{"id":15186,"date":"2020-07-01T16:18:00","date_gmt":"2020-07-01T16:18:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-byddwn-nin-cyllido-gofal-cymdeithasol\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:55","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:55","slug":"sut-byddwn-nin-cyllido-gofal-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-byddwn-nin-cyllido-gofal-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Sut byddwn ni\u2019n cyllido gofal cymdeithasol?"},"content":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos, yn fwy nag erioed, bwysigrwydd cyllido gofal cymdeithasol. <a href=\"https:\/\/www.adass.org.uk\/media\/7973\/no-embargo-adass-budget-survey-report.pdf\">Mae awdurdodau lleol yn poeni<\/a> am eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, talu cyflog teg i weithwyr gofal a sicrhau marchnad ofal sefydlog o fewn y cyfyngiadau cyllidebol presennol. Mae ymateb i bandemig y Coronafeirws wedi rhoi pwysau cost ychwanegol ar ofal cymdeithasol, gan roi mwy o straen ar gyllidebau a chynyddu\u2019r risg o fethu \u00e2 bodloni anghenion a darparwyr yn tynnu allan o farchnadoedd gofal sydd eisoes yn fregus.<\/p>\n<p>Nid yw trafodaethau am gyllido gofal cymdeithasol ac ymrwymiadau i fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn yn newydd. Mae nifer o gomisiynau, ymgynghoriadau, papurau gwyn a phapurau gwyrdd wedi\u2019u datblygu dros y blynyddoedd yn archwilio cyfleoedd a gwneud argymhellion. Roedd hyn yn un o brif bynciau trafod Etholiad Cyffredinol 2019 a honnodd y llywodraeth mai <a href=\"https:\/\/vote.conservatives.com\/news\/the-first-100-days-of-a-conservative-majority-government-and-the-choice-before-the-british-people\">un o\u2019r blaenoriaethau<\/a> ar gyfer eu 100 diwrnod cyntaf oedd \u2018cychwyn trafodaethau trawsbleidiol i ddod o hyd i ateb parhaol i\u2019r her gofal cymdeithasol\u2019. Fodd bynnag, nid oes datrysiad i gyllid gofal cymdeithasol wedi dod i\u2019r amlwg eto. Er bod cyfrifoldeb polisi wedi\u2019i ddirprwyo, gellid dadlau bod y gallu i ymateb yn ddigonol yn nwylo San Steffan, a bydd gan benderfyniadau sy\u2019n cael eu gwneud yno oblygiadau i Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae trafodaethau ynghylch cyllid gofal cymdeithasol yn gymhleth ac yn canolbwyntio ar dri chwestiwn rhyng-gysylltiedig; beth ddylai fod gan unigolion hawl iddo, sut dylid codi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol a sut dylai\u2019r cyllid lifo.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><u>Beth ddylai fod gan unigolion hawl iddo?<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/publications\/a-fork-in-the-road-next-steps-for-social-care-funding-reform\">ymwybyddiaeth y cyhoedd yn isel<\/a> o hyd ynghylch beth yw gofal cymdeithasol a faint mae\u2019n costio, gyda llawer yn tybio bod gofal cymdeithasol am ddim, yn yr un modd \u00e2 gofal iechyd. Yn y system bresennol, yng Nghymru a Lloegr, mae\u2019r hawl i ofal cymdeithasol yn seiliedig ar brawf modd, gyda disgwyl i\u2019r rheini sy\u2019n gallu fforddio gwneud hynny dalu tuag at eu gofal. Mae gofal cymdeithasol yn fater sydd wedi\u2019i ddatganoli ac mae\u2019r hawl i ofal yn amrywio; mae gofal personol am ddim <a href=\"https:\/\/www2.gov.scot\/Topics\/Health\/Support-Social-Care\/Support\/Adult-Social-Care\/Free-Personal-Nursing-Care\">ar gael i oedolion yn yr Alban<\/a>, ac yng Nghymru gall pobl gadw hyd at <a href=\"https:\/\/gov.wales\/written-statement-raising-capital-limit-ps50000\">\u00a350,000 o\u2019u cynilion<\/a> neu gyfalaf arall heb eu defnyddio i dalu am ofal preswyl, o gymharu \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.ageuk.org.uk\/globalassets\/age-uk\/documents\/factsheets\/fs46_paying_for_care_and_support_at_home_fcs.pdf\">\u00a323,250 yn Lloegr<\/a>. Hefyd, yng Nghymru, mae cap ar y swm y bydd person yn ei dalu am ofal yn ei gartref.<\/p>\n<p>Yn 2011 cynigiodd <a href=\"https:\/\/webarchive.nationalarchives.gov.uk\/20130221121529\/https:\/www.wp.dh.gov.uk\/carecommission\/files\/2011\/07\/Fairer-Care-Funding-Report.pdf\">Comisiwn Dilnot<\/a> newidiadau i wneud y system prawf modd bresennol yn fwy hael, gan alw am gap o \u00a335,000 ar gostau gofal. Byddai hyn yn ceisio sicrhau nad oes yn rhaid i unigolion dalu symiau mawr o arian am eu gofal. Mae eraill, fel y <a href=\"https:\/\/www.ippr.org\/files\/2019-05\/social-care-free-at-the-point-of-need-may-19.pdf\">Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus<\/a> wedi dadlau dros fodel gofal cymdeithasol sydd \u2018am ddim ar y pwynt angen\u2019, wedi\u2019i alinio \u00e2\u2019r model o ofal iechyd am ddim. Byddai hyn yn ddrutach ond yn cynyddu mynediad at ofal am ddim ac yn <a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/publications\/a-fork-in-the-road-next-steps-for-social-care-funding-reform\">gwaredu\u2019r anghyfartaledd rhwng a\u2019r rhwystrau i integreiddio<\/a> ein systemau iechyd a gofal.