{"id":15193,"date":"2020-11-03T10:06:22","date_gmt":"2020-11-03T10:06:22","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sgwrs-ar-ddyfodol-cymru\/"},"modified":"2026-01-14T15:02:51","modified_gmt":"2026-01-14T15:02:51","slug":"sgwrs-ar-ddyfodol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sgwrs-ar-ddyfodol-cymru\/","title":{"rendered":"Sgwrs ar ddyfodol Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Ar 18fed Medi 2020, ynghyd \u00e2 staff WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru), cynhalion ni seminar ar y we lle y dadansoddodd Carwyn Jones AS (cyn Brif Weinidog Cymru), Auriol Miller (Cyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymru) a Rachel Minto (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd) y llwybrau a\u2019r blaenoriaethau a fydd yn nodweddu gwleidyddiaeth a pholis\u00efau\u2019r wlad hon dros y degawd nesaf. Manteisiodd dros 300 o bobl o bob cwr o Gymru (a\u2019r tu hwnt iddi, efallai) ar y cyfle i wrando ar y dadansoddi a holi\u2019r panel wedyn trwy\u2019r cadeirydd, y Dr Matthew Wall, Prifysgol Abertawe.<\/p>\n<p>Penderfynon ni drefnu seminar ar \u00f4l i bandemig y firws corona arwain at ohirio cynhadledd roedden ni\u2019n gobeithio ei chynnal eleni yn sg\u00eel llwyddiant y gynhadledd gyntaf am wleidyddiaeth a pholis\u00efau Cymru a gynhalion ni ar y cyd \u00e2 WISERD fis Mai 2019. \u2018Cymru mewn oes na welwyd ei thebyg erioed\u2019 oedd enw\u2019r gynhadledd honno ac, erbyn hyn, bron 18 mis wedyn, mae\u2019r enw hwnnw\u2019n fwy perthnasol fyth, a dweud y lleiaf!\u00a0\u00a0 Roedden ni\u2019n gwybod y pryd hynny y byddai cwestiynau sylfaenol am ddatganoli, perthynas llywodraethau \u00e2\u2019i gilydd a threfn y deyrnas (neu ei hyfywedd, hyd yn oed) yn codi yn sg\u00eel canu\u2019n iach i Undeb Ewrop wrth i rym symud a newid yma yn absenoldeb fframweithiau cyffredinol Brwsel. Roedden ni\u2019n gwybod mai\u2019r newid hinsoddol fyddai\u2019r prif anhawster byd-eang, efallai. Allen ni ddim rhagweld, wrth gwrs, y byddai pandemig byd-eang a chanddo ganlyniadau pellgyrhaeddol ar bob lefel i iechyd, yr economi a chysylltiadau cymdeithasol a gwleidyddol.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l pob tebyg, felly, fyddwch chi ddim yn synnu mai\u2019r tair thema hynny - anawsterau parhaus ymadael ag Undeb Ewrop, y newid hinsoddol a\u2019r pandemig - oedd y rhan fwyaf o\u2019r drafodaeth. Ac er y byddai pob thema\u2019n codi cwestiynau hanfodol, gwelon ni\u2019r modd y byddan nhw\u2019n cydblethu i achosi problemau i Gymru dros y degawd nesaf.<\/p>\n<p>Er enghraifft, mae cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru wedi cynyddu o achos y pandemig, yn rhannol. Gan fod llawer o\u2019r ymatebion i\u2019r firws - megis iechyd, addysg a llywodraeth leol - wedi\u2019u datganoli, mae\u2019r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr yn fwy amlwg o dipyn bellach. Mae hynny\u2019n berthnasol i hyder ac ymddiried pobl yn llywodraethau San Steffan a Chymru, nid dim ond i wahaniaethau statudol a sylweddol megis faint o bobl y cewch chi gwrdd \u00e2 nhw a ble. Mae llawer o bobl o\u2019r farn bod Llywodraeth Cymru wedi ymdopi\u2019n well na llywodraethau eraill y deyrnas ac, yn llygaid rhai, mae\u2019r ddadl dros annibyniaeth yn gryfach o ganlyniad - \u201cOs gallwn ni wneud hynny, gallwn ni wneud rhagor.\u201d Barn pobl eraill yw bod yr argyfwng wedi dangos gwerth cyfuno prosesau penderfynu datganoledig \u00e2 grym ariannol cyfundrefn y wladwriaeth.<\/p>\n<p>At hynny, mae sawl un - gan gynnwys aelodau ein panel - yn gweld Mesur y Farchnad Fewnol, sydd gerbron Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn rhan o broses bontio\u2019r ymadael, yn fygythiad i ddatganoli am ei fod yn gadael i Lywodraeth San Steffan ehangu ei gweithgarwch yng Nghymru. O ganlyniad, mae rhai pobl wedi dod i\u2019r casgliad bod hynny\u2019n golygu na ddylai Cymru barhau\u2019n rhan o\u2019r Deyrnas Gyfunol. Mae\u2019r ddadl o blaid diddymu\u2019r cyrff datganoledig a rhoi eu swyddogaethau yn \u00f4l i San Steffan wedi codi st\u00eam hefyd, fodd bynnag. Mae hynny wedi digwydd yn rhannol o achos y gwahaniaethau \u2018dryslyd\u2019 rhwng ymatebion Cymru a Lloegr i\u2019r pandemig ac, yn rhannol, oherwydd llwyddiant neges Llywodraeth San Steffan sy\u2019n honni ei bod yn bwrw ymlaen \u00e2\u2019r ymadael ag Undeb Ewrop.