{"id":15205,"date":"2020-11-30T16:30:28","date_gmt":"2020-11-30T16:30:28","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/yn-raddol-ac-yna-i-gyd-ar-unwaith-system-ymfudo-ar-sail-pwyntiau-newydd-y-du-a-busnesau-bach-a-chanolig\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:01","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:01","slug":"yn-raddol-ac-yna-i-gyd-ar-unwaith-system-ymfudo-ar-sail-pwyntiau-newydd-y-du-a-busnesau-bach-a-chanolig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/yn-raddol-ac-yna-i-gyd-ar-unwaith-system-ymfudo-ar-sail-pwyntiau-newydd-y-du-a-busnesau-bach-a-chanolig\/","title":{"rendered":"Yn raddol ac yna i gyd ar unwaith \u2013 System ymfudo ar sail pwyntiau newydd y DU a busnesau bach a chanolig"},"content":{"rendered":"<p><em>Wrth ymateb i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar effaith system ymfudo newydd ar \u00f4l Brexit, yn y blog hwn mae Dr Llyr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi yn y Ffederasiwn Busnesau Bach, yn amlinellu'r materion ymarferol y mae'n eu hachosi i gwmn\u00efau llai. <\/em><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2019-12\/size-analysis-active-businesses-2019-503.pdf\">busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn cyfrif am 62.3% o gyflogaeth y sector preifat, a 95.4% o gwmn\u00efau yng Nghymru<\/a>, felly bydd unrhyw system sy\u2019n effeithio ar allu BBaChau i recriwtio yn arwyddocaol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o BBaChau yn fusnesau micro \u2013 y rheiny sy\u2019n cynnwys rhwng un a naw gweithiwr. O\u2019r herwydd, perchennog y busnes fydd yn gyfrifol am weithlu BBaCh, yn ogystal \u00e2 rhannau biwrocrataidd eraill o fywyd busnes, gan nad oes ganddynt gapasiti adrannau Adnoddau Dynol na'r arbenigedd ehangach sydd ar gael i'r sector cyhoeddus a chwmn\u00efau mwy.<\/p>\n<p>Felly mae pandemig y Coronafeirws wedi arwain at heriau sylweddol i berchnogion BBaChau, gan gynnwys gorfod llywio trwy'r holl gefnogaeth busnes defnyddiol, ond cymhleth, sydd ar gael. O\u2019r herwydd, mae gallu BBaChau i brosesu rhagor o wybodaeth yn gulach fyth.<\/p>\n<p>Felly mae\u2019n bwysig cadw hyn mewn cof wrth edrych ar Brexit yn gyffredinol a\u2019r newidiadau arfaethedig o ran ymfudo yn arbennig.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Eglurder a chysondeb ar heriau Brexit<\/strong><\/p>\n<p>Cyn pandemig y Coronafeirws, roedd Brexit eisoes wedi dod yn broses hirwyntog, gyda therfynau amser yn symud neu'n dod yn gerrig milltir ar gyfer y set nesaf o drafodaethau. Mae hyn yn creu\u2019r risg o BBaChau yn ystyried y dyddiadau hyn fel cyfres o \u2018ryfeloedd ffug\u2019. Er enghraifft, ar gyfer y terfyn gwreiddiol o 29 Mawrth 2019, roedd y rheiny a oedd wedi rhoi adnoddau o\u2019r neilltu i baratoi ar gyfer Brexit dan anfantais gystadleuol o ran costau cyfle o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r rhai a oedd wedi anwybyddu\u2019r broses. <a href=\"https:\/\/www.instituteforgovernment.org.uk\/publications\/preparing-brexit-how-ready-uk\">Mae arolygon wedi dangos bod llawer yn ystyried bod y terfyn ar 31 Rhagfyr yn debyg i\u2019r cyfnod pontio \u2018Mae Brexit yn digwydd\u2019 yn dilyn 31 Rhagfyr 2020.<\/a><\/p>\n<p>At hynny, o safbwynt cwmn\u00efau, mae diffyg eglurder ynghylch yr hyn y mae bargen neu ddim bargen yn ei olygu yn arwain at lai o gymhelliant i ymgysylltu \u00e2\u2019r broses. <a href=\"https:\/\/www.instituteforgovernment.org.uk\/publications\/preparing-brexit-how-ready-uk\">Mae'r Sefydliad ar gyfer Llywodraethu yn nodi bod negeseuon sy'n hyrwyddo\u2019r cyfleoedd ac yn bychanu\u2019r risgiau gyda Brexit yn golygu bod unrhyw alwad i weithredu hefyd yn cael ei wanhau.