysig gael ei harwain ar y cyd gan y gwas sifil pennaf yn Llywodraeth Cymru ac arbenigwr allanol sydd \u00e2 phrofiad byw<\/strong>. Cytunwyd o'r cychwyn y byddwn i\u2019n chwarae rhan fwy gweithredol wrth arwain y Gr\u0175p Llywio gyda\u2019r Fonesig Morgan yn helpu i symud pethau o fewn Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, yn un o'n cyfarfodydd cynharach, buom yn trafod <strong>pwysigrwydd strategol a symbolaidd Llywodraeth Cymru a'r angen i'r sefydliad hwn ddangos esiampl wrth fynd ar drywydd delfrydau gwrth-hiliaeth<\/strong>, yr oeddem wedi'i nodi fel un o nodweddion nodedig allweddol ein cynllun. Manteisiodd y Fonesig Morgan ar y fenter a ddatblygodd o\u2019n gwaith ar y Cynllun Gweithredu trwy gomisiynu hyfforddiant ar hiliaeth sefydliadol ar gyfer yr holl uwch weision sifil yn Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Canolbwyntio ar weithredu<\/strong><\/h4>\n<p>Roedd y Gr\u0175p Llywio yn glir ein bod ni eisiau <strong>Cynllun Gweithredu radical (nid strategaeth) a fydd yn blaenoriaethu gwrth-hiliaeth, ar y sail bod dulliau blaenorol (cyfle cyfartal a rheoli amrywiaeth) wedi methu \u00e2 sicrhau newid ystyrlon ym mywydau lleiafrifoedd hiliol ac ethnig. <\/strong>Yn yr un modd, gwnaethom bwysleisio <strong>pwysigrwydd cydweithredu a chyd-greu<\/strong> yn yr ystyr ein bod am i'r cynllun fod yn ymdrech ar y cyd gan y rhanddeiliaid amrywiol y mae gwahaniaethu hiliol ac ethnig yn effeithio'n uniongyrchol arnynt; academyddion sydd \u00e2 diddordeb yn y maes ymchwil hwn; unigolion a grwpiau sy'n gweithio i ddileu gwahaniaethu hiliol ac ethnig; arweinwyr undebau llafur; llunwyr polisi; a'r rhai sy'n cynrychioli sefydliadau allweddol mewn cymdeithas.<\/p>\n<p>Gwnaethom gynnal amrywiaeth o 'ddigwyddiadau gosod gweledigaeth' gyda grwpiau lleiafrifoedd hiliol ac ethnig lle gwnaethom geisio rhagweld beth fyddai llwyddiant y cynllun yn ei gynrychioli yn y dyfodol, a gwnaeth y rhain ein helpu i nodi amrywiaeth o nodau a gweithredoedd lefel-uchel. <strong>Buom hefyd yn gweithio'n agos gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r angor ymchwil ar gyfer y cynllun<\/strong>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Adeiladu ar fwy nag un sylfaen dystiolaeth<\/strong><\/h4>\n<p>Roedd yr adolygiadau cyflym o dystiolaeth a gyflawnodd WCPP, ynghyd \u00e2 chyfraniadau'r arbenigwyr pwnc a weithiodd gyda nhw, yn arbennig o <strong>ddefnyddiol wrth gyfeirio ein sylw at y them\u00e2u allweddol a ddaeth i\u2019r amlwg<\/strong>. Gwnaeth yr <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gwella-cydraddoldeb-hiliol-yng-nghymru\/\">adroddiadau a ddarparodd WCPP<\/a> ar y meysydd pryder sylweddol helpu i ynysu'r problemau allweddol yn elfennau unigol y cynllun, y goblygiadau croestoriadol a'r camau gweithredu amgen posibl y gellid eu harchwilio.<\/p>\n<p><strong>Ategwyd adroddiadau WCPP gan y ffynhonnell dystiolaeth bwysicaf yn ein barn ni: 'profiadau byw' aelodau o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. <\/strong>Gwnaethom gydnabod bod grwpiau lleiafrifoedd hiliol ac ethnig yn aml yn cael eu grymuso drwy ymchwil a llunio polisi ac roeddem yn benderfynol o'u rhoi nhw a'u profiadau wrth wraidd y Cynllun Gweithredu. Gwnaethom gynnal <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2021-03\/community-engagement-analysis-march-2021.pdf\">ymgynghoriadau cymunedol<\/a> helaeth a arweiniodd at rai mewnwelediadau gwerthfawr. Llywiodd y dealltwriaethau hyn y sesiynau 'plymio dwfn' a 'bwrdd crwn' lle gwahoddwyd yr holl grwpiau ac arbenigwyr a gymerodd ran yn y digwyddiadau casglu tystiolaeth i gyd-lunio'r cyfarwyddiadau polisi ar y gwahanol them\u00e2u a oedd yn cael sylw yn y cynllun.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h4><strong>Cyd-gynhyrchu gyda rhanddeiliaid amrywiol<\/strong><\/h4>\n<p>Dyluniwyd yr holl weithgareddau a ddisgrifir uchod i gefnogi arbenigwyr polisi Llywodraeth Cymru a oedd \u00e2'r dasg hanfodol o ddatblygu nodau a chamau gweithredu ym mhob un o feysydd y cynllun. Er mwyn paratoi arbenigwyr polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y r\u00f4l bwysig hon, <strong>gwnaethom recriwtio mentoriaid Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig allanol a gafodd eu paru'n ofalus \u00e2'r arbenigwyr unigol<\/strong>. Chwaraeodd y mentoriaid hyn ran hanfodol wrth helpu arbenigwyr polisi i ddeall dynameg ac effeithiau hiliaeth a gwahaniaethu, i'r graddau <strong>eu bod yn gweithredu fel 'profiadau byw dirprwyol' a oedd yn arbennig o ddefnyddiol i\u2019r arbenigwyr polisi - a oedd yn Wyn yn bennaf - o ran deall rhai o gynildebau gwahaniaethu nad oeddent wedi dod ar eu traws o'r blaen<\/strong>. Gwnaethom hefyd gynnal sesiynau hyfforddi i sicrhau bod gan aelodau'r Gr\u0175p Llywio gyd-ddealltwriaeth o hiliaeth sefydliadol.