{"id":15195,"date":"2020-11-06T09:28:03","date_gmt":"2020-11-06T09:28:03","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/adeiladu-ar-sylfeini-cryf-ymateb-gwirfoddolwyr-ir-pandemig-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:59","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:59","slug":"adeiladu-ar-sylfeini-cryf-ymateb-gwirfoddolwyr-ir-pandemig-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/adeiladu-ar-sylfeini-cryf-ymateb-gwirfoddolwyr-ir-pandemig-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Adeiladu ar sylfeini cryf: ymateb gwirfoddolwyr i\u2019r pandemig yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><em>Mae Emma Taylor-Collins a Hannah Durrant o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a Rheolwr Helplu Cymru CGGC, Fiona Liddell, wedi mynd ati i edrych am batrwm yn y straeon gwirfoddoli llwyddiannus diweddar ar hyd a lled Cymru.<\/em><\/p>\n<p>Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi clywed llawer am ymateb sylweddol gwirfoddolwyr i\u2019r pandemig. Mae gwirfoddolwyr a\u2019r trydydd sector yng Nghymru, a gweddill y DU, wedi ymateb yn gyflym ac yn arloesol. Ym mis Mai 2020, roedd <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/arolwg-cenedlaethol-cymru-arolwg-misol-mehefin-2020-html?_ga=2.119700424.11330265.1604312640-1571550259.1598956565\">mwy na thraean (35%) o bobl<\/a> yng Nghymru yn gofalu am aelodau o\u2019r teulu, ffrindiau, cymdogion neu bobl eraill, neu\u2019n rhoi help neu gefnogaeth iddynt \u2013 29% yn fwy na\u2019r flwyddyn flaenorol.<\/p>\n<p>Ond nid yw\u2019n debygol bod yr ymateb hwn wedi ymddangos yn ddisymwth. Yn awyddus i ddeall pa rag-amodau allai fod wedi gwneud yr ymateb hwn yn bosibl yng Nghymru, aethom ati i archwilio amrediad o astudiaethau achos ar wirfoddoli a Covid-19, a gasglwyd gan CGGC. Gwnaethom edrych am y ffactorau galluogi a oedd y tu \u00f4l iddynt yn ein tyb ni.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cymorth i ddarpariaeth statudol<\/strong><\/p>\n<p>Cafodd nifer o gynlluniau gwirfoddoli eu sefydlu er mwyn rhoi cymorth bwriadol i wasanaethau statudol. Mewn llawer o achosion, y Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) lleol oedd y cyswllt hanfodol rhwng yr awdurdod lleol, mudiadau cymunedol a gwirfoddolwyr yn \u00f4l pob golwg.<\/p>\n<p>Er enghraifft, sylweddolodd Cyngor Sir Ddinbych yn gynnar yn y pandemig eu bod angen mwy o gapasiti i ddiwallu anghenion pobl a warchodir a\u2019r rheini sy\u2019n agored i niwed. Aeth ati o\u2019r cychwyn cyntaf i drafod sut gallai gwirfoddolwyr helpu gyda\u2019i CVC lleol, gan sefydlu a rhedeg cynllun atgyfeirio ar gyfer cydlynu ymateb gwirfoddoli cymunedol.<\/p>\n<p>Cafodd gwirfoddolwyr eu recriwtio drwy <a href=\"https:\/\/volunteering-wales.net\/\">wefan Gwirfoddoli Cymru<\/a>, a naill ai eu hatgyfeirio i fudiadau eraill neu eu paru \u00e2 cheisiadau am gymorth, fel siopa, casglu presgripsiynau a cherdded c\u0175n.<\/p>\n<p>Drwy wneud hyn, roedd yr ymateb cymunedol yn cael ei drefnu\u2019n unol ag arferion diogel ar gyfer gwirfoddolwyr a\u2019r rheini roedden nhw\u2019n eu cynorthwyo, a\u2019i gysylltu \u00e2 darpariaeth wirfoddol a statudol leol, gyda\u2019r nod o sicrhau bod adnoddau gwirfoddol yn cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol bosibl.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dod \u00e2\u2019r gymuned ynghyd<\/strong><\/p>\n<p>Yn Llansawel, daeth nifer o fudiadau cymunedol ynghyd i ffurfio rhwydwaith cydlynol mewn ymateb i\u2019r pandemig, gan ddefnyddio\u2019u gwasanaethau a\u2019u gwybodaeth arbenigol penodol.<\/p>\n<p>Yn union cyn y cyfyngiadau symud, trefnodd arweinydd c\u00f4r lleol gyfarfod gyda chynrychiolwyr grwpiau cymunedol lleol, gan gynnwys aelodau etholedig, busnesau, y gwasanaethau cymdeithasol a\u2019r CVC lleol. Gwnaethant roi systemau ar waith er mwyn ceisio helpu aelodau mwyaf agored i niwed eu cymdeithas drwy\u2019r argyfwng a helpu i \u2018ysgafnhau baich y GIG\u2019 pe bai\u2019r sefyllfa\u2019n gwaethygu.