{"id":15217,"date":"2021-02-01T00:01:07","date_gmt":"2021-02-01T00:01:07","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/dyfodol-tecach-deall-anghydraddoldeb-yn-ymgynghoriad-ein-dyfodol-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:03","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:03","slug":"dyfodol-tecach-deall-anghydraddoldeb-yn-ymgynghoriad-ein-dyfodol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/dyfodol-tecach-deall-anghydraddoldeb-yn-ymgynghoriad-ein-dyfodol-cymru\/","title":{"rendered":"Dyfodol Tecach: Deall Anghydraddoldeb yn ymgynghoriad Ein Dyfodol Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/ymgynghoriad-cymru-ein-dyfodol-dadansoddiad-or-ymatebion\/\"><strong>Ein Dyfodol Cymru<\/strong><\/a> ym mis Mai 2020 gyda'r amcan o nodi syniadau ac atebion ar gyfer ailadeiladu Cymru yn dilyn pandemig y Coronafeirws. Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fwy na 2,000 o ymatebion gan unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y wlad a chasglodd ystod o farnau - o syniadau am fannau cyhoeddus a seilwaith digidol i fodelau economaidd y dyfodol. Cyflwynwyd ymatebion ym mis Mai-Gorffennaf 2020 a dadansoddwyd 685 gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Awst-Medi 2020. Dosbarthwyd cyflwyniadau i mewn i gategor\u00efau eang a oedd yn ffurfio strwythur yr <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2020-10\/annex.pdf\">adroddiad<\/a> (Ffigur 1).<\/p>\n<figure id=\"attachment_4884\" aria-describedby=\"caption-attachment-4884\" style=\"width: 816px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/ofw-cym.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-4884 size-full\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/ofw-cym.jpg\" alt=\"\" width=\"816\" height=\"662\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-4884\" class=\"wp-caption-text\">Ffigur 1: Categor\u00efau o ymatebion yn adroddiad Ein Dyfodol Cymru<\/figcaption><\/figure>\n<p>Un o'r them\u00e2u trosfwaol allweddol a ddatgelwyd ym mhob un o'r chwe chategori oedd yr angen i leihau anghydraddoldeb, gyda 222 o gyflwyniadau\u2019n s\u00f4n am ffyrdd o fynd i'r afael \u00e2 hyn. Dadleuodd y cyfranogwyr dros Gymru fwy cyfartal, lle roedd y bwlch rhwng y cefnog a'r difreintiedig yn llawer llai nag y mae ar hyn o bryd ar draws ystod o feysydd polisi gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a hyfforddiant, tlodi bwyd a thanwydd, a'r celfyddydau a diwylliant.<\/p>\n<p>Awgrymodd ymatebwyr i ymgynghoriad <em>Ein Dyfodol Cymru<\/em> fod yr <strong>angen mwyaf dybryd am newid i wella anghydraddoldeb yn y maes tai<\/strong> (93 o gyflwyniadau). Nodwyd bod ystod eang o faterion gan gynnwys problemau ynghylch digartrefedd, cysgu allan, mynediad i loches frys, ansawdd tai, prisiau tai a pherchnogaeth ail gartrefi yn broblematig. Yn aml, mae cysylltiad annatod rhwng y materion hyn ac ystod o anghydraddoldebau cymdeithasol sy'n gymhleth ac wedi'u gwreiddio'n ddwfn. Er enghraifft, nododd llawer fod darparu lloches i'r rheini a oedd yn ddigartref neu'n cysgu allan yn ystod y cyfnod clo yn ymyrraeth gadarnhaol, ond nododd un gymdeithas dai y byddai angen integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar raddfa ehangach o lawer ar gyfer datrysiad hirdymor i broblemau tai yng Nghymru er mwyn i breswylwyr gael cefnogaeth lawn yn eu llety. Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem yn gyfannol, rhaid mynd i\u2019r afael yn systematig \u00e2 phroblemau amddifadedd a thlodi.