{"id":15191,"date":"2020-10-29T09:39:13","date_gmt":"2020-10-29T09:39:13","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-mae-brexit-yn-ei-olygu-i-weithlu-iechyd-a-gofal-cymdeithasol-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:58","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:58","slug":"beth-mae-brexit-yn-ei-olygu-i-weithlu-iechyd-a-gofal-cymdeithasol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-mae-brexit-yn-ei-olygu-i-weithlu-iechyd-a-gofal-cymdeithasol-cymru\/","title":{"rendered":"Beth mae Brexit yn ei olygu i weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru?"},"content":{"rendered":"<p>Waeth beth fydd canlyniadau\u2019r trafodaethau Brexit ehangach, mae newid ar ddod ar 1 Ionawr; bydd y rhyddid i symud yn dod i ben, a chaiff y \u201csystem pwyntiau\u201d newydd ei chyflwyno.\u00a0 Mewn <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/uk-migration-policy-and-the-welsh-nhs-and-social-care-workforce\/\">ymchwil newydd<\/a> ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, edrychais i, Craig Johnson ac Elsa Oommen ar beth fydd hyn yn ei olygu i\u2019r gweithlu iechyd yng Nghymru; ac ers i\u2019n hadroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi, mae\u2019r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi llunio ei <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/migration-advisory-committee-reviews-shortage-occupation-lists\">adolygiad<\/a> diweddaraf o\u2019r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder.<\/p>\n<p>Mae ein casgliadau\u2019n cynnig newyddion da a newyddion drwg. Yn hanfodol, mae\u2019r system newydd yn sylweddol fwy rhyddfrydig na\u2019r un a gynigiwyd yn wreiddiol gan Theresa May. Mae\u2019r trothwy cyflog ar gyfer y Fisa Gweithiwr Crefftus wedi\u2019i leihau o \u00a330,000 i \u00a325,600, ond yn ogystal \u00e2 hyn mae Fisa Iechyd a Gofal newydd wedi\u2019i gyflwyno. Ar gyfer y fisa hwn, sy\u2019n cwmpasu nid yn unig staff meddygol ond amrywiaeth ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol, caiff y trothwy cyflog ei osod ar raddfa gyflog briodol y GIG - mewn geiriau eraill, ar gyfer rolau o\u2019r fath gall y GIG recriwtio gweithwyr o\u2019r tu allan i\u2019r DU heb fodloni\u2019r trothwy cyflog cyffredinol.<\/p>\n<p>Felly er bod y system yn sylweddol fwy cyfyngol i\u2019r rheini sy\u2019n dod o\u2019r UE, mae\u2019n llai cyfyngol o lawer i\u2019r rheini sy\u2019n dod o\u2019r tu allan i\u2019r UE. O\u2019r tua 7.5% o staff presennol y GIG nad ydynt yn wladolion y DU, mae ein dadansoddiad yn awgrymu y byddai o leiaf ddau o bob tri yn gymwys am fisa gwaith.\u00a0 Ni fyddai rhai o wladolion yr UE yn gymwys, yn arbennig y rheini yn y gr\u0175p \u201cgwasanaethau clinigol ychwanegol\u201d, gan gynnwys gyrwyr ambiwlans, cynorthwywyr llawfeddygaeth ddeintyddol a chynorthwywyr gofal iechyd.<\/p>\n<p>Er bod gan y sawl sy\u2019n gweithio yma yn barod yr hawl i barhau i fyw a gweithio yma o dan Gynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE, mae\u2019n debygol y bydd rhywfaint o effaith ar recriwtio yn y dyfodol.\u00a0 Bydd yn hanfodol bwysig i\u2019r sector - a Llywodraeth Cymru - barhau i roi cefnogaeth ac anogaeth i breswylwyr presennol sy\u2019n hanu o\u2019r UE i gofrestru. Ac yn wir, gallai\u2019r llacio ar amodau i wladolion nad ydynt o\u2019r UE helpu\u2019r GIG, yn arbennig ar raddfeydd meddygol, lle mae 1 o bob 5 aelod o staff eisoes o\u2019r tu allan i\u2019r DU neu\u2019r UE.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae\u2019r goblygiadau i ofal cymdeithasol yn fwy difrifol o lawer. O ystyried pwysigrwydd darpariaeth gofal cymdeithasol i wasanaethau\u2019r GIG a\u2019r dyhead am system iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Nghymru, mae\u2019r heriau penodol sy\u2019n dod i\u2019r wyneb yma yn cynrychioli bregusrwydd posibl.<\/p>\n<p>Diffinnir llawer o rolau gofal cymdeithasol hanfodol fel rhai \u201csgil isel\u201d, felly bydd llawer llai o rolau yn gymwys am Fisa Iechyd a Gofal neu Fisa Gweithiwr Crefftus, ac mae\u2019r trosiant uwch o staff yn y sector yn dod \u00e2 heriau penodol; gyda sgil-effeithiau tebygol i\u2019r GIG.