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><u>Sut dylid codi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol?<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae arbenigwyr yn cytuno bod angen cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i sicrhau bod gofal cymdeithasol o ansawdd ar gael i\u2019r rheini sydd ei angen. Mae gan Gymru <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/populationandmigration\/populationprojections\/datasets\/tablea15principalprojectionwalessummary\">boblogaeth sy\u2019n heneiddio<\/a> a niferoedd cynyddol o bobl ag anghenion gofal a chymorth parhaus, sy\u2019n peri heriau go iawn o ran sicrhau system gynaliadwy o ofal. Mae ymchwil <a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/sites\/default\/files\/PathToSustainability_0.pdf\">gan y Sefydliad Iechyd<\/a> yn 2016 yn amcangyfrif y byddai cyllido\u2019r pwysau gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru yn llawn yn gofyn am \u00a32.3 biliwn erbyn 2030\/31, o gymharu ag \u00a31.3 biliwn yn 2015\/16. Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/skwawkbox.org\/wp-content\/uploads\/2018\/11\/manifesto-english-print.pdf\">Prif Weinidog wedi ymrwymo<\/a> i ddylunio system a fydd yn diwallu anghenion gofal cymdeithasol yn awr ac yn y dyfodol, ac mae wedi sefydlu <a href=\"https:\/\/gov.wales\/written-statement-inter-ministerial-group-paying-social-care\">Gr\u0175p Rhyngweinidogol<\/a> i archwilio\u2019r opsiynau ar gyfer talu am ofal cymdeithasol yng Nghymru.\u00a0 Mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-11\/paying-for-social-care.pdf\">Adroddiad Holtham<\/a> yn archwilio\u2019r defnydd o bwerau trethiant newydd yng Nghymru i gyflwyno ardoll treth gofal cymdeithasol. Mae ein <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/the-welsh-tax-base-risks-and-opportunities-after-fiscal-devolution\/\">gwaith ar y sylfaen drethu yng Nghymru<\/a> wedi dangos bod y refeniw a gynhyrchir o gyflwyno trethi newydd yn debygol o fod yn gymharol fach.<\/p>\n<p>Mae cyflwyno treth gofal cymdeithasol i godi refeniw ychwanegol wedi\u2019i drafod yn San Steffan, lle mae ASau wedi galw am gyflwyno \u2018<a href=\"https:\/\/www.parliament.uk\/business\/committees\/committees-a-z\/commons-select\/housing-communities-and-local-government-committee\/news\/long-term-funding-adult-social-care-report-published-17-19\/\">Premiwm Gofal Cymdeithasol<\/a>\u2019. Mae rhai yn dadlau y dylai cyllid sy\u2019n cael ei godi drwy dreth gael ei glustnodi neu ei neilltuo, ond mae hyn yn peri <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/sites\/default\/files\/2018-05\/Hypothecated_funding_Kings_Fund_May_2018.pdf\">nifer o heriau<\/a>, nid lleiaf yr ansicrwydd posibl, oherwydd bydd unrhyw gymeriant yn codi a gostwng gyda\u2019r economi. Mae ymchwil yn awgrymu bod <a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/sites\/default\/files\/upload\/publications\/2019\/Public%20acceptability%20of%20health%20and%20social%20care%20funding%20options_0.pdf\">cefnogaeth gyhoeddus<\/a> i ddull cyfunol o gyllido gofal cymdeithasol sy\u2019n deg ac yn cyfateb i sut y codir cyllid ar gyfer y GIG.<\/p>\n<p>Mae eraill wedi dadlau dros <a href=\"https:\/\/www.countycouncilsnetwork.org.uk\/counties-set-out-their-social-care-policy-positions-in-new-report-ahead-of-government-green-paper\/\">systemau sy\u2019n seiliedig ar yswiriant<\/a> sy\u2019n debyg i\u2019n dull gweithredu gyda <a href=\"https:\/\/www.cps.org.uk\/files\/reports\/original\/190426143506-DamianGreenSocialCareFinal.pdf\">phensiynau<\/a>. Mae enghreifftiau rhyngwladol o gynlluniau yswiriant cymdeithasol yn aml yn cael eu defnyddio fel enghreifftiau o lwyddiant, gan gynnwys Japan a\u2019r Almaen. Yn <a href=\"https:\/\/www.nuffieldtrust.org.uk\/research\/what-can-england-learn-from-the-long-term-care-system-in-germany\">yr Almaen<\/a>, er enghraifft, maent yn gweithredu cynllun yswiriant cymdeithasol \u2018cyfuno risg\u2019 gorfodol cenedlaethol. Yn <a href=\"https:\/\/www.nuffieldtrust.org.uk\/research\/what-can-england-learn-from-the-long-term-care-system-in-japan\">Japan<\/a>, mae\u2019r system wedi\u2019i disgrifio fel \u2018cyfuniad o yswiriant cymdeithasol, trethiant a chyd-dalu\u2019 ac mae\u2019n cael ei chyllido drwy gyfuniad o dreth cyflogres i bobl dros 40, cyfraniadau pensiynwyr a threthiant cyffredinol. Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.instituteforgovernment.org.uk\/publications\/how-fix-funding-health-and-social-care\">dystiolaeth<\/a> yn awgrymu eu bod wedi sbarduno\u2019r farchnad gofal cymdeithasol, cynyddu dewis a chyfuno risg. Maent hefyd yn cynnig incwm cymharol sefydlog a hyblyg, er bod y cymysgeddau cyllido\u2019n gymhleth. Fodd bynnag, <a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/publications\/identifying-options-for-funding-the-nhs-and-social-care-in-the-uk-international-evidence\">mae pwysau poblogaeth a chostau yn dal i gynyddu<\/a>, mae yna ddiffygion yn y gweithlu, ac mae dibyniaeth fawr ar ofalwyr anffurfiol. Ymhellach, roedd diwygio yn broses hir ac anodd yn y ddwy wlad, er gwaethaf consensws gwleidyddol a chymdeithasol cryf oedd yn cefnogi\u2019r athroniaeth yswiriant cymdeithasol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><u>Sut dylai\u2019r cyllid lifo?