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h4><strong>Rheoli amrywiaeth a heterogenedd <\/strong><\/h4>\n<p>Er ein bod yn dathlu lansiad llwyddiannus y Cynllun Gweithredu hwn, mae'n ddefnyddiol tynnu sylw at rai o'r heriau y gwnaethom eu hwynebu yn y broses o'i ddatblygu. Yr her amlwg i mi oedd <strong>arwain grwpiau mor amrywiol, yr oedd eu gwahaniaethau a'u problemau yn aml mor eang, nes bod eu homogeneiddio (fel sy'n ofynnol ar gyfer llunio polis\u00efau) yn aml yn teimlo fel fy mod yn tanbrisio eu hanawsterau<\/strong>. Yn hyn o beth, yn aml roedd angen rheoli disgwyliadau cystadleuol gwahanol grwpiau, gyda rhai yn credu nad oedd ein dull yn ddigon radical i ddelio \u00e2 maint y broblem ac eraill yn cwestiynu lefel y sylw a roddwyd i is-gr\u0175p penodol o bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Roedd arwain grwpiau heterogenaidd o'r fath nad oedd ganddynt lawer yn gyffredin heblaw am eu profiadau o wahaniaethu hefyd yn heriol mewn agweddau eraill. Un maes lle roedd hyn yn amlwg oedd y <strong>diffyg cytundeb ar y derminoleg a fyddai\u2019n cael ei mabwysiadu ar gyfer y Cynllun Gweithredu<\/strong>, gyda'r grwpiau dominyddol eisiau i'w hunaniaethau gael eu hadlewyrchu yn y derminoleg a ddewiswyd. Yn y diwedd, gwnaethom ddewis y term 'Grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig' gan mai dyma\u2019r derminoleg a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><strong>Cyflawni\u2019r cynllun <\/strong><\/h4>\n<p>Er bod gwerth tynnu sylw at yr heriau hyn, mae'n bwysig nodi hefyd nad oeddent yn bryderon mawr ac nad oeddent yn annisgwyl wrth weithio gyda grwpiau mor amrywiol ar faterion sydd \u00e2 gwreiddiau mor ddwfn ac a allai arwain at ganlyniadau mor niweidiol. <strong>Pryder mwy dybryd yw sicrhau bod y Cynllun Gweithredu\u2019n cael ei weithredu'n llawn yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad<\/strong>. Y rheswm am hyn yw y bydd llwyddiant y Cynllun Gweithredu yn helpu i <strong>gyflawni'r tegwch y mae pob cymuned yng Nghymru yn ei ddymuno<\/strong>. Bydd canlyniad o'r fath yn lleihau'r angen i unigolion a grwpiau geisio cysur yn eu priod-grwpiau hunaniaeth fel ffordd o ymateb i ddeinameg rhyng-hiliol \/ ethnig naill ai fel dioddefwyr neu fel gwahaniaethwyr. <strong>Bydd hyn yn helpu i ryddhau\u2019r potensial digymar y bydd Cymru\u2019n ei fwynhau fel y genedl wrth-hiliol gyntaf yn y byd.<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Am yr awdur:\u00a0<\/strong>Mae'r <strong>Athro Emmanuel Ogbonna<\/strong> yn Athro Rheolaeth a Threfniadaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'n Gadeirydd ar Is-gr\u0175p Economaidd-Gymdeithasol COVID-19 BAME y Prif Weinidog ac yn gyd-gadeirydd ar Gr\u0175p Llywio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws wedi gwneud gweithredoedd i ddileu gwahaniaethau hiliol yng Nghymru yn fwy dybryd. Mae dadansoddiad yn dangos bod y risg o farwolaethau sy'n gysylltiedig \u00e2 COVID-19 ymhlith grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn sylweddol uwch na\u2019r risg i bobl o ethnigrwydd Gwyn yng Nghymru. Mae gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12659,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15230","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER.jpg","filesize":758745,"sizes":{"medium":{"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":95397,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-744x496.jpg"},"large":{"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":201408,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":82795,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":99836,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":295290,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":459013,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"FRIENDS-HAVING-DINNER-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":359254,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"12659","name":"FRIENDS-HAVING-DINNER.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER.jpg","title":"FRIENDS-HAVING-DINNER","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/FRIENDS-HAVING-DINNER-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15230","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15230"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15230\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16486,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15230\/revisions\/16486"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12659"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15230"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15230"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15230"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15230"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}