{"id":15198,"date":"2020-11-10T09:06:14","date_gmt":"2020-11-10T09:06:14","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pam-mae-amrywiaeth-yn-bwysig-mewn-materion-penodiadau-cyhoeddus\/"},"modified":"2025-04-11T13:27:00","modified_gmt":"2025-04-11T13:27:00","slug":"pam-mae-amrywiaeth-yn-bwysig-mewn-materion-penodiadau-cyhoeddus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pam-mae-amrywiaeth-yn-bwysig-mewn-materion-penodiadau-cyhoeddus\/","title":{"rendered":"Pam mae amrywiaeth yn bwysig mewn materion penodiadau cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<p><em>Oherwydd y diffyg amrywiaeth ymysg aelodau byrddau, mae llawer o fyrddau yng Nghymru nad ydynt yn adlewyrchu\u2019r cymunedau a wasanaethant, gydag ymgeiswyr Duon, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ac ymgeiswyr anabl wedi\u2019u tangynrychioli ar hyn o bryd. <\/em><\/p>\n<p><em>Cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau adroddiad yn ddiweddar ar wella arferion <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cynyddu-amrywiaeth-mewn-penodiadau-cyhoeddus-drwy-recriwtio\/\">recriwtio mewn penodiadau<\/a> cyhoeddus a sut gallai grwpiau a dangynrychiolir gael eu <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cynorthwyo-grwpiau-heb-gynrychiolaeth-ddigonol-i-gael-penodiadau-cyhoeddus\/\">cefnogi i mewn i benodiadau cyhoeddus<\/a>.<\/em><\/p>\n<p><em>Mae Pippa Britton yn Baralympiad dwbl ac mae ganddi hefyd nifer o rolau cyhoeddus lefel uchel mewn grwpiau fel Chwaraeon Cymru ac UK Anti-Doping. Isod mae hi\u2019n rhannu gyda ni ei phrofiad o chwalu rhwystrau i amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus.<\/em><\/p>\n<hr \/>\n<p>Dwi\u2019n falch iawn o fod mewn r\u00f4l gyhoeddus yng Nghymru ac yn aml dwi\u2019n meddwl tybed sut digwyddodd hyn, sut ffeindiais i fy hun fan hyn?<\/p>\n<p>Pan dwi\u2019n meddwl n\u00f4l i \u2018mhlentyndod i, roedd yn ddigon cyffredin mewn sawl ffordd. Cefais fy ngeni gydag anabledd, ond gwnaeth fy rhieni fy annog i wneud unrhyw beth ro\u2019n i eisiau ei wneud, a\u2019m magu gydag egwyddorion cryf, meddwl chwilfrydig a chwestiyngar, a dyhead i helpu eraill lle gallwn i.<\/p>\n<p>Mewn rhai ffyrdd dwi\u2019n gallu gweld sut mae\u2019r meddwl ymholgar \u2018na wedi fy ngwneud i\u2019n saethydd da. Pan ddechreuais i wneud y gamp am y tro cyntaf, ro\u2019n i bob amser eisiau gwybod sut gallwn i fod yn well na\u2019r tro diwethaf ac, ymhen amser, fe ddes i\u2019n ddigon da i ennill lle yn nh\u00eem Prydain. Fe wnes i fwynhau gyrfa lwyddiannus, dod yn Baralympiad dwbl a threulio tipyn o fy amser fel athletwr-gynrychiolydd World Archery. Gwnaeth hyn fy ngalluogi i gyfrannu at wneud y gamp yn decach - y cyflawniad dwi fwyaf balch ohono oedd dylanwadu ar gyflwyno\u2019r categori merched mewn digwyddiad a oedd i \u2018ddynion yn unig\u2019 o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n meddwl bod hyn wedi gwneud i mi sylweddol \u2018mod i wir yn poeni am drin pobl yn deg ac, yn bwysicach, i allu helpu i wneud y byd yn lle tecach. Dwi\u2019n gwybod bod hyn yn swnio fel delfryd fawr, ond mae cael anabledd wedi dangos i mi, si\u0175r o fod, rai o\u2019r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu ym mhob maes o fywyd, a byddai\u2019n wych pe gallwn i newid hynny mewn rhyw ffordd. Mae defnyddio fy mhrofiadau bywyd i allu cael sgyrsiau gyda phobl sy\u2019n gwneud penderfyniadau yn ffordd o wneud i\u2019r newid hwnnw ddigwydd.<\/p>\n<p>Dwi ddim yn meddwl \u2018mod i erioed wedi meddwl bod penodiadau cyhoeddus i \u2018bobl fel fi\u2019. Yn fy meddwl i, ro\u2019n i\u2019n gallu gweld ystafell fwrdd yn llawn hen ddynion mewn siwtiau, ond os ydych chi am wneud i newid ddigwydd mae\u2019n rhaid i chi gyfrannu, felly penderfynais i gael profiad o lywodraethu ar lefel fwy lleol.<\/p>\n<p>Mae pob penderfyniad sy\u2019n cael ei wneud mewn ystafell fwrdd yn mynd i effeithio ar rywun yn rhywle. Mae meddwl am yr effaith y bydd eich penderfyniad yn ei gael ar eraill yn sg\u00ecl pwysig iawn.<\/p>\n<p>Cafodd r\u00f4l ei hysbysebu yn Chwaraeon Cymru a phenderfynais wneud cais. Nid oes llawer o bobl ag anabledd gweledol mewn rolau cyhoeddus, a rywsut mae mynd i\u2019r afael \u00e2 her yn ymddangos yn haws pan mae pobl eraill wedi troedio\u2019r llwybr o\u2019ch blaen, ond beth oedd gen i i\u2019w golli? Wedi\u2019r cyfan, doedd dim rhaid iddyn nhw fy mhenodi i os nad oedden nhw\u2019n meddwl bod fy mhrofiad i o werth.<\/p>\n<p>Doedd y broses ymgeisio ddim yn rhy ddrwg, ond fe ddaeth \u00e2 rhai heriau hefyd.