{"id":15201,"date":"2020-11-12T09:21:15","date_gmt":"2020-11-12T09:21:15","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/cefnogi-iechyd-meddwl-a-llesiant-mewn-pysgotwyr-a-chymunedau-pysgota\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:00","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:00","slug":"cefnogi-iechyd-meddwl-a-llesiant-mewn-pysgotwyr-a-chymunedau-pysgota","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/cefnogi-iechyd-meddwl-a-llesiant-mewn-pysgotwyr-a-chymunedau-pysgota\/","title":{"rendered":"Cefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn pysgotwyr a chymunedau pysgota"},"content":{"rendered":"<p><em>Ym mis Medi 2020 gwnaeth y Ganolfan gyhoeddi ei hadroddiad <\/em><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/opsiynau-polisi-ar-gyfer-cyfleoedd-pysgota-yng-nghymru\/\"><strong><em>Opsiynau polisi ar gyfer cyfleoedd pysgota yng Nghymru<\/em><\/strong><\/a><em>, sy\u2019n archwilio\u2019r cyfleoedd pysgota posibl sy\u2019n agored i Gymru ar \u00f4l y pontio Ewropeaidd.\u00a0 Yr un mor bwysig \u00e2\u2019r goblygiadau ariannol ar gyfer y sector yw\u2019r effaith feddyliol mae ansicrwydd Brexit yn ei chael ar y rheiny sy\u2019n gweithio o fewn y diwydiant pysgota.\u00a0Mae'r blog isod yn amlinellu ymchwil newydd bwysig sy'n cael ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru\u00a0a\u2019r Sefydliad Iechyd Meddwl, sy\u2019n anelu at amlygu ffyrdd o gefnogi iechyd meddwl a llesiant cymuned bysgota Cymru.<\/em><\/p>\n<hr \/>\n<p>Mae Cymru yn genedl arfordirol, a physgota yn draddodiadol yw\u2019r prif ddiwydiant ar gyfer trefi a chymunedau niferus ar hyd ei harfordir, ac mae\u2019r sector yn rhan bwysig o\u2019r economi a threftadaeth ddiwylliannol Cymru hyd heddiw. Wrth i\u2019r Deyrnas Unedig (DU) barhau ar ei thaith i ymadael \u00e2\u2019r Undeb Ewropeaidd (UE), mae ansicrwydd sylweddol ar gyfer y diwydiant pysgota, pysgotwyr, a chymunedau arfordirol yng Nghymru o hyd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad pwysig hwn yn amlygu'r ansicrwydd sy\u2019n wynebu'r sector pysgota yng Nghymru a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer iechyd a llesiant ein pysgotwyr. Mae llawer o\u2019r ansicrwydd a heriau hyn yn faterion hirsefydlog y mae pysgotwyr wedi bod yn eu hwynebu, a gall effaith hynny waethygu yn sgil Brexit a\u2019r pandemig COVID-19. Gyda 90% o allforion pysgodfeydd yn mynd i\u2019r UE a thua thri chwarter o fflyd Cymru yn llongau pysgota bach, mae\u2019r amgylchiadau digynsail hyn yn ffynhonnell ychwanegol o straen.<\/p>\n<p>Mewn cymunedau pysgota, mae iechyd da yn hanfodol i allu unigolion a theuluoedd i gynnal bywoliaeth hyfyw, ac felly mae codi ymwybyddiaeth a chefnogi iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol pysgotwyr yn bwysig, amserol a pherthnasol.<\/p>\n<p>Dull gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd, fel a amlinellwyd mewn adroddiad ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a\u2019r Sefydliad Iechyd Meddwl, <a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/services-and-teams\/knowledge-directorate\/research-and-evaluation\/publications\/building-resilience-in-the-fishing-sector-in-wales-welsh\/\"><strong><em>Adeiladu gwydnwch yn y sector pysgota yng Nghymru<\/em><\/strong><\/a>, wedi\u2019i ategu gan y dystiolaeth orau sydd ar gael a chyd-gynhyrchu gyda gweithwyr y diwydiant a\u2019u teuluoedd, yw\u2019r unig ffordd gynaliadwy o helpu i adeiladu gwydnwch yn y sector. Mae ein hadroddiad yn disgrifio fframwaith ar gyfer gweithredu i <strong>atal<\/strong> ansicrwydd neu her (lle y bo\u2019n bosibl); lle na allwn atal adfyd, mae angen i ni <strong>amddiffyn<\/strong> yn erbyn ei effaith bosibl ar les meddyliol; ac yn olaf ar gyfer dull gweithredu tymor hwy mae angen i ni geisio <strong>hyrwyddo<\/strong> iechyd a llesiant ein pysgotwyr a\u2019n cymunedau pysgota.