\u00a0 Rhwng y ddau safbwynt, mae llawer o gefnogwyr datganoli o\u2019r farn y bydd angen ei ddiwygio trwy, er enghraifft, sefydlu trefn ffederal ffurfiol yn y deyrnas hon. Yn \u00f4l ein panel, nid dim ond i\u2019r rhai sy\u2019n hoffi cnoi cil ar wleidyddiaeth yw pryderon o\u2019r fath achos mai dyrannu pwerau yw\u2019r cyd-destun hanfodol a fydd yn galluogi pwy bynnag sy\u2019n llywodraethu Cymru i gynnig gwasanaethau cyhoeddus a thrin a thrafod materion megis cynaladwyedd, dinasyddiaeth a chydraddoldeb.<\/p>\n<p>Felly, mae angen trafodaethau fel hyn ac mae\u2019r ffaith bod ein seminar wedi denu cynifer o bobl i gymryd rhan yn y dadansoddi dros awr a hanner yn dangos bod gwir alw amdanyn nhw. Er y gallai fod modd cynnal cynhadledd wyneb yn wyneb eto, gwelon ni werth achlysur rhithwir am y gallai llawer mwy o bobl gymryd rhan ac nad oedd rhaid i neb deithio drwy\u2019r dydd i gyrraedd y lle.<\/p>\n<p>Allwn ni ddim gorffwys ar ein bri, fodd bynnag, ac mae angen ystyried y ffordd orau o ddefnyddio\u2019r profiad hwn. Er enghraifft, roedd y panel yn eithriadol o dda ond gan fod seminar yn llai na chynhadledd - un sgwrs gyda thri o bobl - dim ond i hyn a hyn o raddau y bydd modd hybu amrywioldeb ymhlith aelodau\u2019r panel bob tro: felly, rhaid ystyried sut y gallwn ni gyflawni amrywioldeb o leiaf ar draws yr amryw achlysuron rydyn ni\u2019n bwriadu eu cynnal. Ac yng ngoleuni\u2019r newidiadau a welwn ni mewn ymwybyddiaeth wleidyddol yng Nghymru, ynghyd \u00e2 barn pawb a gymerodd ran yn y seminar bod angen trafod a dadlau eang, cynhwysol a doeth, mae angen inni ofyn sut y gallwn ni gynnwys pobl sydd newydd ymddiddori (neu ailymddiddori) yn y materion hyn.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"A Conversation on Wales&#039; Future\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/Q9ZzUQIgX8g?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 18fed Medi 2020, ynghyd \u00e2 staff WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru), cynhalion ni seminar ar y we lle y dadansoddodd Carwyn Jones AS (cyn Brif Weinidog Cymru), Auriol Miller (Cyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymru) a Rachel Minto (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd) y llwybrau a\u2019r blaenoriaethau a fydd yn nodweddu gwleidyddiaeth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13201,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"research-and-impact":[133,132],"class_list":["post-15193","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","filesize":522486,"sizes":{"medium":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-744x495.jpg","width":744,"height":495,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55597,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x495.jpg"},"large":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1200x798.jpg","width":1200,"height":798,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":126654,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1200x798.jpg"},"thumbnail":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51154,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58438,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-768x511.jpg"},"1536x1536":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1536x1021.jpg","width":1536,"height":1021,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198503,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1536x1021.jpg"},"2048x2048":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-2048x1362.jpg","width":2048,"height":1362,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":340665,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-2048x1362.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":266342,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Welsh-Flag-2715-x-1805.jpg","ID":"9808","name":"Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","title":"Welsh-Flag-2715-x-1805.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15193","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15193"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15193\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16472,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15193\/revisions\/16472"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13201"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15193"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15193"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15193"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15193"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}