<\/p>\n<p>Gwnaeth mudiadau unigol gynnig eu hadnoddau a chael gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau. Er enghraifft, daeth y ganolfan gymunedol yn bwynt dosbarthu ar gyfer cyflenwadau hanfodol; ehangodd y banc bwyd ei wasanaethau i gynnwys gwasanaeth cludo bob wythnos; gwnaeth un arall drefnu gweithgareddau i gefnogi lles meddyliol ac emosiynol menywod; a gwnaeth y Clwb Bechgyn a Merched ddatblygu a dosbarthu gweithgareddau i blant.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Addasu i ddiwallu anghenion newydd<\/strong><\/p>\n<p>Mae Siop Gymunedol a chaffi Llandegla wedi cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a dau aelod staff cyflogedig rhan-amser ers blynyddoedd. Bu\u2019n rhaid i\u2019r caffi gau yn ystod y pandemig, ac roedd y siop ar agor am lai o oriau ac mewn perygl o ddefnyddio\u2019i holl arian wrth gefn er mwyn ceisio dal ei phen uwchlaw\u2019r d\u0175r. Gan fod y dref siopa agosaf yn daith 18 milltir dwy ffordd, mae\u2019r siop yn hanfodol i\u2019r gymuned leol, ac roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Gwnaeth grant argyfwng bychan gan fusnes lleol, a weinyddwyd gan y CVC, eu galluogi i barhau ac i ddatblygu eu gwasanaeth, gan gynnwys darparu gwasanaeth cludo i\u2019r cartref ar gyfer unigolion wedi\u2019u hynysu a gwasanaeth casglu presgripsiynau. Mae\u2019r gr\u0175p yn ceisio gweld sut gallant gynnal y gwasanaethau newydd hyn a ddatblygwyd yn y dyfodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth allai fod wedi gwneud yr ymateb hwn yn bosibl?<\/strong><\/p>\n<p>O\u2019r astudiaethau achos hyn a rhai eraill a gasglwyd, darganfuom bedwar ffactor sydd, yn \u00f4l pob golwg, wedi bod yn arbennig o bwysig o ran galluogi ymateb gwirfoddolwyr i\u2019r pandemig yng Nghymru.<\/p>\n<ul>\n<li>Gwybodaeth leol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd trefnu ar sail lle, gyda gwybodaeth am yr ardal leol, yn bwysig o ran nodi anghenion lleol a deall sut newidiodd yr anghenion hynny yn sgil y pandemig. Awgryma <a href=\"http:\/\/www.corganisers.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Locally_Rooted-the_place_of_co_in_times_of_crisis.pdf\">llenyddiaeth ddiweddar (Saesneg yn unig)<\/a> ar drefniadau cymunedol yn y pandemig fod gwybodaeth leol wedi galluogi ymateb cymunedol cyflym mewn rhannau eraill o\u2019r DU.<\/p>\n<ul>\n<li>Dyfeisgarwch a hyblygrwydd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gwnaeth cael sylfaen wirfoddoli gref eisoes ar waith \u2013 gyda\u2019r capasiti i fod yn hyblyg o ran y gwasanaethau roedden nhw\u2019n eu darparu \u2013 alluogi symudiad cyflym o weithgarwch cyfredol i weithgarwch newydd mewn ymateb i\u2019r pandemig. Mae <a href=\"https:\/\/localtrust.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/COVID-19.-Briefing-2-1-1.pdf\">Angus McCabe ac eraill (Saesneg yn unig)<\/a> yn cyfeirio at hyn fel \u2018dyfeisgarwch\u2019 yn hytrach na gwydnwch. Mae\u2019n ymbellhau o\u2019r syniad bod cymunedau\u2019n gyfrifol am \u2018ymdopi\u2019 ag argyfwng, ac yn defnyddio\u2019r syniad y gall cymunedau, gydag adnoddau cyfyngedig ond hanfodol, ymateb yn effeithiol.<\/p>\n<ul>\n<li>Cydberthnasau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dangosodd y mwyafrif o\u2019n hastudiaethau achos fod cydberthnasau gweithio effeithiol rhwng cyrff yn tueddu i arwain at ymateb cydlynol a chyflym. Gwelsom y cydberthnasau hyn yn datblygu drwy, er enghraifft, galwadau ar y cyd gan gynghorau a CVCs i recriwtio gwirfoddolwyr a gwasanaethau\u2019n cael eu darparu ar y cyd neu\u2019n gydlynol. Dangosodd hyn allu i gyfuno adnoddau a chyfeirio neu ailgyfeirio\u2019r cymorth i ble oedd ei angen a ble allai gael ei ddefnyddio.<\/p>\n<ul>\n<li>Seilwaith a chymorth yn eu lle<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd seilwaith digidol eisoes yn ei le i gefnogi gweithgarwch gwirfoddol drwy wefan Cymru gyfan <a href=\"http:\/\/www.volunteering-Wales.net\">www.volunteering-Wales.net<\/a>. Roedd seilwaith cyfredol ar ffurf awdurdodau lleol, byrddau iechyd, CVCs a chynghorau tref a chymuned hefyd yn bwysig o ran cydlynu a hwyluso\u2019r ymateb.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth mae hyn yn dweud wrthym?<\/strong><\/p>\n<p>Awgryma ein hadolygiad o\u2019r astudiaethau achos yng Nghymru fod rhai pethau tebyg yn y rhwydweithiau ac arferion cyfredol ar draws gwahanol ddaearyddiaeth, mathau o weithgarwch a rhanddeiliaid a allai fod wedi helpu i alluogi ymateb gwirfoddolwyr i\u2019r pandemig. Gwnaethom hefyd weld ychydig o hyn yn gynharach yn y flwyddyn, cyn y pandemig.