{"id":15207,"date":"2020-12-08T10:19:32","date_gmt":"2020-12-08T10:19:32","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-allai-gwyddoniaeth-gweithredu-a-pharatoi-gwybodaeth-ei-olygu-i-ganolfannau-what-works\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:02","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:02","slug":"beth-allai-gwyddoniaeth-gweithredu-a-pharatoi-gwybodaeth-ei-olygu-i-ganolfannau-what-works","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-allai-gwyddoniaeth-gweithredu-a-pharatoi-gwybodaeth-ei-olygu-i-ganolfannau-what-works\/","title":{"rendered":"Beth allai gwyddoniaeth gweithredu a pharatoi gwybodaeth ei olygu i Ganolfannau \u2018What Works\u2019?"},"content":{"rendered":"<p>Dim ond dau cysyniad yw gwyddoniaeth gweithredu (IS) a pharatoi gwybodaeth (KMb) mewn cyfoeth o syniadau a thermau a ddatblygwyd dros y degawdau diwethaf i gulhau\u2019r blwch rhwng cynhyrchu gwybodaeth a\u2019i defnyddio mewn polis\u00efau ac ymarfer. Mae termau eraill yn cynnwys brocera gwybodaeth, trosglwyddo gwybodaeth, cyd-gynhyrchu, gwyddoniaeth lledaenu, a chyfnewid gwybodaeth. Datblygwyd y rhan fwyaf ohonynt i fod yn berthnasol i faes iechyd, yr amgylchedd a meysydd polisi ac ymarfer eraill sydd \u00e2 chefndir gwyddoniaeth, er bod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a chyfryngwyr tystiolaeth eraill (fel Canolfannau \u2018What Works\u2019 a sefydliadau polisi prifysgolion eraill) yn ceisio addasu'r rhain a'u cymhwyso i bolisi cymdeithasol.<\/p>\n<p>Yn y Deyrnas Unedig, mae 14 o Ganolfannau \u2018What Works\u2019 (WWCs) a chysylltiadau wedi\u2019u creu dros y ddegawd ddiwethaf er mwyn trosi tystiolaeth yn bolisi ac ymarfer. Mae eu gwaith yn anelu at lywio gyda thystiolaeth <a href=\"https:\/\/whatworks.blog.gov.uk\/about-the-what-works-network\/\">sut y caiff \u00a3250 biliwn ei wario bob blwyddyn<\/a> mewn meysydd fel digartrefedd, addysg neu blismona. Gan fod y rhan fwyaf ohonynt bellach wedi bod wrthi ers sawl blwyddyn, maent yn archwilio sut i wella a gwerthuso sut mae'r dystiolaeth y maent yn ei chynhyrchu yn cael ei defnyddio. Mae dau WWC, y Gronfa Gwaddol Addysg a'r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar, wedi archwilio potensial <a href=\"https:\/\/www.eif.org.uk\/report\/developing-a-behavioural-approach-to-knowledge-mobilisation-reflections-for-the-what-works-network\">gwyddoniaeth ymddygiadol i ddatblygu cynllun paratoi gwybodaeth ar gyfer hyrwyddo dysgu cymdeithasol ac emosiynol mewn ysgolion<\/a>. <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/developing-implementation-across-the-what-works-network\/\">Mae WCPP yn rhan o\u2019r Rhwydwaith What Works<\/a>. Roeddem o'r farn y byddai'n ddefnyddiol egluro'r hyn a olygwn wrth siarad am dermau fel gwyddoniaeth gweithredu a pharatoi gwybodaeth \u2013 a ddefnyddir yn aml ar y cyd, ond gydag ystyron gwahanol, er yn gysylltiedig.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gwyddoniaeth Gweithredu (IS)<\/strong><\/p>\n<p>Daeth IS i\u2019r amlwg fel ffordd i lenwi\u2019r bwlch rhwng ymchwil ac effaith. Fe geisiodd fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r ffaith fod y rhan fwyaf o gasgliadau ymchwil \u2013 <a href=\"https:\/\/blogs.bmj.com\/bmj\/2016\/01\/14\/paul-glasziou-and-iain-chalmers-is-85-of-health-research-really-wasted\/\">85% mewn ymchwil iechyd<\/a> \u2013 byth yn cael eu gweithredu. Gellir ei ddiffinio fel (cyfieithiad):<\/p>\n<blockquote><p>\u201castudiaeth wyddonol o ddulliau i hyrwyddo'r defnydd systematig o ganfyddiadau ymchwil ac arferion eraill sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn ymarfer arferol, ac, felly, i wella ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd\u201d (<a href=\"https:\/\/implementationscience.biomedcentral.com\/articles\/10.1186\/1748-5908-1-1\">Eccles