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Sut y gwnaethom fynd ati i ddatblygu\u2019r fframwaith?<\/strong><\/p>\n<p>Gwnaethom archwilio rhaglenni cenedlaethol a rhyngwladol oedd wedi\u2019u cynllunio i gefnogi iechyd pysgotwyr, eu teuluoedd, a chymunedau pysgota. Mae enghreifftiau a amlygir yn yr adroddiad o raglenni a wnaeth anelu at gryfhau iechyd a llesiant fel ased hanfodol ar gyfer y sector pysgota. Ceisiodd y rhaglenni hyn gyflawni hyn drwy godi ymwybyddiaeth pysgotwyr o les meddyliol a\u2019r cymorth sydd ar gael iddynt a chael gwared ar y rhwystrau i\u2019w mynediad at y gwasanaethau hanfodol hyn. Yn ychwanegol, amlygu dull gweithredu amlsector fel dull pwysig o gyflawni iechyd da mewn pysgotwyr, ac felly dod \u00e2 darparwyr iechyd lleol, arbenigwyr iechyd meddwl, arbenigwyr yn y diwydiant lleol, grwpiau lles, y sector rheoliadol, a physgotwyr eu hunain at ei gilydd i greu a chyflenwi atebion.<\/p>\n<p>Dangosodd hyn fwlch mewn rhaglenni sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig o\u2019r DU, sy\u2019n dangos effaith gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd a llesiant mesuradwy ar gyfer pysgotwyr.\u00a0 Mae angen brys am ddull gwell o werthuso rhaglenni pwrpasol i ddeall beth sy\u2019n gweithio, ac ar gyfer pwy.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Felly beth yw\u2019r atebion? <\/strong><\/p>\n<p>Cafodd y canfyddiadau o\u2019r llenyddiaeth eu trafod mewn gweithdai gyda physgotwyr a sefydliadau pysgota o Gymru, i ddatblygu a chyd-gynhyrchu argymhellion sy\u2019n benodol i Gymru drwy ymgysylltu bywiog a chyfraniadau amhrisiadwy gan ein rhanddeiliaid sy\u2019n pysgota.<\/p>\n<p>Gwnaethom dynnu ar gipolygon lleol i goladu a mapio\u2019r rhwydwaith o sefydliadau ledled Cymru, sy\u2019n cynnig cymorth a chyngor wedi\u2019u teilwra i bysgotwyr. Er enghraifft, darparu gwasanaethau lle gallant gael gafael ar wybodaeth a chymorth i fynd i\u2019r afael \u00e2 phryderon ariannol, rheoli busnes, cynllunio olyniaeth, ac iechyd meddwl a llesiant.<\/p>\n<p>Mae ein hargymhellion yn cychwyn \u00e2 ffocws ar <strong>atal a mynd i\u2019r afael ag ansicrwydd<\/strong> drwy ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y sector pysgota yng Nghymru gan amlygu ei werth fel adnodd naturiol sy\u2019n cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru).<\/p>\n<p>Dylai hyn hefyd fod ochr yn ochr \u00e2 gweithrediadau ymarferol a allai helpu i leihau gorbryder a straen os eir i\u2019r afael \u00e2 hwy, ac <strong>amddiffyn rhag effaith heriau ac ansicrwydd<\/strong> ar les meddyliol. Y rhain oedd:<\/p>\n<ul>\n<li>symleiddio\u2019r prosesau gweinyddol a rheoliadol,<\/li>\n<li>cyd-gynhyrchu polis\u00efau a gweledigaeth hyfyw ar gyfer dyfodol pysgota yng Nghymru gyda physgotwyr,<\/li>\n<li>hyrwyddo'r sector pysgota yng Nghymru a hyrwyddo cynnyrch Cymreig<\/li>\n<li>sicrhau y darperir cymorth ariannol a busnes sy\u2019n ymestyn i\u2019r teulu pysgota ehangach,<\/li>\n<li>sicrhau dull gweledol o orfodi rheoliadau; a rheoliadau iechyd a diogelwch.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn olaf rydym yn amlygu nifer o gamau gweithredu i <strong>hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant<\/strong> ymysg pysgotwyr a chymunedau pysgota. Roedd y rhain yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Cefnogi newid mewn diwylliant pysgota er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 cheisio cyngor neu gymorth ar gyfer heriau busnes neu iechyd.<\/li>\n<li>Datblygu a phrofi dulliau i gynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.<\/li>\n<li>Sicrhau bod gan bysgotwyr fynediad gwell at wasanaethau iechyd a llesiant mewn partneriaeth \u00e2 darparwyr lleol i sicrhau bod rhaglenni iechyd yn cyrraedd y rhai mwyaf bregus.