<\/p>\n<p>Yn wir, roedd cysylltu meysydd problematig ag <strong>anghydraddoldebau strwythurol ehangach<\/strong> yn llinyn cyffredin trwy gydol yr ymatebion. Er enghraifft, mynegwyd llawer o safbwyntiau (44 ymateb) ar 'weithio gartref' a oedd yn amrywio'n sylweddol o bobl yn teimlo\u2019n rhydd i eraill a oedd wedi'i chael hi'n anodd, yn enwedig y rhai \u00e2 chyfrifoldebau gofalu. Roeddent bellach yn gyfrifol am addysgu plant gartref yn ogystal \u00e2 gofalu am ddibynyddion nad oeddent bellach yn derbyn cefnogaeth gan asiantaethau gofal a chanolfannau dydd. Dadleuodd un ymateb gan sefydliad sy'n eirioli dros hawliau plant fod hwn yn fater sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 rhywedd, a bod y rhan fwyaf o waith gofal di-d\u00e2l yn cael ei wneud gan fenywod. Yn fwy eang, maen nhw'n dadlau fod argyfyngau iechyd o'r math hwn yn cael <strong>effaith sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 rhywedd ar boblogaethau<\/strong> a ddangoswyd hefyd mewn adroddiadau cynyddol o drais yn erbyn menywod a merched, llai o fynediad at ofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol, a materion iechyd meddwl. Byddai gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cynnwys mynd i'r afael \u00e2 ffactorau allweddol sy\u2019n sail i rai o'r materion hyn megis mynediad at ddarpariaeth gofal plant a gofal iechyd ar gyfer cyflyrau iechyd sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 rhywedd mewn ardaloedd gwledig.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at <strong>anghydraddoldebau y mae pobl yn eu profi oherwydd eu treftadaeth ethnig neu ddiwylliannol<\/strong>. <a href=\"https:\/\/media.service.gov.wales\/news\/complex-and-long-standing-disadvantages-exposed-by-coronavirus-pandemic-report-finds\">Daeth ymchwil a<\/a> gynhaliwyd gan y gr\u0175p cynghori arbenigol COVID-19 Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, dan gadeiryddiaeth yr Athro Ogbonna o Brifysgol Caerdydd, i'r casgliad fod y risg i ddynion du wedi bod deirgwaith yn uwch nag i ddynion gwyn a bron i ddwywaith a hanner yn uwch i ferched du o gymharu \u00e2 merched gwyn. Yn yr un modd, erys gwahaniaethau o hyd ar gyfer dynion Bangladeshaidd, Pacistanaidd ac Indiaidd. Dadleuwyd bod y gwahaniaethau hyn yn gysylltiedig \u00e2 diwylliant ehangach, sefydlog o anghydraddoldeb ac allg\u00e1u a oedd yn bodoli cyn COVID-19, ond hyd yn oed gan ganiat\u00e1u am ffactorau economaidd-gymdeithasol, erys dwywaith y risg i ddynion Du ac oddeutu unwaith a hanner y risg i fenywod du. Amlygodd ymatebion i\u2019r ymgynghoriad <em>Ein Dyfodol Cymru<\/em> lawer o'r anghysondebau hyn. Er enghraifft, dadleuodd gr\u0175p pwyso a oedd yn ymgyrchu dros gydraddoldeb hiliol, er mwyn cyflawni cymuned sy'n rhydd o hiliaeth, rhagfarn neu wahaniaethu, fod angen mynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau strwythurol dwfn fel anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, hiliaeth mewn strategaethau cyflogaeth, anghydraddoldebau iechyd, a phroblemau tai. Dadleuodd ystod o sefydliadau eraill i gyd fod angen strategaeth strwythuredig wrth wraidd gwaith i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru i <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Cynyddu-amrywiaeth-mewn-penodiadau-cyhoeddus-drwy-recriwtio-1-1.pdf\">gynyddu amrywiaeth<\/a> mewn meysydd o fywyd cyhoeddus fel gwleidyddiaeth, y celfyddydau a'r byd academaidd. Mae cymhlethdod y gwaith o fynd i'r afael \u00e2'r materion hyn er mwyn darparu mynediad a chyfle cyfartal heb ystyried treftadaeth ethnig neu ddiwylliannol yn anodd ac mae Llywodraeth Cymru yn datblygu <a href=\"https:\/\/gov.wales\/covid-19-bame-socio-economic-subgroup-report-welsh-government-response-html\">Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol<\/a>.<\/p>\n<p>Nodwyd bod <strong>anghydraddoldeb digidol<\/strong> yn fater i'w wella yng Nghymru (31 ymateb). Er enghraifft, tynnodd rhai ymatebwyr sylw at fynediad anghyfartal i gysylltiadau band eang cyflym o ansawdd da yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ers i fesurau cloi gael eu rhoi ar waith, mae pobl yn fwy dibynnol ar eu sgiliau digidol a chyflymder band eang i gadw mewn cysylltiad \u00e2 ffrindiau a theulu, archebu siopa, yn ogystal \u00e2 gweithio gartref. Clywsom fod yna elfen genedliadol i anghydraddoldeb digidol yng Nghymru, a allai ddieithrio poblogaethau h\u0177n a allai fod yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i wasanaethau a chymunedau digidol. Yn wir, ar draws pob gr\u0175p oedran, dangosodd <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/householdcharacteristics\/homeinternetandsocialmediausage\/articles\/exploringtheuksdigitaldivide\/2019-03-04\">ymchwil<\/a> gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2018 mai Cymru oedd \u00e2'r gyfran isaf o bobl \u00e2 sgiliau digidol sylfaenol (66%) yn erbyn cyfartaledd y DU o 79%, a'r gyfran uchaf o bobl nad oes ganddynt unrhyw sgiliau digidol sylfaenol (19%). Mae hollbresenoldeb technoleg i alluogi bywyd bob dydd yn ystod y pandemig mewn perygl o ddieithrio aelodau o gymdeithas nad ydynt yn gallu cyfrannu yn y byd digidol a'r effaith gysylltiedig ar les meddyliol.