\u00a0 Dim ond tua \u00a317,000 yw\u2019r cyflog cyfartalog yn y sector, sy\u2019n is o lawer na\u2019r trothwy cyflog.<\/p>\n<p>Mae adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo yn cydnabod dyfnder y pryderon, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, o ran effaith diwedd y rhyddid i symud; yn wir, mae\u2019n trafod \u201cgoblygiadau llwm\u201d. Mae\u2019n argymell rhai addasiadau, yn arbennig ychwanegu uwch weithwyr gofal a chynorthwywyr nyrsio i\u2019r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder.<\/p>\n<p>Ond yn ehangach, mae\u2019r PCY yn glynu wrth ei farn hirdymor, sef bod y broblem gyda recriwtio a chadw staff yn y sector yn ymwneud \u00e2 chyflogau isel, sy\u2019n cael ei sbarduno mewn tro gan dan-ariannu - ac mai\u2019r ateb felly yw mwy o arian, nid ymfudo.\u00a0 Mae\u2019n anodd dadlau gyda\u2019r egwyddor hon - ond yn ymarferol ni fydd hyn yn gysur i\u2019r bobl yn y sector a fydd yn gorfod delio \u00e2\u2019r pwysau uniongyrchol ar y galw a\u2019r cyflenwad dros y misoedd i ddod.<\/p>\n<p>Ac nid oes gan y PCY lawer i\u2019w gynnig i Gymru - yr unig alwedigaeth sydd wedi\u2019i hychwanegu at RhAP Cymru yw gweithwyr iechyd proffesiynol, ac fel dywed yr adroddiad, \u201cmae\u2019r manteision ymarferol o gael eich cynnwys ar y RhAP ar gyfer yr alwedigaeth hon yn eithaf cyfyngedig\u201d, gan ei bod eisoes wedi\u2019i chwmpasu gan y Fisa Iechyd a Gofal.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dirwedd ymfudo, a\u2019r goblygiadau i\u2019r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, yng ngafael y set bwysicaf o newidiadau ers deugain mlynedd o bosibl; a hyn ar adeg pan mae pandemig y Coronafeirws wedi dod ag ansicrwydd ar raddfa enfawr. Yn ffodus, mae\u2019r system newydd yn cydweddu\u2019n well ag anghenion y GIG a Chymru na\u2019r hyn a edrychai\u2019n debygol ddwy flynedd yn \u00f4l: fodd bynnag, mae heriau sylweddol o hyd, yn arbennig i\u2019r sector gofal cymdeithasol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Waeth beth fydd canlyniadau\u2019r trafodaethau Brexit ehangach, mae newid ar ddod ar 1 Ionawr; bydd y rhyddid i symud yn dod i ben, a chaiff y \u201csystem pwyntiau\u201d newydd ei chyflwyno.\u00a0 Mewn ymchwil newydd ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, edrychais i, Craig Johnson ac Elsa Oommen ar beth fydd hyn yn ei olygu i\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13907,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15191","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"EUROPEAN-DOCTOR.jpg","filesize":105400,"sizes":{"medium":{"file":"EUROPEAN-DOCTOR-744x328.jpg","width":744,"height":328,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35575,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EUROPEAN-DOCTOR-744x328.jpg"},"thumbnail":{"file":"EUROPEAN-DOCTOR-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40612,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EUROPEAN-DOCTOR-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"EUROPEAN-DOCTOR-768x338.jpg","width":768,"height":338,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37436,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EUROPEAN-DOCTOR-768x338.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9733","name":"EUROPEAN-DOCTOR.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EUROPEAN-DOCTOR.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EUROPEAN-DOCTOR-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EUROPEAN-DOCTOR.jpg","title":"EUROPEAN-DOCTOR.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15191","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15191"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15191\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16471,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15191\/revisions\/16471"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13907"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15191"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15191"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15191"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15191"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}