<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae pandemig y Coronafeirws wedi amlygu bregusrwydd y system gofal cymdeithasol, ynghyd \u00e2\u2019r anghyfartalwch rhwng gofal cymdeithasol a\u2019r system gofal iechyd a\u2019r angen am ddatrysiad cyllido cynaliadwy. Mae cyllid brys wedi\u2019i roi ar gael, sy\u2019n cydnabod y <a href=\"https:\/\/local.gov.uk\/sites\/default\/files\/documents\/Provider%20fees%20-%20summary%20of%20the%20approach%20proposed%20by%20local%20%20government%20-%20ASC%20final.pdf\">costau cynyddol<\/a> y mae darparwyr yn eu hwynebu mewn ymateb i\u2019r argyfwng, fel darparu ar gyfer absenoldeb staff a chyflenwi cyfarpar diogelu personol. Ond roedd gofal cymdeithasol o dan straen cyn y pandemig ac mae angen datrysiad hirdymor sy\u2019n cydnabod y bwlch rhwng ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae galwadau wedi\u2019u gwneud am fwy o alinio rhwng cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft gan <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/projects\/commission-future-health-and-social-care-england\">Gomisiwn Barker<\/a> yn 2014 a gynigiodd un system iechyd a gofal cymdeithasol gyda chyllideb wedi\u2019i chlustnodi.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhain yn gwestiynau anodd, ond mae her mor bwysig \u00e2 hon - i Gymru yn ogystal \u00e2 San Steffan - yn galw am atebion cadarn a manwl.\u00a0 Roedd hyn yn flaenoriaeth frys cyn pandemig y Coronafeirws ac nid yw\u2019r argyfwng ond wedi prysuro hyn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos, yn fwy nag erioed, bwysigrwydd cyllido gofal cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol yn poeni am eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, talu cyflog teg i weithwyr gofal a sicrhau marchnad ofal sefydlog o fewn y cyfyngiadau cyllidebol presennol. Mae ymateb i bandemig y Coronafeirws wedi rhoi pwysau cost ychwanegol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":16469,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135,140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15186","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-scaled.jpg","filesize":305908,"sizes":{"medium":{"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-744x369.jpg","width":744,"height":369,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35995,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-744x369.jpg"},"large":{"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-1200x595.jpg","width":1200,"height":595,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":76781,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-1200x595.jpg"},"thumbnail":{"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40098,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-768x381.jpg","width":768,"height":381,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37361,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-768x381.jpg"},"1536x1536":{"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-1536x762.jpg","width":1536,"height":762,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":115500,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-1536x762.jpg"},"2048x2048":{"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-2048x1016.jpg","width":2048,"height":1016,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":194595,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-2048x1016.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"social-worker-serving-food-smallercropped-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198456,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"social-worker-serving-food-smallercropped.jpg","ID":"15185","name":"social-worker-serving-food-smallercropped-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-scaled.jpg","title":"social-worker-serving-food-smallercropped.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/social-worker-serving-food-smallercropped-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15186","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15186"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15186\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16468,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15186\/revisions\/16468"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16469"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15186"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15186"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15186"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15186"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}