{"id":15222,"date":"2021-02-17T11:06:50","date_gmt":"2021-02-17T11:06:50","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/gofal-cartref-y-gwirionedd\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:03","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:03","slug":"gofal-cartref-y-gwirionedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/gofal-cartref-y-gwirionedd\/","title":{"rendered":"Gofal Cartref: y gwirionedd?"},"content":{"rendered":"<p>Fy enw i yw Lucy ac ar hyn o bryd dwi\u2019n gweithio fel Swyddog Polisi i'r <a href=\"https:\/\/www.wlga.wales\/national-commissioning-board-wales\">Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol<\/a> (NCB). Mae'r NCB yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Nod y bwrdd yw cefnogi a hyrwyddo\u2019r broses o integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy gomisiynu, polisi ac ymarfer. Ond stori arall yw sut y cyrhaeddais i yma!<\/p>\n<p>Dechreuais i mewn gofal yn 18 oed a chwympais i mewn i\u2019m gyrfa drwy ddamwain, a dweud y gwir. Buan y darganfyddais, ar \u00f4l cael fy lleoli mewn gofal preswyl i oedolion ar brofiad gwaith, mai dyna lle ro\u2019n i eisiau bod. Doedd gen i ddim syniad cyn hyn o ba mor foddhaus y gall fod i ofalu am eraill. Dwi wedi gweithio mewn nifer o rolau gofal, ond mae\u2019n rhaid i mi ddweud mai gofal cartref yw lle dwi\u2019n dwlu bod. Rhedodd fy chwaer a minnau asiantaeth ofal fach lwyddiannus dan berchnogaeth y teulu am 14 mlynedd a dyma\u2019r profiad gorau dwi wedi\u2019i gael yn fy ngyrfa hyd yn hyn. Dyma hefyd y peth anoddaf i mi ei wneud erioed ac o bosib y mwyaf straenus!<\/p>\n<p>Mae gofal cartref yn fyd unigryw. Mae\u2019n ddi-stop, yn newid yn gyson ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth. Mae \u2018na ddyddiau da, dyddiau gwael, a diwrnodau pan ry\u2019ch chi am fynd i weithio\u2019n rhywle arall!\u00a0 Ond yna ry\u2019ch chi'n mynd i gynnig gofal ymarferol, neu gefnogi staff gofal, ac maen nhw'n eich atgoffa o\u2019r rhesymau dros \u2018neud be\u2019 chi\u2019n \u2018neud. Pe bai'n rhaid i mi ddweud un stori dda ac un stori wael wrthych chi, byddwn i\u2019n ei chael hi'n anodd. Mae \u2018na amseroedd anodd wedi bod, a dyddiau pan dwi wedi crio a methu \u00e2 chysgu\u2019n poeni am ddefnyddwyr gwasanaeth, staff, arian, rotas, tywydd garw, ceir yn torri i lawr, prinder staff, salwch ac, yn fwyaf annifyr, colli defnyddwyr gwasanaeth. Ond, ar ochr arall y geiniog mae'r teimlad gorau yn y byd, yn fy marn i - mae gwybod eich bod chi wedi helpu a chefnogi rhywun pan oedd wir eich angen chi arno, a\u2019r cyfan yng nghysur ei gartref ei hun, yn anrhydedd. Mae aberthau personol fel codi o'r gwely am 6am fore Nadolig, cerdded ar flaenau\u2019ch traed drwy'r t\u0177 i beidio \u00e2 deffro'ch teulu a mentro i\u2019r oerfel i gyd yn werth chweil pan ry\u2019ch chi\u2019n gweld gw\u00ean braf y person ry\u2019ch chi'n gofalu amdano pan fyddwch chi'n ei ddeffro gyda het Si\u00f4n Corn sy'n fflachio neu dinsel yn eich gwallt! Mae cefnogi staff i fod y gorau y gallant fod, cwrdd \u00e2 rhywun sy\u2019n newydd i ofalu mewn cyfweliad a gweld y potensial ynddo, a'i wylio\u2019n datblygu ei sgiliau, ei wybodaeth a'i yrfa yn deimlad mor wych. Fel gofalwr ifanc, a thrwy gydol fy ngyrfa, dwi wedi cael mentoriaid a staff profiadol a wnaeth fy nghymryd i o dan eu hadain a dysgu cymaint i fi. Fyddwn i ddim yr un person heddiw hebddyn nhw, a byddaf bob amser yn ddiolchgar.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n teimlo nad yw gofal cartref bob amser yn cael y clod mae'n ei haeddu. Mae'r staff sy'n gweithio yn y diwydiant hwn yn wirioneddol anhygoel ac ro\u2019n i bob amser yn synnu at gryfder a gwytnwch ein t\u00eem, hyd yn oed yn wyneb adfyd. Roedd y Diawl o'r Dwyrain yn gynnar yn 2018 yn enghraifft dda o hynny. Roedd staff gofal yn barod i gerdded milltiroedd drwy\u2019r eira a\u2019r rhew i roi gofal i'r bobl fwyaf agored i niwed, nid gan fod yn rhaid iddyn nhw ond gan eu bod nhw\u2019n poeni - dydyn nhw byth yn stopio poeni. Dywedodd rhywun wrtha i unwaith, pe baech chi\u2019n torri gwir ofalwr yn ei hanner, byddai'r gair 'gofal' yn rhedeg drwyddo fel india-roc! Mae gofal yn alwedigaeth, nid \u201cdim ond swydd\u201d. Mae'r heriau sy'n wynebu gofal cartref yn niferus: cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol; rheoli teithio; a disgwyliadau 'amser a thasg', dim ond i enwi rhai.