\u00a0 Er fy mod i wedi bod yn ddigon lwcus i ymuno \u00e2 bwrdd sy\u2019n cynnwys cymysgedd o oedrannau, rhyweddau a chefndiroedd ethnig, mae amrywiaeth yn dal i fod yn faes y mae angen ei wella yn y rhan fwyaf o benodiadau bwrdd. Mae cryn dipyn o rwystrau i amrywiaeth o hyd, o duedd ddiarwybod a phrosesau cyfweld gwaharddol i ddiffyg amrywiaeth yn y panel cyfweld, ac mae hynny\u2019n cymryd na chewch chi eich digalonni gan y gwaith papur ar gyfer gwneud cais. I fi, mae llawer o hyn yn dibynnu ar le caiff rolau eu hysbysebu a\u2019r math o iaith y mae\u2019r hysbysebion yn ei ddefnyddio. Nid oedd brawddeg ar ddiwedd y ffurflen yn dweud \u2018rydym yn croesawu ceisiadau o gefndiroedd amrywiol\u2019 yn gwneud i mi deimlo bod croeso i fi. Yn hytrach, ro\u2019n i\u2019n awyddus i weld datganiad yn dweud faint mae\u2019r sefydliad yn poeni, beth sy\u2019n bwysig iddo, a pham bod angen ymgeiswyr amrywiol i wneud gwahaniaeth i\u2019r gwaith mae\u2019n ei wneud. Os ydym am fod yn gynrychioliadol a chynhwysol mae angen i bobl deimlo\u2019n gynwysedig, nid yn \u00f4l-ystyriaeth.<\/p>\n<p>Mae wir angen i ni feddwl am y gwerth y mae meddwl a phrofiad amrywiol yn ei greu a dod o hyd i ffordd o gynnwys pobl nad oes ganddynt gefndiroedd gwaith safonol neu lwybr gyrfa \u2018nodweddiadol\u2019. Mae hefyd yn bwysig dweud pam wrth rywun sy\u2019n aflwyddiannus, er mwyn iddo allu cael cefnogaeth i helpu i ddatblygu\u2019r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y r\u00f4l.<\/p>\n<p>Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i allu cyfrannu at yr adolygiad tystiolaeth\u00a0a\u2019r cyfarfod bwrdd crwn ar amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus<em>\u00a0<\/em>a dwi wrth fy modd fod yr angen am newid wedi\u2019i gydnabod ac yn cael ei daclo. Dwi\u2019n gwybod y bydd newid yn cymryd amser, ond dwi\u2019n gobeithio y gall mwy o bobl fel fi gefnogi\u2019r newid yn y broses - mae pob llais yn helpu i sbarduno newid. Dwi\u2019n gobeithio y bydd y newidiadau y mae\u2019r ymchwil yn eu hargymell yn helpu i greu byrddau cyhoeddus sy\u2019n adlewyrchu\u2019r amrywiaeth a\u2019r dalent sydd gennym ni ledled Cymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Oherwydd y diffyg amrywiaeth ymysg aelodau byrddau, mae llawer o fyrddau yng Nghymru nad ydynt yn adlewyrchu\u2019r cymunedau a wasanaethant, gydag ymgeiswyr Duon, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ac ymgeiswyr anabl wedi\u2019u tangynrychioli ar hyn o bryd. Cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau adroddiad yn ddiweddar ar wella arferion recriwtio mewn penodiadau cyhoeddus a sut gallai [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15197,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15198","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Racial-diversity-1-smaller.jpg","filesize":522524,"sizes":{"medium":{"file":"Racial-diversity-1-smaller-744x336.jpg","width":744,"height":336,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":63429,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller-744x336.jpg"},"large":{"file":"Racial-diversity-1-smaller-1200x541.jpg","width":1200,"height":541,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":135040,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller-1200x541.jpg"},"thumbnail":{"file":"Racial-diversity-1-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":72886,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Racial-diversity-1-smaller-768x346.jpg","width":768,"height":346,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":66990,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller-768x346.jpg"},"1536x1536":{"file":"Racial-diversity-1-smaller-1536x693.jpg","width":1536,"height":693,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198980,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller-1536x693.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Racial-diversity-1-smaller-1920x902.jpg","width":1920,"height":902,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":318761,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller-1920x902.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15197","name":"Racial-diversity-1-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Racial-diversity-1-smaller.jpg","title":"Racial-diversity-1-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15198","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15198"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15198\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16474,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15198\/revisions\/16474"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15197"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15198"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15198"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15198"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15198"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}