a Mittman, 2006<\/a>)<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae IS yn tarddu o iechyd ac yn canolbwyntio ar drosi tystiolaeth yn ymarfer. Mae\u2019n canolbwyntio ar sut a pham y gall tystiolaeth lywio ymarfer, nid yn unig ymarfer clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, ond hefyd nodi ffactorau o fewn y gwasanaeth iechyd, polisi a chyd-destunau cymdeithasol ehangach a allai rwystro neu hwyluso\u2019r broses o \u2018fwydo\u2019 tystiolaeth i mewn i ymarfer. Hynny yw, ei nod yw meithrin gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio, ble a pham (<a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC4573926\/\">Bauer et al., 2015<\/a>), gan ddefnyddio, er enghraifft, dreialon ar hap i ynysu ffactorau penodol. Mae hefyd yn cynnwys elfen o werthuso, gan edrych ar ba mor dda mae tystiolaeth yn sail i unrhyw ymarfer.<\/p>\n<p>Felly mae'r awydd newydd i gymhwyso gwyddoniaeth gweithredu i bolisi yn her. Mae dibyniaeth IS ar fodelau a fframweithiau yn ei gwneud yn ddewis deniadol i'r rheiny ar bob ochr i'r rhaniad gwybodaeth-polisi-ymarfer sy'n mynd i'r afael \u00e2 sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio fwy. Serch hynny, oherwydd bod IS yn arfer rhyngddisgyblaethol, gan ddwyn ynghyd gwybodaeth a chysyniadau o ddisgyblaethau fel economeg, seicoleg (yn benodol ei agwedd ar newid ymddygiad) a chymdeithaseg, gall fod yn berthnasol i feysydd y tu allan i iechyd, fel gwaith cymdeithasol, addysg a rheoli gwastraff.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Paratoi Gwybodaeth<\/strong><\/p>\n<p>Ar ei fwyaf sylfaenol, mae Paratoi Gwybodaeth (KMb) yn cyfeirio at y berthynas rhwng ymchwil ac ymarfer. Yn wahanol i dermau cyfnewid gwybodaeth neu drosglwyddo gwybodaeth a ddefnyddiwyd yn flaenorol, mae <a href=\"http:\/\/en.copian.ca\/library\/research\/ccl\/knowledge_mobilization\/knowledge_mobilization.pdf\">Levin yn dadlau<\/a> bod KMb yn pwysleisio cysylltiadau a chymhlethdod aml-gyfeiriadol, yn arbennig rhai gwleidyddol, sy'n berthnasol pan fydd ymchwil yn llywio ymarfer. Mae KMb yn canolbwyntio ar yr wybodaeth sydd i\u2019w pharatoi, y broses o baratoi, ac effaith gwybodaeth ar ymarfer. I <a href=\"https:\/\/www.journalslibrary.nihr.ac.uk\/hsdr\/hsdr03270\/#\/abstract\">Huw Davies a\u2019i gydweithwyr<\/a>, mae\u2019n gyfystyr \u00e2 \u201cdulliau i annog defnydd o ymchwil\u201d. Mae KMb, yn wahanol i IS, hefyd yn ymddangos yn fwy perthnasol i <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/higher-education-network\/blog\/2012\/mar\/09\/introduction-to-knowledge-mobilisation\">wyddorau cymdeithasol<\/a> nag i iechyd; er fod Davies et al. yn defnyddio\u2019r term hwnnw yng nghyd-destun gofal iechyd y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae gan IS hefyd ddiddordeb cynyddol yn yr <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/full\/10.1111\/j.0887-378X.2004.00325.x\">agwedd gymdeithasol ar drosi tystiolaeth yn ymarfer<\/a>. I grynhoi, mae ffiniau a diffiniadau IS a KMb yn parhau i esblygu wrth iddynt barhau i gael eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau.<\/p>\n<p>Felly, fel sy'n digwydd yn aml gyda thermau poblogaidd, mae diffiniadau amrywiol o ran paratoi gwybodaeth, er enghraifft mae David Phipps yn gweld KMb yn berthnasol i <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/higher-education-network\/blog\/2012\/mar\/09\/introduction-to-knowledge-mobilisation\">bolisi yn ogystal ag ymarfer<\/a>. I <a href=\"http:\/\/www.kmbtoolkit.ca\/what-is-kmb\">Ganolfan Ragoriaeth Ontario ar gyfer Iechyd Plant a Meddwl<\/a> :<\/p>\n<blockquote><p>\u201cNid yw paratoi gwybodaeth ynymwneud \u00e2 rhannu, neu gyhoeddi, na llif gwybodaeth unffordd yn unig. Mae'n ymwneud ag ymgysylltu, cyfranogiad defnyddwyr terfynol a sylw i effaith\u201d.