<\/a> Felly mae angen eglurder a chysondeb ar yr heriau o'n blaenau er mwyn gallu paratoi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Heriau recriwtio a'r broses fewnfudo Haen 2<\/strong><\/p>\n<p>Un o'r negeseuon mwyaf cyson y mae\u2019r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei chlywed gan BBaChau yw eu trafferthion recriwtio, ar bob lefel sgiliau. Mae trafferthion recriwtio yn arwain at ddiffyg sgiliau, sy\u2019n llesteirio cynhyrchiant BBaChau, am gost gwirioneddol i\u2019w hunain ac i economi gyfan y DU.<\/p>\n<p>Felly mae newidiadau ymfudo yn berthnasol iawn i BBaChau, ond ar yr un pryd, <a href=\"https:\/\/www.fsb.org.uk\/resource-report\/a-world-of-talent.html\">nid yw 95% o gwmn\u00efau bach wedi ymgysylltu \u00e2'r broses ymfudo Haen 2 gyfredol o'r blaen.<\/a> Mae'r diffyg profiad hwn yn bryder gwirioneddol gan fod disgwyl i wladolion yr UE ddod o dan y prosesau ymfudo Haen 2 llymach \u2013 mae'n debyg na fydd llawer o BBaChau yn ymwybodol y bydd rhwyddineb eu mynediad at gronfeydd talent Ewrop yn newid.<\/p>\n<p>Fel y noda adroddiad WCPP \u2018<em>Ymfudo ar \u00f4l Brexit a Chymru<\/em>\u2019, gweithwyr \u00e2 sgiliau isel a chanolig sy\u2019n fwy tebygol o ddisgyn o dan drothwy cyflog Haen 2 o \u00a325,600, ac mae hyn yn debygol o effeithio ar BBaChau yn benodol. Gydag elw ariannol tynnach na'u cymheiriaid mwy, bydd BBaChau yn aml yn ceisio denu a chadw staff trwy gymhellion fel gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ati, felly mae cwestiwn gwirioneddol ar b\u2019un a yw trothwyon ariannol yn fesur yr un mor gywir yn hyn o beth o ran mesur y sgiliau dan sylw.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cymorth a chamau gweithredu\u2019r Ffederasiwn Busnesau Bach<\/strong><\/p>\n<p>Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn gweithio'n galed iawn i ddiweddaru ein haelodau a'r sector BBaChau gyda deunyddiau a gwybodaeth sy'n gysylltiedig \u00e2 chynlluniau'r llywodraeth. Yn gynharach eleni, gwnaethom gynhyrchu ein hadroddiad <a href=\"https:\/\/www.fsb.org.uk\/resource-report\/a-world-of-talent.html\">\u2018A World of Talent\u2019<\/a> ar BBaChau a\u2019r system sy\u2019n seiliedig ar bwyntiau yn y dyfodol, gan alw am bwyslais ar sicrhau bod busnesau bach yn dal i allu cyrchu talent o bob cwr o\u2019r byd.<\/p>\n<p>O ran Cynllun Preswylio\u2019n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gweithio mewn partneriaeth \u00e2'r Swyddfa Gartref a phob haen o lywodraeth, yn ogystal \u00e2 grwpiau trydydd sector allweddol fel Cyngor ar Bopeth, i ledaenu'r neges i entrepreneuriaid a gweithwyr yr UE ar yr angen i sicrhau eu bod wedi setlo eu statws. Mae cyflogwyr yn amlwg yn rhan allweddol o\u2019r llif wybodaeth, ac wrth ddelio \u00e2 materion cynllunio'r gweithlu maent wedi helpu i gysylltu eu staff \u00e2'r broses Statws Sefydlog angenrheidiol pan fyddant yn ymwybodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Ffederasiwn Busnesau Bach yn rhannu llawer o\u2019r un pryderon ag adroddiad WCPP, ac wedi gweithio i ddylanwadu ar y llywodraeth fel a ganlyn:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwnaethom wthio i ostwng y trothwy cyflog gwreiddiol a gynigwyd o \u00a330,000 ac mae'r trothwy newydd yn welliant i'w groesawu. Mae\u2019r Ffederasiwn Busnesau Bach yn rhannu pryder WCPP ar recriwtio gweithwyr \u00e2 sgiliau canolig, yn arbennig gan fod cyflogau canolrifol Cymru yn is.<\/li>\n<li>Mae\u2019r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi cytuno gyda'r bwriad o ranbartholi ac yn cefnogi Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder Cymru. Yn ogystal \u00e2 gwahanol ddemograffeg oedran y boblogaeth a nodir yn yr adroddiad, mae angen i ymfudo a sgiliau alinio \u00e2'r modelau datblygu economaidd sydd ar waith ac anghenion y polis\u00efau hynny.<\/li>\n<li>Mae cost ariannol ac amser recriwtio yn parhau i fod yn bryder dybryd.<\/li>\n<li>Wrth ysgrifennu, rydym ni\u2019n aros am fanylion y system ddigidol i symleiddio'r broses. Mae\u2019n anodd mesur sut mae hyn yn lliniaru\u2019r broblem tan ei fod yn cael ei brofi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dylid nodi, ar gyfer llawer o BBaChau, na fydd hyn yn effeithio arnynt ar unwaith nes eu bod wrthi'n recriwtio. Ni fydd hyn yn digwydd am beth amser i'r mwyafrif. Efallai y bydd cefnogaeth barhaus yn sgil y Coronafeirws\u00a0 \u2013 fel y cynllun ffyrlo \u2013 hefyd yn cefnogi fymryn ar gynllunio\u2019r gweithlu, gan y bydd BBaChau yn gallu manteisio ar y cynllun ffyrlo tan o leiaf mis Mawrth 2021.