<\/p>\n<p>Gwnaeth yr ymateb cymunedol i\u2019r llifogydd yng Nghymru ar ddechrau 2020 hefyd fanteisio ar wybodaeth leol, cydberthnasau a seilwaith sefydliedig, er ei fod yn ymateb i wahanol fath o argyfwng, gan ddangos hyblygrwydd o ran ymateb i\u2019r angen lleol (gweler <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/storm-dennis-food-banks-rtc-17906676\">straeon (Saesneg yn unig)<\/a> enghreifftiol ar Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf).<\/p>\n<p>Awgryma hyn y bydd cynnal y sefyllfaoedd hyn nid yn unig yn bwysig ar gyfer ymateb i gyfyngiadau symud neu glefydau pandemig yn y dyfodol, ond hefyd o ran ymateb i\u2019r argyfyngau amgylcheddol fwyfwy gyffredin rydyn ni\u2019n debygol o\u2019u hwynebu yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Yr hyn nad ydym yn ei wybod eto yw pa ffactorau eraill allai fod wedi hwyluso neu lesteirio ymateb gwirfoddolwyr i\u2019r pandemig neu argyfyngau fel y llifogydd. Nid ydym chwaith yn gwybod digon am ba mor effeithiol oedd yr ymateb, a pha anghenion allai fod wedi syrthio drwy\u2019r rhwyd yn ystod y saith mis diwethaf. Gallai mwy o ddealltwriaeth o hyn ein helpu i wybod beth allai gael ei roi ar waith nawr er mwyn rhoi sylw i\u2019r angen a ragwelir yn y dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Emma Taylor-Collins a Hannah Durrant o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a Rheolwr Helplu Cymru CGGC, Fiona Liddell, wedi mynd ati i edrych am batrwm yn y straeon gwirfoddoli llwyddiannus diweddar ar hyd a lled Cymru. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi clywed llawer am ymateb sylweddol gwirfoddolwyr i\u2019r pandemig. Mae gwirfoddolwyr a\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14799,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137,143],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15195","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-profiad-bywyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"c19-volunteer-graphics-smaller.jpg","filesize":97170,"sizes":{"medium":{"file":"c19-volunteer-graphics-smaller-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":22060,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller-744x372.jpg"},"large":{"file":"c19-volunteer-graphics-smaller-1200x600.jpg","width":1200,"height":600,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41321,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller-1200x600.jpg"},"thumbnail":{"file":"c19-volunteer-graphics-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":24935,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"c19-volunteer-graphics-smaller-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":22966,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller-768x384.jpg"},"1536x1536":{"file":"c19-volunteer-graphics-smaller-1536x768.jpg","width":1536,"height":768,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57809,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller-1536x768.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"c19-volunteer-graphics-smaller-1920x1000.jpg","width":1920,"height":1000,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":85579,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller-1920x1000.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14799","name":"c19-volunteer-graphics-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-volunteer-graphics-smaller.jpg","title":"c19-volunteer-graphics-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15195","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15195"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15195\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16473,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15195\/revisions\/16473"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14799"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15195"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15195"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15195"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15195"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}