{"id":15183,"date":"2020-07-03T00:01:11","date_gmt":"2020-07-03T00:01:11","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/datganoli-a-phandemig-y-coronafeirws-yng-nghymru-gwneud-pethaun-wahanol-gwneud-pethau-gydan-gilydd\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:55","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:55","slug":"datganoli-a-phandemig-y-coronafeirws-yng-nghymru-gwneud-pethaun-wahanol-gwneud-pethau-gydan-gilydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/datganoli-a-phandemig-y-coronafeirws-yng-nghymru-gwneud-pethaun-wahanol-gwneud-pethau-gydan-gilydd\/","title":{"rendered":"Datganoli a phandemig y Coronafeirws yng Nghymru: gwneud pethau\u2019n wahanol, gwneud pethau gyda\u2019n gilydd?"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/record.assembly.wales\/Plenary\/6327#C289808\">Mewn trafodaeth yn y Senedd ym mis Mai<\/a>, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Brexit Cymru, Mark Reckless, yn gyt\u00fbn bod pandemig y Coronafeirws wedi codi proffil datganoli fwy nag unrhyw beth arall yn yr 20 mlynedd diwethaf. Er hynny, nid yw\u2019n syndod bod y ddau wedi dod i gasgliadau gwahanol iawn o\u2019r arsylwad cyffredin hwn. Ond mae\u2019n tynnu sylw at sut, yn y tri mis diwethaf, mae llawer o bobl yng Nghymru a thu hwnt wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o ddatganoli.<\/p>\n<p>Y ffordd fwyaf amlwg y mae\u2019r pandemig wedi tynnu sylw at ddatganoli yn y DU yw\u2019r ymatebion gwahanol gan bob gwlad. Tra bod y pedair gwlad wedi (ar y cyfan) rhannu dull cyffredinol tebyg, mae\u2019r cyngor iechyd penodol \u2013 ac, yn fwy na hynny, y ddeddfwriaeth a\u2019r canllawiau sy\u2019n ei roi ar waith \u2013 wedi bod yn wahanol ym mhob gwlad. Mae hyn yn rhannol gan fod rhai meysydd polisi pwysig a pherthnasol, fel iechyd ac addysg, wedi\u2019u datganoli beth bynnag, Ond pan basiodd Senedd y DU y <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/ukpga\/2020\/7\/contents\">Ddeddf Coronafeirws<\/a> ym mis Mawrth, fe wnaeth hefyd ddatganoli\u2019r p\u0175er hanfodol bwysig i lunio\u2019r rheoliadau a fyddai\u2019n pennu yn union sut y byddai ein bywydau bob dydd yn newid wrth i lywodraethau geisio dod \u00e2\u2019r pandemig dan reolaeth. Felly, o reolau<a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/coronavirus-lockdown-england-wales-difference-18229595\"> am ymarfer corff a chyswllt cymdeithasol, i drefniadau ar gyfer ail-agor ysgolion a siopau<\/a>, a ph\u2019un a phryd y dylech chi orchuddio\u2019ch wyneb, mae\u2019r pedair llywodraeth wedi gwneud penderfyniadau sy\u2019n amrywio fymryn.<\/p>\n<p>Efallai y bydd rhai yn gofyn, os yw\u2019r wyddoniaeth rheoli heintiau yr un peth ar ddwy ochr Clawdd Offa, pam y dylai\u2019r rheolau a\u2019r polis\u00efau ar gyfer rheoli\u2019r haint fod yn wahanol. Yr ateb yw fod llunio polisi yn \u2013 ac mewn democratiaeth gellir dadlau y dylai fod \u2013<a href=\"https:\/\/www.centreonconstitutionalchange.ac.uk\/news-and-opinion\/contrasting-responses-common-virus?utm_campaign=2667337_SPS%20Centre%20on%20Constitutional%20Change%20newsletter%20-%2007%20May%202020&amp;utm_medium=email&amp;utm_source=College%20of%20Arts%2C%20Humanities%20%26%20Social%20Sciences%2C%20The%20University%20of%20Edinburgh&amp;dm_i=2MQP,1L64P,5D4CI1,5DRMB,1\"> yn cael ei lywio gan ideoleg gwleidyddol a diwylliant yn ogystal \u00e2 thystiolaeth<\/a>. Mae Llywodraeth Cymru yn bendant wedi cyflwyno ei dull mwy cyfyngol i\u2019r cyfnod clo fel rhan o arddull polisi unigryw, yn fwy rhagofalus na dull Lloegr, ac o ganlyniad, <a href=\"https:\/\/www.itv.com\/news\/wales\/2020-06-04\/support-grows-for-welsh-govt-over-covid-19-as-voters-lose-faith-in-uk-approach\/\">mae llawer o bobl wedi dod yn ymwybodol y gall wneud pethau\u2019n wahanol<\/a> \u2013 weithiau<a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/four-car-young-child-sent-18318289\"> i\u2019w syndod a\u2019u cost<\/a>.