<\/p>\n<p>Mae'r ffordd y gellir mynd i'r afael \u00e2'r anghydraddoldebau hyn yn her sylweddol i Lywodraeth Cymru a'r gymdeithas ehangach. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru strwythuro ei hymateb i'r pandemig ond nid yw'r graddau y mae'r Ddeddf wedi gallu cael effaith barhaol yn glir hyd yma. Ym marn yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad, er eu bod yn cefnogi nodau'r Ddeddf, ar hyn o bryd nid yw'n cael ei gweithredu'n ddigon eang i sicrhau newid sylweddol. Yn gyffredinol, mae angen ymateb cynhwysfawr i fynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau anghydraddoldeb, ac mae\u2019r dasg o greu Cymru fwy cyfartal yn un y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i\u2019r afael \u00e2 hi gyda gofal a sylw a thrwy weithio ar y cyd gyda\u2019r rhai yr effeithir arnynt fwyaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad Ein Dyfodol Cymru ym mis Mai 2020 gyda'r amcan o nodi syniadau ac atebion ar gyfer ailadeiladu Cymru yn dilyn pandemig y Coronafeirws. Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fwy na 2,000 o ymatebion gan unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y wlad a chasglodd ystod o farnau - o syniadau am fannau cyhoeddus [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15218,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15217","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","filesize":522486,"sizes":{"medium":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-744x495.jpg","width":744,"height":495,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55597,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x495.jpg"},"large":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1200x798.jpg","width":1200,"height":798,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":126654,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1200x798.jpg"},"thumbnail":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51154,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58438,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-768x511.jpg"},"1536x1536":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1536x1021.jpg","width":1536,"height":1021,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198503,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1536x1021.jpg"},"2048x2048":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-2048x1362.jpg","width":2048,"height":1362,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":340665,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-2048x1362.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":266342,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Welsh-Flag-2715-x-1805.jpg","ID":"9808","name":"Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","title":"Welsh-Flag-2715-x-1805.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15217","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15217"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15217\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15219,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15217\/revisions\/15219"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15218"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15217"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15217"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15217"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15217"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}