<\/li>\n<li>Hybu partneriaethau amlasiantaeth; gan gynnwys darparwyr gofal iechyd lleol, arbenigwyr diwydiant ac asiantaethau lles.<\/li>\n<li>Gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r cymunedau pysgota er mwyn adeiladu ar wybodaeth a chysylltiadau lleol i ddatblygu cymorth a galluogi mwy o ymgysylltu \u00e2\u2019r cymunedau pysgota.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Daethom \u00e2 nifer o sefydliadau gwahanol sy\u2019n gwneud gwaith arbennig yn y maes hwn ynghyd, a gallent hwythau weld gwerth parhau \u00e2\u2019r dull partneriaeth i gefnogi ein cymunedau pysgota yng Nghymru; sydd yn eu tro yn llunio ein hamgylchedd naturiol a\u2019n diwylliant ac yn cyfrannu at lesiant y boblogaeth yng Nghymru a\u2019n heconomi.<\/p>\n<p>Mae defnyddio\u2019r fframwaith hwn yn cynnig cyfle i Gymru adeiladu ar etifeddiaeth y sector pysgota a bod yn arloeswr wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 materion allweddol iechyd meddwl a llesiant ymysg cymunedau pysgota.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Medi 2020 gwnaeth y Ganolfan gyhoeddi ei hadroddiad Opsiynau polisi ar gyfer cyfleoedd pysgota yng Nghymru, sy\u2019n archwilio\u2019r cyfleoedd pysgota posibl sy\u2019n agored i Gymru ar \u00f4l y pontio Ewropeaidd.\u00a0 Yr un mor bwysig \u00e2\u2019r goblygiadau ariannol ar gyfer y sector yw\u2019r effaith feddyliol mae ansicrwydd Brexit yn ei chael ar y rheiny [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15200,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[135,137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15201","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"fishing-in-tenby-smaller.jpg","filesize":874415,"sizes":{"medium":{"file":"fishing-in-tenby-smaller-744x446.jpg","width":744,"height":446,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":79690,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-744x446.jpg"},"large":{"file":"fishing-in-tenby-smaller-1200x720.jpg","width":1200,"height":720,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198244,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-1200x720.jpg"},"thumbnail":{"file":"fishing-in-tenby-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":77003,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"fishing-in-tenby-smaller-768x461.jpg","width":768,"height":461,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":84856,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-768x461.jpg"},"1536x1536":{"file":"fishing-in-tenby-smaller-1536x922.jpg","width":1536,"height":922,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":311514,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-1536x922.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"fishing-in-tenby-smaller-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":444723,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15200","name":"fishing-in-tenby-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller.jpg","title":"fishing-in-tenby-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/fishing-in-tenby-smaller-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15201","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15201"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15201\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16475,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15201\/revisions\/16475"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15200"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15201"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15201"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15201"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15201"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}