<\/p>\n<p>Mae'n ysbrydoledig gweld y gwaith y mae'r NCB yn ei wneud o ran mesur gwir gostau gofal, cefnogi datblygiad dulliau newydd o gomisiynu a darparu, archwilio modelau gofal cymhleth, a chodi proffil staff gofal a'r r\u00f4l hanfodol y maent yn ei chwarae yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r staff hyn yn delio \u00e2 sefyllfaoedd anhygoel o gymhleth, anodd a blinderus (yn gorfforol ac yn emosiynol) bob dydd ac yn dal i wenu\u2019r holl ffordd. Nhw yw'r rhai sy'n dal llaw eich anwyliaid pan maen nhw'n hapus, yn drist, yn ofnus, yn ddig, yn rhwystredig, neu hyd yn oed yn marw.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n gweld eisiau gofalu\u2019n fawr a dwi\u2019n falch iawn o fod yn weithiwr gofal. Gobeithio y gall fy r\u00f4l newydd yn yr NCB helpu i gefnogi a hyrwyddo'r diwydiant sydd mor annwyl i fi.<\/p>\n<p>Mae'r Bwrdd yn cynnal digwyddiad i ddathlu gwaith y sector gofal cartref <strong>ddydd Mercher 24 Mawrth 2021.<\/strong> Ein nod yw i hwn fod yn ddigwyddiad lle gall darparwyr a chomisiynwyr ddod ynghyd, rhannu arfer da a chael gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes megis comisiynu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, rhoi meddyginiaeth yn ddiogel ac yn effeithiol a chyflogau teg i staff yn y sector, dim ond i enwi rhai.<\/p>\n<p>Mae gwaith yr NCB yn llawer ehangach na gofal cartref yn unig. Os hoffech wybod mwy am y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ym mis Mawrth, <a href=\"mailto:Lucy.richardson@wlga.gov.uk\">cysylltwch \u00e2 ni<\/a>. Mae ein <a href=\"https:\/\/www.wlga.wales\/national-commissioning-board-wales\">gwefan<\/a> yn cynnwys llawer o wybodaeth am y gwaith ry\u2019n ni'n ei wneud ar hyn o bryd a'r hyn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>I bawb sy'n gweithio yn y diwydiant anhygoel hwn - cofiwch pa mor anhygoel ydych chi a daliwch ati i wneud yr hyn ry\u2019ch chi'n ei wneud cystal.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fy enw i yw Lucy ac ar hyn o bryd dwi\u2019n gweithio fel Swyddog Polisi i'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol (NCB). Mae'r NCB yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Nod y bwrdd yw cefnogi a hyrwyddo\u2019r broses o integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy gomisiynu, polisi ac ymarfer. Ond stori arall [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15127,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135,143],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15222","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-profiad-bywyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-scaled.jpg","filesize":373246,"sizes":{"medium":{"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-744x305.jpg","width":744,"height":305,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":46214,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-744x305.jpg"},"large":{"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-1200x492.jpg","width":1200,"height":492,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":104321,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-1200x492.jpg"},"thumbnail":{"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57396,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-768x315.jpg","width":768,"height":315,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48666,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-768x315.jpg"},"1536x1536":{"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-1536x630.jpg","width":1536,"height":630,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":158483,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-1536x630.jpg"},"2048x2048":{"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-2048x840.jpg","width":2048,"height":840,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":256703,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-2048x840.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Homecare-for-elderly-smaller-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":292269,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Homecare-for-elderly-smaller-1.jpg","ID":"15221","name":"Homecare-for-elderly-smaller-1-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-scaled.jpg","title":"Homecare-for-elderly-smaller-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Homecare-for-elderly-smaller-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15222"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15222\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16482,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15222\/revisions\/16482"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15127"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15222"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}