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Edrych ymlaen<\/strong><\/p>\n<p>Mae'n bwysig bod strategaeth tymor hwy mewn perthynas \u00e2 phandemig y Coronafeirws yn agor lle i ymgysylltu \u00e2 BBaChau ar faterion fel ymfudo, sgiliau a chynllunio'r gweithlu, yn ogystal \u00e2 helpu'r llywodraeth i ddeall anghenion sgiliau a gwendidau yn y sector hwn yn well.<\/p>\n<p>Oherwydd y strwythurau cymorth Coronafeirws sydd ar waith, mae rhwydweithiau cymorth busnes fel Busnes Cymru mewn sefyllfa well nawr i gyrraedd BBaChau yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Ffederasiwn Busnesau Bach yn rhannu llawer o\u2019r dadansoddi yn yr adroddiad gan WCPP. Yn ymarferol, yr hyn sydd ei angen ar BBaChau yw gwybodaeth dreuliadwy, ynghyd \u00e2 chyngor clir ac ymarferol ar baratoi, yn seiliedig ar sicrwydd ar sut fydd y berthynas \u00e2\u2019r UE yn edrych o fis Ionawr. Mae cyfleoedd i sicrhau ein bod yn mynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a sicrhau mynediad i BBaChau at dalent ledled y byd yn y dyfodol, a bod y system fudo ar sail pwyntiau yn ddigon hyblyg i wneud hynny.<\/p>\n<p>Fel gyda chymaint o bethau eraill yn 2020, y pryder yw y bydd yn rhaid i BBaChau ymdopi \u00e2 goblygiadau unrhyw system newydd a fydd ar gael yn raddol, ac yna i gyd ar unwaith.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth ymateb i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar effaith system ymfudo newydd ar \u00f4l Brexit, yn y blog hwn mae Dr Llyr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi yn y Ffederasiwn Busnesau Bach, yn amlinellu'r materion ymarferol y mae'n eu hachosi i gwmn\u00efau llai. Mae busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn cyfrif am 62.3% [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12553,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15205","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Brexit-Flags-3-scaled.jpg","filesize":488015,"sizes":{"medium":{"file":"Brexit-Flags-3-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58009,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-744x496.jpg"},"large":{"file":"Brexit-Flags-3-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":138872,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Brexit-Flags-3-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55111,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Brexit-Flags-3-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61384,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Brexit-Flags-3-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":211510,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Brexit-Flags-3-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":340737,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Brexit-Flags-3-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":290289,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Brexit-Flags-3.jpg","ID":"9201","name":"Brexit-Flags-3-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-scaled.jpg","title":"Brexit-Flags","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Brexit-Flags-3-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15205"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15205\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16476,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15205\/revisions\/16476"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12553"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15205"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15205"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15205"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}