<\/p>\n<p>Ond er mai dyma\u2019r ochr i ddatganoli y mae pobl yn sylwi arni, mae ochr arall llai amlwg sydd, efallai, yr un mor bwysig. A hwnnw yw\u2019r graddau y gall llywodraeth ddatganoledig ddweud ei dweud mewn penderfyniadau sy\u2019n effeithio ar y DU gyfan. Mae ysgolheigion yn cyfeirio at y ddwy ochr hon fel <a href=\"http:\/\/50shadesoffederalism.com\/theory\/self-rule-shared-rule\/\"><em>ymreolaeth (self-rule) a chyd-reolaeth (shared rule)<\/em><\/a>.<\/p>\n<p>Mae cyd-reolaeth, mewn rhai ffyrdd, wedi bod yn \u2018gefnder gwan\u2019 i ddatganoli yn y DU. Ers 1999, mae <a href=\"https:\/\/researchbriefings.files.parliament.uk\/documents\/CBP-8371\/CBP-8371.pdf\">strwythurau ffurfiol<\/a> wedi bodoli i hwyluso cysylltiadau rhwng y bedair llywodraeth. Ond nid ydynt, i ddweud y lleiaf, wedi gweithio\u2019n gyson dda.\u00a0 Yn fwy diweddar mae Brexit, a\u2019r angen i greu fframweithiau cyffredin ar draws y DU i ddisodli fframweithiau\u2019r Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer materion datganoledig fel amaethyddiaeth neu bysgodfeydd, wedi dwyn i\u2019r amlwg safbwyntiau tra wahanol ar ba mor bell y dylai\u2019r cyd-reolaeth weithredu yn y DU.\u00a0 Yn fras, mae Llywodraeth y DU yn aml wedi credu er y dylid gwneud penderfyniadau am faterion cyffredin trwy ymgynghori \u00e2\u2019r llywodraethau datganoledig, ei chyfrifoldebau hi ydyn nhw yn y pen draw.<\/p>\n<p>O\u2019i gymharu, mae Llywodraethau Cymru a\u2019r Alban wedi cymryd y safbwynt y dylai penderfyniadau gael eu gwneud drwy negodi ar sail llawer mwy cyfartal: yn wir, mae dogfen Llywodraeth Cymru <a href=\"https:\/\/gov.wales\/reforming-our-union-shared-governance-in-the-uk\">Diwygio ein Hundeb<\/a>, a sbardunwyd gan Brexit, yn galw am i\u2019r DU gael ei diwygio fel rhyw fath o UE ar raddfa fach, gyda\u2019r pedair gwlad yn cael yr un berthynas i\u2019r Undeb ag sydd gan yr aelod-wladwriaethau i\u2019r UE.<\/p>\n<p>Sut mae hyn yn berthnasol i bandemig y Coronafeirws? Mae rhai meysydd lle mae fframweithiau cyffredin wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion ac adnodau. Roedd pasio\u2019r Ddeddf Coronafeirws yn San Steffan, er enghraifft, yn golygu nad oedd rhaid i Fae Caerdydd a Holyrood ddrafftio a phasio deddfwriaeth gynradd ar wah\u00e2n. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb rhannol dros y DU mewn meysydd fel profi ac ap olrhain cyswllt.<\/p>\n<p>Mae cwestiynau mwy cymhleth yn codi pan fo gennych chi fesurau a gymerir ar lefel y DU, sy\u2019n gallu effeithio ar benderfyniadau datganoledig. Er enghraifft, mae\u2019r cynllun ffyrlo <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-53007298\">wedi bod yn hynod bwysig o ran cadw gweithwyr yng Nghymru mewn swyddi tra bod llawer o\u2019r economi wedi bod ar gau<\/a>. Mae cynllun ar y raddfa honno wedi gorfod cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU: mae Prif Weinidog Cymru a Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi dweud na fyddai gan Gymru\u2019r <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/recession-economy-evans-jobs-tax-18317641\">\u2018grym ariannol\u2019<\/a> i gyllido\u2019r cynllun ar ei phen ei hun. Ond mae risg glir yn y cynlluniau hyn am eu bod yn ddibynnol ar benderfyniadau a wneir yn Llundain tra bod penderfyniadau iechyd y cyhoedd am ail-agor rhannau o\u2019r economi wedi\u2019u datganoli. Gallai hyn arwain at sefyllfa lle mae cynlluniau yn cael eu dirwyn i ben yn Lloegr, tra bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dal i fod o dan gyfyngiadau llymach. <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/coronavirus-wales-government-briefing-thursday-18245742\">Mae angen rhyw fath o strwythur lle caiff penderfyniadau eu gwneud ar y cyd.<\/a> Ond tra\u2019r oedd <a href=\"https:\/\/www.instituteforgovernment.org.uk\/explainers\/coronavirus-and-devolution\">cydweithio agos iawn rhwng llywodraethau<\/a> ym mis Mawrth a mis Ebrill, mae\u2019n ymddangos fod hyn bellach wedi arafu: erbyn canol mis Mai roedd Prif Weinidog Cymru yn disgrifio\u2019r berthynas fel <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/coronavirus-wales-drakeford-westminster-cardiff-18283616\">\u2018proses dechrau-stopio\u2019<\/a>.