{"id":15189,"date":"2020-08-14T10:39:19","date_gmt":"2020-08-14T10:39:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/rol-hanfodol-addysg-drydyddol\/"},"modified":"2026-01-14T15:03:42","modified_gmt":"2026-01-14T15:03:42","slug":"rol-hanfodol-addysg-drydyddol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/rol-hanfodol-addysg-drydyddol\/","title":{"rendered":"R\u00f4l hanfodol addysg drydyddol"},"content":{"rendered":"<p>Mae addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 yn hanfodol ar gyfer y cyfleoedd unigol a'r twf economaidd gwyrdd sydd eu hangen ar Gymru os yw am wireddu uchelgais <a href=\"https:\/\/www.futuregenerations.wales\/about-us\/future-generations-act\/\">Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol<\/a>. Mae traddodiad balch yng Nghymru o roi gwerth ar ddysg a gwybodaeth er eu mwyn eu hunain, ac nid yn unig am yr hyn maent yn ei gyfrannu. Mae'n wir fod y targed o 50% o gyfranogi mewn Addysg Uwch yn fympwyol ond ni ddylai Cymru ystyried cefnu arno'n theatrig fel yr awgrymir yn Lloegr, na chyflwyno gwerthusiad amrwd o raddau yn \u00f4l incwm graddedigion. Ond mae\u2019n hanfodol fod addysg \u00f4l-16 yn cyflwyno sgiliau a chyflogadwyedd i ddysgwyr a'r economi.<\/p>\n<p>Nid oedd y system \u00f4l-16 yn gwbl addas i'r diben cyn pandemig Coronafeirws. O ran sgiliau, os\u00a0 nad yw'r system drydyddol yn paratoi pobl i gael swyddi da, pam ddylem ni fuddsoddi arian a gobeithion ynddi?\u00a0 Dylai alinio'n agos \u00e2'r marchnadoedd llafur presennol ac yn y dyfodol. Mae hyn yn anodd ei gyflawni gan na chaiff ei chynllunio, ei rheoli a\u2019i chyllido fel un system yn unig. Mewn cydnabyddiaeth o hynny, mae Llywodraeth Cymru'n creu <a href=\"https:\/\/gov.wales\/tertiary-education-and-research-commission-wales\">Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil<\/a> newydd (erbyn 2022). Ei dasg fydd ysgogi gwell integreiddio a llwybrau gwirioneddol ddi-fwlch yr holl ffordd o'r ysgol at brentisiaethau, cyrsiau galwedigaethol a graddau - a rheoli symudiadau pwysig o ran pwyslais.<\/p>\n<p>Mae cyrsiau academaidd ynghyd \u00e2 dewis y dysgwr yn bwysig, ond mae angen ail-gydbwyso rhannol. Mae addysg uwch ac addysg bellach ill dwy'n cael eu hysgogi a'u cyllido i raddau helaeth drwy ddewis dysgwyr o gyrsiau \u00e2 hyd safonol. Mae hyn yn gweithio ar gyfer llawer o raddau addysg uwch israddedig, ond os ydym am symud economi Cymru i mewn i ddiwydiannau'r dyfodol, mewn byd sy'n newid yn gyflym, mae angen rhaglenni mwy arloesol, yn aml \u00e2 hyd a dulliau cyflwyno gwahanol, wedi'u cyd-gynllunio gyda chyflogwyr, undebau llafur a dysgwyr - yn cynnwys dysgwyr sy'n oedolion yn y gwaith. Bydd angen i'r Comisiwn sicrhau bod rhannau o addysg uwch yn alinio\u2019n agosach \u00e2\u2019r marchnadoedd llafur - a mynd ati'n weithredol i gefnogi rhai rhaglenni arloesol ond a allai fod \u00e2 risg, a gynllunnir i gefnogi cyfleoedd economaidd newydd.<\/p>\n<p>Yn achos addysg bellach, un dasg allweddol fydd sicrhau gwell blaenoriaeth, llais a bri i lwybrau galwedigaethol.\u00a0 Mae addysg a hyfforddiant i Lefel 3 ac uwch yn hanfodol i unigolion ac i dwf economaidd. Mae cyflymder newid economaidd hefyd yn golygu bod angen ffocws llawer cryfach ar ailsgilio ac uwchsgilio. Mae angen llawer mwy o gyfleoedd hyfforddiant rhan amser ac yn y gweithle ar ddysgwyr a chyflogwyr.<\/p>\n<p>Ond mae angen i addysg bellach alinio'n agosach o lawer \u00e2 chyfleoedd y farchnad lafur; caiff ei hysgogi'n ormodol gan ddewis defnyddwyr o gymwysterau sy'n addasu'n rhy araf i alwadau'r farchnad. Dywed cyflogwyr yn gyson fod addysg bellach a llawer o gymwysterau'n methu \u00e2 chyflwyno'r hyn maen nhw'n chwilio amdano; ond mae alinio\u2019n gweithio\u2019r ddwy ffordd. Yr ateb yw cynnig mwy o gyfleoedd - a chyfrifoldeb - i gyflogwyr gydgynllunio rhaglenni o gwmpas dysgu ar sail profiad yn canolbwyntio ar gyflenwi'r sgiliau sydd eu hangen yn hytrach nag addysgu ar gyfer y cymwysterau presennol. Ceir enghreifftiau da ledled Cymru y dylid adeiladu arnyn nhw.<\/p>\n<p>Ar gyfer alinio\u2019n well gyda marchnad lafur y dyfodol mae angen hyrwyddwyr sefydliadol sy'n flaenllaw mewn diwydiannau twf allweddol; staff sydd \u00e2'r sgiliau a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf; a chyfleusterau o safon y diwydiant. Mae angen strategaethau adnoddau dynol hynod fedrus i ddod o hyd i'r hyrwyddwyr hynny a staff \u00e2'r sgiliau priodol a'u sicrhau.<\/p>\n<p>Mae'r un peth yn wir am dimau polisi yn y llywodraeth. Nid oes modd i bobl nad oes ganddynt wybodaeth ddofn a chysylltiadau helaeth ysgogi polis\u00efau twf ar gyfer y gwasanaethau ariannol neu'r diwydiannau creadigol. Efallai fod angen swyddfa canfod talent ar y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn debyg i'r hyn a geir mewn rhai econom\u00efau twf cyflym, er mwyn adfywio'r gweithlu polisi.