<\/p><\/blockquote>\n<p>Felly, mae'n ymddangos bod KMb yn <a href=\"https:\/\/cfice.files.wordpress.com\/2014\/11\/knowledge-mobilization-definitions.pdf\">cwmpasu nifer o gysyniadau<\/a> \u2013 e.e. brocera gwybodaeth, cyd-gynhyrchu, lledaenu \u2013 i gael gwybodaeth gan gynhyrchwyr i ddefnyddwyr.<\/p>\n<p>Lle ystyrir yn aml fod IS yn ymwneud yn bennaf \u00e2 rhaglenni a modelau gweithredu o'r top i lawr, mae KMb yn fwy \u2018anniben\u2019 a hyblyg, gan ganolbwyntio ar brosesau a pholis\u00efau. Oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar drosi tystiolaeth yn ymarfer, ond yn dod ati o wahanol safbwyntiau a chyda gwahaniaethau mewn offer a phrosesau, mae IS a KMb yn adnoddau defnyddiol ar gyfer cynhyrchwyr, broceriaid a defnyddwyr tystiolaeth. Yr hyn sy'n bwysig yw peidio \u00e2 chael ein llesteirio gan dadleuon diffiniol am ba fodelau sy'n gweithio orau, ond yn hytrach archwilio'r amrywiaeth o fodelau, canfyddiadau ac adnoddau sydd ar gael ar draws y ddwy ddisgyblaeth i brofi ac arbrofi gyda beth sy'n gweithio mewn cyd-destun penodol. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu archwilio gwahanol fodelau ac adnoddau mewn blog pellach yn y dyfodol wrth i'n prosiect ar weithredu gyda'r Canolfannau What Works esblygu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dim ond dau cysyniad yw gwyddoniaeth gweithredu (IS) a pharatoi gwybodaeth (KMb) mewn cyfoeth o syniadau a thermau a ddatblygwyd dros y degawdau diwethaf i gulhau\u2019r blwch rhwng cynhyrchu gwybodaeth a\u2019i defnyddio mewn polis\u00efau ac ymarfer. Mae termau eraill yn cynnwys brocera gwybodaeth, trosglwyddo gwybodaeth, cyd-gynhyrchu, gwyddoniaeth lledaenu, a chyfnewid gwybodaeth. Datblygwyd y rhan fwyaf [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15143,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[130],"class_list":["post-15207","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Knowledge-sharing-smaller.jpg","filesize":166227,"sizes":{"medium":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":30438,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-744x372.jpg"},"large":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-1200x600.jpg","width":1200,"height":600,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58528,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-1200x600.jpg"},"thumbnail":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34401,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":31267,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-768x384.jpg"},"1536x1536":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-1536x768.jpg","width":1536,"height":768,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":80572,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-1536x768.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-1920x1000.jpg","width":1920,"height":1000,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":124154,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-1920x1000.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15143","name":"Knowledge-sharing-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller.jpg","title":"Knowledge-sharing-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15207","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15207"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15207\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16478,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15207\/revisions\/16478"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15143"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15207"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15207"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15207"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15207"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}