<\/p>\n<p>Felly beth mae pandemig y Coronafeirws yn ei ddweud wrthym ni am ddatganoli? Yn gyntaf, does dim dwywaith ei fod wedi gwneud mwy o bobl yn ymwybodol bod rhai pethau wedi\u2019u datganoli. Yn ail, mae\u2019n rhoi\u2019r cyfle i lywodraethau datganoledig ddangos sut y gallant wneud pethau\u2019n wahanol, yn arbennig os yw gwahanol newidiadau i fesurau\u2019r cyfnod clo yn arwain at wahanol ganlyniadau economaidd neu iechyd y cyhoedd. Yn drydedd, mae\u2019n ein hatgoffa fwyfwy bod yn rhaid i gyd-reolaeth, yn ogystal ag ymreolaeth, fod yn rhan o\u2019r setliad datganoli. Mae wedi dod yn gyffredin y bydd yn rhaid i bethau newid ar \u00f4l y pandemig. Ac efallai mai un o\u2019r pethau hynny fydd y <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/full\/10.1111\/1467-923X.12862\">berthynas rhwng llywodraethau\u2019r DU<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mewn trafodaeth yn y Senedd ym mis Mai, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Brexit Cymru, Mark Reckless, yn gyt\u00fbn bod pandemig y Coronafeirws wedi codi proffil datganoli fwy nag unrhyw beth arall yn yr 20 mlynedd diwethaf. Er hynny, nid yw\u2019n syndod bod y ddau wedi dod i gasgliadau gwahanol iawn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15182,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15183","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Senedd-scaled.jpg","filesize":703991,"sizes":{"medium":{"file":"Senedd-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":75272,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-744x496.jpg"},"large":{"file":"Senedd-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":182131,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Senedd-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":69904,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Senedd-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":79589,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Senedd-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":286219,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Senedd-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":478697,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Senedd-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":390314,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"16","credit":"Getty Images","camera":"Canon EOS 5D Mark III","caption":"Cardiff, UK: March 10, 2016: Foreign exchange students sit on the steps of the Welsh National Assembly Building in the Cardiff Bay area. The Assembly was created by the Government of Wales Act 1998.","created_timestamp":"1466510555","copyright":"jax10289","focal_length":"24","iso":"200","shutter_speed":"0.0055555555555556","title":"National Assembly for Wales","orientation":"1","keywords":["Capital Cities","Tourism","Government","University Student","Building Exterior","City Life","European Union","Cardiff - Wales","Politics","Parliament Building","Modern","Welsh Culture","National Landmark","Famous Place","Travel Destinations","Urban Scene","People","Wales","cardiff bay","Welsh National Assembly","Architecture And Buildings"]},"original_image":"Senedd.jpg","ID":"15182","name":"Senedd-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-scaled.jpg","title":"National Assembly for Wales","caption":"","description":"Cardiff, UK: March 10, 2016: Foreign exchange students sit on the steps of the Welsh National Assembly Building in the Cardiff Bay area. The Assembly was created by the Government of Wales Act 1998.","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Senedd-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15183","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15183"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15183\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16467,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15183\/revisions\/16467"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15182"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15183"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15183"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15183"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15183"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}