<\/p>\n<p>Mae polis\u00efau cenedlaethol yn angenrheidiol ond yn annigonol. Rhaid alinio sgiliau, marchnadoedd a chyfleoedd twf economaidd ar sail leol. Rhaid cryfhau'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a'r timau datblygu economaidd rhanbarthol a gr\u00ebwyd yn ddiweddar yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth er mwyn iddynt fod yn chwim, yn hyblyg ac yn ymatebol. Ac mae cyngor gyrfaoedd rhagorol yn hanfodol; mae angen cryfhau Gyrfaoedd Cymru hefyd.<\/p>\n<p>Mae'r newidiadau polisi a strwythur a gynllunnir gan y llywodraeth yn newyddion da, ond yn ystod pandemig Coronafeirws nid yw amser ar ein hochor ni. Mae dirwasgiad ar y ffordd gyda'r OECD yn rhagweld codiadau enfawr mewn diweithdra a gostyngiad llym mewn prentisiaethau.\u00a0 Yr ifanc - ac economi Cymru - gaiff eu taro galetaf. Mae'r dystiolaeth o ddirwasgiadau'r gorffennol yn glir: mae gan bobl sy'n methu \u00e2 chael swydd wrth ddod i mewn i'r gweithle incwm a sgiliau is hyd yn oed ddegawdau'n ddiweddarach.<\/p>\n<p>Rhaid i'n polis\u00efau ni liniaru'r niwed tymor hir i unigolion a'r economi. Mae rhaglenni creu swyddi dychmygus ynghyd \u00e2 chyfleoedd hyfforddi sy'n gwella sgiliau a chyflogadwyedd yn hanfodol: er enghraifft Corfflu Gwyrdd sy'n cynnig swyddi, hyfforddiant a llwybrau dilyniant i bobl ifanc. Dylid defnyddio'r <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/economic-action-plan#:~:text=The%20Economic%20Contract%20is%20the,behaviours%20that%20many%20successful%20and\">Contract Economaidd<\/a> a'r cymorth ariannol a roddir i fusnesau yn ystod y pandemig i gynyddu arferion busnes cefnogol. Ond mae Cymru'n dibynnu ar benderfyniadau a wneir yn Llundain ac nid oedd cyllideb fach yr haf yn obeithiol iawn. Rhaid i Gymru wneud popeth o fewn ei gallu i osgoi'r bygythiad o 'genhedlaeth goll'; dyma'r dasg fwyaf pwysig o'n blaenau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 yn hanfodol ar gyfer y cyfleoedd unigol a'r twf economaidd gwyrdd sydd eu hangen ar Gymru os yw am wireddu uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae traddodiad balch yng Nghymru o roi gwerth ar ddysg a gwybodaeth er eu mwyn eu hunain, ac nid yn unig am yr hyn maent [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15188,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15189","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"tertiary-education-smaller.jpg","filesize":341434,"sizes":{"medium":{"file":"tertiary-education-smaller-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55195,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller-744x372.jpg"},"large":{"file":"tertiary-education-smaller-1200x599.jpg","width":1200,"height":599,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":107682,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller-1200x599.jpg"},"thumbnail":{"file":"tertiary-education-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58257,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"tertiary-education-smaller-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57444,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller-768x384.jpg"},"1536x1536":{"file":"tertiary-education-smaller-1536x767.jpg","width":1536,"height":767,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":150405,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller-1536x767.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"tertiary-education-smaller-1920x999.jpg","width":1920,"height":999,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":225996,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller-1920x999.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15188","name":"tertiary-education-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/tertiary-education-smaller.jpg","title":"tertiary-education-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15189","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15189"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15189\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16470,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15189\/revisions\/16470"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15188"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15189"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15189"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15189"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15189"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}